Gruffudd ab Owain

Aug 14, 202212 min

Rhagolwg: La Vuelta 2022

Mae’n fy synnu i bob blwyddyn, yn ddi-eithriad, pa mor gyflym y mae’n rhaid troi’r sylw at La Vuelta a España wedi i’r Tour de France ddirwyn i ben.

Efallai fod hynny’n fwy perthnasol fyth eleni gan ein bod wedi cael Tour estynedig yn sgil newydd ddyfodiad y Tour de France Femmes, wnaeth ond gorffen bythefnos cyn cyhoeddi’r cofnod hwn (llai fyth pan dw i’n ei sgwennu).

O bosib, mae hyn yn ychwanegu at pam fod y cyffro’n dueddol o fod yn llai ar drothwy’r Vuelta o’i gymharu â’i brodyr hŷn ymysg teulu’r Grand Tours. Mae’r Giro’n dod fwy na heb ar ddechrau’r tymor ac wedi misoedd lawer o edrych ymlaen. O ran y Tour… wel, yn syml, y Tour ydi’r Tour ‘de.

Dwi’n ei chael hi’n anodd cyffroi ar gyfer y Vuelta fel arfer, ac yn methu cynnal diddordeb yn ystod y dair wythnos. Mae’n bosib fod hynny oherwydd ei leoliad ar ddiwedd y tymor, a ‘mod i’n dioddef o cycling blogger fatigue.

Pe baem ni wedi cael Tour diflas, fel 2016 neu 2017 er enghraifft, byddai’r Vuelta yn tanio’r cyffro fel cyfle olaf am rasio cyffrous ar lwyfan Grand Tours mewn blwyddyn.

Ond bu’r Tour eleni ymysg y gorau i mi eu cofio, ac felly mae ‘na deimlad o ‘sdim lot o bwynt, fydd o’m hanner cystal â’r Tour beth bynnag’.

Mae’r Tour wedi tyfu yn y blynyddoedd mwyaf diweddar i fod yn fwy o binacl yn y calendr nag a fu gynt. Erbyn hyn, prin iawn yw’r reidwyr o’r safon uchaf un sy’n mynd i’r Giro gan mai’r Tour yw’r flaenoriaeth. Prinach byth yw’r rhai sy’n ceisio gwneud y dwbl Giro-Tour.

Ond yn hynny o beth, mae’r Vuelta yn elwa. Dyma’r cyfle olaf yn y flwyddyn i reidwyr greu argraff mewn Grand Tour, ac o’r herwydd, mae’n cynnig ail gyfle i rai na lwyddodd i wireddu eu breuddwydion yn y Giro neu’r Tour. Mae sawl un o’r rheiny’n ysu i ddangos eu doniau yn y Vuelta eleni, ac mi ddylai hynny greu rasio cyffrous.

Yn hynny o beth, ar ben dringfeydd arbennig gan gynnwys rhai hurt o anodd - er yn llai eu bri na mawrion Ffrainc a’r Eidal - a diwylliant unigryw, mae ‘na ramant yn perthyn i’r Vuelta. Mae ‘na ramant i’w statws fel y brawd bach hefyd.

Ac felly drwy gymryd golwg ar y cwrs a’r ffefrynnau, mi wnai ddweud be’ dw i’n ei ddweud bob blwyddyn ar drothwy’r Vuelta:

Dwi am drio’i mwynhau hi go iawn eleni.

Ymwrthodiad: Gan mod i’n sgwennu hwn ar fy ffôn yng nghefn y car wrth deithio ar draffyrdd Ffrainc (gol: a de Lloegr erbyn heddiw), dwi’m yn gaddo y bydd y safon gystal ag arfer! Hefyd, dydy’r rhestr ddechrau ddim yn gyflawn eto ac o’r herwydd, mae’n bosib na fydd rhai o’r ffefrynnau sy’n cael eu henwi yma’n rasio wedi’r cyfan. Wedi dweud hynny, mae’m ffynonnellau - ProCyclingStats, FirstCycling, CyclingTips a CyclingNews etc - yn ddibynadwy gan amlaf ac felly ddylai bod dim byd mawr o’i le.

