top of page

Dwy gyfrol i ysbrydoli

Mae cyfrolau seiclo newydd i ychwanegu at fy nghasgliad, sy’n destun tipyn o falchder, yn fêl ar fy mysedd. Y ddwy ddiweddaraf ychwanegwyd at y casgliad sydd dan sylw gen i heddiw. Dwy gyfrol wedi eu cyhoeddi eleni, ac iddynt ddibenion cyffelyb; i ysbrydoli ac addysgu.


Mi ddois i ar draws y cyntaf mewn cylchgrawn ganol mis Gorffennaf; o bryd i’w gilydd mae un o’r llyfrau sy’n cael eu trafod mewn cyhoeddiadau o’r fath yn neidio allan ata’i o’r tudalennau print neu ddigidol. ‘Revolutions’ yw teitl clyfar y llyfr hwn ysgrifennwyd gan Hannah Ross, a’r is-deitl cofiadwy yw ‘How Women Changed the World on Two Wheels’. Rai diwrnodau wedi i mi’i weld yn y cylchgrawn, mi es i’w nôl o’r siop lyfrau yn Aberystwyth.


Peidiwch beirniadu llyfr wrth ei glawr, ond gallwch weld yn syth mai ysbrydoli yw amcan y gyfrol hon. Mae ynddi hanes menywod ar ddwy olwyn o’r cyfnod lle daethant yn boblogaidd yn y 19eg ganrif hyd heddiw a’r trafferthion sy’n parhau i fod yn y sffêr broffesiynol.


Yn eu hanfod, dwy gyfrol sy’n amlygu statws seiclo’n draddodiadol fel camp gwrywaidd gwyn a’r grymoedd sy’n gweithio’n erbyn hynny sydd yma. Tra’r elfen wrywaidd drafodir gan Ross, mae’r ail gyfrol dan sylw gen i yn trafod yr elfen o ran hil. Yn ymateb i dwf yn ymgyrch Black Lives Matter y daeth Dr Marlon Lee Moncrieffe i sylwi fod y byd seiclo’n trafod y diffyg amrywiaeth, o’i gymharu â’r oes lle byddai ei safbwynt fel seiclwr croenddu’n cael ei ddiystyrru. Ffrwyth y myfyrdod hwnnw, ynghyd ag ymchwil parhaus ers 2009, yw’i lyfr, ‘Black Champions of Cycling’, sydd â’r is-deitl “Desire, Discrimination, Determination”.


Yn debyg iawn i ‘Revolutions’, hanes geir yma hefyd. Ond yn hytrach nag adrodd y straeon fel y gwnai Ross, mae Moncrieffe wedi creu casgliad o’u straeon nhw drwy eu safbwynt nhw. I mi, mae hynny’n beth i’w groesawu; llyfr sy’n rhoi llais i’r rhai na sydd wedi cael eu safbwynt wedi’i glywed o’r blaen. Nid yw hanes pobl croenddu mewn seiclo pro’n dyddio’n ôl yn bell iawn; dechreua’r hanesion ym 1950. Buan iawn y down i ddeall fod gan y seiclwyr hyn brofiadau tebyg rhyngddynt.


Straeon o alltudiaeth, o annhegwch ac anfri gawn gan y rhan helaeth iawn o’r seiclwyr sy’n rhannu eu profiadau. Yr ymdeimlad nad ydyn nhw’n perthyn i fyd seiclo. Bod seiclwyr fel Maurice Burton, seiclwr croenddu talentog tu hwnt, yn cael eu cuddio rhag tudalennau blaen y cylchgronau, ac felly nad oedd cenhedlaeth gyfan o seiclwyr croenddu ifanc yn gweld y modelau rôl yma i’w hysbrydoli.


Mae eu profiadau hefyd yn adleisio gweddill y gymdeithas; mae’n cymdeithas ni’n hiliol. Er i ni fod eisiau meddwl fod pethau wedi gwella, mae ‘na ffordd bell i fynd. Fel y byddwch chi’n disgwyl, mae’r sylwadau hiliol mae’r seiclwyr yma’n eu derbyn yn gwneud darllen anghyfforddus tu hwnt.


Caiff yr agwedd BMX sylw teilwng yn y gyfrol yn ogystal. Gan fod nifer o seiclwyr croenddu’n cael eu magu mewn dinasoedd, roedd y gamp yn llawer haws ei gyrraedd i nifer ohonynt. Bu’r gamp yn boblogaidd iawn yn yr 80au, ac er fod nifer o seiclwyr croenddu ar frig y gamp honno, annheilwng eto oedd y sylw.


Mae hynny’n arwain at yr hyn wnaeth fy nharo i fwyaf o’i ddarllen. Roedd seiclwyr fel Russell Williams yn meddiannu’r sîn seiclo; yn ennill rasys hyd a lled y wlad ac yn dod yn bencampwyr cenedlaethol - ond dal ddim yn cael eu dewis i’r tîm cenedlaethol, ddim yn cael eu dewis i’r Gemau Olympaidd. Felly, mewn geiriau syml - seiclwyr gorau’r wlad ddim yn cael cystadlu ar y lefel uchaf oherwydd lliw eu croen. Mae’n ffiaidd.


