top of page

Amdanaf i    About me

Gruffudd ab Owain cycling
Gruffudd ab Owain

Gruffudd ab Owain ydw i; sylfaenydd ac awdur blog Y Ddwy Olwyn ers mis Mehefin 2018.

Deunaw oed ydw i, ac ar hyn o bryd yn astudio tuag at Lefelau A mewn Cymraeg, Mathemateg, Ffrangeg a Sbaeneg. Mae seiclo ar y cyfandir - heb anghofio 'mod i wedi meithrin y brwdfrydedd yma yn fy milltir sgwâr - wedi f'annog i ddysgu'r ddwy iaith, a dw i'n dymuno parhau i'w hastudio nhw hyd rhuglder. Mae 'niddordebau fi'n eang, fy ngolygwedd yn rhyngwladol, a'm gwreiddiau'n ddwfn yng Nghymru, a dw i'n dyheu am fedru adlewyrchu hynny ar lwybrau'r dyfodol.

Dw i wedi cael blas ar ysgrifennu erioed, yn ffeithiol ac yn ffuglen, ac yn parhau i geisio datblygu'r grefft o ysgrifennu yn y ddwy ffurf. Do'n i ddim ond yn 13 oed pan gychwynnais i'r blog, ac mi fydda' i'n fythol ddiolchgar i'r holl ddarllennwyr am roi gymaint o ffydd ynof i bryd hynny â minnau mor ifanc, gan fod bod yn gyfrifol am y blog wedi arwain at gymaint o gyfleon eraill i mi. Dw i wedi cael ysgrifennu i wefan BBC Cymru Fyw ac i Gylchgrawn Golwg am y byd seiclo dros y ddwy flynedd diwethaf, ac yn ddiweddar wedi cael y cyfle i ehangu fy mhortffolio i ysgrifennu am gerddoriaeth Gymreig gyfoes i gylchgrawn Y Selar.

 

Diben y dudalen hon yw rhoi blas i chi ar y darnau yr ydw i wedi eu hysgrifennu i gyhoeddiadau eraill.

My name is Gruffudd ab Owain; founder and editor of Y Ddwy Olwyn since June 2018.

I'm eighteen years old, and currently studying towards A Levels in Welsh, Mathematics, French and Spanish. Cycling on the continent - without forgetting that my passion for cycling has been nurtured in my square mile - has encouraged me to learn both languages, and I intend to continue to study towards fluency. My interests are wide-ranging, my outlook international, my roots deep in Wales, and I hope to reflect this on the paths of the future.

I've always enjoyed writing both fiction and non-fiction, and I continue to develop the skill of writing in both moods. I was only 13 when I started this blog, and I'll be forever grateful to those who put their faith in my writing then despite my age, given that the blog has since led to many valuable opportunities. I've written for BBC Cymru Fyw and Golwg magazine about cycling over the past two years, and recently have been able to expand my portfolio to write about modern Welsh music for Y Selar.

The aim of this page is to give you a taste of my writing for other publications.

PORTFFOLIO

Lle i roi hyder yn Geraint

LLE I ROI HYDER
YN GERAINT?

Gyda'r Tour de France (2021) yn cychwyn yn Llydaw ddydd Sadwrn, mae'r blogiwr seiclo Gruffudd ab Owain o'r Bala yn cynnig rhagflas o'r hyn sydd i ddod...

10 dringfa orau Cymru

10 DRINGFA ORAU CYMRU

Gyda'r gwanwyn wedi cyrraedd a'r clociau wedi troi bydd llawer wedi mynd i estyn y beic o gefn y sied yn barod i grwydro. Gruffudd ab Owain o flog Y Ddwy Olwyn sy'n ein cyflwyno i rai o ddringfeydd gorau'r wlad...

seren newydd seiclo yng Nghymru

SEREN NEWYDD SEICLO YNG NGHYMRU

Yn 19 oed ac yn wreiddiol o Abertawe, mae Eluned King yn prysur wneud enw mawr iddi hi'i hun o fewn peloton seiclo menywod. Gruffudd ab Owain fu'n ei holi...

gruffudd ab owain gwyl o genhedloedd bychain

TOUR DE FRANCE:
GŴYL O GENHEDLOEDD
BYCHAIN

Gyda'r Tour de France (2022) yn cychwyn yn Nenmarc ddydd Sadwrn, Gruffudd ab Owain sy'n tynnu paralel rhwng y ras enwog â chenhedloedd bychain...

gruffudd ab owain arwyr ar lwyfan y tour

ARWYR AR
LWYFAN Y TOUR

Gyda'r Tour de France (2022) yn dechrau yn Nenmarc yfory, dyma Gruffudd ab Owain i fwrw golwg ar y ras enwog eleni a gobeithion Geraint Thomas o ennill y crys melyn...

