top of page

Dathliad o’r dihangiad

I unrhyw un sydd wedi gwylio seiclo dros y blynyddoedd byddwch yn sicr o wybod fod ffurfiant dihangiad yn rhan annatod o bob cymal, o bob ras. Boed hynny’n grwp fechan sy’n ffurfio’n syth ac yn dymchwel ryw ugain cilomedr o’r llinell derfyn, yn swashbyclar dewr yn dianc yn y gobaith o fuddugoliaeth unigol gofiadwy neu’n grwp eithaf sylweddol sy’n sicr o bara tan y diwedd.


A thrwy hynny, mae ymgyrchoedd dewrion dihangiadau yn rhywbeth i’w ddathlu a’i glodfori yn ein camp ac felly dyma fy ymdrech i o wneud hynny.


I ddechrau, er mwyn deall gwir ogoniant dihangiadau, dyma Dilwyn Owen i ddisgrifio ei hoff bump gymal lle mae’r dihangiad wedi llwyddo - gyda diolch am ei gyfraniad at y gofnod.

 

Cymal 5 2004

“Yng nghymal 5 2004 llwyddodd Sandy Casar a Thomas Voeckler, dau o arbennigwyr y gamp o ddianc,  gael i mewn i’r dihangiad.  Daeth Voeckler yn bedwerydd ar y dydd ond feenillodd ddigon o amser i ennill y crys melyn.  Yn anhygoel, fe ddaliodd ar y crys melyn am ddeg diwrnod gan wneudFfrainc gyfan yn hapus.  Wedi’r cymal yma daeth ystumiauhwyneb Voeckler yn rhan reolaidd o ddihangiad dyddiol y Tour.”

(Neidiwch i tua 1 awr 9 munud i weld y cilometrau olaf)

Cymal 17 2006

“Erbyn cymal 17 2006 roedd Floyd Landis yn ddyn blin iawn.  Yng nghymal 16 roedd wedi colli deg munud ond yn waethna hyn roedd wedi colli’r crys melyn.  Gyda dros 120Km o’rcymal yn weddill fe ymosododd i ymuno gyda’r dihangiad.  Ar ôl pontio i’r dihangiad fe ymosododd eto.  Fe reidiodd arben ei hun ac ennill y cymal ym Morzain.  Fe gafodd Landis a’r tîm lawer o gyhoeddusrwydd ond yn anffodus, roedd y cyhoeddusrwydd yn negyddol iawn.  Dyma oedd tymor olaf y tîm yn y peloton proffesiynol!”

Cymal 17 2011

“Gyda Wiggins allan ers cymal 7, roedd reidwyr Team Sky gydag ychydig o ryddid i chwilio am sylw.  Ar gymal 16 cafod Edvald Boasen Hagen i mewn i’r dihangiad ond daethyn ail i Thor Hushovd.  Yng nghymal 17 fe lwyddodd unwaitheto i gael i mewn i’r dihangiad.  Bu hon yn Tour i’w chofio iBoasen Hagen gan iddo hefyd ddod yn ail i Cavendish am y wib ar y Champs.

“Roedd Voeckler yn agos i’r blaen unwaith eto.  Ond bu broniddo golli popeth pan fethodd gornel ar y ffordd i lawr y ddiringfa olaf.”

Cymal 12 2012

“Mae gyrfa David Millar yn disgyn mewn dwy ran, cyn 2004 ac ar ôl 2006.  Erbyn 2012 roedd yn cael ei ystyried yn hen ben a da oedd ei weld yn defnyddio ei sgiliau cydweithio a thwyllo i ddianc o’r dihangiad ac ennill y cymal.”

Cymal 8 2012

“Mae’r lluniau yn dweud y stori.  Thibaut Pinot cael i mewn i’rdihangiad.  Ffrancwr 21 oed, yr ifancaf yn y ras, yn ei Tour cyntaf gyda’i reolwr Marc Madiot yn y car.  Bendigedig.”


