top of page

Adolwg: Giro d'Italia 2021

Mae'r Giro ar ben! Ydy wir, mae'r Giro d'Italia wedi gorffen am eleni wedi tair wythnos gythryblus, llawn digwyddiad ag ennillydd haeddiannol iawn ar y diwedd. Mi wnes i fwynhau'r ras yn fawr.


Crynhoi mewn brawddeg? Yr hen a'r newydd, y mawr a'r bach, yn plethu i ffurfio ras ddiddorol, wahanol, gydag ambell i glasur o gymal yn y canol wrth i'r reidiwr cryfaf gyrraedd y brig.


Tro'r cloc yn ol i ddechrau'r ras, yr 8fed o Fai, a disgrifia'r ras o'r dechrau'n deg. Dechreuon ni gyda ras yn erbyn y cloc a'r ennillydd yn ddisgwyliedig, Filippo Ganna, pencampwr y byd yn y maes. Ganna'n hawlio'r maglia rosa a'n llwyddo i'w gadw am dridiau. Daeth y cyntaf o'r cymalau prin i'r gwibwyr ar yr ail cymal a Tim Merlier yn curo Giacomo Nizzolo i'r llinell derfyn. Cymal i'w gofio ddaeth ar gymal tri, ac ennillydd cyntaf o ddihangiad. Taco van der Hoorn...


...wow, pwy? Taco van der Hoorn o dim Intermarche Wanty Gobert yn ennill y cymal. Mi roedd o'n rhan o'r dihangiad gwreiddiol ac mi oroesodd o hyd y llinell derfyn gyda phedair eiliad i sbario. Un o'r rhesymau pam rydym ni'n caru'r Giro - yr annisgwyl yn cael ei wireddu.


Ymlaen. Y pinc yn newid dwylo ar gymal 4 gyda'r cymal cyntaf lle gwelson ni wahaniaethau ymysg y ffefrynnau. Y dihangiad yn cael rhyddid; Joe Dombrowski yn ennill y cymal o flaen Alessandro de Marchi fyddai'n gwisgo'r maglia rsoa y diwrnod canlynol. Aleksandr Vlasov ar y blaen yn y ras am y dosbarthiad cyffredinol, a diwrnod da i Egan Bernal, Remco Evenepoel, Hugh Carthy a Mikel Landa. Diwrnod tawel, diflas oedd yn ymddangos fel ei bod am fod yn un o'r cymalau wythnos gyntaf dibwynt hynny drwy'r pnawn...


Dwi'n teimlo ond yn dod... ...ond damwain ddylai heb fod wedi digwydd yn y cilometrau yn golygu fod Mikel Landa a Pavel Sivakov yn gorfod gadael y ras. Dau oeddwn i wedi bod yn edrych ymlaen gymaint at eu gweld yn rasio a hwythau wedi dangos cymaint o botensial. Dim amser i feddwl am hynny'n ormodol, gan fod y diweddglo copa cyntaf ar y ffordd ar cymal 6 i Ascoli Piceno. Egan Bernal yn rhoi ei droed ar y sbardun am y tro cyntaf, a dim ond Dan Martin, Remco Evenepoel a Giulio Ciccone yn gallu aros ar ei olwyn. Attilia Valter, oedd mewn safle reit uchel ar y DC wedi diwrnod yn y dihangiad ar cymal 4, yn cymryd y crys pinc ond Evenepoel a Bernal yn dynn ar ei gwt.


Y gwibwyr am gael unrhyw gyfle o gwbl? Dim felly, ond daeth cyfle iddynt ar cymal 7; Caleb Ewan yn mynd a hi'r tro hwn. Diwrnod arall i'r dihangiad ar cymal 8 a Victor Lafay yn cipio buddugoliaeth gyntaf Cofidis ar y Giro ers blynyddoedd maith, ond dim newidiadau ar y DC.