gruffudd ab owain newid ar droed seiclo menywod

NEWID AR DROED YM MYD SEICLO MENYWOD

Pe bawn i'n dweud wrthych nad Geraint Thomas oedd y cyntaf o Gymru i ennill y crys melyn... ar drothwy'r Tour de France Femmes 2022, dyma agoriad llygad i fyd seiclo menywod...

gruffudd ab owain elis derby

CYFOETHOG, AMRWD, ARBROFOL: ELIS DERBY AR EI ALBWM NEWYDD

Gruffudd ab Owain, sydd wedi bod yn sgwrsio gydag Elis Derby am ei albwm newydd, Breuddwyd y Ffŵl, sydd allan ddydd Gwener yma...

gruffudd ab owain sachasom

SGWRS SYDYN EFO SACHASOM

Yn ddiweddar, cafodd Gruffudd ab Owain, ar ran Y Selar, sgwrs sydyn efo Izak Zjalič sy’n gyfrifol am y prosiect Sachasom, yn dilyn ei lwyddiant ym Mrwydr y Bandiau 2022...

gruffudd ab owain cerys hafana

CERYS YN RHOI BYWYD NEWYDD I HEN DDEUNYDD

Gruffudd ab Owain fu’n sgwrsio â'r cerddor gwerin Cerys Hafana ar ran Y Selar yn dilyn yr Ŵyl Ban-Geltaidd yn Lorient, ac ar drothwy rhyddhau ei hail albwm, 'Edyf'...

gruffudd ab owain mali haf

EP NEWYDD MALI HÂF YN DDIM OND CAM CYNTAF

Artist sydd wedi cael blwyddyn hynod gynhyrchiol gan adeiladu ar y flwyddyn flaenorol yw Mail Hâf. Gruffudd ab Owain fu'n sgwrsio â hi ar ran y Selar am ei blwyddyn a'i chynlluniau...

gruffudd ab owain artistiaid ifainc

ARTISTIAID IFAINC I'W GWYLIO YN 2023

Gruffudd ab Owain sy’n awgrymu pa artistiaid ifainc - boed yn unigol neu'n grwpiau - ddylai dilynwyr Y Selar gadw llygad arnyn nhw dros y flwyddyn i ddod…

gruffudd ab owain llwybrau seiclo

LLWYBRAU SEICLO I'R TEULU CYFAN

Wrth i'r Gwanwyn ddynesu, a sawl un ohonoch mae'n siŵr yn barod i estyn am y beic o'r garej neu'r sied, dyma olrhain llwybrau sy'n berffaith ar gyfer y teulu cyfan ym mhob cornel o Gymru.

gruffudd ab owain edd land

Y CYMRO SYDD
MEWN CWMNI DETHOL

Ymysg yr enwau mawr sy’n britho’r rhestr o ychydig dros 400 o redwyr sydd wedi cwblhau’r Six Majors,

Gruffudd ab Owain sydd wedi bod yn sgwrsio gydag Edd Land am yr her.

gruffudd ab owain y selar gwanwyn 2023

RHIFYN GWANWYN 2023
CYLCHGRAWN Y SELAR

Ar gyfer y rhifyn diweddaraf, mae’r Selar yn croesawu Dirprwy Olygydd newydd sef Gruffudd ab Owain. Yn y rhifyn yma, mae Gruff wedi bod yn gyfrifol am Sgwrs Sydyn a Newydd ar y Sin.

IMG_2879.jpg

GERAINT I WYNEBU
BWGAN Y GIRO

Bydd Geraint Thomas ar gefn ei feic yn y Giro d’Italia sy’n cychwyn ddydd Sadwrn, a dyma’r ras nad ydy o wedi cael fawr ddim lwc ynddi yn y gorffennol...

gruffudd ab owain edd land

14 EILIAD

DYNA'I GYD

Daeth Geraint Thomas o fewn trwch blewyn i gipio buddugoliaeth gofiadwy yn y Giro d'Italia. Gruffudd ab Owain sy'n cnoi cil ar ei antur arwrol yn y ras ac ystyried beth sydd nesaf. 

gruffudd ab owain y selar gwanwyn 2023

DAFYDD OWAIN YN AGOR Y DRWS I ARALLFYD UWCH DROS Y PYSGOD

Gruffudd ab Owain sydd wedi bod yn sgwrsio â Dafydd Owain am ei brosiect solo cyntaf, sef yr albwm cysyniadol, 'Uwch Dros y Pysgod'...

IMG_2879.jpg

CYSTADLEUAETH YN Y TOUR DE FRANCE

Drwy asesu rhan Gwlad y Basg yn rasys mwya'r byd seiclo ac ystyried brwdfrydedd eu brodorion at fyd y beic, dyma ragolwg amgen o'r Tour de France yn 2023...

Cysylltwch / Contact me

 

Ebost / E-mail

gruffuddemrys@gmail.com

yddwyolwyn@gmail.com

Instagram

@g_abowain

@yddwyolwyn

Twitter

@ab_owain

@yddwyolwyn

bottom of page