Wedi mwynhau gwylio’r rhain? Dyma dri o fy hoff fuddugoliaethau dihangiad i o flynyddoedd diweddar. Yn gyntaf, un sy’n sicr o aros yn y cof - Chris Froome yn ymosod ar y Colle delle Finestre 80km o’r diwedd a chipio’r fuddugoliaeth i hawlio tlws Giro d’Italia 2018 > https://youtu.be/0M0NzSKRJnI. Yn ail, yn fwy diweddar byth, buddugoliaeth anhygoel Annemiek van Vleuten ym mhencampwriaethau’r byd Swydd Efrog 2019 lle ymosododd hi o 100km i hawlio crys yr enfys > https://youtu.be/KTQRGkVS18k. Yn olaf, dyma ddihangiad yn cynnwys Geraint Thomas, Chris Froome, Peter Sagan a Maciej Bodnar ar cymal 11 o'r Tour de France yn 2016 > https://youtu.be/XnrLRAsMAww.

 

Y barouders

Meistri’r dihangiad yw’r barouders. ‘Racing in this let’s-give-it-a-go manner has made [barouders] one of the peloton’s most popular performers both with fans and organisers’. Bydd nifer ohonoch yn cofio tafod eiconig Thomas Voeckler yn hongian allan o’i geg ar ddiwrnod caled a chynnes ar y Tour.

Pam ymuno yn y dihangiad?

Dyma gwestiwn sy’n cael ei holi’n aml. Beth yw’r pwynt o fod yn rhan o ddihangiad am ran fwyaf o gymal, ddim ond i hynny brofi’n ofer yn y pen draw?


Dyma rai rhesymau:


AMLYGIAD I NODDWYR

Hyd yn oed yn fwy cyfredol pan yn son am dimau bychain yn enwedig timau ‘Pro’ sef yr ail haen o dimau, o dan y WorldTour. Ymgyrch i gadw’r noddwyr yn hapus a sicrhau eu cefnogaeth mewn blynyddoedd i ddod. Mae trefnwyr y Tour yn honni fod 3.5bn o bobl yn gwylio’r ras yn fyd-eang, ond nid oes sicrwydd faint o sail sydd i’r ffigwr hwnnw.


PWYNTIAU

Yn ogystal a’r dosbarthiad cyffredinol (y frwydr am y crys melyn, pinc, coch ayyb) a buddugoliaeth cymal, mae’r dosbarthiad pwyntiau, dosbarthiad mynyddoedd a’r wobr am y reidiwr mwyaf ymosodol (prix de la combativite) yn gymhelliant i reidwyr. Mae’r gwibiau a K/QOM canolog yn cynnig pwyntiau ar gyfer y dosbarthiadau hynny.


I DDIDDANU’R GWYLWYR

Mae’r barouders yn griw sy’n hoff o ddiddanu’r dorf a’r gwylwyr.


DIFLASTOD AC OERFEL

Mae rhai cymalau yn gallu bod yn ddiflas, yn enwedig y cymalau trosglwyddo sy’n gallu bod hyd at 250km o bellter. Mewn un cymal tebyg yn 2017, ymgeisiodd bedwar dihangiad yn ystod y dydd i gael rhywfaint o gyffro prin.


Mae ymosod a cheisio bod yn rhan o ddihangiad yn ffordd dda o gynhesu pan mae hi’n oer hefyd ac yn rhywbeth sy’n cael ei weld yn gynharach yn y tymor.


RHYDDID

Mae’r peloton yn gallu bod yn le prysur a pheryglus, fel mae'r prif barouder ar hyn o bryd Thomas de Gendt yn ei ddweud: “I can set my own pace. If I’m in the peloton there are always crashes, guys getting in your way, blocking you on corners and going too fast on descents. When I’m on the front I don’t have any of that stress.”


ENNILL

Wrth gwrs, mae posib ennill y ras o’r dihangiad ac ar rai dyddiau dyna yw’r ymgyrch, yn ddibynol ar y tebygolrwydd o fuddugoliaeth (gweler rhan manylach ar y pwnc hwnnw mewn munud). Y dihangiad yw’r unig ffordd mae reidwyr fel de Gendt, Roy, Voeckler, Voigt a Durand yn gallu ennill y cymal.


ARDDULL O RASIO

Dyma’r math o rasio mae’r barouders yn ei fwynhau.


Jacky Durand: “I’d rather finish shattered and last having attacked a hundred times than finish twenty fifth without having tried.”


Jens Voigt: “That’s the only way I can succeed and it’s the only way that I love to race”


Y tebygolrwydd o ennill

Ffynhonnell: Frontier Economics. Am lyfryddiaeth lawn gweler ddiwedd y gofnod.


