top of page

Uchafbwyntiau'r Ddwy Olwyn 2022



Dw i wedi penderfynu ers tro bod cynnwys Y Ddwy Olwyn am ddod i ben am 2022 wythnos yma er mwyn i mi allu cymryd brêc o'r blog am yr wythnosau nesa' i ddelio efo'r holl helbul Nadoligaidd ac i gynllunio cynnwys i'r dyfodol.


Felly ar hynny, pa ffordd well i ddod â'r cwbl i fwcl na chymryd golwg yn ôl ar rai o uchafbwyntiau'r flwyddyn.


Beth am i ni ddechrau gyda'r pump uchaf o ran cofnodion mwyaf poblogaidd o ran nifer y darllennwyr eleni:

  1. Vera Ngosi-Sambrook: Cymru, ultra a chynrychioldeb. https://www.yddwyolwyn.cymru/post-ey1ei/vera-ngosi-sambrook-cymru-ultra-a-chynrychioldeb-wales-ultra-and-representation. Dim syndod o gwbl mai dyma'r cofnod mwyaf poblogaidd eleni, nid yn unig oherwydd fod ei natur ddwyieithog yn ehangu'r gynulleidfa, ond oherwydd ei fod o'n gofnod mor bwysig. Ro'n i'n teimlo cyfrifoldeb mawr am y diffyg amrywiaeth yn y bobl ro'n i wedi cyfweld â nhw ar gyfer y blog - ac yn dal i wneud i raddau helaeth - ac roedd hwn yn gofnod lle roedd modd rhoi platfform i lais cwbl cwbl wahanol. Atgoffiad o gymaint o waith sydd i'w wneud eto i wella delwedd seiclo, ac i sicrhau ei fod o'n agored i bawb. Roedd yr hyn y gwnaeth hi ei ysgrifennu mor safonol hefyd, mor gynhwysfawr, ac mae'n sicr yn un o fy hoff gofnodion ar Y Ddwy Olwyn ffwl stop, heb sôn am eleni.

  2. Ar dy feic: Eisteddfod Tregaron. https://www.yddwyolwyn.cymru/post-ey1ei/ar-dy-feic-eisteddfod-tregaron. Dim syndod fan hyn chwaith gan mod i'n gwybod fod llawer o ddilynwyr y blog hefyd yn Steddfotwyr heb eu hail. Do'n i ddim yn gyfarwydd â'r ardal o gwbl, mewn gwirionedd, pan o'n i'n sgwennu'r cofnod, ac felly roedd gwybodaeth ac arweiniad Steff Rees a Gwion James yn gwbl hanfodol i lwyddiant y cofnod hwnnw a diolch iddynt am hynny! Wedi'r Steddfod mi ges i gyfle i gael blas ar yr ardal, ac yn sicr wedi gweld gwerth yn yr argymhellion y rhoesan' nhw. Felly os ydych chi byth yn Nhregaron a'r cyffiniau, ewch da chi i ddilyn cyngor Steff a Gwion.

  3. Rhagolwg y Tour. https://www.yddwyolwyn.cymru/post-ey1ei/rhagolwg-le-tour-de-france-2022 Un o gofnodion mwyaf poblogaidd pob blwyddyn, ac un sy'n cymryd llawer iawn o ymdrech bob tro hefyd! Tipyn o fwynhad ynddo hefyd wrth gwrs, ac eleni drwy ryfedd wyrth, roedd fy rhagdybio ar ddiwedd y cofnod yn gywir erbyn diwedd y Tour. Amau ydw i os oes unrhyw werth ail-ymweld â'r cofnod hwnnw erbyn hyn, ond os am fymryn o nostalgia am yr haf yng nghanol yr oerfel, pam lai?

  4. 10 dringfa orau Cymru. https://www.yddwyolwyn.cymru/post-ey1ei/10-dringfa-orau-cymru Yn rhyfeddol rywsut, dolen i ddolen ydy rhif pedwar ar y rhestr. Dydy'r hyn nes i sgwennu ddim ar y blog, rhag ofn i mi blygu ryw reol all fod gan y BBC. Dewis a sgwennu am ddringfeydd gorau Cymru oedd y dasg a osodwyd i mi gan BBC Cymru Fyw, ac mi ges i bleser mawr o wneud hynny. Dwi'n teimlo'n freintiedig iawn eleni o'r cyfleon dwi wedi eu cael i ysgrifennu i gyhoeddiadau eraill megis Cymru Fyw a Golwg am seiclo, ac i'r Selar am roi cyfle i mi ysgrifennu ym maes cerddoriaeth gyfoes. Heb blatfform y blog, a'ch sêl bendith chi fel darllennwyr, fyddai'r cyfleon yma ddim yn bosib ac am hynny rwy'n ddiolchgar iawn.

