top of page

Ar dy feic: Eisteddfod Tregaron

Tregaron! Hir yw pob ymaros, meddai nhw. Pwy feddyliai mai dim ond dwy Eisteddfod Genedlaethol sydd wedi bod ers sefydlu’r Ddwy Olwyn yn 2018 - ac mae’n bur debyg nad oedd y mwyafrif helaeth ohonoch ddim yn ymwybodol o’m bodolaeth bryd hynny?!


Mae’n fro sy’n teimlo’n hynod deilwng o’r Eisteddfod.


Dydw i ddim yn ddigon hyddysg o bellffordd yn fy Nhregaron o ran y seiclo, ac felly dwi’n falch fod tolc go lew o’m dilynwyr yn byw neu’n hannu o Geredigion.


O ganlyniad, dwi wedi gallu dibynnu ar ddau ohonynt i gynnig arweiniad chi’r Steddfodwyr sydd hefyd yn seiclwyr, pa bynnag fath o seiclo sy’n mynd â’ch pryd chi.


Mi ddown ni at y Bachan Graean, Steff Rees, a’i daith raean o yn y man, ond yn gyntaf at aelod blaenllaw o Glwb Seiclo Caron, Gwion James, sy’n dechrau drwy esbonio mymryn am y clwb lleol.


“Ers i Glwb Seiclo Caron sefydlu yn 2013 ni wedi bod yn hybu seiclo yn lleol drwy rhedeg teithiau Clwb wythnosol, trefnu rasus TT yn yr Haf a threfnu Sportives a Teithiau MTB yn yr Hydref.”


O edrych ar Gymru’n ei chyfanrwydd, mae’n debyg nad yw’r fro benodol hon yn cael digon o sylw o ran yr hyn mae’n ei gynnig i seiclwyr.


“Wedi ei leoli rhwng y mor a’r mynydd mae Tregaron a’r cyffuniau yn wych i seiclwyr o bob math.


“Mae’r ffyrdd yn gymharol dawel o draffic ac yn cynnig amrywiaeth o deithiau gwastad ar hyd y dyffryn neu teithiau mynyddig.


“Mae Tregaron yng nghysgod mynyddoedd yr Elenydd sy’n cynnig cannoedd i filltiroedd o deithiau MTB a gravel.


“Yn ddiweddar mae cafe arbennig iawn wedi agor yn Nhregaron, ac erbyn hyn mae nifer o seiclwyr yn teithio yma’n unswydd i gael ‘Coffi a Bara’ yng nghlos Twm Sion Cati.”


Beth yw uchafbwyntiau’r ardal, ‘te?


“I feicwyr hamdden mae’r daith i Lambed trwy Landdewi Brefi yn hyfryd. I feicwyr mwy profiadol mae’r daith i’r dwyrain i Lyn Brianne yn arbennig iawn, ac i’r rhai sy’n hoffi gwynt y môr mae’r gylchdaith 40 milltir i Aberaeron yn boblogaidd hefyd.


“Gan ystyried y traffig bydd o gwmpas wythnos yr Eisteddfod fy newis i byddai ‘rhedeg i’r mynydd!’ fel petai, a troi i’r Dwyrain tuag at Llyn Brianne, ac yn ôl trwy Cwrt Y Cadno, Pumsaint, a Llambed.


Mae’r clwb hefyd yn trefnu teithiau penodol ar gyfer yr Eisteddfod, pe dymunech ymuno â hwy.



“Ma tair taith o dan nawdd Clwb Seiclo Caron. Dydd Sul 31ain o Orffenaf am 9 y bore bydd taith 60 milltir gwastad yn dilyn yr Afon Teifi i Gwm Alltcafan ac yn ôl. Nos Fawrth yr 2ail o Awst am 5 taith cymhedrol 25 milltir i’r Mynydd Bach a Chors Caron, ac ar Nos Iau y 4ydd o Awst am 5 bydd taith anodd 25 milltir i Soar Y Mynydd.


“Teithiau hamdden yw rhain ac mae croeso i feiciau ffordd, beiciau mynydd ac e-feics.


“I ymwelwyr sydd am seiclo’n annibynnol yn ystod yr Eisteddfod bydd nifer o deithiau lleol ar gael ar dudalen Facebook Clwb Seiclo Caron.”


Ymlaen â ni at y rhai ohonoch sy’n hoff o seiclo ar y graean, a throsglwyddo’r awennau at Steff Rees (@ybachangraean ar Instagram).