Dydy’r math yma o straeon ddim yn anghyfarwydd, nac ‘dyn. Does dim byd newydd am y straeon yma o hiliaeth, ond yr hyn mae’n ei wneud yw gofyn y cwestiwn; faint sydd wedi newid? “Yn cyfeirio at Ganolfan Seiclo’r Byd, dywedodd yr UCI fod 2,200 o seiclwyr wedi pasio drwy’r system, ond dim ond dau seiclwr croenddu wnaethon nhw eu henwi: Teniel Campbell a Daniel Teklehaimanot”. Dyma leiafrif rhyfeddol. Ac yn y bôn, diben y gyfrol yw arsylwi pam mai hyn sy’n parhau i fod.


Trafodir yr elfen ariannol hefyd, sy’n bwysig yn fy marn i. Rydym ni’n gwybod bod seiclo’n gallu bod yn ddrud iawn; ystyriwch rywun ifanc croenddu’n ystyried llwybr gyrfa - mae’r rhwystr economaidd yno’n syth fel atalfa i’w mynediad i’r gamp. Felly’n syth, mae rhai seiclwyr talentog iawn yn cael eu hatal rhag serennu oherwydd natur elitaidd y gamp. Rhaid cydnabod fod seiclo’n gamp galed iawn, ond mae angen mwy o gefnogaeth os am oresgyn y problemau.


Wedi dweud hynny, os ydy’r llyfr yma eisiau bod yn ysbrydoliaeth i genhedlaeth ifanc o seiclwyr croenddu - mae ‘na rwystrau pellach. Y pris arno yw £25 a dim ond ar wefan Rapha y mae modd ei brynu. Felly, yn glir i mi, maen nhw’n colli cyfle anferth yma.


Wrth symud ymlaen at ‘Revolutions’, mae ‘na debygrwydd i lyfr Moncrieffe o ran ei adlewyrchiad o weddill y gymdeithas, yn enwedig yn yn y rhannau cynharach. Mae sylwadau dynion fel "alli di’m mynd allan yn edrych fel ‘na" yn rhan greiddiol o ran agoriadol y gyfrol, ac yn ddiweddarach y modd y gwthion nhw’n erbyn hynny. Un o’r rhannau gorau i mi yw’r disgrifiad o sut y defnyddiwyd y deurodyr fel cerbyd wleidyddol; yn enwedig yn ystod symudiad y syffrajétiaid. Ceir yma ddarlun mwy positif o’r ddwy olwyn; yn rhoi rhyddid i fenywod.


Ond ar y llaw arall, dydy’r modd y mae’r agwedd broffesiynol o’r gamp wedi newid ddim yn adlewyrchu’r hafaledd cynyddol cymharol yn y gymdeithas. Ryw ganrif yn ôl, byddai rasio beics i’r menywod yn llenwi stadiymau; mor boblogaidd os nad yn fwy poblogaidd na rasio’r dynion. Yn y 70au, roedd fersiwn digon parchus o’r Tour de France i’r menywod. Symud ymlaen at heddiw, a pham fod hyn oll wedi’i golli i bob pwrpas? Mae’n sgandal.


Felly er fod y naws fymryn yn fwy positif yn llyfr Ross, yn disgrifio hanesion yr arwyr yma frwydrodd achosion pwysig ac arddangosodd wydnwch athletaidd, mae ‘na’n dal i fod naws o rwystredigaeth dealladwy. Dyma lyfr cynhwysfawr, wedi’i ymchwilio’n drwyadl, yn llawn o hanesion digon diddorol, sy’n llawn i’r ymylon (rhy llawn?) o hanes seiclo menywod. Ond â bod yn hollol onest, doedd hwn ddim yn gafael drwy’r amser; ddim yn llifo’n rhwydd ac yn waith caled ar adegau. Mewn gwirionedd, mae’n well gen i lyfrau sydd â gogwydd fwy ddadansoddol yn hytrach na rhai fel rhain sy’n fwy disgrifiadol. Ond dwi’n falch i mi eu darllen, mae ‘na bytiau difyr iawn a phwysig iawn yn rhan ohonynt.


Mae’r ddwy gyfrol yn troi at y dyfodol i gloi. Mae Ross yn uwcholeuo’r problemau sydd angen eu datrys megis cynrychiolaeth a darllediad, tra bo Moncrieffe yn ategu’r hyn ddywed yng ngweddill y llyfr - fod angen newid diwylliannol oddi wrth naws elitaidd y gamp er mwyn cael mwy o seiclwyr croenddu, a mwy o seiclwyr croenddu ar frig y gamp. Mae’n edrych ar grwpiau lleol megis Black Cyclists Network ac unigolion fel Justin Williams o L39ION fel camau cadarnhaol i’r cyfeiriad cywir o ran ysgogi’r genhedlaeth nesaf.


Felly o ddarllen y ddau lyfr, dwi wedi dysgu llawer iawn am y byd seiclo. Er mor angerddol ydw i am y gamp, dwi’n cydnabod cymaint o broblemau sydd eto i’w datrys. Mae ‘mhell, bell o fod yn fêl i gyd.


Recent Posts

See All
bottom of page