Gruffudd ab Owain

Feb 48 min

Dydd Miwsig Cymru: Tiwns Tyrbo 2024

Ers 2021, dw i wedi bod yn edrych ymlaen at gael ysgrifennu cofnod cerddorol blynyddol ar Y Ddwy Olwyn, gan olrhain rhai o'r 'tiwns tyrbo' Cymraeg gorau gafodd eu rhyddhau dros y flwyddyn a fu.

Dwi'n gwneud hynny er mwyn nodi Dydd Miwsig Cymru, sy'n disgyn eleni'r dydd Gwener sydd i ddod, sef y 9fed o Chwefror. Mae 'na ddigwyddiadau ym mhob twll a chornel i nodi'r achlysur, felly ewch da chi i wylio a chefnogi. Mi alla i argymell yr Institiwt yn Llanfair Caereinion yn ond un enghraifft, lle bydd Gŵyl Triban, Eisteddfod yr Urdd, yn cael ei chyhoeddi.

Fel ryw nodyn bach, un o fy hoff ffeithiau erbyn hyn ydy fod y gair 'miwsig' yn dyddio'n ôl ymhellach na'r gair 'cerddoriaeth' - yn ôl GPC, fe'i defnyddir ar ryw ffurf ers y 13eg ganrif, ond yng ngwaith Lewys Glyn Cothi o'r 15eg ganrif y mae'r cofnod cyntaf o'r gair 'cerddoriaeth'.

Ta waeth am hynny, dyma'r meini prawf ar

Beth yw 'tiwn tyrbo' sy'n gymwys i'r rhestr hon?

 

Trac sydd:

  • â churiad addas ar gyfer cadw tempo/cadens da. Mae'r rhan fwyaf rhwng 70-90rpm. Dw i wedi defnyddio gwasanaeth songbpm.com er mwyn canfod y cadens!

  • mewn arddull sy'n galluogi cadw ffocws! Dim byd rhy chill, ond mae 'na ambell un sy'n well efallai ar gyfer cynhesu fyny neu gŵlo lawr yn hytrach na'r sesiynau sy'n gofyn am gryn ymdrech!

Dyma felly feini prawf sy'n cyfyngu rhywfaint ar yr ehangder o ganeuon y gallwn i ddewis a dethol ohonynt - serch hynny, mae'r doreth a'r amrywiaeth yn dyst i gryfder y sîn.

Dw i wedi dewis a dethol o restrau hir Gwobrau'r Selar eleni, ac wedi categoreiddio isod yn unol â'r categorïau hynny hefyd, sef Cân Orau, Record Fer Orau a Record Hir Orau. Dylwn i roi ymwrthodiad fan hyn 'mod i'n gweithio efo'r Selar ac wedi cael rhan yn llunio'r rhestrau.

Ewch da chi i bleidleisio - does dim ond angen creu cyfrif sy'n rhad ac am ddim ac yn cymryd namyn munudau - a hynny cyn i'r porth gau nos Fercher (7fed) am hanner nos. Cyhoeddir yr enillwyr wedyn yn ystod yr wythnos ganlynol ar wahanol raglenni Radio Cymru.

Er mwyn i chithau gael blas ar y traciau, dwi wedi creu rhestr chwarae ar ddiwedd y cyfnod.

Digon o falu awyr, ymlaen â ni - mwynhewch!

Rhestr Fer Cân Orau

Epiphany - Ble?

75rpm

CANNA - Gwcci

100rpm

Dim Arwyr - Chwalaw

92rpm

Bolmynydd - Pys Melyn

101rpm

Clawdd Eithin - Cowbois Rhos Botwnnog

87rpm

Insterstellar Hellen Keller - KIM HON

80rpm

Er diddordeb, dyma weddill y caneuon ar y rhestr fer:

  • Gyrru Ni 'Mlaen - Meinir Gwilym ft. Bwncath

  • Dal Dig - Buddug

  • Toddi - Gillie

  • Ymdrech - Geraint Rhys

  • Addo - Adwaith

  • Uwch Dros y Pysgod - Dafydd Owain

Rhestr Fer Record Fer Orau

Jig-Sô - Mali Haf

Yn un o artistiaid prysuraf y sîn ers sbel bellach, dyma ail EP Mali Hâf. Oddi arni, dwi wedi dewis y trac agoriadol, sef Ailadrodd (75rpm).

