Gruffudd ab Owain

Apr 16, 20235 min

Dringo dibwynt Stiniog

Mi ddyfeisiodd rywun clyfar y beic er mwyn i bobl allu teithio’n haws o fan i fan. Modd o drafnidiaeth hunangynhaliol yn seiliedig ar ddwy olwyn. Modd gwyrdd o deithio bellach, wrth gwrs; modd o deithio sy’n llai niweidiol, yn fwy llesol.

Felly mae'r cysyniad o neidio ar gefn beic a mynd i fan penodol yn unswydd, ar ein telerau’n hunain, heb unman i’w gyrraedd mewn gwirionedd, yn gallu ymddangos yn eithaf cymhleth. Nid modd o deithio yn unig mo’r beic mwyach.

(Gol.: bwriedid cyhoeddi'r cofnod yma wythnos diwethaf ond aeth pethau'n drech na mi; felly cyfeirio at y deuddydd o haul ryw bythefnos yn ôl ydw i)

Wel gyfeillion, mi ddaeth y Gwanwyn, wedi’r cyfan. Er, dydw i ddim yn un sy’n ystyried deuddydd o haul yn ‘wanwyn’ chwaith, a hithau'n dal i fod mor oer. Er, mae'r gwair yn wyrddach, a'r awyr yn las ysgafnach.

Mae 'nhaith i'n dechrau, fel aml i un, drwy ddringo'n bwyllog drwy Ryduchaf a Llidiardau ar ffordd wledig yr Arenig; y mynydd hwnnw o 'mlaen i drwy'r amser, ac yna'r Aran i'w weld wrth edrych i'r chwith. Heb anghofio'r Berwyn sydd wastad wrth fy nghefn.

Mae hon yn un o'r ffyrdd y bydda'i'n mynd arnyn nhw amlaf, gan mai dyma'r ffordd i gyrraedd rhai o'm hoff lefydd sydd i'r gogledd o adre'. Er y gallai'r ffordd yma fy niflasu mae'n siwr, o ystyried cynifer o weithiau yr ydw i arni, does dim un ffordd well yn haul y Gwanwyn fel hyn.

Wrth i mi adael yr Aran a’r Berwyn y tu ôl i mi, dydy’r Arenig byth ymhell i ffwrdd wrth groesi prif ffordd yr A4212 i ehangder anial y Migneint. Mae'r ardal yma fel pe bai'n newid gyda thro'r tymhorau hefyd; bron fel bod ar y lleuad yn y Gaeaf, ond mae fel byd hollol wahanol, yn lliw i gyd, pan ddelo'r Gwanwyn.

Mae hon yn ffordd yr ydw i'n gallu diflasu arni'n haws na ffordd yr Arenig, oherwydd ei natur tonnog; byth yn gallu penderfynu p'un ai i fynd ar i fyny neu ar i lawr. Mae'n gallu bod yn lladdfa ar ddiwedd reid hir.

Ond ar ddydd o wanwyn fel hyn does gen i ddim un cwyn am ddiflastod posib y ffordd; yn enwedig wrth basio Pont yr Afon Gam a throi'r gornel... et voila. Y môr yn ymddangos dan gesail Penrhyn Llŷn. I rywun sydd ddim yn byw wrth ymyl y môr, mae ei gweld bob amser yn rhoi rhywfaint o wefr.

Daw gwefr arall, wrth i’r gwaith dringo beidio am sbel, a chyfle i fynd i lawr y ffordd ar sbîd. Gwibio i lawr ar gyflymder, a'r gwynt yn fy hwyliau go iawn erbyn hyn.

Wrth gyrraedd pentref Llan Ffestiniog, dwi'n troi i lawr y ffordd serth am y dde - y shortcut i Blaenau. Ond yn hytrach na throi i’r chwith i ymuno â’r A470 fel fyddwn i fel arfer, dwi'n troi i’r dde, heibio arwydd T i ddynodi diffyg diben y ffordd. Gwych.

Cwta 300 o bobl sydd wedi recordio'u bod nhw wedi bod ffordd yma ar Strava. Mae'n gyfrinach wedi'i chadw'n dda.

Mae’r lôn, sy'n anghyfarwydd i mi, yn fy arwain drwy Gwm Teigl. Sôn am berl cudd ydy hwn. Llecyn tawel, ac olion chwarel Cwt y Bugail drosti, yn dwyn i gof y trybestod fu gynt i dorri’r mudandod.

afon a chwm Teigl; ystum y ffordd i'w gweld yng nghornel ucha'r llun

Mae'r mudandod, y tawelwch, y llonyddwch, yr hedd, yn dod â theimlad o gyfforddusrwydd, ac hawdd yw disgyn i ymdeimlad rhy gyfforddus; mae’r lôn mewn gwirionedd yn un serth. Serth iawn, hefyd. O fod wedi edrych ar y segment Strava o flaen llaw, dwi'n barod am ddringfa ar gyfartaledd o 7%, ond mae un o'r rhannau olaf - heibio bin halen (quelle surprise) - mae'n gyson o gwmpas ac uwchlaw 15%.