Y Cwrs

Cymal wrth gymal, @ammatipyorailly ar Twitter (ddim yn wythnos wrth wythnos):

Map:

Gan ddilyn yr arfer ososwyd gan y Giro (Hwngari) a’r Tour (Denmarc), mae’r Vuelta yn cychwyn fuera de España, y tu hwnt i Sbaen, a hynny yn yr Iseldiroedd. Be’ sy’n gwbl groes i’r arfer - yn fwy diweddar yn enwedig - yw mai â ras yn erbyn y cloc i dimau y mae’r Vuelta’n dechrau eleni, a hynny yn ninas Utrecht ddydd Gwener (19 Awst). Yn syth bín, mae’r cyfle i hawlio’r maillot rojo cyntaf yn cael ei roi ar blât i Primož Roglič (os ydy o'n cychwyn) ar gymal wedi’i ddylunio ar gyfer y tîm cartref, Jumbo Visma. Dydy’r Vuelta ddim yn draddodiadol yn ffafrio’r gwibwyr o gwbl, ond mae optio i ddechrau yn yr Isalmaen yn golygu bod deuddydd i’w plesio nhw yn dilyn, wrth i’r reidwyr deithio tua de’r wlad. Daw diwrnod gorffwys yn sgil hynny.

Dydy’r wythnos gyntaf yn Sbaen - ‘go iawn’, ‘rhan b’ neu be bynnag - ddim yn rhoi unrhyw gyfle i gynhesu ac ymgyfarwyddo. Gan ddechrau ym mryniau Gwlad y Basg rhwng Vitoria-Gasteiz a Laguardia, mae cymal 4 yn gyfle cynnar i oleuo unrhyw fylchau rhwng y ffefrynnau. Mae dringfa gat 3 ag eiliadau bonws i demtio’r reidwyr o fewn y pymtheg cilomedr olaf, cyn diweddglo ar allt i’r dref. Ymlwybro tua’r gorllewin wnaent weddill yr wythnos, gan ddechrau ar gymal bryniog eto wrth lynu’n weddol agos at yr arfordir rhwng Irun a Bilbao. Rhwng natur fyny a lawr y tirwedd, eiliadau bonws ar y ddringfa olaf a’r potensial am wyntoedd, mi ddylai cymal 5 fod yn un cyffrous. Mae cymal 6 yn newid gêr o ran y dringo, gan ymadael â Bilbao a Gwlad y Basg a mentro i fynyddoedd Cantabria. Ceir dwy ddringfa gategori 1 yn 40km olaf y cymal; y cyntaf yn cynnig eiliadau bonws, a’r ail ohonynt i ddiweddglo copa cynta’r ras yn Pico Jano. Dringfa 12km sydd â chyfartaledd o 9 i 10% yn yr hanner cyntaf, cyn gostegu rhywfaint i 7% yn yr ail hanner. Cyfle cynnar i rywun i osod stamp gwirioneddol ar y ras. Bydd cymal 7 yn gyfle i’r dihangiad ar route braidd yn od, gyda’r unig ddringfa’n un hir categori 1 yng nghanol y cymal wrth deithio ymhellach i’r gorllewin ac i León, gan roi ysbaid o rywfath i’r ffefrynnau ar drothwy cymal 8 a 9. Deuddydd allweddol o ddringo ym mynyddoedd Asturias sy’n wynebu’r reidwyr; bryniau dibaid ar gymal 8 i gynhesu cyn y bwystfil o ddiweddglo copa i Colláu Fancuaya. Yn ôl gwefan Dangerous Roads - enw sy’n dweud y cyfan - mae’n ddringfa gymharol fer o 7km â graddiant cyfartalog o 8.6%, ond â sectorau ar 16%. Mae cymal 9 yn debyg yn ei natur - talpiog cyn diweddglo copa - a thrwy hynny daw cyfle i wagu’r tanc cyn yr ail ddiwrnod gorffwys. Pe meddylient fod y diweddglo ar gymal 8 yn feichus, bydd y diweddglo i Les Praeres Nava yn peri cryn dipyn o ddychryn. Fymryn yn llai na 4km yw’r ddringfa ‘go iawn’ - y cilometr cyntaf yn 14.2%, yr ail yn 16.7%, y trydydd yn 10.3% a’r olaf yn 12%. Dyma’r math o ddringfa hurt o serth sy’n nodweddiadol iawn o rasio’r Vuelta.