Felly pryd hawliodd Bernal y maglia rosa? Bachodd Egan Bernal ar gyfle euraidd ar cymal 9 i Campo Felice. Diwrnod anhygoel o seiclo; rasio go iawn a diweddglo tanllyd ar y graean i'r gyrchfan sgio. Y dihangiad yn cael eu hatal am unwaith, wrth i Vlasov a Ciccone roi eu hunain mewn safle calonogol cyn y diwrnod gorffwys cyntaf tu ol i'r Colombiad. I orffen yr wythnos gyntaf, cafwyd dosbarth meistr gan Bora-Hansgrohe; yn dal y dihangiad gyda 50km yn weddill a rhoi Peter Sagan yn y safle perffaith i gymryd y cymal a'r maglia ciclamino.


Clasur o gymal i ddechrdddau'r ail wythnos. Oedd. Un fydd yn mynd yn y llyfrau hanes modern, beth bynnag. 35km o'r 70km olaf yn cael ei orchuddio gan graean gan achosi anrhefn pur. Mauro Schmid yn ennill i'r underdogs Qhubeka-Assos ond y frwydr fawr yn digwydd tu ol. Remco Evenepoel yn colli'r mwyaf o dir, gyda Bernal yn ennill mwy o amser gan gyd-weithio'n dda gydag Emanuel Buchmann, a'r Almaenwr yn codi i'r deg uchaf. Gwaith tactegol ardderchog gan Ineos yn llwyr gymryd mantais o'r sefyllfa a'r percorso.


Ond dadleuol, siawns, gyda chymaint o risg? Ydw, mi ydw i'n cydnabod yr ochr yna o'r geiniog, ond i mi roedd hi'n nod cyfiawn iawn i orffennol y byd seiclo. Cyflwr tebyg oedd ar y ffyrdd ddegawdau'n ol yn oesoedd 'euraidd' seiclo a chafwyd peth o'r rasio mwyaf ffrwydrol, cyffrous erioed bryd hynny. Roedd 'na adlewyrchiad o hynny, ac adlewyrchiad hefyd o gefndir gwerinol seiclo yn yr Eidal adeg Fausto Coppi, sydd yn parhau hyd heddiw mewn mannau megis Colombia.


Pawb angen anadl ddofn wedyn, siawns? Cafwyd deuddydd gymharol dawel i ymadfer wedi sioc y cymal hwnnw. Diwrnod i'r dihangiad (eto) ar cymal 12 gydag Andrea Vendrame'n manteisio ar anghydweld rhwng George Bennett a Gianluca Brambilla, a chymal o'r diwedd i Giacomo Nizzolo ar cymal 13 wedi cymaint o ddiwrnodau anlwcus yn yr ail safle.


Pethau'n tanio ar y Zoncolan ar cymal 14? I raddau. Y broblem efo cymalau 'ffon hoci' gyda'r holl ddringo ar y diwedd (fwy na heb), ydy'u bod nhw'n eithaf rhagweladwy (predictable). Unwaith cyrrhaeddon ni'r Zoncolan, cafwyd blas ar allu Simon Yates am y tro cyntaf ond Egan Bernal yn drech na'r Sais a gododd i'r ail safle ar y DC. Cymal cyntaf erioed i dim Eolo Kometa a Lorenzo Fortunato hefyd a diwrnod i'w gofio i'r Eidalwyr ar y mynydd mawr.


Tro cyntaf i glywed am Yates. Ie, roedd o wedi bod yn dawel. Cyfaddefodd bod problem wedi bod ganddo yn yr wythnos gyntaf, ac nid cadw'r coesau oedd o.


Cymal 15 yn gyfle euraidd i'r dihangiad hefyd. Oedd yn wir, a dyna wireddwyd. Victor Campenaerts yn fuddugol a thrydydd cymal Qhubeka Assos ar y Giro.


Felly beth welon ni ar cymal 16? Dim lot.


