top of page

Adolygiad: 'Mountains According To G'

Os ydych chi'n prynu un llyfr eleni, dyma'r un y dylai fod.

Dwi’n hoffi meddwl ‘mod i’n berson rhyngwladol sy’n gredwr cryf mewn agor ein llygaid i’r byd, ond hefyd yn berson sy’n clodfori’r hyn sydd gennym ni ar stepen y drws. Mae’m gwreiddiau’n ddwfn yng Nghymru.


Mae’n amlwg fod hyn yn nodwedd yr ydw i’n rhannu gyda Geraint Thomas, sydd bellach wedi ysgrifennu’i drydedd gyfrol sef ‘Mountains According to G’.


Dio’m bwys pa mor ddefnyddiol a pha mor ffyddlon ydw i i fy Kindle - does dim amau bod cael llyfr mewn llaw, y teimlad a’r arogl (ydi hi wedi dod i hynny?!) yn beth bytholwyrdd. Dwi wedi dweud mod i am gasglu copiau caled o lyfrau seiclo a’n benderfynol o gadw at hynny.


Mae’r gyfrol hon, fodd bynnag, yn mynd a hi i’r cam nesaf. Mae ansawdd y llyfr yn wych - dyluniad syml y clawr a theimlad safonol iddo hefyd.


Dyna ddigon o rwdlan am y synhwyrau.


Syrpreis a phleser oedd cael darllen y geiriau Cymraeg i’w fab, Macsen. Mae ‘na deimlad yn y geiriau, os mai fo ‘sgwenodd nhw ai peidio, ac mae’n adlewyrchiad sicr o’i bersonoliaeth.


Yn ôl at y pwynt gwreiddiol o ehangu gorwelion ond clodfori’r gwreiddiau. Nid ar ddamwain y mae o wedi lleoli’r Tymbl a’r Rhigos ar ddechrau’r gyfrol yn y bennod gyntaf un.


Mae hynny’n atgyfnerthu pwysigrwydd ei wreiddiau iddo a ceir nifer o sylwadau pellach am atgofion o seiclo yng Nghymru drwy gydol y gyfrol.


Mae hefyd yn cynnig strwythur clyfar i’r llyfr. Dechreua ar lethrau is y dringfeydd Prydeinig, ac mae’n dringo’n raddol drwy’i hoff ddringfeydd o gopaon llai na 50m uwch lefel y mor yng Ngwlad Belg a’r Isalmaen i uchelfannau’r mynyddoedd yn Ffrainc a’r Eidal. Ar y llwybr rhwng y Rhigos - y bennod gyntaf - a buddugoliaeth gofiadwy ar Alpe d’Huez - y bennod olaf - mae’r holl ddringfeydd sydd wedi’i siapio fel athletwr ac fel person.


Y mynyddoedd hyn sydd wedi’i roi ar y trywydd o ddod yn reidiwr Grand Tour ac mae’r personoliaeth o “the occasional ice cream if it’s after the season’s ended and I’m allowed to be Normal Geraint rather than No You Don’t Geraint” yn un dwi’n siwr mae nifer o bobl yn gallu uniaethu gyda.


Rhaid yw nodi pa mor wych y mae Tom Fordyce wedi rhith-ysgrifennu (ghostwrite) y llyfr yma. Hawdd yw clywed llais Geraint yn y geiriau, ac mae llwyddo i wneud hynny’n sgil aruthrol. Chwar’e teg.


Yn yr un modd, mae’n llyfr sy’n hawdd iawn i’w ddarllen. Mae wedi’i ysgrifennu’n grefftus. Mae hyd y pennodau’n cynnig cyfle i ddarllen pytiau ar y tro. Ni fu dringo mynydd mor rhwydd a phleserus erioed. “Climbing is not pleasant, not really. It can be satisfying, but it’s rarely fun.” Anghytuno y tro ‘ma.


Fel yr ydw i wedi son amdano eisoes, mae’n teimlo’n bod ni’n dringo mynydd gyrfa Geraint. O’r dair cyfrol, dyma’r un mwyaf hunangofiannol - a chredaf fod ei hoff fynyddoedd yn cynnig y cefndir a’r strwythur perffaith i hynny.


Ac o’r dair cyfrol, dyma’r gorau hyd yma.


Mynnwch gopi, mae’r daith drwy’r llyfr yn un y gwnes i’i fwynhau’n fawr iawn - yn rhoi cyfle mewn dyddiau tywyll i freuddwydio am y dyfodol a, trwy uniaethu gyda’i brofiadau, dod ag atgofion o’r gorffennol hefyd.


Gwych.


CEFNOGWCH EICH SIOPAU LLYFRAU LLEOL! Os nad yw’n bosib mynd i’ch siop llyfrau annibynnol lleol ar hyn o bryd, prynwch oddi ar gwales.com a dewiswch siop i dderbyn canran o’r elw. (ddim yn hysbyseb, gyda llaw)

Recent Posts

See All
bottom of page