top of page

Rhagolwg: La Vuelta a España 2023

Dwi 'di mynd yn ddiog.


Neu efallai, dwi 'di edrych yn ôl ar fy ngwaith fy hun ac wedi gweld gwerth wrth ailgylchu.


A hefyd dwi wedi bod wrthi'n sgwennu darnau am y Vuelta i Golwg ac eraill - felly dwi wedi gorfod arbed fy syniadau gorau ar gyfer y darnau hynny. Mynnwch gopi ddydd Iau.


Felly, ar gyfer cyflwyniad y rhagolwg, dyma wnes i 'sgwennu yn 2021:


"Be' sy'n dod i'ch meddwl chi pan ydych chi'n meddwl am Sbaen?


Dyma fy rhestr i: paella, flamenco, cerddoriaeth gitar acwstig, ymryson teirw, tywydd braf, tirwedd sych ac eang. O, a hefyd, Saeson meddw wedi llosgi yn Benidorm ar Bargain Lovin' Brits in the Sun.


Mae chwiliad sydyn ar Google yn dangos fod fy narlun o Sbaen yn cyd-fynd gyda syniadau eraill. Heblaw, falle, am Bargain Lovin' Brits in the Sun.


Pethau eraill ddaeth i'r amlwg oedd Catholigiaeth, yr iaith, ei dylanwad ar Lladin America, celf gan Velazquez a Dalí a Picasso, cestyll, pensaerniaeth hanesyddol (Alhambra yn Granada, er enghraifft) a phêl-droed tiqui taca.


Does dim dwywaith ei bod hi'n wlad sy'n ddiwylliannol a hanesyddol gyfoethog.


Yn fy marn i, does dim ffordd well i arddangos cyfoeth gwlad na thrwy ras feics broffesiynol, yn enwedig un sy'n para tair wythnos.


Grand Tour Sbaen, Grand Tour ola'r flwyddyn, y Grand Tour gorau ym marn nifer.


Dyma'r cyfle olaf mewn tymor i greu argraff ar y llwyfan mawr."

Dio'm rhy ddrwg, nac ydi? Ac i wneud yn iawn am fethu â meddwl am syniad gwreiddiol ar gyfer y cyflwyniad, dwi wedi penderfynu arbrofi efo arddull gweddill y cofnod. O bosib, mi fydd o'n haws ac yn ysgafnach i'w ddarllen. Dyma naw o bethau i fod yn ymwybodol ohonyn nhw ar drothwy'r Vuelta yn 2023




Ras yn erbyn y cloc i dimau

Fel o'n i'n sôn, mae'r Vuelta yn hoff o wneud pethau ryw fymryn yn wahanol, ac yn erbyn y tueddiadau sy'n cael eu gosod gan y Tour a'r Giro.


Un modd o wneud hynny yw ymlyniad at fath o ras sydd wedi prysur golli poblogrwydd ymysg trefnwyr rasys mewn oes lle mae'r frwydr rhwng y timau o ran eu hadnoddau ar ei anterth.


Y math hwnnw o ras yw'r ras yn erbyn y cloc i dimau. Yn amlwg, y timau sydd â mwy o adnoddau yn ariannol sy'n mynd i allu fforddio gêr ac offer gwell i wasgu pob mantais posib. A hwythau fel arfer hefyd sydd berchen ar y reidwyr cryfaf a'r rhai sy'n serennu'n erbyn y cloc. Timau fel Jumbo ac Ineos yn bennaf.


Serch hynny, does dim disgwyl i'r REC i dimau, gynhelir ar gymal cynta'r ras yn Barcelona, fod yn arwyddocaol iawn yn y ras am y maillot rojo. 14.6km yw hyd y cymal, sydd ddim digon hir i weld bylchau enfawr, ac ar ben hynny, mae digonedd o gyfleon yn ddiweddarach yn y ras i weld bylchau llawer iawn mwy.


Nid y cymal cyntaf yw'r diwedd ar y cilometrau yn erbyn y cloc yn y Vuelta eleni chwaith, wrth i'r ras yn unigol yn erbyn y cloc ddisgyn drannoeth y diwrnod gorffwys cyntaf, ar gymal 10.


25.8km o rasio fydd wrth foddau'r rhai sydd yn eu helfen yn y ras yn erbyn y cloc a gawn bryd hynny, a chyfle gwirioneddol i ambell un o'r ffefrynnau ddwyn amser mawr oddi wrth y dringwyr pur, ysgafn, gwantan.


Erbyn hynny, fodd bynnag, mi fydd sawl her eisoes wedi bod i ffefrynnau'r dosbarthiad cyffredinol; mynyddoedd mawrion i'w hwynebu mor fuan â chymal 3 a hynny yn Andorra.