Be? Welson ni fawr o cymal 16 gan fod y camerau ddim yn gweithio yn y tywydd a'r uchelfannau. Ond Bernal yn anrhydeddu'r maglia rosa a rhoi stamp pellach ar y ras. Diwrnod da i Romain Bardet a Damiano Caruso oedd lai na hanner munud tu ol.


Enwau anghyfarwydd mor uchel a hyn ar y dosbarthiad cyffredinol yn ddiweddar. Y tro cyntaf i Bardet serennu ers tua 2016 pan orffennodd o'n ail ar y Tour de France. Wedi symud i DSM ac mae'n ymddangos ei fod wedi ymgartrefu yno, gan obeithio bod mwy i ddod ganddo. Caruso wedi aberthu'i yrfa gyfan i weithio dros eraill, Vincenzo Nibali yn bennaf, a braf gweld y gwaith hwnnw'n cael ei wobrwyo gyda chyfle go iawn i fynd am y DC.


Yates ar ei hol hi? Gwaith EF Nippo oedd yn cael ei gydnabod fel y rheswm dros hynny. Y Cymro Simon Carr yn gosod tempo cystadleuol dros ben ar y ddringfa olaf er budd Hugh Carthy.


Byddai Carthy wedi bod yn bles gyda'r diwrnod hwn, felly. Dim o reidrwydd. Oes, mae arwyddion cadarnhaol i'r dyfodol o ran cefnogaeth gan Carr, Guerreiro, Caicedo a mwy, ond roedd y cymal hwn wedi'i ddiwygio. Yn wreiddiol, roedd hi'n gymal yn gweddu ato'n berffaith gyda mynyddoedd mawrion a thywydd garw, felly byddai wedi bod yn siomedig dros ben i fethu allan ar y cyfle i serennu.


Mwy o newid ar y diwrnod canlynol? Cwestiynau mawr yn codi o allu Bernal ar y ddringfa i Sega di Ala. Dan Martin yn ennill y cymal o'r dihangiad. Joao Almeida yn ymosod gan ddangos bod y gallu ganddo yn y mynyddoedd drwy ymosod a hawlio'r ail safle, ond Simon Yates yr ennillydd mawr ar y diwrnod. Egan Bernal yn cracio, ond yn llwyddo i gyfyngu'i golledion i 53 eiliad tu ol i'r Lancastriad.


Bai ar Dani Martinez? Mi roedd ambell un yn dadlau fod diffyg cyfathrebu rhwng Dani Martinez ac Egan Bernal wedi golygu bod y naill yn gollwng y llall heb sylwi, gan agor y drws i ffrwydriad Yates. Ond dwi'n dal i gredu mai'r cyd-destun ehangach achosodd i Bernal gracio - sef y pwysau o bell gan Bike Exchange a'r graddiannau grisiau (tebyg iawn i rai'r Grand Colombier lle craciodd ar y Tour llynnedd), a bod presenoldeb ac ysgogiad Martinez wedi bod yn allweddol iddo beidio colli munudau mawr.


Pryder am gymalau 19 a 20 felly. I ryw raddau. Diweddgloeon yn apelio at Yates heb os, ac yntau'n cyrraedd top form ar yr adeg gywir. Ond dim gormodedd i boeni Bernal o ran graddiannau chwaith. Rhaid cael saib am ennyd i gydnabod buddugoliaeth Alberto Bettiol ar cymal 18 o'r dihangiad ar ddiweddglo bryniog oedd sicr yn ei siwtio. Buddugoliaeth haeddiannol iawn iddo.