 


A fyddwch chi’n mynd i’r Eisteddfod Genedlaethol eleni? Os felly, mae’n ddigon posib y byddwch wedi pyslo sut mae cyrraedd y Maes a sut mae gwneud hynny gan osgoi unrhyw dagfeydd traffig ar y ffyrdd troellog a chul mewn mannau sydd yn mynd i Dregaron.


Darllenwch ymlaen ar gyfer ffordd amgen 35km i’r Maes ar gyfer chi y beicwyr graean yn ein plith gan elwa ar y rhwydwaith arbennig o ffyrdd graean yn yr ardal.


Mas o Aber

Diolch i doriadau Beeching nid oes rheilffordd wedi cysylltu Aberystwyth a Thregaron ers 1965 ac er fod yna ymgyrch frwd dros ailagor y linell y hon yr holl ffordd i Gaerfyrddin, llwybr seiclo graeanog a geir yno bellach.


Cam cyntaf y daith yw gadael tref Aberystwyth felly anelwch am Ffordd Felin y Môr yn ardal Trefechan. Cariwch ymlaen i waelod y ffordd ble mae Llwybr Ystwyth yn cychwyn.


Llwybr tarmac yw hwn i ddechrau hyd at bentref Llanfarian. Yma, croeswch y ffordd fawr gan ddringo heibio’r Neuadd a throwch i’r dde. Fe fydd y ffordd dawel hon yn eich arwain at eich graean cyntaf o’r reid ac o bosib y secteur mwyaf technegol heibio safle Tir Coed lawr at gyrion Llanilar. Mae’r graean yn eithaf rhydd a charegog mewn ambell fan felly mae angen pwyll.


Ymhen dim fe fyddwch yn ailymuno â’r hen rheilffordd a hynny am ddarn hir a gwastad ar lannau Afon Ystwyth heibio Llanilar (ble welwch chi blatfform yr hen orsaf) yr holl ffordd i Drawsgoed.


Trawsgoed i Gors Caron: Ychydig o ddringo

Wrth gyrraedd y gât ar ddiwedd llwybr y rheilffordd yn Nhrawsgoed trowch i’r chwith gan ddilyn y ffordd fach dros Afon Ystwyth yn hytrach na chario ymlaen ar y llwybr beicio. Mewn byd delfrydol fe fyddai’r llwybr yma yn eich arwain at yr hen dwnel fyddai’n osgoi unrhyw ddringo rhwng tir isel Dyffryn Ystwyth ac uchelderau Cors Caron ond yn anffodus mi fydd yna peth dringo i’w wneud.


Pan gyrhaeddwch chi Bont Trawsgoed a’r B4340 trowch i’r dde gan ddilyn y ffordd hon hyd at faes gwersylla Dolau Afon a Phont Llanafan. Yn lle cario ymlaen lan Rhiw Trefriw sydd yn serth iawn trowch i’r chwith gan gadw llygad allan am ffordd graean ar eich chwith.

Mae’r ffordd graean hon yn eich croesawu i Goed Tynybedwsydd yn gartref i rwydwaith o ffyrdd graean hyfryd. Y nod yw defnyddio’r ffyrdd yma i osgoi ychydig o’r graddiannau mawr a thraffig Rhiw Trefriw.


Mae modd gadael y goedwig ar ffordd fach tuag at bentref Tynygraig ac ar ôl gwneud hynny trowch i’r chwith gan ddilyn y ffordd fawr am ychydig bach gan gadw llygad barcud am arwyddion ar gyfer y llwybr beic. Trac sengl graeanogbach neis yw’r llwybr yma ac mae’n disgyn yn raddol at Gors Caron.


Cors Caron i Dregaron

Pan gyrhaeddwch chi brif faes parcio Cors Caron ewch allan am y ffordd fawr a throwch i’r dde. Bydd hon yn mynd a chi yn syth i ganol tref Tregaron felly os oes amser yn eich caniatáu mae yna ambell le arbennig o dda i feicwyr yma. Os ydych yn hoff o bethau melys artisan beth am fynd i fecws artisan Coffi a Bara neu os ydy caffis trendi yn bwysig i chi yna Y Banc heb os yw’r lle i chi.


 

Diolch o galon i Gwion a Steff am eu cyfraniadau cynhwysfawr i wneud y cofnod hwn yn bosib ac yn un difyr hefyd os ga i ddweud.


Hwyl am y tro.

bottom of page