Her fwyaf yr wythnos gyntaf fydd y Pico del Buitre, sy'n gartref i Observatorio Astrofísico de Javalambre, dringfa o gwta 11km sy'n dod reit ar ddiwedd y cymal - mae'r graddiant cyfartalog o 8% yn cuddio'r rhannau sydd i'w cael ar 15- ac 16%. Dringfa hurt yng ngwir ysbryd y Vuelta.


Dydy cymal wyth a naw ddim yn hawdd o bell ffordd chwaith; bydd angen i'r ffefrynnau fod ar eu gwyliadwraeth er mai 'bryniog' ydyn nhw mewn gwirionedd.


La etapa reina? Mwy fel l'étape reine

Nid yn Sbaen fydd cymal brenhines - la etapa reina yn Sbaeneg - y ras eleni, ond yn hytrach dafliad careg dros y ffin i ochr Ffrengig y Pyrénées. Felly l'étape reine yw hi mewn gwirionedd.


Ar ôl y ras yn erbyn y cloc ar gymal 10, mae cymal 11 yn dwyn diweddglo copa arall fydd fwy na thebyg yn ffafrio'r dihangiad - er y gellid ambell eiliad fan hyn fan draw gael ei hennill neu ei cholli yn y frwydr am y crys coch.


Dringfa fwyaf eiconig y Tour de France, y Col du Tourmalet, fydd llwyfan drama fawreddog cymal 13, sydd fymryn yn gynnar i gymal brenhines mewn gwirionedd. Cafodd y Tourmalet ei daclo yn y Tour de France Femmes eleni, ond bydd dynion y Vuelta yn ymgymryd â'r her o'r cyfeiriad cyferbyniol, gan gychwyn dringa yn Luz Saint Sauveur, ystyrir yn Fecca i seiclwyr. (Mae 'na le pizza twll yn y wal gwych yno a sawl tŷ bwyta gwerth chweil arall os fyddwch chi byth o gwmpas.)


Ar ôl cychwyn dros 1,500m fyny fry yn Formigal, bydd y reidwyr yn croesi'r ffin ar gopa cynta'r dydd, sef y Puerto de Portalet, cyn disgyn i Laruns lle bo troed yr ail her. Yr enwog Col d'Aubisque yw hwnnw, a'i fawredd diamheuol gan esgyn i 1,709m. Rhoddir y ddringfa hefyd yn y categori especial - y tu hwnt i gategori.


Troi i'r chwith fydd y reidwyr wedyn ar gopa'r Aubisque a chymryd détour bach i'r Col de Spandelles - yn fan hyn y cafwyd y cadoediad nodedig hwnnw rhwng Pogačar a Vingegaard ar y disgyniad yn 2022 - cyn esgyn yn araf drwy'r Gorge de Luz. Mae eiliadau bonws i'w cael ar gopa'r Spandelles, sydd ynddo'i hun yn ddringfa gategori 1, cyn pínacl y frwydr mae'n siŵr ar lethrau ola'r dydd i'r Tourmalet.


Mae'n sicr yn un o'r dringfeydd anoddaf i mi eu taclo; bydd y reidwyr mewn gwirionedd yn dringo'n gyson am dros 35km o Argelès Gazost, a'r Tourmalet yn siapio'r 20 olaf o'r rheiny ar gyfartaledd o tua 7%. Diwrnod anodd iawn yn y cyfrwy i'r reidwyr, ond gwledd i'r rhai ohonom ni fydd ar y soffa.


Yr Angliru

O ddringfa fwyaf eiconig y Tour de France i ddringfa fwyaf eiconig y Vuelta, sef yr Alto de l'Angliru. Daw ar gymal 17, wedi cryn bontio o'r Tourmalet - mae cymal 14 yn heriol dros ben yn ogystal gyda dwy ddringfa especial a diweddglo copa categori un, bryniau dihangiad-aidd cymal 15 a diweddglo ar ddringfa serth ar gymal 16.


Mae'n destun braw a dychryn ymysg y peloton; dim ond y dringwyr ysgafnaf, cryfaf sy'n gallu serennu ar lethrau'r Angliru. Meddyliwch gymaint den ni'n cwyno am ddringfeydd fel Bwlch y Groes o Ddinas Mawddwy sydd ryw 3km ar 13.5% - mae'r Angliru gymaint â 12.4km ar raddiannau o'r fath; y traean agoriadol yn haws, y 7km olaf yn hofran o gwmpas 20%, ac un cydran sylweddol ar 24%. Mochynaidd.


Bydd y sawl sydd am ennill y Vuelta eleni angen bod yn y cyflwr perffeithiaf ar ei gyfer, ac mae'n bosib y bydd hynny'n golygu dal yn ôl yn y diwrnodau blaenorol i gadw peth egni yn y coesau. Cyfle i serennu yn y penawdau i'r sawl llwyddiannus, ac o bosib y cyfle i gipio'r ras yn ei chyfanrwydd.


