Gruffudd ab Owain

Apr 2, 20203 min

Adolygiad: El Día Menos Pensado

Mae’n gyfnod anodd i gefnogwyr seiclo proffesiynol gyda rasys yn cael eu canslo bob yn un ac mae’n debygol na fydd unrhyw rasio am y misoedd nesaf.

Ond Netflix sydd wedi camu i’r adwy y tro hwn i lenwi’r bwlch adawyd gan y peloton gyda lansiad cyfres ddogfen am dymor cythryblus 2019 i dîm Movistar.

Cyn i mi ddweud dim mwy, dyma i chi flas:

Bues i’n ei wylio tra’n Zwift-io ac mi ro’n i’n medru gwylio dau bennod o fewn awr o sesiwn. 6 pennod sydd i’r gyfres a phob un yn hanner awr yr un.

A ninnau‘n aros adref i gyd erbyn hyn (gobeithio!) braf iawn oedd hefyd cael ymarfer sgiliau gwrando Sbaeneg a gweld cyfathrebu naturiol rhwng y reidwyr a’r staff.

Dyma rai o’r prif bwyntiau dwi wedi casglu o wylio’r gyfres.

Y gonestrwydd

Yn aml mewn llyfrau a chyfresi mae’n bosib nad ydy pawb yn onest bob amser ynglyn a’r hyn sy’n mynd ymlaen tu ol i’r llen yn y byd seiclo proffesiynol.

Ond beth wnaeth fy nharo i (a nifer o bobl eraill) oedd pa mor onest oedden nhw o flaen y camera a chyda’u gilydd. Yn fwy na pharod i gyhuddo’u gilydd ac hefyd i fynegi eu teimladau.

Mae clip hyd yn oed o fideo y recordiodd Valverde, Quintana a Landa yn ystod y Tour de France i geisio cuddio’r tensiynau rhyngddynt a chyfleu bod eu perthynas yn un dda.

Dyma felly oedd yn dangos ar yr wyneb yn ystod y tymor diwethaf, ond mae’r gyfres yn ei chyfanrwydd yn sicr yn portreadu’r hyn oedd yn digwydd o dan yr wyneb.

O’r herwydd, mae’n siwr mai dyma’r mewnwelediad gorau dwi wedi ei weld i fewn i’r gamp hyd yma.

Y diffyg arweiniad

Peth arall sy’n hynod drawiadol yw’r diffyg arweiniad o fewn y tim, boed hynny gan y reidwyr eu hunain fel yr oeddem ni’n gallu ei weld neu gan y staff.

Dengys yn glir fod cael un arweinydd pendant mewn tim yn gwneud cymaint o wahaniaeth. Yn y Giro, Landa oedd yn arwain gyda Carapaz fwy yn y cefndir, ond unwaith y daeth hi’n amlwg mai Carapaz oedd y cryfaf yr Ecwadoriad ddaeth yn arweinydd pendant ac aeth ymlaen i ennill y Giro.

Enghraifft arall yw hyn o dacteg mae Ineos wedi ei ddefnyddio yn y blynyddoedd diwethaf. Yn 2018, Froome oedd yn arwain ar y dechrau ond unwaith y daeth cryfder Geraint i’r golwg, fo gafodd y fantais ac aeth ymlaen i ennill y Tour. Yn 2019, Geraint oedd yn arwain ar y dechrau ond Egan Bernal oedd y cryfaf yn y pen draw ac aeth o ymlaen i ennill y ras.

Ond yn nhim Movistar erbyn y Tour a’r Vuelta, doedd cael tri reidiwr cryf yn ceisio rhannu’r arweiniaeth yn amlwg ddim yn gweithio.

A pha mor hawdd oedd y directeurs sportifs yn colli tymer?! Dan bwysau o fewn y ras ac yn methu’n lan a gwneud penderfyniadau.

Arweiniodd hyn i gyd yn y pen draw at dymor aflwyddiannus i’r garfan, er gwaethaf gallu ennill y Giro gyda Carapaz.

Yr unig un ddangosodd ryw ychydig o arweiniad oedd Valverde, ac mi wnaeth y gyfres adlewyrchu‘n dda arno fo.

Cyflafan llwyr wnaeth arwain at Carapaz, Amador, Quintana a Landa - pedwar reidiwr allweddol - yn gadael ar ddiwedd y tymor.

Y diffyg gallu i ddelio gyda phwysau

Roedd pwysau mawr ar ysgwyddau’r tim yn 2019 gyda chymaint o dalent a gallu o ran y reidwyr. Pennau profiadol ac hefyd to ifanc talentog oedd yn barod ac hyderus i gamu i’r llwyfan.

I ychwanegu at hynny, roedd y pwysau o wisgo crys yr enfys yn ormod i Valverde a chafodd hynny effaith arno fo ac ar y tim hefyd.

Ac mi roedd hi’n bur amlwg nad oedd y staff yn ddigon cryf i arwain criw o seiclwyr mor dalentog yn ogystal.

Yr emosiwn

Roedd hi’n sicr yn ‘emotional rollercoaster’ o dymor i’r tim, yn enwedig yn y bennod olaf lle daeth rhwystredigaeth Soler a’r staff tuag ato yn glir ac hefyd y DS gafodd dymor anodd oedd yn emosiynol erbyn diwedd y flwyddyn.

Emosiynol hefyd oedd Quintana pan y gwnaeth o adael y tim, a’r ‘teulu’ ar ddiwedd y flwyddyn. Roedd fel petai ei dalent yn cael ei anwybyddu gan y tim, ac nid oedd 2019 ddiweddglo yr oedd o’n ei haeddu i bennod pwysig yn ei yrfa.


Y farn derfynol: Mewnwelediad hynod, hynod ddiddorol i dim nad oedd yn gallu gwneud yn fawr o’r hyn oedd ganddyn nhw. Cyfle ardderchog i weld tu ol i’r llen yn ogystal. Roeddwn i (a nifer o wylwyr eraill) yn gweiddi am fwy ar y diwedd a byddai wedi bod yn braf cael mwy o hanes y Vuelta gan mai dyna oedd pen tennyn nifer o’r reidwyr. Yn ogystal, di-angen braidd i mi oedd clipiau deg eiliad o’r un lamp a’r un par o esgidiau (er mor chwaethus oedd yr esgidiau hynny!).

Byddwn i’n ei argymell i unrhyw un... sy’n gefnogwr neu ddim o’r byd seiclo proffesiynol. Dyma fewnwelediad i‘r hyn nad yden ni’n ei weld ar y sgrin neu ar yr wyneb yn wirioneddol.

    0