Pwmpenni / Atgofion / Y Casio Gwerin / Dim Eira Dim Sioe / Gobaith Newydd - Ffos Goch

Bu'n flwyddyn brysur i Ffos Goch, sef prosiect y cerddor profiadol Stuart Estell, gan ryddhau sawl record fer, gan gynnwys Atgofion (84rpm).

Diwrnodau Haf - Dadleoli

EP cyntaf y band ifanc o Gaerdydd ydy Diwrnodau Haf, yn dilyn eu sengl Cwpan y Byd, 'Cefnogi Cymru'. Oddi ar yr EP, dwi wedi dewis fy hoff drac, Tro Cyntaf (85rpm).

Nodiadau ar Gariad a Gwleidyddiaeth - Maes Parcio

Band ifanc arall, ond y tro hwn o ardaloedd Caernarfon ac Ynys Môn. Mae eu sain nodweddiadol o roc trwm yn dod drwodd ar y gân epig sy'n cloi'r EP, Gad fi Gysgu (82rpm).

Galwad y Cewri - Moss Carpet

Yn enillydd Brwydr y Bandiau yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023, dyma EP cyntaf Moss Carpet hefyd. Oddi arni, dwi wedi dewis y nefoedd (84rpm).

Pwy Wyt Ti? - Alis Glyn

Artist ifanc arall sydd wedi cael cryn dipyn o lwyddiant dros y flwyddyn ddiwethaf yn enwedig ydy Alis Glyn, ryddhaodd ei EP cyntaf ddiwedd 2023. Oddi arni, dwi wedi dewis Ynys (70rpm).

Golau Cyfarwydd - Moddion

EP cyntaf y grŵp Moddion ydy 'Golau Cyfarwydd', ryddhawyd nôl ym mis Awst, a'r dewis hawdd o blith y traciau oedd y teitl drac, Golau Cyfarwydd (81rpm).

Rhestr Fer Record Hir Orau

Dos Bebes - Rogue Jones

Dyma'r albwm, ail un y grŵp, ddaeth i'r brig yn y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2023. Mae sawl trac gwych arni, gan gynnwys yr un agoriadol, Triongl Dyfed (70rpm).

Lonydd Llydaw - Mered Morris

Yn gerddor profiadol arall fu'n chwarae i fandiau Meic Stevens a Sobin a'r Smaeliaid, rhyddhaodd Mered Morris 'Lonydd Llydaw' yn 2023. O blith y traciau, dwi wedi dewis Gwyfyn yn y Fflam (71rpm).

Galargan - The Gentle Good

Mae'n anarferol, efallai, gweld albwm werin yn ei gwneud hi i'r Tiwns Tyrbo, ond roedd rhaid cynnwys trac o albwm The Gentle Good, gafodd adolygiad pum seren yn The Guardian. Y trac ddewisais i ydy Set Bob (84rpm).

Yn Fyw! Galeri Caernarfon - Cowbois Rhos Botwnnog

Mi fyswn i'n gallu dewis unrhyw un o blith y traciau ar albwm byw Cowbois, ond o'u plith, fy ffefryn ar hyn o bryd ydy Gan Fy Mod I (65rpm). Mae 'na gryn edrych ymlaen at eu halbwm stiwdio newydd fydd allan yn y Gwanwyn.

A.W.D.L (Artist with Dual Language) - Mr Phormula

Mae Mr Phormula yn enw cyfarwydd ar y sîn yng Nghymru ers tro bellach. Yn 2023, rhoddodd ei fryd ar gydweithio ag artistiaid eraill i gynhyrchu albwm dwyieithog A.W.D.L. Oddi arni, dwi wedi dewis y trac agoriadol, Tir (75rpm).

Sesiynau Tŷ Potas - Mei Gwynedd

Clasuron o ganeuon Cymraeg sydd ar albwm newydd Mei Gwynedd, Sesiynau Tŷ Potas, ac mae'n teithio ledled Cymru'n perfformio a chyd-ganu caneuon megis Lleucu Llwyd (83rpm) gyda'i gynulleidfaoedd.