Does dim cyfle i ymadfer chwaith drannoeth, wrth i gymal 18 ddwyn her sy'n cynnwys dwy ddringfa o La Cruz de Linares ar ddiwedd y dydd; dringfa gategori 1 sydd â chyfartaledd o tua 10% yn yr hanner cyntaf cyn gostegu rhywfaint erbyn y copa.


Tro posib yn y gynffon?

Deg dringfa - ie, deg - a'r rheiny i gyd yn gategori 3 sy'n wynebu'r reidwyr ar y diwrnod olaf ond un; y diwrnod olaf lle y gall gwahaniaethau ymddangos yn y ras am y maillot rojo. Cymal prosesiwn ym Madrid sy'n dilyn ar y cymal olaf un.


Ac mi allai'r bryniau diddiwedd, didrugaredd, fod yn llwyfan delfrydol ar gyfer brwydr danllyd am y fuddugoliaeth pe byddai'r bylchau'n dal i fod yn ddigon bach ar y brig.


Remco Evenepoel i amddiffyn ei deitl?

Dwi am gychwyn drwy ddweud mod i'n meddwl fod hyn yn annhebygol, yn wyneb cryfder Jumbo yn enwedig.


Ond be wn i? Wedi'r cyfan, mae'r Belgiad newydd ennill pencampwriaethau'r byd yn y ras yn erbyn y cloc, y ras ffordd ym mhencampwriaethau Gwlad Belg, a Klasikoa Donostia San Sebastian am y trydydd achlysur.


Mae hi wedi bod yn ddychweliad graddol iddo wedi iddo adael y Giro ar y diwrnod gorffwys cyntaf â dos o Covid - os cofiwch chi, mi enillodd o'r cymal blaenorol yn erbyn y cloc er fod y clwy arno.


Y llynedd, mi enillodd Evenepoel y Vuelta, ond rhaid cydnabod nad oedd y gystadleuaeth hanner mor gystadleuol ag y mae'n argoeli i fod eleni. Gadawodd Roglič, oedd yn ail yn y ras ar y pryd, cyn cymal 17 wedi i anlwc ei daro unwaith yn rhagor; damwain gas iawn bryd hynny.


Mae hi hefyd wedi dod i'r amlwg nad ydy o'n fodlon yn nhîm Soudal-Quickstep, a'i lofnod yn tynnu dŵr i ddannedd sawl tîm cefnog. Dydy mynd allan yn gyhoeddus i ddatgan anfodlonrwydd am y garfan ddim yn mynd i greu awyrgylch hynod lewyrchus, byddwn i ddim yn tybio.


Fo, wedi'r cyfan, ydi seren mawr y tîm, ac mae wedi gosod amod digon pendant i'r perchennog Patrick Lefèvre - mae o'n mynnu gwelliannau mawr i'r garfan i'w gefnogi erbyn ymgyrch Tour de France 2023.


Yn y cyfamser, dydy Remco ddim yn fy nharo i fel reidiwr fyddai'n serennu ar lethrau serth yr Angliru, ond mae'r cymalau bryniog yn sicr o apelio ato. Beth bynnag fo'r amgylchiadau o'i gwmpas, mae'n sicr ymysg y prif ffefrynnau ar bapur.


Jumbo-Visma i greu hanes?

Does dim un tîm erioed wedi ennill y tri Grand Tour yn yr un flwyddyn; dim hyd yn oed Sky ar eu hanterth.


Ond mae cyfle euraidd yn cyflwyno'i hun i Jumbo-Visma yn y Vuelta eleni i greu hanes.


Enillodd Primož Roglič y Giro. Enillodd Jonas Vingegaard y Tour. Mae'r ddau ohonyn nhw am fod ar linell ddechrau'r Vuelta eleni.


I mi, mae'n reit amlwg mai Vingegaard yw'r cryfaf o'r ddau, a beth bynnag fo unrhyw un yn ei ddweud am rannu'r arweinyddiaeth, y gŵr o Ddenmarc yw reidiwr Grand Tour gorau'r byd ar hyn o bryd.


Ond prin yw'r Plan Bs cystal â Roglič, sydd ei hun wedi ennill y Vuelta deirgwaith. Mae'n debyg y bydd dau o gadfridogion gorau'r byd, Sepp Kuss a Wilco Kelderman, hefyd yn rhan o garfan Jumbo, ac felly â bod yn gwbl onest, mae'n anodd gweld unrhyw un - ar bapur - yn gallu goresgyn eu cryfder.