Dros 114 o gymalau heb gynnwys REC mewn Tours de France rhwng 2013 a 2018, roedd dihangiad ym mhob un - gan gynnwys cyfanswm o 1,230 o reidwyr. Roedd y dihangiad yn llwyddiannus mewn 31 o’r cymalau hyn (27%), sy’n golygu, ar gyfartaledd, mai’r tebygolrwydd o fuddugoliaeth o’r dihangiad yw 2.5%.


Mae Yr Athro Hendrik van Maldeghem o brifysgol Ghent wedi dod o hyd i fformiwla ddigon cymhleth sydd wedi profi’n ddigon trachywir (accurate) i gyfrifo pa mor bell fydd y dihangiad yn para unwaith maent wedi cyrraedd uchafswm eu mantais.


Y prif beth i’w gofio yw fod grwp o 121 o seiclwyr yn lleihu gwrthiant y gwynt o hyd at 96% o’i gymharu a reidio ar eich pen eich hun, felly yn syml mae reidio yn y peloton yn haws na reidio yn y dihangiad (o ran gwrthiant y gwynt). Mae nifer o ffactorau yn effeithio ar debygolrwydd y dihangiad o lwyddo, dyma rai ohonyn nhw:


TIRWEDD

  • Cymalau mynyddoedd mawr: 47% o ddihangiadau yn llwyddo

  • Cymalau mynyddoedd canolig: 43% o ddihangiadau yn llwyddo

  • Cymalau gwastad: 2% o ddihangiadau yn llwyddo

Mae hyn oherwydd fod gwrthiant y gwynt, fel a sonwyd amdano uchod, yn cael llai o effaith ar dirwedd mynyddig sy’n cynyddu mantais y dihangiad dros y peloton.


MAINT Y GRWP

  • Grwp o 16 reidiwr neu fwy: 77% o ddihangiadau yn llwyddo

  • Grwp o 9-15 reidiwr: 31% o ddihangiadau yn llwyddo

Y PELOTON

Bydd y peloton yn wyliadwrus o’r bwlch rhyngddyn nhw a’r dihangiad. Er enghraifft, os yw reidiwr sydd 5 munud tu ol i arweinydd y DC yn y dihangiad, ni fydd y peloton yn gadael i’r dihangiad fynd dros y bwlch hwnnw o 5 munud.


PWY SYDD YN Y DIHANGIAD

Mae’r dihangiad cyfartalog ar gymal mynyddig yn denu 19 o reidwyr a bydd 12 o’r rheiny eisoes wedi ennill cymal mewn Grand Tour.


Ynghylch y pwynt yma, mae de Gendt yn dweud: “It’s not as if the barouders band together. But we do respect each other’s work and we know what kind of riders we need for the break. For example, if I see Jeremy Roy, Julien Fouchard or Thomas Voeckler in the break I know they will go full gas all the way.”


PRYD MAE'R CYMAL YNG NGHYD-DESTUN GRAND TOUR

Mae'r ymchwil wnaethpwyd gan Frontier Economics yn dangos, yn ddiddorol, fod y tebygolrwydd o fuddugoliaeth o'r dihangiad yn cynyddu 2% bob cymal wrth i'r ras fynd yn ei blaen.

 

Diolch i Dilwyn am gyfrannu’r siart llif hynod ddefnyddiol yma sy’n llwyddo i grynhoi’r ystyriaethau cyn ymuno a dihangiad.

Gobeithio'ch bod chi wedi dysgu gymaint ag ydw i wedi'i wneud tra'n llunio'r gofnod yma a chawn edrych ymlaen at rai dihangiadau llwyddiannus a rhai sy'n mynd yn ofer yn fuan iawn gobeithio.

 

Diolch am ddarllen, gobeithio ichi fwynhau’r gofnod gyntaf yn y gyfres yma yn dathlu rhai o rannau annatod y byd seiclo.


Cofiwch rannu gyda’ch ffrindiau seiclo, neu ddi-seiclo, os ydych wedi mwynhau.


Llyfryddiaeth

’Full Gas’ gan Peter Cossins


‘What are the chances of breakaway success?‘ o Cycling News


‘Breaking down the breakaway’ o Frontier Economics

Recent Posts

See All
bottom of page