Popcorn yn barod. Iawn, ond doedd dim y bylchau a gwahaniaethau mawr ar y dydd Gwener a'r dydd Sadwrn olaf. Simon Yates yn cael ennill cymal 19 i Alpe di Mera gydag Almeida yn ail, ond y bwlch i Bernal yn ddim digon o gwbl yn dim ond 28 eiliad. Caruso'n colli'r ennillion gafodd ar Bernal ar cymal 17 a Yates yn closio at yr Eidalwr. Ond bu i Yates ddadwneud yr holl ennillion hynny ar cymal 19. Caruso'n ennill y cymal gydag ymosodiad o bellter a Bernal yn feistriolgar eto gan orffen yn ail, ac ennill 27 eiliad pellach dros Yates. Y dosbarthiad cyffredinol yn y bag i Bernal fwy na thebyg cyn y REC terfynol.


Ganna eto? Cywir. Profi pam mai fod ydy pencampwr y byd yn erbyn y cloc. Edoardo Affini a Remi Cavagna ddim yn agos ato mewn gwirionedd.


Y dosbarthiad cyffredinol terfynol? Dyma fo:

Iawn, ond mae 'na ambell i plot hole angen eu llenwi. Beth ddigwyddodd i Remco Evenepoel? Mi wnes i ragdybio mai'r Belgiad ifanc fyddai'n ennill y Giro ar ddechrau'r ras, ond dwi'n meddwl oeddwn i'n gwybod yn rywle fod hynny'n afrealistig o ystyried cyhyd oedd o heb rasio a'r ffaith nad oedd o wedi gwneud Grand Tour o'r blaen. Gwnaeth o golli tipyn yn yr ail wythnos, ac wedyn gadael y ras yn sgil damwain yn y drydedd wythnos. Bydd Joao Almeida'n ddigon rhwystredig na chafodd o gefnogaeth deg gan y garfan ar ddechrau'r ras, gan fod y coesau dringo ganddo erbyn y diwedd a llwyddodd i esgyn i'r 6ed safle.


Sawl gwibiwr orffennodd? Peter Sagan, Davide Cimolai, Fernando Gaviria ac Elia Viviani. Y gweddill wedi hen adael, sy'n ddigon teg o gofio cyn lleied o gyfleon oedd ganddynt.


Pwy gafodd y crys piws? Roedd un fuddugoliaeth a pherfformiadau cyson yn ddigon i Peter Sagan gipio'r maglia ciclamino eleni.


Brenin y mynyddoedd? Gosododd Geoffrey Bouchard ei stamp ar y dosbarthiad hwn yn reit gynnar yn y ras, a doedd neb yn gallu cystadlu ag o. Byddai un efallai wedi gobeithio mwy o gystadleuaeth am y crys ac ambell fuddugoliaeth gymal ar y daith i Bouchard, felly roedd hynny rywfaint yn siomedig.


Felly, sut byddai un yn gwerthuso'r ras yma? Cyn cymal 17, roeddwn i'n credu bod y Giro ar ben. Bod y trefnwyr wedi lleoli'r uchafbwyntiau'n rhy gynnar. Ond roedd digon (jyst) o fynyddoedd a chwestiynau heb atebion i gynnal diddordeb hyd y diwedd. Ydy cymalau i'r dihangiad yn gyffrous? Dwi'm wedi fy argyhoeddi'n hollol. Yn amlwg, mae buddugoliaethau i fwy o reidwyr a mwy o dimau'n beth cadarnhaol iawn, ond dwi'm yn siwr fod rhai o'r elfennau dwi'n eu mwynhau fwyaf - sef cefndir a dyfnder y 'cymeriadau' - mor gymwys a hynny. Barn bersonol! Ond dwi'n hollol hapus fod Egan Bernal wedi gallu goroesi ei gyflwr yn ei gefn i ennill y maglia rosa, a hynny'n gyfiawn iawn.


Hoe o'r seiclo rwan? Ha! Dim ffiars. Mae'r Dauphine wedi dechrau, ac mae fy niweddiariadau dyddiol yn parhau o'r ras honno, lle Geraint Thomas yw'r ffefryn mawr. Ras baratoi bwysicaf cyn y Tour de France. Joio.


Arrivederci i'r Giro... a salut, mon ami i'r Tour!

Recent Posts

See All
bottom of page