top of page

Cofnodion Mwyaf Poblogaidd Y Ddwy Olwyn

Yn absenoldeb unrhyw gynnwys newydd heddiw, dyma gipolwg ar y pump cofnod mwyaf poblogaidd sydd wedi'u cyhoeddi hyd yn hyn ar Y Ddwy Olwyn.


Ambell i beth i chi ddarllen ar nos Sul fel hyn!


Dringfeydd eiconig Cymru

"Dyma felly ddod o hyd i'r goreuon o'r goreuon. A chan ei bod hi'n gyfres lle mae'ch barn chi fel dilynwyr a darllenwyr sydd bwysicaf - mi wnes i roi pol ar fy nghyfrif Twitter gyda phedwar grwp gwahanol (2 o'r Gogledd, a 2 o'r De):

Grwp 1: Bwlch y Groes, Bwlch Pen Barras, Mynydd Caerffili, Nant y Moch

Grwp 2: Cowlyd, Hirnant, Bwlch yr Efengyl, Mynydd Du

Grwp 3: Ffordd Pen Llech, Bwlch yr Oernant, Bwlch y Clawdd, Devil's Elbow

Grwp 4: Stwlan, Nant Gwynant, Rhigos, Mynydd Betws


Dyma'r 16 wnes i benderfynu oedd fwyaf boblogaidd yn ol yr ymateb a gefais ar ddechrau'r gyfres flwyddyn yn ol - a daeth 108 o bleidleisiau i ffurfio'r 10 uchaf, fel a ganlyn."


Dringfeydd diarffordd Cymru

"Mae 'na rywbeth arbennig am ddringfa diarffordd. Dringfeydd nad ydych chi'n dod ar eu traws ar hap a damwain. Mae'n rhaid i chi gynllunio'r reid yma - mynd i'w concro yn unswydd. Yn aml iawn, mae'r gwobr am wneud hynny'n werthfawr.

Yn fy marn i, mae'r rhain ymysg y gorau y gallwch eu gwneud. Maen nhw'n dawel - oddi wrth heolydd prysur - ac yn cynnig ymdeimlad perffaith o ddihangdod."



Goreuon Cyfres 1 Hoff Bump

"Mae'n deg dweud fod cyfres gyntaf 'Hoff Bump' y llynnedd, wnaeth redeg ar y blog mis Mai a Mehefin, wedi bod yn boblogaidd ymysg chi'r darllennwyr.


Cawson ni gyfraniadau gwerth chweil gan Ifan Gwilym, Dyfrig Williams, Rhys James, Lefi Gruffudd, Tommie Collins, Robyn Davies ac Eluned King. Amcan y gofnod heddiw yw edrych yn ol ar eu hoff leoliadau seiclo a rhoi rhai o'r goreuon mewn un casgliad."



Everest ar y Cowlyd

"Mae Everesting wedi dod yn beth hynod boblogaidd dros y blynyddoedd diwethaf, ac yn ystod y cyfnod clo mae nifer o reidwyr wedi bod yn torri recordiau cenedlaethol a rhyngwladol.


Yn syml, Everesting yw'r gamp o reidio i fyny ac i lawr un allt nes eich bod yn cyrraedd uchder Mynydd Everest, sef 8,848m (29,029 troedfedd). Yn ol y wefan sy'n olrhain yr holl geisiadau, mae'n "gythreulig o syml ond yn giaidd o galed, dyma'r her ddringo anoddaf yn y byd".


Gogleddwr o'r enw Kieran Wynne-Cattanach ymgymrodd a'r her ar hirddydd haf eleni, a hynny ar un o ddringfeydd anoddaf yr Ynysoedd Prydeinig, sef y Cowlyd. A'i throed yn Nhrefriw, Sir Conwy, mae'n dringo ar gyfartaledd o 13.6% am 3.1km (2 filltir) gyda nifer o gydrannau sy'n agosach at yr uchafswm graddiant sef 24%.


Dyma sesiwn gwestiwn ac ateb gyda'r dyn ei hun, gyda diolch am ei amser."



Hoff Bump Tommie Collins

"Yn ein harwain ni i'w hoff bum lleoliad seiclo yr wythnos hon mae Tommie Collins. Mwynhewch!"


Recent Posts

See All

Comments


bottom of page