Pan Ddaw'r Dydd i Ben - Glain Rhys

Ail albwm Glain Rhys ydy Pan Ddaw'r Dydd i Ben, ac yn 2023 mi fues i'n ddigon ffodus o gael chwarae yn y band mewn ambell ŵyl. Y gân oedd yn cloi'r setiau bryd hynny, ac yn lot o hwyl i'w chwarae, oedd Sara (76rpm), a dyna 'newis innau hefyd.

Hafod - Bwca

Mae Steff Rees yn enw cyfarwydd iawn i ddarllenwyr Y Ddwy Olwyn, ac yntau'n arbenigwr gwadd yn trafod seiclo graean a phethau eraill ar y blog, ac hefyd yn ein digwyddiad byw yn yr Eisteddfod. Ei brosiect cerddorol yw Bwca, a dwi wedi dewis y teitl drac oddi ar yr albwm newydd, Hafod (65rpm).

Lle bu'r afon yn llifo - Tegid Rhys

Bedair blynedd ar ôl rhyddhau ei record gyntaf, dychwelodd Tegid Rhys gydag ail albwm ar Recordiau Madryn yn 2023. O blith y traciau, dwi wedi dewis un o'r senglau, sef Y freuddwyd (84rpm).

Ni a Nhw - Carwyn Ellis

Un arall o artistiaid toreithiog y sîn ydy Carwyn Ellis, a ddiwedd y flwyddyn mi ryddhaodd o albwm solo oedd yn gasgliad o rai o'r caneuon y bu'n canu gyda'r grŵpiau Bendith, Rio 18 a Colorama er enghraifft. Y trac ola dwi wedi'i ddewis, sef ailgymysgiad Begin o Hapus? (78rpm).

Dollar Lizzard Money Zombie - HMS Morris

Grŵp sy'n brysur bwrw'u plwyf ar y sîn roc yng Nghymru a thu hwnt ydy HMS Morris a'u ffryntman Heledd Watkins. O'u halbwm dwyieithog newydd, dwi wedi dewis y trac 110 (76rpm).

Baiaia! - Gai Toms

Artist toreithiog, prysur arall o Stiniog ydy Gai Toms, ac erbyn yr Eisteddfod yn Llŷn ac Eifionydd, roedd 'na albwm newydd ganddo i'w gynnig. O blith y traciau, dwi wedi dewis Chwedlau yn y fflachlwch (72rpm).

Dienw - Dienw

Enw gweddol newydd i'r sîn ydy Dienw, sydd wedi bod yn rhyddhau senglau nawr ac yn y man ers rhai blynyddoedd bellach. Glaniodd eu halbwm cyntaf yn 2023, ac un o'r senglau oedd fy newis i, sef Targed (70rpm).

Uwch Dros y Pysgod - Dafydd Owain

Record arall oedd yn uchel ar fy rhestr ffefrynnau yn 2023 am ei synau ac awyrgylch breuddwydiol, gan artist profiadol arall o fandiau fel Palenco a Sen Segur. Anodd dewis un trac oddi arni, afraid dweud, felly dwi wedi dewis un o'r senglau, sef Llongyfarchiadau Mawr (71rpm).

Mewn Cof - Awst

Prosiect unigol y cerddor Cynyr Hamer ydy Awst, a Mewn Cof ydy ei ail albwm i ddilyn 'Haul / Lloer' ryddhawyd yn 2022. O blith y traciau, dwi wedi dewis Y Cof (82rpm).

Tara Bandito - Tara Bandito

Y sengl fwyaf poblogaidd, mae'n debyg, oddi ar albwm newydd yr unigryw Tara Bandito, fyddai Croeso i Gymru (81rpm), ac felly'n ddewis hawdd o blith y traciau ar yr albwm.

Caneuon Tyn yr Hendy - Meinir Gwilym

Artist prysur arall ar y sîn yn gigio a chyfansoddi'n unigol ac fel rhan o grŵp Pedair. Dwi'n ffàn mawr o'r albwm newydd, yn enwedig wrth redeg, a hawdd tynnu paralel â byd y tiwns tyrbo, a dwi wedi dewis y trac sy'n cloi'r casgliad, sef Goriad (70rpm).

