Seiclo bob dydd: da neu na?


Cyn dechrau, ga’ i ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd, gan obeithio y bydd 2022 yn flwyddyn ddedwydd ac iach. I nodi’r flwyddyn newydd, mae’r Ddwy Olwyn wedi cael rhywfaint o newid delwedd. Bydd y rhai craff yn eich plith wedi nodi newid yn y ffont ac ambell addasiad ar y wefan yn yr wythnosau diwethaf, ond erbyn hyn mae ‘na logo newydd hefyd. Dechrau ffres a newydd i flwyddyn newydd.

Yn anffodus, mae ‘na adegau lle ‘dw i’n disgyn i mewn i rigol, to fall into a rut yn Saesneg, o ran y seiclo. Boed hynny oherwydd diffyg amser, tywydd anffafriol neu ar ei lefel symlaf, diffyg awydd. Dyna’n union ddigwyddodd ym mis Hydref a mis Tachwedd (ac ym mis Medi a dweud y gwir, ac eithrio un reid gan milltir); gan adio’r nifer o oriau y gwnes i seiclo’n y ddeufis yna mae’n dal yn brin o’r hyn y byddwn i’n arfer ei wneud. Mae’n gallu bod yn anodd codi fy hun allan o’r rhigol hon, ond mi wnes i benderfynu mai mynd o un eithaf i un arall fyddai’r datrysiad - seiclo bob dydd yn ystod yr adfent, 24 diwrnod ar y trot. Ai dyma beth oeddwn i’i angen?


Yn feddyliol, o ran cael ffocws, yn bendant roedd hwn yn fanteisiol. Mae ychwanegu’r haen arall yna o gymhelliant - yn yr achos yma yr awch i gwblhau her - yn gwneud gwyrthiau o ran y cam anoddaf un, sef camu ar y beic yn y lle cyntaf. Byddwn i’n deffro’n y bore yn benderfynol o fynd ar y wattbike neu allan i’r awyr agored ar ryw bwynt y diwrnod hwnnw. Roeddwn i wedi pryderu rhywfaint y byddai pwysau’r her hwn yn ormod ar ryw bwynt, ond dwi’n hynod falch o ddweud na ddigwyddodd hynny.


Pryder arall oedd y perygl o wneud gormod, yn gorfforol y tro hwn, i’r pwynt lle na fuaswn i’n symud ymlaen o ran fy ffitrwydd a’m cryfder - achos yn y bon, dyna bwynt mynd ar y wattbike, i gynyddu lefel fy ffitrwydd a’m cryfder ar gyfer diwrnodau hirion a mynyddig yr haf. Felly, prif her yr her oedd cadw’r cydbwysedd rhwng y ddau beth; gwneud y sesiynau caled sy’n gwneud i mi wthio’n hun ymlaen, tra’n osgoi gwneud gormod i lefel lle byddwn i’n colli eu heffaith drwy beidio ymadfer yn ddigonol.


Yr ateb felly oedd gwneud fel yr ydw i wedi arfer ei wneud; gwneud cwpwl o ddyddiau o sesiynau caled wedyn cymryd diwrnod i ymadfer. Ond yn hytrach nag ymadfer yn llwyr a pheidio gwneud dim byd, byddwn i’n gwneud rhyw ugain munud i hanner awr ar ddwyster isel iawn - yn aml iawn yn gynnar yn y bore. Ymadfer actif, neu active recovery. Cyn edrych ar wyddoniaeth hynny, gadewch i ni edrych ar effaith gwneud reid o’r fath cyn brecwast; ar stumog wag. Mae seiclo, neu’n ehangach ymarfer corff endurance, ar stumog wag yn gallu helpu colli pwysau, lleihau pwysedd gwaed, lleihau colestrol, gwarchod yn erbyn afiechyd a chynyddu disgwyliad oes (ffynhonnell). Mae’n anodd iawn gwneud unrhywbeth uwch na dwyster isel ar stumog wag, fel byddai un yn disgwyl, gan nad oes gennych storfa ddigonol o siwgr a glycogen, felly ro’n i’n meddwl ei fod o’n mynd yn dda efo ymadfer actif, ac mi wnes i wneud ryw bump neu chwech ohonyn nhw yn ystod y cyfnod o 24 diwrnod. Mae’r reids ymadfer actif yma’n boblogaidd ymysg seiclwyr proffesiynol - ac mae astudiaethau wedi dangos y gallent gynyddu gweithgarwch gwybyddol (cognitive function), helpu atal niwed i feinwe’r cyhyrau a chynyddu metaboledd braster (ffynhonnell). Mae ambell astudiaeth arall wedi dangos eu manteision o ran lefel ocsigeniad a’u heffaith ar berfformiad mewn gwib. Mi allwch chi deimlo hyn wrth eu gwneud nhw; mae bron yn teimlo fel eich bod chi’n sbinio unrhyw asid lactig neu stiffrwydd allan o’ch coesau.


