Gruffudd ab Owain
Feb 17, 20202 min
Wythnos fawr o seiclo y tu ol i ni, ac wythnos fawr o seiclo o'n blaenau ni. Dyma gofnod mor gryno a sydd bosib i'ch diweddaru o ddigwyddiadau'r byd seiclo.
Roedd hi'n wythnos llwyddiannus iawn i EF Pro Cycling wrth iddyn nhw hawlio crys yr arweinydd drwyddi draw, gyda Sergio Higuita'n cipio'r dosbarthiad cyffredinol terfynol.
Ennillon nhw'r RECT gan roi Jonathan Caicedo yng nghrys yr arweinydd am y tridiau cyntaf, gydag Higuita yn cymryd hwnnw drosodd gyda buddugoliaeth ar cymal 4. Dani Martinez gipiodd y chweched a'r olaf o'r cymalau.
Er gwaethaf ymdrechion Deceuninck-Quickstep i roi buddugoliaethau ar blat i Alvaro Hodeg, roedd Juan Molano (UAE) yn gynt nag o ar y tri cymal i wibwyr.
Buddugoliaeth hollol feddiannol i Chalet Reynard ar y Ventoux yn ddigon i Nairo Quintana gipio'r dosbarthiad cyffredinol.
Perfformiad wnaeth godi aeliau ambell un wrth iddo gyrraedd y diwedd o'r troed mewn 28:12, cynt na reidwyr megis Lance Armstrong a Marco Pantani.
Ras dda i'r tim Llydaweg, Arkea-Samsic, gyda Nacer Bouhanni'n fuddugol ar yr unig gymal wibio, tra Aleksandr Vlasvo ennillodd cymal 2 i La Ciotat gyda pherfformiad cryf iawn gan ei dim Astana.
Fodd bynnag, y cymal olaf oedd yn achos i'r Cymry ddathlu, gydag Owain Doull yn y dihangiad er mwyn cipio buddugoliaeth gyntaf Ineos o 2020.
REC WE: Teresa Adam
REC ME: Hamish Bond
Ras ffordd WE: Niamh Fisher-Black
Ras ffordd ME: Shane Archbold
Cymal 1 (Bryniog): Xandro Meurisse (Circus Wanty Gobert)
Cymal 2 (Mynyddig): Luis Leon Sanchez (Astana)
DC Terfynol: Xandro Meurisee (Circus Wanty Gobert)
Ras undydd go fryniog orffennodd mewn gwib.
1. Pascal Ackermann (Bora-Hansgrohe)
2. Alexander Kristoff (UAE) "
3. Elia Viviani (Cofidis) "
Ras undydd go fryniog yn yr Eidal ddydd Sul.
1. Giulio Ciccone (Trek Segafredo)
2. Biniyam Ghirmay (Nippo Delko One Provence)
3. Diego Rosa (Arkea-Samsic)
Llun yma'n dod o'r Tour Colombia 2.1, gyda Julian Alaphilippe yn diddanu'r dorf wych.
19/2 Cymal 1: Bryniog i'r gwibwyr
20/2 Cymal 2: Mynyddig, diweddglo copa
21/2 Cymal 3: Bryniog i'r gwibwyr
22/2 Cymal 4: Bryniog, diweddglo copa
23/2 Cymal 5: REC unigol gwastad
Ffefrynnau:
*** Luis Leon Sanchez
** Miguel Angel Lopez, Tim Wellens, Michal Kwiatkowski, Vincenzo Nibali
* Geraint Thomas, Bauke Mollema, Dan Martin, Remco Evenepeol
Gwibwyr:
Maximilian Schachmann, Matteo Trentin, Elia Viviani, Alexander Kristoff, Sacha Modolo, Mathieu van der Poel, Danny van Poppel
19/2 Cymal 1: Mynyddig
20/2 Cymal 2: Bryniog
21/2 Cymal 3: Mynyddig
22/2 Cymal 4: Mynyddig
23/2 Cymal 5: REC unigol gwastad
Ffefrynnau:
*** Pierre Latour, Ion Izagirre, Pello Bilbao
** Enric Mas, Jack Haig, Jakob Fuglsang, Marc Soler
* Mikel Landa, Dylan Teuns, David de la Cruz
Gwibwyr:
Dim cyfle i'r gwibwyr!
20/2 Cymal 1
21/2 Cymal 2
22/2 Cymal 3
23/2 Cymal 4
Mae'r diffyg gwybodaeth am y ras ar-lein yn gywilyddus! Rhai o'r timau mwyaf yn cymryd rhan megis Boels Dolmans, Bigla Katusha, Drops, Lotto Soudal, Astana a Parkhotel Valkenburg.
21/2 Cymal 1
22/2 Cymal 2
23/2 Cymal 3
Reidwyr presennol:
Thibaut Pinot, Romain Bardet, Richie Porte, Nicolas Roche, Nairo Quintana, Pierre Rolland, Sep Vanmarcke, Sam Oomen, Serge Pauwels, Edvald Boasson Hagen, Michael Valgren
10/2-16/2
Pellter (km)
1. John Chick 198
=. Dylan Davies 198
3. Rhys Gethin 181
Reid hiraf (km)
1. Andrew Parry 161
2. Dafydd Iocws 81
3. Tommie Collins 80
Dringo (m)
1. John Chick 2,737
2. Tommie Collins 2,507
3. Tracey Page 2,368