Gruffudd ab Owain
Jul 15, 20181 min
Dylan Groenewegen oedd yn fuddugol am yr ail ddiwrnod yn olynol ar gymal 8 mewn gwib anniben.
Clatshodd Fernando Gaviria ac Andre Greipel i mewn i’w gilydd yn ystod y wib wrth iddynt golli eu safleoedd ar y podiwm.
Yn wreiddiol, dynodwyd hwynt yn ail a thrydydd, ond wedi’r penderfyniad gan y comissaires, John Degenkolb a Peter Sagan wobrwywyd gyda thrydydd ac ail.
Ond mae’n braf gallu gweld Dylan Groenewegen, yr Iseldirwr ifanc, yn serennu gan blesio nifer o’i gefnogwyr a’i dim.
Wedi damwain yn ystod y cilometrau olaf, collodd Dan Martin lawer iawn o amser a bellach ef sydd ar waelod y “virtual GC”, 2 funud a 40 eiliad tu ol i Geraint Thomas.
Bydd hyn yn rhwystredig iawn iddo wedi ei fuddugoliaeth ar y Mur de Bretagne.
Cymal 8
Dosbarthiad Pwyntiau
Dosbarthiad Mynyddoedd
Dosbarthiad Ieuenctid
Dosbarthiad Timau
Dosbarthiad Cyffredinol
Yr holl wybodaeth oddi ar wefan procyclingstats.com
Hwn yw’r cymal hir-ddisgwyliedig gyda’r reidwyr un ai’n awchu neu’n hunllefu am grynfeini Roubaix cymal 9.
Hwn yw’r cymal cyntaf all wir siapio’r Tour de France ac mae hi’n anochel y bydd un o’r ffefrynnau’n colli munudau.
Bydd yn ddiddorol gweld tactegau Sky – mae’n bwysig cael pawb ar y blaen – a fyddent yn anfon Geraint neu Kwiatkowski am fuddugoliaeth?
Darogan
Dwi’n meddwl y bydd Quick-Step yn ceisio goruchafu’r cymal hwn gydag enwau fel Niki Terpstra, ond proffwydaf y bydd Philippe Gilbert yn cipio buddugoliaeth i symud i’r crys melyn.