  5. Geraint Jones a'r Ras Ban Geltaidd. https://www.yddwyolwyn.cymru/post-ey1ei/geraint-jones-a-r-ras-ban-geltaidd Un arall o'r cofnodion hynny sy'n brawf o'ch gwerth chi fel darllennwyr - a dwi'n hynod ddiolchgar i Nia Peris am blannu hedyn y cofnod hwn ac argymell i mi fynd ar ôl Geraint. Unwaith eto, mae cael lleisiau gwahanol bobl yn greiddiol iawn i'r hyn dwi'n ceisio'i gyflawni efo'r blog a rhoi platfform i lwyddiant ac i farn, ac mi'r oedd camp Geraint yn y Ras Ban Geltaidd yn haeddu tipyn o glod ac edmygedd. Am flas ar feddylfryd rhywun sy'n mynd ar garlam i geisio gorffen taith aml-ddiwrnod drwy dirwedd hagr Iwerddon a Chymru, peidiwch ag edrych dim pellach na'r cofnod hwn.

Felly dyna'r rhai mwyaf poblogaidd. Dwi wrth gwrs yn hoff iawn ohonyn nhw, ond dyma droi golwg rŵan at rai o fy uchafbwyntiau personol i.


Eleni ydy'r flwyddyn galendr gyfan gyntaf lle dwi wedi rhannu'r flwyddyn yn bedwar tymor. Mae hyn yn hollbwysig i mi erbyn hyn, gan alluogi strwythur pendant, a sicrhau'r cydbwysedd rhwng safon a pharhad cynnwys. Yn ogystal, mae'n golygu 'mod i'n gallu creu cyfresi'n haws, a rhoi un neu ddau o gofnodion ym mhob tymor fel rhan o'r cyfresi hynny.


Mae'r gyfres Cenhedloedd Seiclo yn fy nifyrru bob amser, gan alluogi i mi ddysgu llawer am hanes a diwylliant seiclo mewn gwledydd eraill. Dwi hefyd yn hoffi fod ymrwymiad i sgwennu cofnod am lyfr neu lyfrau ym mhob tymor yn fy arwain at ddarllen yn fanylach a dyfnach, ac mi'r oedd cofnod wythnos diwethaf am lyfrau seiclo newydd 2022 yn un o fy ffefrynnau eleni yn sicr.


Dwi hefyd yn hoff iawn o sgwennu o brofiad, ac o sgwennu am deithio. Mae 2022 wedi golygu rhywfaint o normalrwydd o ran teithio diolch byth, ac o hynny dwi wedi gallu ysgrifennu am fy nhrafyls yn Ffrainc ac yn Sbaen.


Y ddau gofnod sy'n sefyll allan fodd bynnag yw'r rhai lle dwi di trio bod yn glyfar ac wedi trio creu paralel rhwng fy mhrofiad i o seiclo Cols yn Ffrainc â chymalau eiconig o rediadau diweddar o'r Tour. Mi wnaeth hynny arwain at ysgrifennu am fuddugoliaeth Tadej Pogačar ar gymal 8 yn 2021, ac am ddawn Wout van Aert yn 2022. Mae'r cofnodion yma yn sicr yn profi gwir werth seiclo fel camp sy'n agored i bawb, lle gall amaturiaid ddilyn ôl troed eu harwyr. Gobeithio y cawsoch/cewch chithau foddhad o'u darllen.


Hoffwn i gyfeirio'n olaf at gofnod yr ydw i'n falch ohono nid yn unig oherwydd 'mod i wedi mwynhau a dysgu wrth ei ysgrifennu, ond hefyd am fy mod i wedi ei ysgrifennu mewn cyn lleied o amser yn syth ar ôl glanio adref o un o'r teithiau tramor hynny! Cofnod oedd yn archwilio'r berthynas rhwng seiclo a chelf, a phan fo seiclo yn gelf yn ôl rhai - yn sicr yn un o fy ffefrynnau eleni, ac un oedd yn profi gwerth meddwl sydyn a spontaneity!


Cyn gorffen, dyma rai o'ch uchafbwyntiau chi - diolch i'r rhai ohonoch wnaeth ateb y galw ar Twitter.




Felly dyna ddiwedd gwibdaith arall - diwedd gwibdaith y flwyddyn, a gwibdaith drwy oreuon y flwyddyn. Dwi'n gobeithio'n fawr y gwnaethoch chi fwynhau edrych yn ôl, ac y gwnaethoch chi fwynhau cynnwys eleni'n fwy cyffredinol.


Fel o'n i'n sôn, dwi am gymryd hoe fach am y tro, ond bydd y blog yn ôl ganol mis Ionawr yn sicr. Eto yn 2023, dwi am osgoi gwneud fel y gwnes i yn 2021 a gwarantu cofnod bob wythnos, ond am barhau i weithio ar yr egwyddor o beidio â methu pythefnos yn olynol. Gobeithio y gwnaiff hyn alluogi i fi barhau â phrosiectau eraill - o ran ysgrifennu, o ran chwaraeon ac o ran cerddoriaeth... a phedwar lefel A wrth gwrs!


Y cwbl sydd ar ôl i'w wneud yw diolch o galon i chi am eich cefnogaeth eto eleni, gan ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd.

Recent Posts

See All
bottom of page