Mae’r ail wythnos yn dechrau mewn modd eithaf annisgwyl hefyd, a hynny gyda ras unigol yn erbyn y cloc ar y Costa Blanca rhwng Elche ac Alicante. Cymal gweddol dalpiog ond â diweddglo gwastad sy’n dilyn ar gymal 11 i Cabo de Gata wrth gyrraedd Andalucía, cartref gweddill yr ail wythnos fynyddig. Diweddglo copa gategori 1 i Peñas Blancas ger Estepona sy’n dod ar gymal 12, cyn diwrnod bryniog o dref hyfryd Ronda i Montilla ar gymal 13. Deuddydd heriol dros ben yn y cyfrwy i’r peloton sy’n dilyn ar benwythnos cyntaf mis Medi er mwyn cloi’r ail wythnos. Ceir graddiannau o hyd at 18% ar ddringfa dwbl â chyfanswm o dros 20km - Puerto de los Villares ar y daith i Sierra de las Panderas - ar ddiwedd cymal 14 yn ardal Jaén, ond daw’r crescendo i uchafbwynt i gloi’r ail wythnos mewn steil ar gymal 15. Mae’r diweddglo copa i Alto Hoya de la Mora yn Sierra Nevada yn y categori especial, cyfystyr â hors categorie; y cyntaf ohonynt yn y ras. Mae’n ddringfa 19km sy’n esgyn i dros 2,500 o fetrau uwchlaw lefel y môr yn ardal Granada. Oddi yma, byddai’n bosib mynd i’r Pico Veleta - dringfa uchaf Ewrop i seiclwyr ar 3,398m - ond hepgor hynny wna’r Vuelta gan fod angen beic graean i’w goncro. Yr ail wythnos yn dirwyn i ben ar nodyn uchel yn llythrennol.

Wedi’r trydydd dydd o orffwys ar y 5ed o Fedi, bydd dechrau cymharol ymlaciedig i’r drydedd wythnos yng ngorllewin Andalucía ar gymal 16. Diweddglo copa arall yn wynebu’r peloton ar gymal 17 sy’n ddechrau ar bedwar diwrnod beichus arall yn y mynyddoedd. O’i gymharu â’r rhai sy’n dilyn, mae’r diweddglo i Monasterio de Tentudía fymryn yn ‘haws’ - ddim ond yn gategori 2. Paratoad felly at weddill y dringo di-dostur, sy’n dechrau gyda thrindod o ddringfeydd categoredig (un cat 2 a dau cat 1) ar gymal 18, sy’n gorffen yn nhref uchaf yr Extremadura, Piornal, uwch dyffryn Jerte ar 1,175m. Dringfa hir ond y graddiannau o tua 6% ddim yn ormodol heriol. Bydd y ffefrynnau’n gobeithio am un ‘hoe’ fach olaf ar gymal 19; pâr o ddringfeydd categori 2 ymhell o ddiwedd y cymal ddylai apelio at y dihangiad - ond yn cynnig sgôp am ymosodiad hurt o hirbell. Bydd y cymal olaf o bwys yng nghyd-destun y maillot rojo yn dod ar gymal 20 wrth i’r peloton esgyn i bron i 2,000 o fetrau bedair gwaith ar dair dringfa cat 1 ac un cat 2. Diweddglo copa o fath i orsaf sgïo Puerto de Navacerrada ychydig i’r gogledd o Madrid, cyn y bydd y cymal prosesiwn yn y brifddinas yn cloi’r cyfan.

Y Gwibwyr

Cryno iawn yw’r rhan hon o’r gofnod bob blwyddyn gan mai prin iawn yw’r cyfleoedd i’r gwibwyr. Wedi’r deuddydd ar gymal 2 a 3 yn yr Iseldiroedd, does bron dim cyfle ar ôl iddynt ac felly byddwn i’n disgwyl i nifer godi pac a gadael yn gynnar.

Mae Tim Merlier (Alpecin-Fenix) yn un o’r prif enwau ac yntau wedi profi’i gyflymdra a’i grefft yn y Grand Tours eisoes, ac felly hefyd cyn enillydd crys gwyrdd y Vuelta a’r Giro Sam Bennett o Bora-Hansgrohe, sydd hefyd yn dod â Danny van Poppel i’r ras. Dylid cadw llygad barcud hefyd ar Pascal Ackermann o dîm UAE a Mads Pedersen o Trek Segafredo.

Ddim yn wibiwr ond yn reidiwr tanllyd, cyffrous a beiddgar, mae Julian Alaphilippe yn ôl mewn Grand Tour! Mae’n teimlo fel amser hir ers ei weld yn cyffroi ras yng nghrys enfys pencampwr y byd ac mae digon o gyfle iddo gael gwneud hynny.