Geraint Thomas

Roedd hi'n argoeli'n dda iawn i Geraint Thomas on'd oedd, pan gyhoeddodd yn wreiddiol y byddai'n ymgiprys â'r maillot rojo eleni, yn dilyn perfformiad argyhoeddiadol iawn yn y Giro. Gorffennodd o'n ail, os cofiwch chi, a hynny drwy golli gafael ar y crys pinc ar y REC tyngedfennol ar yr unfed awr ar ddeg.


Ond roedd hynny cyn i'r enwau mawr yma i gyd luchio'u henwau hwythau i'r ffau.


Mae'n bosib mai dyma fydd un o'r troeon olaf, os nad y tro olaf, i ni weld Geraint yn mynd amdani mewn Grand Tour, a byddai'n sicr yn braf gweld y Cymro ymysg y goreuon.


Ymddengys ei fod wedi cael paratoad sy'n ddigon arferol i'w safonau o; ryw gynhesu graddol yn hytrach na cheisio cyrraedd brig ei allu'n rhy gynnar. 10fed yn REC pencampwriaethau'r byd a 47ain yn y Tour de Pologne - cadw'r coesau i droi. Gobeithio y gwelwn ni o'n tyfu wrth i'r ras fynd yn ei blaen, er nad oes llawer o gyfle i wneud hynny wrth i'r Vuelta luchio heriau'n gynnar iawn.


Mae tîm cryf gan Ineos eto, fel sy'n ddisgwyliedig; un sy'n cynnwys Egan Bernal, enillydd Tour 2019, sy'n parhau ar ei daith hir yn ôl o anaf allai fod wedi gorffen ei yrfa. Gobeithio y gwelwn ni o'n cael rhyw gyfle i serennu.


Hefyd yn eu plith mae Thymen Arensman, orffennodd yn 6ed yn y Giro eleni. Dyma un o'r reidwyr prin yr ydw i wedi llwyddo i sylwi arnyn nhw cyn iddyn nhw fod yn wych - mi ddangosodd fflachiadau o'i allu pan yn ifanc yn 2021, a buan iawn y daeth Ineos ar ei ôl.


Juan Ayuso

Dyma enw y mae cryn obaith o'i gwmpas, yn enwedig ymysg y Sbaenwyr sy'n daer chwilio am olynydd i Alberto Contador ac Alejandro Valverde fel arwr cenedlaethol.


Mae'r gŵr 20 oed wedi dangos cryn addewid, ond eto heb serennu ar y llwyfan mwyaf un eleni. Rydym ni'n awchus aros am weld y potensial yn cael ei wireddu. 3ydd yn y ras yma llynedd; byddai'n ddiddorol iawn gweld pe gallai ddringo ris neu ddwy hyd yn oed eleni.


Mae'n rhannu arweinyddiaeth UAE gyda João Almeida, ac yntau hefyd yn reidiwr Grand Tour o safon; gorffennodd yn 3ydd yn y Giro eleni. Does wybod beth fydd Marc Soler yn dyheu amdano, o bosib yn chwilio am gyfle iddo fo'i hun wedi iddo roi gymaint i ymgyrch Pogačar yn y Tour.


Gallwn i sôn am sawl un arall, ond dydw i ddim am wneud yn helaeth - yn hytrach, dwi am eu gosod nhw mewn hierarchaeth i roi syniad i chi o gyd-destun y ras am y fuddugoliaeth.


Dydy'r rhestr ddechrau heb ei chadarnhau eto, felly gallwn i fod yn rhannu gwybodaeth anghywir â chi. Ond ta waeth am hynny.


⭐️⭐️⭐️⭐️⭐️ Jonas Vingegaard

⭐️⭐️⭐️⭐️ Remco Evenepoel

⭐️⭐️⭐️ Primož Roglič, Geraint Thomas, João Almeida, Juan Ayuso

⭐️⭐️ Enric Mas, Aleksandr Vlasov, Damiano Caruso

⭐️ Eddie Dunbar, Thymen Arensman, Lennard Kämna, Cian Uijtdebroeks


Ac yn unol â hwn, dwi am ddarogan mai Vingegaard fydd yn ennill.


Gweddill y Cymry


Mae'n ymddangos y gall Simon Carr o EF a Stevie Williams o Israel Premier-Tech rasio yn y Vuelta eleni, er nad ydy hynny wedi'i gadarnhau wrth ysgrifennu. Wrth i mi roi geiriau ar y dalen wen sef y sgrîn, mae Stevie newydd ennill cymal 3 o daith Norwy.


Ond yr hyn sydd fwyaf cyffrous ydi fod uchafbwyntiau o'r ras yn mynd i fod ar gael - am y tro cyntaf dwi'm yn amau - ar S4C gyda'r nos. Felly does dim esgus i beidio â chadw trac ar yr hyn fydd yn digwydd yn y ras eleni. Mwynhewch!

Recent Posts

See All

Comments


bottom of page