Gruffudd ab Owain
Jul 21, 20182 min
Omar Fraile oedd yn fuddugol ar y ddringfa olaf i Mende gan adael y dihangiad enfawr o reidwyr yn ei sgil.
Drwy’r dydd mi roedd nifer fawr o reidwyr yn y dihangiad gyda’u mantais dros y peloton yn gyson yn y ffigyrau dwbwl.
Pan groesodd Fraile (Astana)’r llinell derfyn, roedd y peloton ugain munud y tu ol iddo.
Yn yr ail safle, roedd Julian Alaphilippe a’i grys polca, yn drydydd roedd Jasper Stuveyn ac yn bedwerydd roedd y crys gwyrdd Peter Sagan.
Primoz Roglic oedd y gorau allan o grwp y ffefrynnau gan ennill eiliadau man ar y crys melyn, sydd yn parhau i fod yn dynn ym meddiant Geraint Thomas.
Yn gorffen gyda’r Cymro roedd Tom Dumoulin a Chris Froome felly dim colledion amser nodedig i’r maillot jaune.
Cymal 14
1. Omar Fraile (SBA) Astana
2. Julian Alaphilippe (FFR) Quick-Step Floors, +6 eiliad
3. Jasper Stuyven (BLG) Trek Segafredo, ”
4. Peter Sagan (SFC) Bora-Hansgrohe, +12 eiliad
5. Damiano Caruso (EID) BMC, +17 eiliad
FFEFRYNNAU, Cymal 14
1. Primoz Roglic (SFN) Lotto NL Jumbo
2. Chris Froome (PDF) Sky, +8 eiliad
3. Tom Dumoulin (ISE) Sunweb, ”
4. Geraint Thomas (CYM) Sky, ”
5. Nairo Quintana (COL) Movistar, +18 eiliad
Dosbarthiad Cyffredinol
1. Geraint Thomas (CYM) Sky
2. Chris Froome (PDF) Sky, +01:39
3. Tom Dumoulin (ISE) Sunweb, +01:50
4. Primoz Roglic (SFN) LottoNL Jumbo, +02:38
5. Romain Bardet (FFR) AG2R La Mondiale, +03:21
Carcassonne yw cartref diweddglo’r cymal mynyddig hwn wedi nifer o ddringfeydd heriol ar y ffordd yno o Millau.
Cymal sy’n gorffen wedi disgyniad go hir felly dylid i’r cymal yma ffafrio ffefrynnau’r dosbarthiad cyffredinol.
Darogan
Proffwydaf y bydd Chris Froome yn ymosod ar y disgyniad a chymryd buddugoliaeth tra bod Geraint, Dumoulin a Landa mewn grwp bychan hanner munud tu ol.