top of page

Canllaw COVID-19 i seiclwyr

Wrth i nifer yr achosion a marwolaethau gynyddu a phob ysgol ar draws y Deyrnas Gyfunol wedi cau, mae'n debygol y bydd y PW Boris Johnson yn dilyn gwleydydd Ewropeaidd eraill a chyhoeddi sefyllfa o gwarantin cenedlaethol yn fuan.


Mae'n gyfnod ansicr ac amwys i bawb gan gynnwys seiclwyr. Nod y gofnod yma ydy cynnig canllaw i seiclwyr ar gyfer yr wythnosau, neu fisoedd, nesaf.


Cofier y dylid dilyn canllawiau'r llywodraeth ar bob cyfrif.


Canllawiau'r meddygon profiadol


Gadewch i ni gychwyn gyda'r arbenigwyr yn y maes, sef y meddygon.


Dyma ddywedodd Dr Jonathan Rial, seiclwr a GP yn Hampshire, wrth gylchgrawn Cyclist: 'Being a cyclist means that you are often used to being on your own for extended periods of time which could mean you’re able to handle self-isolation a little better – providing you have access to your bike, of course!


'Being isolated is never good for anyone’s mental health, and cycling is well known to improve this and reduce the risk of depression.


'I see cycling as a good form of mindfulness, as when I’m out on the bike I’m in the moment, enjoying the scenery and not distracted by other things.


'There are risks if you're cycling with others as obviously lots of body fluids are produced and anyone riding close behind might bet a face-full, so this is not recommended.


'The most important thing is to be sensible – if you are feeling unwell, then don’t ride; if you are advised to stay indoors, ride the turbo.'


Yn siarad ar gyfer yr un erthygl, dywedodd GP o Bencoed, Geraint Preest: 'Assuming the virus becomes widespread, then the safest option would be on a turbo at home,'


'But if you are infected yourself this could spread the virus to others you live with, unless the turbo is in your isolation room.


'Riding outdoors – provided you have no symptoms and there is no official limit on travelling – would be good for body and soul, but there is a very important side issue to consider – the risk of injuring yourself in a fall or crash.


'If the Italian experience is replicated here – and, heaven forbid, it looks likely – then the healthcare system would be completely overwhelmed.


"The response and treatment time for you if you come off your bike would be significantly delayed and could add an unnecessary burden on a system under extreme pressure.'


Beth allwn ni gymryd oddi wrth hyn felly? Mae seiclo tu allan yn bendant o fudd yn gorfforol ac yn feddyliol mewn amser o bandemig ond dylid cymeryd gofal i osgoi rhoi pwysau ychwanegol ar y gwasanaeth iechyd..


Rhywbeth yn sicr i'w gadw mewn cof.


Seiclo tu fewn


Bydd y meddalwedd rhithwir, Zwift, yn bendant o fudd i mi - fel nifer o seiclwyr eraill - dros y cyfnod yma. Mae ganddynt ystod eang o sesiynau, rasys a digwyddiadau ac mae seiclwyr proffesiynol megis Geraint Thomas a'r efeilliaid Yates wedi ymuno yn yr hwyl - cymhelliant i unrhyw un.


Yn y cyfamser, mae nifer o blatfformiau eraill sy'n cynnig rhywbeth tebyg megis TrainerRoad, Sufferfest, RGT Cycling (sydd, gyda llaw, yn gwneud eu platfform yn hollol am ddim i ymateb i'r sefyllfa) a chasgliad o fideos gan GCN.


Llyfrau


Mae cannoedd o lyfrau seiclo i’w cael ar themâu gwahanol, o reolau’r Velominati i lyfrau cynnal a chadw Zinn ac o hunangofiannau i lyfrau ffeithiol. Ar hyn o bryd, rwy’n bwrw trwy lyfr Peter Cossins, ‘Full Gas!’ sy’n fewnwelediad i dactegau timau proffesiynol. Mae adolygiadau o lyfrau i’w cael ar y blog yn ogystal.


Mae hefyd posib i lawrlwytho fersiynau electroneg o lyfrau am ddim drwy’ch llyfrgell leol a thrwy RB Digital (rbdigital.com).


Cylchgronau


Mae cylchgronau seiclo yn berffaith ar gyfer adegau fel hyn. Rhwng y cloriau e cyfweliadau, reids o gwmpas y byd, tips - mae'r rhestr yn faith.


Un cylchgrawn sydd wedi dod i'r adwy yn yr amgylchiadau presennol ydy Rouleur (un o'm ffefrynnau) sy'n rhoi hen fersiynau o'r cylchgrawn ar gael i'w darllen yn ddigidol am ddim ar eu ap sydd ar gael yn y siopau ap arferol.


Peth fyddwn i'n hoffi ei wneud yw cadw'r eitemau dwi eisiau eu cadw o'r cylchgronau a'u rhoi mewn rhyw fath o lyfr sgrap (mae gen i ddau erbyn hyn) ac ailgylchu'r gweddill. Ffordd hwyliog o dacluso.


Gallwch lawrlwytho fersiynau electroneg i’w darllen drwy wefan ac ap RB Digital (rbdigital.com).


Bydd cofnod gyda detholiad o'r cylchgronau seiclo gorau i ddilyn.


Podlediadau


Er y sefyllfa bresennol lle nad oes seiclo proffesiynol, mae'n parhau i fod ambell i bennod newydd o bodlediadau.


The Cycling Podcast Dwy bennod newydd yn yr wythnos ddiwethaf ac mae tipyn o'u cynnwys blaenorol yn berthnasol beth bynnag.


CyclingTips Podlediad llawn gwybodaeth - cynnwys perthnasol drwy'r flwyddyn a'n dal i ryddhau pennodau newydd wythnosol (ar hyn o bryd).


Ask A Cycling Coach gan TrainerRoad Y meddalwedd seiclo tu-fewn poblogaidd yn dod a chynnwys cyfredol yn rheolaidd, er enghraifft, y bennod ddiweddaraf oedd hyfforddi heb ddigwyddiadau i anelu atynt oherwydd y cornoafeirws. Pennodau hirion oddeutu 2 awr, felly digon i wrando arno.


Gwylio hen rasys


Gan fod nifer o rasys wedi'u canslo eleni, mae gwylio fersiynau blaenorol yn sicr o apelio i rywun, fel fi, sydd a dipyn i'w ddysgu am yr oes a fu o fewn seiclo proffesiynol. Sianel dda yw 'Classic Cycling' (https://www.youtube.com/channel/UCnc6t2N9R_6eu5tieEe0-lw) sydd fel petai wedi cynyddu'r nifer o fideos i gydfynd gyda'r galw diweddar.


YouTube


Mae llawer iawn i'w ddysgu am y gamp drwy wylio fideos ar YouTube ac enghraifft amlwg yw GCN, sydd bellach wedi pasio dwy filiwn o danysgrifwyr sy'n destun i'w gwerth i seiclwyr. Mae gwerth diwrnodau os nad wythnosau o gynnwys ganddynt i bori trwy.


 

Felly diolch am ddarllen a chofiwch anfon unrhyw awgrymiadau ataf. Cymerwch ofal a chadwch yn saff ac yn brysur.

Recent Posts

See All
bottom of page