top of page

Edrych 'nôl: y Women's Tour yng Nghymru

Onid ydy hi’n wych gweld rasys beics proffesiynol yn dod i heolydd Cymreig sydd mor gyfarwydd i ni. Mi gawson ni’n sbwylio’r llynnedd pan redwyd cymal o Aberaeron i Landudno yn y Tour of Britain i ddynion, ar ben cymal REC yn sir Gâr. Yr wythnos hon, bu i reidwyr y ras gyfatebol i fenywod, y Women’s Tour, ddod i’n cenedl ac mi gawson ni rasio hynod gyffrous.


Er mod i’n credu fod gwaith i’w wneud ar fformat y ddwy daith, gan fod potensial i’w gwneud yn arbennig (fel y gwnaeth cymal Aberaeron-Llandudno brofi llynedd), mae’n dal i fod yn braf cael gweld y peloton yn pasio heibio, er ’falle mor anaml mae hynny’n digwydd i ni.


Mae gweld rasys ar ochr yr heol yn sicr o drawsnewid y profiad o wylio rasys ar y teledu, o fod wedi sylweddoli pa mor gyflym maen nhw’n rasio a pha mor frawychus o agos ydyn nhw at ei gilydd.


Ond yn fwy na hynny, mae’n gyfle gwirioneddol unigryw i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf (reidwyr fel Stevie Williams o Aberystwyth, sydd heddiw wedi ennill cymal cyntaf y Tour de Suisse o flaen enwau mawr i gipio crys yr arweinydd yn un o rasys cynhesu pwysicaf cyn y Tour). A dwi’n credu ei bod hi hyd yn oed yn fwy pwysig yng nghyd-destun y menywod, gan fod ymwybyddiaeth o’r rasys hynny wedi bod yn isel yn y gorffennol cyn i’r llanw’n droi’n ddiweddar.


Fel arfer, edrych ymlaen at rasys fydda’ i’n ei wneud ar y blog, ond edrych yn ôl y byddwn ni’r tro hwn; edrych yn ôl ar y ddau gymal o’r Women’s Tour 2022 daeth i Gymru fach. Pan gyhoeddwyd y cymalau, dywedodd gyfarwyddwr y ras mai dyma’r ddau gymal fyddai’n siapio’r canlyniad, a dyna’n union ddigwyddodd.


Cymal 4: Wrecsam i’r Trallwng (144km)

Dechreuodd y pedwerydd cymal yn Wrecsam, dinas ddiweddaraf Cymru, gan barhau’n ei bwrdeistref sirol drwy Riwabon i gyfeiriad y Waun. Oddi yno, mi drodd y reidwyr i’r dde gan ddechrau dringo i Glyn Ceiriog, ac yna drwy sir Drefaldwyn a’i phentrefi bychain.


Mi wnaethon nhw droi i’r dde eto ym Mhenybont Llannerch Emrys (ymysg yr enwau gorau ar bentref yng Nghymru) i gyfeiriad y Berwyn, cyn troi ym Mhenybontfawr i gyrraedd Llyn Efyrnwy a chwblhau cylchdaith ohono.


Wedi hynny, mi aethant drwy fro Caereinion er mwyn cyrraedd Trefaldwyn, ac yna troi i’r chwith ar gyfer diwedd y daith i’r Trallwng.


O ran y ras ei hun, erbyn Llyn Efyrnwy roedd dihangiad o ddeg wedi ffurfio. O’u plith, ymosododd Grace Brown (FDJ) gyda deg cilomedr yn weddill, ac mi gymerodd 7km pellach iddi gael cwmni. Y grŵp o dair - Brown, Elisa Longo Borghini (Trek) a Kasia Niewiadoma (Canyon-Sram) - yn cadw’r helfa draw hyd y llinell derfyn.


Yr Awstraliad Brown yn gwibio i’r fuddugoliaeth, gan hawlio crys yr arweinydd - pedair eiliad o fantais dros Niewiadoma a chwe dros Longo Borghini - cyn cymal y frenhines i’r Mynydd Du.


