top of page

5 Ap Seiclo Am Ddim

Updated: Mar 1, 2019

Ar ffonau clyfar seiclwyr, mae'n debyg iawn y bydd o leiaf un o'r apiau canlynol. Dyma gipolwg ar y pump ap rydw i'n ei argymell i chi.


Final Surge

Mae hwn yn ap y des i ar ei draws ychydig wythnosau yn ol pan yn ysgrifennu'r gofnod ddiwethaf am feddalwedd seiclo tu fewn.


TrainingPeaks sydd fwyaf boblogaidd y dyddiau hyn ac mae Final Surge yn cynnig yr un syniad - am ddim.


Mae modd cynllunio sesiynau i'r dyfodol a chofnodi data o'r reidiau blaenorol i gadw trac ar eich ffitrwydd a'ch gwelliant ar y beic.


Yn anffodus, nid yw'n gallu cynllunio sesiynau'n fanwl fel TrainingPeaks, ond rwy'n credu fod yr ap yma'n un gwerthfawr.


Strava

Mi fyddai hi'n amhosib gwneud rhestr o apiau seiclo heb gynnwys Strava, sydd bellach yn aruthrol o boblogaidd.


Gallech recordio, uwchlwytho a chymharu'ch data gan ddilyn pobl eraill a rhoi 'kudos' a sylwadau ar eu reids hwythau hefyd.


Mae hefyd yn bosib cymharu'ch amseroedd ag eraill ar 'segments' a greir gan y gymuned, ac ie, fi ydy'r KOM (cyflymaf erioed) ar y segment 'Y Sbrint!'. Mi fyswn i'n gallu edrych ar y tabl yna drwy'r dydd...


Mae modd ymuno a chlybiau a sialensau gwahanol, ac mae eu cynlluniau taledig 'Strava Summit' yn galluogi i chi osod targedau wythnosol a blynyddol.


Wahoo Fitness

Yn dilyn fy nghofnod diweddar yn trafod y meddalwedd seiclo 'tu fewn' gorau, derbynnais adborth yn dweud nad oedd Strava yn gweithio gyda'r synhwyryddion.


Ond dyma ap sy'n gallu gwneud hynny ac yntau'n dod gan gwmni sy'n creu offer fel y Kickr, Kickr Climb, Kickr Headwind ac ati.


Mae'n syml iawn i'w ddefnyddio, cysylltu'r synhwyryddion a chychwyn recordio'r sesiwn. Mae modd uwchlwytho'r sesiwn i apiau fel Strava ar ol gorffen.


Video Saver

Mae hwn, o bosib, yn annisgwyl i rai ohonoch.


Mae'r ap yma'n galluogi i chi lawrlwytho fideos oddi ar y we a'i gwylio pan fo dim cysylltiad gyda'r we.


Felly, os ydych chi'n lawrlwytho fideos gynhaliaeth (maintenance) beic, gallech eu gwylio yng nghanol nunlle i'ch helpu. Mae hefyd yn ffordd o osgoi'r hysbysebion poenus a gawn yn ystod fideos seiclo.


Relive

Mae'n bosib eich bod wedi clywed am yr ap yma'n y gorffennol. Mae'n creu fideo o lwybr eich taith feicio ac fe'i defnyddir gan nifer o 'vloggers' seiclo/


Wedi ei gysylltu gyda Strava, gallech addasu'ch fideo - teitl, lluniau, ffrinidau ac ati - cyn y bydd yr ap yn eich hysbysu pan y bydd yn barod.


Ffordd greadigol o gofio'ch reids.

Recent Posts

See All
bottom of page