Gruffudd ab Owain

Mar 3, 20192 min

Beth sydd ei angen ar reid?

Mae'r Gaeaf *bron* drosodd. Mae'r Gwanwyn ar ddihun. Y diwrnodau lle mae'n cymryd oriau i baratoi cyn reid y tu cefn i ni bellach.

Ond eto, mae angen sicrhau fod popeth gennym ni.

Cam un, edrych drwy'r ffenest. Asesu'r sefyllfa dywydd. Gwirio'r rhagolygon. Ysbeidiau heulog a 12 gradd? Gwych.

Bydda'n ddewr. Estyn y bib shorts 'na allan o'r cwpwrdd. Crys coch sy'n ffit dynn. Arm warmers - bydd hi'n oer yn y cysgod. Gilet? Yn y poced cefn.

Nesa', goleuadau? Oes eu hangen? Oes. Ydyn nhw wedi eu tshiarjo? Do.

Sbectol haul trendi. Cap (pig i fyny plis, nid i lawr - mae'r glaw wedi mynd). Menyg? Rhai heb fysedd. Helmed? Bob amser (dadleuol ac nid gorfodol - penderfyniad personol). Cyfrifiadur GPS? Tic.

Llenwi'r pocedi cefn. Ffôn - rhag argyfwng, ond yn bwysicach fyth i gymryd llun Instagram-esque o'r reid.

Cash neu gerdyn debit, rhwng y ffôn a'i gas. Bydd angen saib am gacen a phaned heddiw (fel pob reid arall).

Snac rhag ofn - beth heddiw?.... i be sydd angen yr holl stwff proffesiynol, drud, pan allwch chi gael fflapjac cartref neu Jaffa Cake - neu fwy i'r pwynt gacen gri / pice ar y ma'n?

Bron 'fi anghofio. Potel o ddŵr - un, neu ddau? Well bod yn saff - un gyda fy hoff gymysgedd electrolyte (blas mafon) a'r llall yn ddŵr plaen.

Gosod popeth ar y beic yn daclus. Golau blaen a GPS ar y bariau ffordd, dwy botel (a'r pwmp mini) yn eu cawelli, golau cefn ar yr ateg sedd.

Yn olaf, y bag cyfrwy, saddle bag. Wedi'i bacio'n berffaith - côt law felyn llachar Castelli, tiwb fewnol, liferi teiars ac offer trwsio pyncjar.

Estyn fy 'sgidiau gwyn. Gad yr overshoes adref.

Barod? Barod.

    4