Braf yw cael troi’r dudalen a dechrau pennod newydd. Canfas wag a chyfle i ailddechrau go iawn. Blwyddyn Newydd Dda i bob un ohonoch.
Yn flynyddol, mae’n dipyn o jôc bod addunedau flwyddyn newydd yn para wythnos ar y mwyaf ac mae unrhyw un sy’n cyrraedd diwedd mis Ionawr yn arwr.
Ond eleni, wedi blwyddyn wallgof, mae’n bosib y bydd rhai yn bod yn llai uchelgeisiol ac o bosib yn gwneud addunedau mwy amhenodol?
Mae ffin denau rhwng adduned a tharged, dwi’n meddwl. ‘Dwi wastad yn meddwl am adduned fel rhywbeth sy’n mynd i fy ngwneud i yn well person, neu’n berson hapusach o bosib. Tra targed ydy rhywbeth sy’n mynd i fy helpu i gyrraedd y nod hwnnw.
Er enghraifft, os mai fy adduned flwyddyn newydd yw i neilltuo mwy o amser i wneud yr hyn rydw i’n mwynhau ei wneud, targedau efallai fydd lleihau amser sgrin, cwblhau un o heriau Strava, fel her gerdded 100km ym mis Ionawr, neu lwyddo i gadw at gynllun seiclo pendant.
Dwi’n meddwl mai’r hyn sydd wedi gyrru’r addunedau blwyddyn newydd eleni ydy’r hyn a ddysgon ni o 2020.
Roedd y ‘saib ryngwladol’ yn gyfle i ni werthfawrogi’r hyn sydd yn bwysig i ni fel unigolion ac fel cymdeithas. Bydd y rhai ohonon ni fu’n gwynfanllyd am ddiflastod aros adref yn fythol ddiolchgar i’r rhai oedd a sydd yn rhoi eu bywydau yn y fantol er ein mwyn ac yn darparu’r gwasanaethau allweddol rydym ni’u hangen.
Bu mynd am dro’n ddyddiol a darganfod llwybrau newydd yn achubiaeth, ac fel y gwnaeth un ei ddweud, rydym ni’n ffodus fod gennym ni fwyd yn ein boliau, to uwch ein pennau ac awyr iach.
Mae awyr iach yn rhan hollbwysig o’n bywydau dyddiol ni, o ran ein hiechyd a lles meddyliol a chorfforol, yn ogystal â helpu i leihau lledaeniad haint. Rydw i yn sicr wedi dod i sylweddoli pwysigrwydd a gogoniant awyr iach yn y misoedd diwethaf ac yn awyddus i sicrhau ‘mod i’n cael digon ohono.
 ninnau’n gyntaf dan gyfyngiad o aros adref ddaeth yn hwyrach ymlaen yn aros yn lleol, daeth cyfle i werthfawrogi milltir sgwar a bro.
Ar y llaw arall, ‘dwi wedi gweld pwysigrwydd technoleg i gadw ynghyd er gwaethaf pellter cymdeithasol, i gadw mewn cysylltiad ag anwyliaid ac i gwblhau gwaith ysgol.
O ran y seiclo, mae Zwift wedi fy nghadw i’n gall a phleser yw cael sgwrsio a phobl o bob cwr o Gymru ar y reids wythnosol.
Felly lle mae hynny oll yn fy ngadael i ar ddechrau blwyddyn newydd?
Adduned blwyddyn newydd, fel y gwnes i grybwyll, yw neilltuo mwy o amser i’r hyn yr ydw i’n fwynhau ei wneud. Felly, wrth gwrs, mi rydw i eisiau seiclo mwy eleni.
Dyma’r drydedd blynedd yn olynol yr ydw i wedi gosod nod o gwblhau pedair mil o filltiroedd mewn blwyddyn ac yn y ddwy ddiwethaf, crafu heibio tair mil a hanner wnes i.
Dyna nod amlwg, ond mi hoffwn i hefyd fod canran uwch o’r ffigwr yn cael ei wneud tu allan, yn yr awyr agored, yn hytrach na’n syllu ar sgrin.
Ond yn y bôn, os nad ydw i’n mwynhau, beth yw’r pwynt?
Mae’n gwestiwn sy’n codi’n aml. Yn amlwg, mi ydw i’n mwynhau mynd ar y beic tu allan yn fwy na bod ar y beic tu fewn. Ond eto, mae gwneud awren gymdeithasol ar nos Fercher neu ar fore Sadwrn gyda Nawr yw’r Awr yn wych. Yn ogystal, mae’r ymdeimlad o gyflawniad wedi sesiwn strwythuredig, galed ar Zwift neu gan GCN yn ddiguro.
A phwrpas gwneud y sesiynau strwythuredig hynny yw bod yn seiclwr cryfach pan fyddai tu allan. Ai dyna pwrpas seiclo? Yn bersonol, mi ydw i’n mwynhau gosod record newydd ar Fwlch y Groes neu’r Hirnant neu wneud reid hirach nag erioed.
Bydd nifer, dwi’n siwr, yn anghytuno ac yn credu ‘falle ‘mod i’n colli gafael ar bwrpasau craidd dwy olwyn.
Gobeithio daw cyfle i deithio ymhellach, i ddarganfod lleoliadau newydd, ar ddwy olwyn eleni - mae hwnnw’n sicr yn un o’r cymhellion mwyaf.
Adduned mwy amhenodol ydyw yn y bôn, i ganolbwyntio ar fwynhau, sy’n effeithiol am ambell i reswm. Nid oes ffordd o’i fesur, mewn gwirionedd, felly does dim pwysau ychwanegol i gyflawni. Mae’n adduned sy’n ymwneud a lles meddyliol, sy’n bwysig iawn wrth gwrs.
Ac o bosib fwyaf oll, nid yw’n nod sy’n teimlo fel ‘byddai’n teimlo’n anhapus neu anghyflawn nes ‘mod i’n cyrraedd y nod’. Mae’n rhywbeth gellir ei wneud bob dydd.
Gobeithio wir y gwnewch chithau hefyd gael blwyddyn newydd ddedwydd, a mwynhewch y seiclo.
コメント