Gruffudd ab Owain
Jul 18, 20182 min
Ar y cymal cyntaf yn yr Alpau yn y Tour de France eleni, ni chawsom ein siomi gan y ddrama a gynhyrchir gan y lleoliadau hudol.
Y Ffrancwr Julian Alaphilippe, yn reidio yn lliwiau Quick-Step Floors, gipiodd fuddugoliaeth yn Le Grand-Bornand wedi diwrnod yn y dihangiad.
Goroesodd y ddringfa heriol y Col de la Croix Fry cyn casglu’r holl bwyntiau oedd ar gael ar y Montee du Plateau des Glieres sydd a graddiant cyfartalog o 11.2%.
Gweithiodd y dihangiad gyda’u gilydd ar y gwastatir prin, cyn i Alaphilippe ymosod unwaith yn rhagor ar y Col de Romme, ar y daith i bwyntiau llawn eto ar y ddringfa olaf, Col de la Colombiere.
Wedi esgyn i gopa’r ddringfa enwog honno roedd hi’n fuddugoliaeth swmpus i Alaphilippe wrth iddo hedfan i lawr y disgyniad yn gwybod mai ei ddiwrnod o oedd cymal 10.
Yn yr ail safle roedd y profiadol, Ion Izagirre (Bahrain-Merida), dros funud a hanner y tu ol iddo gyda Rein Taaramae (Direct Energie) yn gorffen funud a deugain eiliad yn ddiweddarach.
Efallai’n syndod i nifer, o wybod nad dringwr pur o bell ffordd ydyw, ond wedi diwrnod dewr a brwydrol yn y dihangiad, bydd Greg van Avermaet yn y crys melyn ar cymal 11.
Roedd hi’n berfformiad graenus ac urddasol gan y gwr o Wlad Belg i anrhydeddu’r crys melyn a’i dim, BMC, a’u gobeithion hwythau’n teneuo wedi codwm Richie Porte a cholledion amser enfawr i Tejay van Garderen.
Serch hyn, roedd ambell un o’r timau’n disgwyl symudiad ganddo, a gadawsant iddo fynd i’r dihangiad gan nad yw’n bygwth y DC terfynol.
I ddiogelu Geraint Thomas a Chris Froome, gweithiodd Team Sky yn galed ar flaen y peloton i sicrhau nad oedd unrhyw ymosodiadau am fod gan y ffefrynnau.
Cymal 10
Dosbarthiad Pwyntiau
Dosbarthiad Ieuenctid
Dosbarthiad Mynyddoedd
Dosbarthiad Timau
Dosbarthiad Cyffredinol
Hwn yw’r cymal copa cyntaf o’r Tour de France eleni.
Gan gychwyn yn nhref Albertville, bydd y reidwyr mwy neu lai’n dringo o’r cychwyn gyda Montee du Bisanne (HC, cyfartaledd 8.2%) a’i gopa 26km i fewn i’r cymal.
Wedi’r disgyniad, mae ganddynt ddringfa heriol arall am 12.6km ar raddiant o 7.7%, y Col du Pre, hefyd wedi’w gategoreiddio fel HC.
Wedi hynny, mae ganddynt y poblogaidd Cormet de Roselend i’w daclo, cyn disgyn yr holl ffordd i Bourg St Maurice cyn y ddringfa 17.6km o hyd (cat 1), La Rosiere.
Oherwydd pellter y ddringfa olaf, credaf ei bod yn anhebygol i un o’r ffefrynnau ymosod ar y disgyniad o’r Roselend.
Ond, gyda’r graddiant cyfartalog ond yn 6%, mae digonedd o le yma am ymosodiadau ffrwydrol – pa un o’r ffefrynnau all serennu?
Darogan
Roedd nifer, megis Warren Barguil ac Alejandro Valverde, yn dangos gwendid ar y dringfeydd ar cymal 10.
Mae’r graddiant isel yn golygu y gall Chris Froome setlo i mewn i’w rythm yn hawdd, ond credaf mai Nairo Quintana fydd yn fuddugol yn ei ymdrech i geisio adennill amser.