top of page
Writer's pictureGruffudd ab Owain

Silff Lyfrau: Blwyddlyfr EF Education First

Updated: Jan 4, 2020

Broliant: (cyfieithiad) ‘Dathliad lliwgar o’r reidwyr a‘r personoliaethau tu ôl i dîm EF Education First. Yn llawn o straeon darluniedig o rasys 2019, cyfweliadau, lluniau, gemau a llawer iawn mwy...’

Nid yn aml o gwbl ‘den ni’n gweld blwyddlyfrau (annuals) gan dimau’r cylched seiclo proffesiynol, ond ar gyfer 2020, mae EF Education First wedi camu i lenwi’r bwlch.


Dwi ond yn bymtheg, ac mae’r syniad o flwyddlyfr yn dal i fod yn reit nostalgic (!) - dwi heb gael un ers tipyn o flynyddoedd pan o’n i’n cael MOTD, Match! a Guinness World Records yn flynyddol.


Rwan, cyn i mi’i dderbyn ddydd Nadolig, doeddwn i’n bersonol ddim yn siwr iawn beth oedd eu marchnad-darged gyda’r lansiad.


Rhaid cyfaddef, dwi’n hoffi’r syniad unigryw o ddogfennu’u prif buddugoliaethau (cymharol brin) ar ffurf cartŵn, ond byddwn i’n tybio‘i fod wedi‘i anelu at gynulleidfa iâu.


Yn ogystal, mae’r defnydd o bosau yn cryfhau’r amheuaeth yma, ac mae’r lliwiau‘n sicr o ddenu llygad ifanc.


Ond, mae’u haddasiad unigryw a gwreididol o‘r gêm nadroedd ac ysgolion yn taro tant, gyda sgwariau penwynt, pyncjar, damwain ayyb yn sicr o gyfleu rhwystredigaeth a geir mewn ras.

Wedi dweud hynny i gyd, mae’n llyfr sy’n sicr o apelio at rywun sy’n newydd i’r byd seiclo proffesiynol, gydag aelodau o’r garfan yn esbonio’r hyn sy’n mynd ymlaen.


Daw tudalennau i esbonio’r broses sy’n digwydd o fewn y bysiau, y car a pha fath o staff sy’n cael eu cyflogi ar dîm proffesiynol.


Yn 2019, bu’r garfan yn cymryd rhan mewn digwyddiadau tu allan i fyd cymhleth a dryslyd seiclo proffesiynol, gan ymuno â reidwyr amateur mewn rasys graean megis y Dirty Kanza.


Cawn fewnwelediad i’r chwilen o seiclo graean, ac felly ar y cyfan mae’n gyhoeddiad sy’n cynnwys gwybodaeth eang fydd yn gweddu at gynulleidfa ehangach na beth yr oeddwn i’n ei ddisgwyl ar yr olwg gyntaf.


Y farn derfynol:

Yn y pen draw, dyma adnodd gwerthfawr, llawn gwybodaeth sy’n cynnig mewnwelediad unigryw a hwyliog, gan dîm a chymeriadau lliwgar, i fyd seiclo proffesiynol - byd sy’n gallu bod yn dywyll a chymhleth iawn ar adegau.


Prynwch os...

Ydych chi’n awyddus i gael esboniad ysgafn a dealladwy o seiclo proffesiynol. Mae’n bendant yn gyfrol fydd yn gyflwyniad perffaith i’r genhedlaeth iâu sy’n awchu i gymryd rhan a/neu diddordeb mewn seiclo.


Recent Posts

See All

Comments


bottom of page