Y Ffefrynnau

Mae’r Vuelta eleni yn sicr yn elwa o’r holl ffactorau a drafodwyd ar ddechrau’r cofnod ac mae’r rhestr ddechrau yn safonol iawn.

Ond mae un reidiwr sy’n cyrraedd y ras fel y prif ffefryn am y pedwerydd blwyddyn o’r bron, sef Primož Roglič. Rydym eisoes wedi crybwyll fod y cwrs yn ffafriol iddo o ran y ras dimau yn erbyn y cloc a chyfleoedd cynnar i hawlio ac amddiffyn y maillot rojo. Mae’n amlwg fod tirwedd Sbaen yn ffafrio’r Slofeniad ac yntau wedi ennill y ras deirgwaith yn olynol yn y dair blynedd ddiwethaf. Ar ôl ennill y Dauphiné, mi gyrhaeddodd y Tour gan rannu’r arweinyddiaeth â Vingegaard. Cafwyd perfformiad argyhoeddiadol ganddo ar seithfed cymal y Tour, pan gafodd 3ydd i La Planche des Belles Filles, ddeuddeg eiliad tu ôl i Vingegaard a Pogačar. Wedi hynny aeth ffawd yn ei erbyn eto a bu rhaid ildio wedi damwain ar y cymal coblog. Felly mae’n batrwm cyson ganddo; gorfod gadael y Tour oherwydd anlwc, adfer am ychydig wythnosau a bod yn barod i danio yn y Vuelta. Serch hynny, mae Jumbo yn dal i roi'r argraff fod marc cwestiwn ynghylch ei gyfranogiad o gwbl, a'u bod yn aros tan yfory (dydd Llun) i benderfynu os ydy o wedi ymadfer yn ddigonol. Pe bai'n barod i danio, bydd tîm cryf iawn ganddo i’w gefnogi bid siŵr, gan gynnwys y dringwr hynod dalentog Sepp Kuss, a hynny oll yn gymorth mawr i’w ymgyrch i unioni record y Sbaenwr Roberto Heras o bedair buddugoliaeth yn y ras. Ond pe bai Roglič yn absennol, bydd Kuss yn fwy nag abl i lenwi ei esgidiau, a chyfle cyntaf iddo i arwain ar lefel

Bydd enillydd y Giro eleni, Jai Hindley, yn awyddus i adeiladu ar ben y llwyddiant hwnnw wrth iddo f’yntau gyrraedd y Vuelta fel un o’r reidwyr fydd yn cael eu marcio gan y timau mwy. Cafwyd perfformiad aeddfed iawn ganddo yn y Giro, yn amseru ei ymdrech yn berffaith ac yn gwario egni’n effeithlon. Un ras gymalau y mae o wedi’i gyflawni ers ennill y Giro, a 7fed modest fu hynny yn y Vuelta a Burgos ddaeth i ben wythnos diwethaf. Mae ei dîm Bora-Hansgrohe wedi prysur ddod yn garfan gref iawn mewn Grand Tours a rasys cymalau byrrach, ac o’r herwydd mae disgwyl i Wilco Kelderman, Sergio Higuita a Emmanuel Buchmann ysgwyddo’r dyletswydd i’w gynorthwyo neu i gystadlu drostyn’hw’u hunain.

Yn ail yn y Giro eleni oedd Richard Carapaz, yr Ecwadoriad sy’n debygol, ond ddim yn sicr, o arwain Ineos Grenadiers. Hynny oherwydd fod tipyn o gystadleuaeth am y dyletswydd o arwain o fewn y garfan, yn ôl yr arfer. Er fy mod i’n weddol sicr fod Pavel Sivakov yn mynd i orfod dygymod â rôl domestique eto, mi lwyddodd i ennill y ras gynhesu yn Burgos; canlyniad parchus iawn yn erbyn cystadleuwyr safonol. Yn ogystal â Sivakov, bydd Carlos Rodriguez yn gobeithio cael rhywfaint o ryddid i gystadlu wedi iddo orffen yn 4ydd yn Burgos, ac enillydd y Giro yn 2020 Tao Geoghegan Hart yn awyddus i efelychu’r llwyddiant hwnnw. Carapaz sydd â phrofiad arweinydd ac enillydd Grand Tour er ei fod o’n rhy awyddus i ymosod ar adegau - a hynny gostiodd y Giro iddo yn y pen draw eleni. Ond ai Carapaz yw dyfodol Ineos? Dydw i ddim yn siŵr, ac mae’r rhestr ddechrau efallai’n awgrymu eu bod nhw am roi mwy o gyfrifoldeb i Sivakov neu Rodriguez i gario’r baton tua’r dyfodol. Ar ben hynny, mae gŵgliad sydyn yn datguddio’i fod o’n agored i symud ddiwedd y tymor, gydag EF mae’n debyg wedi dangos diddordeb. Cawn weld, ond dynamig difyr i’w ddilyn yn y ras hwn heb os.