Hefyd ar y rhestr fer, ond sydd efallai'n 'rhy' werinol i fod yn diwns tyrbo, mae albwms gan ddwy arall o'r grŵp Pedair: Hen Ganeuon Newydd gan Gwenan Gibbard a Tocyn unffordd i lawenydd gan Twm Morus a Gwyneth Glyn

Mmm Beanz - Pasta Hull

Mae Pasta Hull wedi bod yn enw cyfarwydd ar y sîn ers rhai blynyddoedd, a dyma drydedd albwm y band. O blith y traciau arni, dwi wedi dewis Tyddyn DUB (76rpm).

Sŵn o'r Stafell Arall - Hyll

Enw cyfarwydd arall i'r sîn ers sbel ydy Hyll, ond eu halbwm cyntaf laniodd yn 2023. Dwi wedi dewis y sengl oddi arni, sef Hanner Marathon (62rpm).

Planedau Gwyrdd - Hippies vs Ghosts

Prosiect unigol y cerddor Owain Ginsberg ydy Hippies vs Ghosts, a dyma'r ail albwm o'i gasgliad, sy'n dod wyth mlynedd wedi'r cyntaf. Oddi arni, dwi wedi dewis Wrth y Môr (80rpm).

Llond Llaw - Los Blancos

Ail albwm y band slacker Los Blancos oedd Llond Llaw, sydd i 'nghlustiau i yn debycach i naws eu halbwm cyntaf, Sbwriel Gwyn, na'r cynnyrch mwy diweddar ar yr EP, Casgliad o Ganeuon Traddodiadol Cymraeg. O blith y traciau, dwi wedi dewis Ymhelaethu (89rpm).

Dim Dwywaith - Mellt

Band profiadol arall ryddhaodd ail albwm yn 2023 oedd Mellt, ac mi gawson nhw gryn dipyn o hwyl yn perfformio ledled Cymru i'w lansio. Oddi arni, dwi wedi dewis y sengl, Ceisio (64rpm).

Kim Hon - Kim Hon

Mae Kim Hon wedi tyfu'n fand poblogaidd dros gyfnod o rai blynyddoedd, a'u ffryntman egnïol, yr actor Iwan Fôn yn arwain y cwbl. Cân brotest i ryw raddau ydy Mr English (74rpm), sy'n dod oddi ar albwm cyntaf y band ryddhawyd yn 2023.

Rhywle Pell - Achlysurol

Albwm cyntaf arall gan griw o gerddorion talentog a phrofiadol laniodd yn 2023. Mae'n gasgliad gwych o ganeuon, ac mi wnes i fwynhau eu gweld yn fyw yn ddiweddar hefyd. O'u plith, y dewis oedd Golau Gwyrdd (92rpm).

Gig Cymreig - Crinc

Prosiect cerddorol Llyr Alun ydy Crinc, a'i albwm cyntaf ydy Gig Cymreig ryddhawyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. O blith y traciau, mi wnes i ddewis PPC (99rpm).

Misses - Mr

Cerddor profiadol dros ben sef Mark Roberts Y Cyrff, sydd yn brysur iawn gyda'i brosiect unigol ers rhai blynyddoedd bellach. Dyma bumed albwm y prosiect, ac oddi arni, dwi wedi dewis Dwi Ddim yn Nabod Chdi Dim Mwy (94rpm).

Un arall...

Wel, doeddwn i ddim yn mynd i ildio i'r temtasiwn o gynnwys cân gan fy mand i nag o'n! Yn enwedig pan o'n i'n gwybod yn union beth oedd yr rpm heb orfod edrych ar-lein... Gobeithio y byddwn i'n gymwys ar gyfer y categori Artist Newydd neu un o'r lleill flwyddyn nesaf.

Llwybrau - Mynadd

90rpm


Felly dyna ni, gwerth blwyddyn arall o diwns tyrbo i lenwi'n rhestrau chwarae. Cofiwch bleidleisio ar wefan Y Selar - selar.cymru/gwobrau/pleidlais a hynny cyn nos Fercher.

Dyma restr chwarae 2024:

Tan y tro nesa!

    1