Profiad o’r gwaelod i’r top yw hwn, dringfa i’w mwynhau ar ei hyd wrth ddilyn ystum afon Teigl. Ceir dringfeydd â gwobrau gwell ar eu copaon, ond y wobr heddiw yw darganfod y llecyn perffaith hwn. Mae o fel pe bai wedi'i gysgodi rhag y gwynt, ac mae o yn llygad yr haul. Cynnes braf felly ar bnawn o Wanwyn.

yr olygfa o'r top; chwarel Cwt y Bugail

Yr unig draffig arni yw traffig y chwarel, ambell lori neu fan; ac ambell un sydd am gerdded drwy'r cwm hyfryd hwn.

Mae'n werth stopio am ennyd ar y copa, sydd dros 500m uwchlaw lefel y môr - a phe bawn i'n gwybod amdani cynt, byddai wedi gorfod bod yn rhan o restr Dringfeydd Uchaf Cymru.

Ta waeth. Wrth ddisgyn i lawr yn ôl am y Llan dwi'n gallu gweld yr her nesaf ar y dde, ac argae Stwlan. Mae i'w weld o bellafoedd maith; yn lle i anelu ato.

Mae croesi drosodd i Danygrisiau yn rhoi cyfle i ail-gynhesu'r coesau; mae tipyn o waith dringo ar y gyfran fechan o'r A496, ac yna rownd ymyl y pentref heibio'r orsaf drydan a heibio'r caffi.

Er mwyn cael mwynhau’r stribyn hwn o darmac, mae'n rhaid hoistio’r beic dros y giât sy’n rhwystro mynediad ceir; yn borth i fyd caeedig, breintiedig.

Mae’n stribyn o darmac sydd bron fel lasyn esgid wedi’i luchio’n flêr ar lethrau’r Moelwyn, a’r corneli tynn niferus sy’n arwain y ffordd at y llyn yn dwyn heolydd yr Alpau i gof.

Un peth ydw i wedi sylwi arno'n ddiweddar yw poblogrwydd cynyddol (dwi'n meddwl - neu efallai nad oeddwn i'n sylwi ar droeon blaenorol) y llecyn yma gyda cherddwyr. Dw innau wedi cerdded cylch y Moelwyn a Chwmorthin - mae'n werth ei gwneud - ac felly'n deall yr apêl. Ond cadwch eich cŵn ar dennyn wir Dduw.

Mae hwn yn llai o brofiad gwaelod i’r top na’r ddringfa flaenorol; ydy, mae’n ddringfa i’w mwynhau ar ei hyd, ond grisiau a gawn i’w brig sydd â gwobr werth chweil. Golygfeydd trawiadol yn ymestyn dros Feirion tua'r Rhinogydd a thu hwnt i un cyfeiriad, ac i'r cyfeiriad arall, yr Arenig yn glir. A’r tu hwnt iddo, y Berwyn. Yn fy angori.

yr olygfa tua'r Berwyn (yn y pellter) a'r Arenig o lyn Stwlan

Dyma ddringfa lawer gwaith mwy poblogaidd na'r blaenorol; 3,710 o bobl wedi'i recordio ar Strava. Mae wedi'i chynnwys mewn cyfrolau ar ddringfeydd, mewn cylchgronnau, ac mae dros y we i gyd.

Yn fy nghyflwr o ddedwyddwch dwi'n anghofio am dreigl amser, ac os ydw i am fynd i'r caffi, mae gen i ddeg munud cyn iddo gau. Lwc bod dim gormod o gerddwyr a chŵn i'm harafu fi.

Dwi'n archebu diod a darn o gacen, a’r cwbl yn Gymraeg, a dwi'n cael fy atgoffa nad ydw i wedi clywed gair o Saesneg gan y rhai yr ydw i wedi eu cyfarch ar y ffordd yma. Dim, ond Cymraeg. Argol, sôn am lwcus.

Daw amser i’w throi hi am adre’. Dilyn yr un llwybr, yn ôl i fyny am Bont yr Afon Gam o Lan Ffestiniog, a dros y dolydd yn ôl, a'r gwynt yn fy hwyliau eto ar ruthr lawr yr allt am adre’.

Wedi teithio hanner can milltir, heb symud i unlle.

Mynd, ond er mwyn dod yn ôl.

Mae'r beic yn dod â chyfle i seiclwr i fyw yn y funud, i herio'i hun, i fwynhau'r fro o'i gwmpas.

Ymddengys fod diben i’r dringo ‘dibwynt’ wedi’r cyfan.

dyma'r route oddi ar Komoot (nid recordiad felly anwybydder yr amser a'r cyflymder!)

    3