Ar ôl gorffen yn y 3ydd yn y Giro, bydd Mikel Landa yn awyddus i adeiladu ar ben hynny, yn enwedig gan fod yr wythnos gyntaf yn pasio drwy ei famwlad yng Ngwlad y Basg. Mae wedi cael ail wynt yn hydref ei yrfa fel hyn wedi iddo arwyddo i Bahrain, ac mae’r canlyniad hwnnw eleni wedi’i roi ymysg y prif reidwyr DC unwaith eto. Ond wedi dweud hynny, mae wedi dweud yn y wasg nad yw’n targedu’r podiwm yn y Vuelta y tro hwn, ac mi fyddai’r ffaith iddo guddio yn y cysgodion, gan orffen y tu allan i’r 40 uchaf, yn y Vuelta a Burgos yn cefnogi hynny. Efallai daw cyfle o hynny i reidwyr ifanc fel Santiago Buitrago neu Stevie Williams o Aberystwyth hyd yn oed.

Nesaf mae gennym ni Remco Evenepoel, un o’r rhai y bu gobaith mawr amdano pan yn iâu fel un o’r reidwyr mwyaf talentog mewn cenhedlaeth. Un peth sy’n sicr, mae hynny’n wir. Ond mae ei allu mewn Grand Tours yn ddiarth i raddau helaeth, ac yntau ond wedi cystadlu yn y Giro llynedd pan y bu disgwyl iddo greu argraff fawr. Ni lwyddodd i wireddu hynny, gan golli amser ar y cymalau mwyaf heriol â graddiannau serthion neu sectorau graean. Oes, mae ‘na gymalau anodd dros ben i’w cael ac mae’n farc cwestiwn sut y bydd ei goesau Belgaidd yn dygymod â’r serthaf o’r rheiny. Mae marc cwestiwn ynghylch ei aeddfedrwydd efallai, yn enwedig mewn tas dair wythnos. Ond does dim marc cwestiwn ynghylch ei dalent, a gellir dehongli’r anaeddfedrwydd honedig o ymosod o hirbell fel arf. Does dim marc cwestiwn ynghylch ei allu yn erbyn y cloc chwaith. Felly’r cwestiwn mawr yw os y gall Evenepoel gynhyrchu perfformiad cydlynus ac aeddfed ar draws tair wythnos, ac os felly, pa mor bell y gall o fynd ar y dosbarthiad cyffredinol.

Yn absenoldeb Pogačar, mae gan UAE hefyd garfan hynod gref â sawl arweinydd posib. Joao Almeida fydd yn ysgwyddo’r dyletswydd hwnnw ar ddechrau’r ras, mae’n bur debyg, ac yntau wedi datblygu’n aruthrol ers dod i’r amlwg yn Giro 2020. Daeth yn ail yn Burgos wrth iddo ail adeiladu yn sgîl gorfod gadael y Giro eleni â phrawf positif pan oedd yn y frwydr am y maglia rosa. Ond mae eraill o fewn y garfan sy’n ysu am gyfle i ddangos eu doniau ar lefel y Grand Tours. Yn 19 oed, a deiliad y cytundeb hiraf yn y World Tour (yn para tan 2028), mae cryn edrych ymlaen at weld sut berfformiad gawn gan y Sbaenwr Juan Ayuso. Enillodd ei ras broffesiynol gyntaf, Circuit de Getxo, ddechrau’r mis, ac roedd ei ffigyrau pŵer yn cymharu’n agos â rhai Pogačar ddechrau’r flwyddyn. Cadwer lygad barcud arno fo. Ar ben hynny, mae Rafał Majka, Brandon McNulty a Marc Soler oll yn ddringwyr hynod alluog o fewn y garfan, ond mae’n debyg mai rôl domestique neu dargedu cymalau fydd eu diben nhw yn hytrach nag arwain.

