top of page

Beth sydd i ddod yn La Vuelta?

A ninnau ar yr ail ddiwrnod gorffwys yn La Vuelta a Espana 2018, mae'n bryd bwrw golwg dros yr hyn sydd i ddod dros yr wythnos olaf.


Ond yn gyntaf fe hoffwn grynhoi'r cymalau a fu ers y diwrnod gorffwys wythnos yn ol.


Cymal 10


Roedd hi'n fuddugoliaeth gyfforddus iawn i'r gwibiwr Eidaleg, Elia Viviani (Quick-Step Floors) ar cymal 10 La Vuelta 2018.


O ganlyniad i hyn, sicrhaodd Simon Yates y byddai'n cadw'r maillot rojo am ddiwrnod arall.


Cymal 11


Alessandro de Marchi (BMC, yr Eidal) gipiodd fuddugoliaeth unigol gampus ar cymal 11.


Er gwaethaf bwlch sylweddol, ar ysgwyddau Yates y byddai'r crys coch unwaith eto.


Cymal 12

Diwrnod llwyddiannus iawn i'r dihangiad wrth i Jesus Herrada (Cofidis) gipio'r crys coch heb hyd yn oed orffen yn y deg uchaf.


Alexander Geniez (AG2R) oedd yn fuddugoliaethus gyda Dylan van Baarle (Sky) yn ail.


Cymal 13


Budduogliaeth unigol arall ar cymal wrth i Oscar Rodriguez (Euskadi Murias) esgyn i gopa'r Alto La Camperona.


Er gwaethaf ymosodiadau gan y ffefrynnau megis Yates a Nairo quintana, parhaodd Herrada i arwain y dosbarthiad cyffredinol.


Cymal 14

Simon Yates esgynodd i fuddugoliaeth bositif gan ail-ennill y maillot rojo ar yr un pryd.


Jesus Herrada'n colli'r blaen yn ddisgwyliedig - gyda Nairo Quintana a Miguel Angel Lopez yn colli ambell i eiliad i'r Prydeiniwr ar y copa.


Cymal 15


Thibaut Pinot (FDJ) gipiodd y fuddugoliaeth ar gopa'r Lagos de Covadonga ar beth oedd y "Queen Stage" eleni.


Miguel Angel Lopez (Astana) orffennodd orau o'r ffefrynnau ond llwyddodd Yates i gyfyngu ei golledion.


Y cymalau nesaf


Cymal 16 - Ras yn erbyn y cloc unigol a disgwylir i'r dosbarthiad cyffredinol barhau i fod yn agos wedi'r cymal yma. Sialens Quintana fydd cyfyngu ei golledion gan nad yw'n arbenigwr yn y maes yma o bell ffordd. 32km ydyw ac mae enw Rohan Dennis drosti i gyd.


Cymal 17 - Gwir brawf i ffefrynnau'r dosbarthiad cyffredinol gan orffen ar gopa Alto del Balcon de Bizkaia - dringfa o saith cilomedr gyda'r graddiant ar gyfartaledd yn 9% ond gogwyddau ar hyd at 24%. Disgwylir i un o'r ffefrynnau gipio buddugoliaeth allweddol.


Cymal 18 - Gwib glwstwr a ddisgwylir yn Lleida ar gyfer cymal 18. All unrhywun atal Elia Viviani rhag cwblhau hat-trig o fuddugoliaethau'n Sbaen? Bydd Nacer Bouhanni yn chwilio am eil ail fuddugoliaeth; ond, wrth gwrs, bydd Sagan, van Poppel a Trentin yn herio.


Cymal 19 - Diwrnod sy'n debygol o ffafrio dihangiad cryf, gyda dringfa 17km o 6% i orffen y cymal wedi 138km o flaen llaw. Fodd bynnag, a fydd hi'n gyfle i'r ffefrynnau ennill amser a brwydro am safleodd uchaf y dosbarthiad cyffredinol?


Cymal 20 - Cymal byr ond brwdfrydig gyda 4,000m o ddringo wedi'w wasgu o fewn 97km o rasio yn y Pyreneau gan gynnig y cyfle olaf i fachu'r crys coch yn y dosbarthiad cyffredinol. Pum dringfa gategoredig cyn y bwystfil 'Especial', Coll de la Gallina.


Cymal 21 - Cymal gorymdeithiol i reidwyr y dosbarthiad cyffredinol gyda'r gwaith caled wedi ei wneud ganddynt ar y cymalau allweddol blaenorol. Ond, mae'n stori wahanol i'r gwibwyr - y cyfle olaf iddynt roi eu stamp ar La Vuelta 2018.


Y frwydr am y crys coch

Y "tri mawr" heb os yw Simon Yates, Nairo Quintana a Miguel Angel Lopez. Ond pa un fydd un fuddugol yn Madrid?


Mae Yates wedi ennill a cholli amser, Lopez wedi ennill a cholli amser a Quintana wedi ennill a cholli amser.


Ar y funud, rwy'n parhau i fod yn hyderus gyda fy rhagfynegiad gwreiddiol o Simon Yates ond credaf fod y ddau arall yn fygythiad aruthrol iddo.


O'r ddau, yn fy marn i, Lopez sydd edrych gryfaf ond os y caiff Quintana ddiwrnod gwych mi all droi'r ras am y coch ar ei ben.


I frwydro am y podiwm (mae'n debyg) y bydd Enric Mas, Steven Kruijswijk, Alejandro Valverde - ond os yw pethau'n aros fel maen nhw ar y funud; Yates, Lopez a Quintana fydd y tri uchaf.


Rhagfynegiad DC

1. Simon Yates

2. Miguel Angel Lopez

3. Nairo Quintana

Recent Posts

See All
bottom of page