Canlyniad Cymal 4

  1. Grace Brown (FDJ / AWS)

  2. Kasia Niewiadoma (Canyon-Sram / PWYL) mt

  3. Elisa Longo Borghini (Trek / EID) mt


Cymal 5: Pen-bre i’r Mynydd Du (106km)

Gan ddechrau ym mharc gwledig Pen-bre ar gyrion Llanelli, dechreuodd y reidwyr drwy fynd tua’r gogledd i Drimsaran a Phont-iets ar gyfer dringfa gategoredig gynta’r dydd (Bryn Pont-iets). Yn fuan iawn wedyn, daeth ail ddringfa gategori un y dydd o Crwbin.


Oddi yno, mi aethon nhw i Nantgaredig ar gyfer gwib ganolog cyn parhau ar ffyrdd drwy bentrefi bychain cefn gwlad y sir cyn cyrraedd Llanymddyfri. Yna, mi gymeron nhw’r ffordd drwy Ddolgarrog i Langadog a mentro i gyfeiriad dringfa’r Mynydd Du.


Dyma un o ddringfeydd gorau Cymru, yn gartref teilwng iawn i ddim ond ail diweddglo copa hanes y Women’s Tour. Dringfa â chyfartaledd o 6% am 5km gyda rhannau serthach yn enwedig tua’i diwedd.


Gyda’r penwynt yn chwythu yn eu herbyn, roedd hi’n anodd i unrhyw un o’r reidwyr wneud gwahaniaeth wrth ymosod ar lethrau’r ddringfa olaf.


Ond, yn y pen draw, Elisa Longo Borghini lwyddodd i wibio i’r fuddugoliaeth rownd y gornel olaf, gan gipio’r deg eiliad bonws hollbwysig. Llwyddodd Brown, fodd bynnag, i ddod heibio Kristen Faulkner i gyrraedd yr trydydd safle. Drwy hynny, roedd y ddwy ar yr union un amser ar frig y dosbarthiad cyffredinol. Cyfartaledd o ganlyniadau cymalau felly’n pennu deiliad crys yr arweinydd, a’r Awstraliad yn ei gadw ar ei hysgwyddau o drwch blewyn.


Canlyniad Cymal 5

  1. Elisa Longo Borghini (Trek / EID)

  2. Kasia Niewiadoma (Canyon-Sram / PWYL) mt

  3. Grace Brown (FDJ / AWS) mt


Wedi i’r Tour ffarwelio â Chymru, dychwelodd y ras i Loegr ac i Swydd Rhydychen ar gyfer y cymal olaf. Yno, cafwyd un tro olaf yn y gynffon. Roedd Brown ac FDJ yn meddwl fod y fuddugoliaeth yn ddiogel gan mai cymal i wibwyr oedd cymal 6, ond roedd gan Longo Borghini syniadau eraill. Brwydrodd hi yn y wib am y cymal ymysg y gwibwyr pur, a llwyddodd i orffen yn 3ydd. Trwy hynny, cipiodd lond dwrn o eiliadau bonws, oedd yn ddigon i sicrhau mai hi oedd yn fuddugol yn y Women’s Tour 2022.


Gair o glod hefyd i Lorena Wiebes, enillodd dri chymal o’r ras, â hithau bellach yn selio’i lle fel gwibwraig orau’r sîn ar hyn o bryd.


Dosbarthiad Cyffredinol Terfynol

  1. Elisa Longo Borghini (Trek / EID)

  2. Grace Brown (FDJ / AWS) +1 eiliad

  3. Kasia Niewiadoma (Canyon-Sram / PWYL) +5 eiliad


Oriel


Dyma luniau o’r cymalau Cymreig, ryw 40 i gyd, gyda diolch i Osian Elias, Chris o Breeze Cycling, Lusa Glyn ac Ion Thomas am eu gyrru ataf.



Recent Posts

See All

Comments


bottom of page