top of page

Er Clod: Beics Trydan

O bryd i’w gilydd, mae rhai pethau’n disgyn i’w lle’n daclus.


Ar fy amserlen cofnodion ar gyfer y tri mis nesaf, roedd sylw’r cofnod hwn ar feics trydan. Ddydd Iau, roedd y beics trydan yn y newyddion yn sgil cyhoeddi cynllun £1 miliwn gan Lywodraeth Cymru, ar y cyd â Sustrans, i geisio cael pobl ar feic trydan yn hytrach na defnyddio’r car.


Dyma grynhoi’r cynllun:

  • Llywodraeth Cymru sy’n ariannu’r cynllun

  • I ddechrau, bydd yn rhedeg yn Abertawe, Aberystwyth, Y Barri, Y Drenewydd a’r Rhyl yn y gobaith o’i ymestyn os yn llwyddiannus

  • Benthyciadau hir-dymor o feics trydan yw sail y cynllun, a hynny am ddim, er mwyn rhoi mynediad iddynt i rai sy’n gweld eu cost yn rwystr

  • Yn ôl y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd (sy’n gyfrifol am drafnidiaeth) Lee Waters, mae’r Llywodraeth “am i gerdded a beicio ddod yn ddewis arferol”

  • Mae’n ategu darganfyddiadau’r Ddwy Olwyn o’r erthygl bythefnos yn ôl, gan ddweud fod “teithio llesol nid yn unig yn well i’n hamgylchedd, ond hefyd i’n hiechyd a’n heconomi”

  • Braf yw gweld fod Waters yn cydnabod fod hyn yn golygu “newid diwylliannol enfawr” ac o’r herwydd yn buddsoddi mewn cynlluniau uchelgeisiol ond angenrheidiol

  • Gobaith Johnny Eldridge o Sustrans yw “bydd y prosiect peilot yn ein helpu i ddeall manteision beiciau â batri ar gyfer ystod amrywiol o ddefnyddwyr” ac y bydd “yn cynnig ffordd hwyliog a phleserus o deithio fydd yn cael effaith gadarnhaol ar les pobl”



Mae’n rhywbeth i’w groesawu heb os. Cam cadarnhaol i’r cyfeiriad gywir, er mai dim ond cynllun peilot ydyw, ond gobeithiwn y bydd yn amlygu’r manteision a thrwy hynny’n golygu gweithredu pellach.


Profiad personol


Y mis hwn, rwy’n nodi dengmlwyddiant dechrau seiclo. Dechreuodd y cyfan gyda theithiau cyson i ganolfan beicio mynydd Llandegla, a buan iawn y tyfodd y diddordeb.


Rwy’n hynod ddiolchgar am y cyfleon mae seiclo wedi’i ac yn parhau i’w roi i mi.


Rhan annatod o fy niddordeb mewn seiclo a blog, a’r twf cychwynnol hwnnw yn y diddordeb, yw fy modryb a’m hewythr, Ann a John.


Am flynyddoedd, buon nhw’n seiclo ar hyd afonydd Ewrop ar eu tandem ac yn blogio’n ddyddiol amdano.


Maen nhw’n bar mor hoffus a chefnogol bob amser, ac roedd seiclo â hwy yn y blynyddoedd cynnar yn bleser pur.


Ond yn raddol, roedd y cyfleon i seiclo gyda nhw’n prinhau, wrth i gyflyrrau megis arthritis rheumatoid ddod yn rhwystr.


Felly, er ein bod yn cadw cysylltiad agos ac yn troi at gerdded a hwy’n fwyfwy, daeth seibiant o nifer o flynyddoedd o allu seiclo gyda’n gilydd.


Ond eleni, mae hynny wedi newid. Tua fis Mehefin, mi brynon nhw feic trydan yr un (wedi proses hir o ymchwil a phrofi rhai gwahanol mewn siopau beics ar arfordir y gogledd).


Mae wedi ail-gynnau eu brwdfrydedd tuag at seiclo ac mae wedi golygu ein bod wedi gallu seiclo gyda nhw ambell waith dros yr haf.


Dywedant iddynt deimlo’n fwy ifanc, ac mae’n fy atgoffa o adeg pan oeddwn i’n iau hefyd felly mae fel camu i’r gorffennol!


Dadl aml yw fod beics trydan yn gwneud pethau’n ‘rhy hawdd’; yn ‘tanseilio her seiclo’ rywfaint, yn ‘twyllo’.


Credwch chi fi, dydy’r beic trydan ddim yn golygu dim ymdrech o gwbl. Y gosodiad mwyaf yw’r un sy’n rhoi cymorth i chi yn unol â’r ymdrech yr ydych chi’n ei roi i fewn.


Cymorth yw’r gair pwysig, nid gwneud y gwaith drosoch. Dyna’r gwahaniaeth.


Pe bai gan Y Ddwy Olwyn motto, ‘Beic i Bawb o Bobl y Byd’ fyddai o.


Os ydy hynny’n golygu fod beic trydan yn mynd i roi mynediad i gamp, sydd wedi bod yn rhan enfawr o’u bywydau, fyddai fel arall yn amhosib oherwydd cyflyrau iechyd, yna maen nhw’n bethau amhrisiadwy.


Count smiles, not miles.


Mae’n hollbwysig fod y llywodraeth yn gweithredu wedi’r cynllun peilot ac yn ehangu i weddill Cymru, a thrwy hynny osod esiampl i weddill ynysoedd Prydain a’r byd.


Recent Posts

See All
bottom of page