Ond mae ‘na wyddoniaeth sy’n dadlau i’r gwrthwyneb; bod diwrnodau o ymadfer llawn, hynny yw dim seiclo o gwbl, yn fanteisiol hefyd. Fe’i elwir yn passive recovery o’i gymharu ag active recovery, ac yma y gwelwn y corff yn gwneud yr addasiadau o’r gwaith caled; tra ‘den ni’n cysgu ac yn ymlacio y mae’r cyhyrau’n cryfhau.


Yn ôl at yr agwedd bersonol, mi wnes i gwblhau 545km (340 milltir) yn y 24 diwrnod. Felly roedd y reid cyfartalog yn 22.7km mewn 42 munud, gan roi ychydig llai na 100 milltir mewn wythnos. Er mod i’n seiclo bob dydd, dydy hyn ddim mwy - llai os rywbeth - na’r hyn fyddwn i’n ei wneud mewn wythnos o hyfforddi penodol; 4 neu 5 diwrnod o seiclo efo 2 neu 3 diwrnod o ymadfer llawn. Byddai’r hyfforddi bryd hynny hefyd yn llawer mwy dwys, byddai’r sesiynau’n ryw awr o hyd, a byddai’r diwrnodau ymadfer yn ddiwrnodau ymadfer llwyr. O ganlyniad, byddai’n fwy effeithlon o ran cynyddu lefel y ffitrwydd.


Ac yn anffodus, dim ond 3 o’r 24 reid wnes i lwyddo i’w gwneud y tu allan. Mi gawson ni stormydd gwynt a glaw ar ddechrau’r mis a bu’n oer uffernol am blwc wedyn. Tipyn o amser i’w wario ar y wattbike felly, a dwi’n hynod ddiolchgar am fodolaeth podlediadau fel Nawr yw’r Awr, Never Strays Far a Hiraeth am gadw cwmni i mi! Roedd hefyd yn amser da i wneud fy nos dyddiol o Duolingo a darllen erthyglau ar lein, felly doedd o ddim yn ddrwg i gyd.


Ond mi ddoi ‘nôl at y pwynt o ffocws a chodi allan o rigol. Dwi ‘rwan yn teimlo’n llawer mwy positif tuag at seiclo, a dwi’n llawn cymhelliant ar gyfer y flwyddyn newydd. Y broses o greu habit ydy o yn y bôn, creu rhywbeth sy’n anoddach peidio’i wneud na’i wneud. Felly, yn yr ystyr yna, bu’n gyfnod pwysig iawn o ran dod i’r arfer o amserlennu sesiynau a’u gwneud nhw - achos pan dwi yn eu gwneud nhw, dwi’n mwynhau’n fawr iawn. Boed i mi fod tu allan yn teimlo’r gwynt yn fy ngwyneb, neu tu fewn yn chwysu’n chwartiau ar sesiynau caled - dwi’n cael pleser a mwynhad o’r ddau beth.


Sut ydw i am symud ymlaen o hyn? Yn hytrach na ‘gorfodi’ fy hun i seiclo bob dydd, ym mis Ionawr (gan obeithio’i barhau), dwi am ddilyn egwyddor gyflwynwyd gan y productivity guru blaenllaw, Matt D’Avella, sef y Rheol Dau Ddiwrnod (gwyliwch y fideo yma, neu darllennwch amdano yma). Yn syml, mae’n golygu peidio cymryd mwy nag un diwrnod o ymadfer (neu yn fwy cyffredinol, o beidio â gwneud habit) yn olynol - felly ar y lleiaf mi fydda’i’n gwneud rhywbeth bob yn ail ddydd oni bai am salwch ac ati, wrth gwrs. Mae’n cydbwyso rhwng y gallu i wneud hyfforddi effeithiol, dwysder uchel ar y diwrnodau hyfforddi tra’n ymadfer ac ymlacio yn llwyr ar y diwrnodau ffwr’. Dwi ‘di bod yn dilyn ffigyrau fel D’Avella ers rhai blynyddoedd bellach, a bydd hi’n ddiddorol gweld pa mor llwyddiannus ydy gosod yr egwyddorion hyn i’r byd seiclo.


Ac yn wir, dyma’r egwyddor y bydda’i’n ei ddilyn efo’r blog eleni hefyd. Dwi eisoes wedi sefydlu wythnos diwethaf na fydda’i o reidrwydd yn blogio bob wythnos gan ei bod hi’n bur debygol y bydd pethau’n tarfu ar fy ngallu i wneud hynny o bryd i’w gilydd - ond byddai’n gwneud ymdrech i beidio â gadael y blog yn wag am ddau neu fwy dydd Sul yn olynol.


Felly dyna ddiwedd y cofnod - dwi’n ymddiheuro’i fod o wedi bod amdana’ i i gyd; y bwriad oedd cymryd golwg ar wyddoniaeth a chymhelliant. Rhywbeth ychydig yn wahanol i’r hyn dwi’n arfer blogio amdano felly dwi’n gobeithio ichi fwynhau ei ddarllen.


Hwyl am y tro.