Chafodd Simon Yates ddim llawer o lwyddiant yn y Giro o ran y dosbarthiad cyffredinol er ennill un cymal yn erbyn y cloc ac un cymal mynyddig, felly mae’r Vuelta wedi datblygu’n nod pennaf iddo eleni. Mae 6ed yn San Sebastian yn awgrymu fod coesau gweddol ganddo ar drothwy’r ras, ac mae wedi datgan yn hyderus yn gyhoeddus ei fod o a’i dîm yn mynd i’r Vuelta er mwyn ennill. Dim pwysau, ‘te.

Miguel Ángel López yw’r reidiwr nesaf dan sylw ac yntau wedi cael digon o hwnnw yn ddiweddar, ond nid am y rheswm cywir ac yntau wedi derbyn gwaharddiad ‘rhag ofn’ (precautionary) sydd bellach drosodd am gysylltiad â delio cyffuriau. Mae’n rhaid mynd nôl i 2020 i’r perfformiad nodedig mewn Grand Tour diwethaf ganddo pan gafodd 6ed yn y Tour gyda buddugoliaeth cymal arbennig ar y Col de la Loze. O ran ei gyflwr presennol, gorffennodd yn 3ydd yn Burgos ac felly ymddengys ei fod ar y trywydd cywir, er ddim mor amlwg ymysg y ffefrynnau ag y bu yn y blynyddoedd diwethaf.

Dydy’r Vuelta a Movistar byth yn gyfuniad ffyniannus, ac mae wastad rhyw ddrama blentynnaidd yn datblygu ymysg y garfan. Gweler y gyfres El Día Menos Pensado ar Netflix sydd wedi dogfennu’r cyfan. Eleni, does gan yr un o’r arweinwyr honedig iâu - Enric Mas ac Ivan Sosa - ddim record dda eleni. Felly fel sy’n arferol, dwi’n disgwyl mater o’r henwr Alejandro Valverde, 42, yn dweud ‘peidiwch â boddro, mi wnai o’n hun’.

I gloi, dyma gymryd golwg ar rai o’r enwau eraill sy’n fwy nag abl i dargedu’r 5 neu’r 10 uchaf o leiaf. Mi ddechreuwn ni yn nhu EF a’r gŵr o sir Gaerhirfryn, Hugh Carthy, fyddai wedi bod yn siomedig â’r 9fed yn y Giro ond mae route a naws y Vuelta yn apelio’n well ato ac yntau wedi gorffen yn 3ydd yma yn 2020. Mae Mark Padun, Esteban Chaves a Rigoberto Uran ar restr hir y garfan a hwythau oll yn ddringwyr cryf hefyd, ond mae’n debyg mai Carthy fydd yn hawlio’r arweinyddiaeth. O dîm AG2R dylid cadw golwg agos ar Ben O’Connor, sy’n sicr o fod eisiau bachu ar y cyfle hwn wedi Tour siomedig lle bu gorfod iddo orfod cyn diwedd yr wythnos. Ac un yr ydw i wastad yn ei anghofio, cr’adur, ydy Louis Meintjes o Intermarché sydd wastad yn llwyddo dod o hyd i ffordd i gyrraedd y deg uchaf mewn Grand Tours.

I grynhoi, dyma sut y byddwn i’n eu gosod nhw.

️ Roglič

️ -

️ Hindley, Carapaz, Evenepoel, Yates

️ Kuss, Sivakov, Almeida, Carthy, López

️ Meintjes, Ayuso, Sosa, Mas, Valverde, O’Connor


A dyna ni, rhagolwg Grand Tour ola’r flwyddyn wedi dod i ben, ac od meddwl na fydd rhaid sgwennu peth fel hwn tan tua mis Mai 2023 ar drothwy’r Giro!

Ar rwydwaith Eurosport, GCN+ a Discovery+ y mae modd gwylio’r ras eleni, gwasanaethau taledig i gyd, ac nid yw ITV4 yn dangos uchafbwyntiau yn wahanol i’r arfer.

O fod wedi cymryd golwg ar y cwrs a rhyfeddu ar ba mor agored ydy’r ras o ran y ffefrynnau - a phawb yn awyddus i ddisodli Roglič fel brenin y Vuelta - dwi wedi cynhyrfu ar gyfer y ras.

Gobeithio y bydd y ras ei hun yn teilyngu’n sylw!

Hwyl am y tro.

0