top of page

Pa 'turbo trainer' sydd orau i chi?

A'r hydref a'r gaeaf ar y ffordd, mae'n amlwg y bydd yr oriau ar y beic allan ar y ffordd yn lleihau. Ond dydy hynny ddim yn golygu bod yr oriau seiclo yn gorfod lleihau yn ei sgil.


Mae datblygiad seiclo tu fewn dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn anhygoel; yn y gorffennol, roedd y tyrbo'n beiriant arteithiol a diflas ond erbyn hyn, mae'n fyd hollol newydd a chyffrous.


Cyn mynd ymlaen i edrych yn fwy manwl ar sut y gellir cyflawni hyn, mae'n hollbwysig bod eich tyrbo yn barod am waith.


Dyma'r opsiynau i'w hystyried:


Y rhai syml


Ar gyfer y "set-up" yma, byddech angen y canlynol:


- y "turbo trainer" ei hun - teiar arbennig ar ei gyfer

- synhwyrydd cyflymder


MANTEISION

- rhad

- syml

- modd newid a rheoli gwrthiant


ANFANTEISION

- dim newid graddiant

- newid y teiar yn drafferthus


Y ddel orau £95

Y tyrbo (dde): LifeLine Mag £50

Y synhwyrydd (chwith): LifeLine Speed and Cadence £25

Y teiar (canol): Elite Coberton £20


Tyrbo clyfar


Y peth gorau am y rhain yw'r ffaith fod y rhan fwyaf ddim angen mwy na tyrbo ac oherwydd bod rhai ychydig dros £100 - maent yn cynnig gwerth gwell na'r uchod.


MANTEISION

- *Rhan fwyaf* ddim angen teiar arbennigol

- Newid i'r graddiant wrth gyfathrebu gyda meddalwedd

- Yn cynnig perfformiad o safon uchel iawn


ANFANTEISION

- Y rhan helaeth ohonynt yn ddrud

1) Bkool One (gwaelod, dde) £150


*GWERTH GORAU*


Mae hwn wedi derbyn nifer o adolygiadau positif tu hwnt ac mae'r ffaith iddo gynnig hyfforddiant clyfar (newid graddiant ayyb) am £150 yn wych. Ond yn anffodus, mae'r teiar arbennigol, sy'n hanfodol, yn ychwanegu oddeutu £20 at y pris.


Pris Wiggle yn gywir 21ain o Fedi 2018.


2) Tacx Flux (top, dde) £450


Dewis poblogaidd tu hwnt a'r perfformiad yn bendant yn cyfiawnhau hyn. Yn hytrach na newid y teiar, mae'r tyrbo'n gweithio fel olwyn ol felly bydd angen tynnu'r olwyn ol allan ar ei gyfer. Mae'n cynnig newid yn y graddiant a darlleniadau pwer cywir.


Pris Halfords yn gywir 21ain o Fedi 2018.


3) Wahoo Kickr Core (gwaelod, chwith) £670


Lansiad newydd gan Wahoo sy'n cynnig pris mwy caredig na'u Kickr ond yn ddrytach na'u Kickr Snap. O gwmni sydd wedi cynhyrchu eitemau o'r safon uchaf yn y gorffennol (megis y Wahoo Elemnt / Bolt) disgwylir perfformiad ffantastig a dyna sydd yma.


Pris Sigma Sports yn gywir 21ain o Fedi 2018.


4) Wattbike Atom (top, chwith) £1500


Y drytaf o bellffordd yma ac mae'n dilyn y lleill yn cynnig newidiadau addas i'r graddiant. Mae nifer o ystafelloedd neu gwmniau ffitrwydd wedi eu defnyddio'n y gorffennol diolch i'r ffaith iddynt allu addasu i ffitio'r defnyddiwr.


Pris Wattbike yn gywir 21ain o Fedi 2018.


Mae'r holl dyrbos uchod yn gallu cysylltu i feddalwedd gwahanol ar wythnos nesaf, dyna fydd yn dal fy sylw yn rhan nesaf y gyfres hon sy'n edrych ar gynnal ffitrwydd seiclo drwy'r hydref a'r gaeaf.

Recent Posts

See All
bottom of page