Bydd unrhyw seiclwr, boed yn un sy’n gallu delio ag unrhyw dywydd neu’n un sy’n ffafrio’r tywydd ffafriol, yn ymwybodol o’r gwahaniaethau anferth yn y tywydd yn y tymhorau gwahanol. Y Gaeaf yn aml yn rhewllyd dan yr olwynion neu’n gythreulig o oer; y Gwanwyn yn dymor gobaith am dywydd gwell dros yr haf; yr Haf yn uchafbwynt i nifer, gyda thebygolrwydd gynyddol o dywydd da; a’r Hydref, wrth gwrs, ddaw â dawns y dail ac fel rheol, tipyn go lew o law.
Felly, amcan y cofnod syml hwn yw i archwilio’r hyn ystyrir yn hanfodol pan yn seiclo yn yr Hydref â ninnau’n ei ganol wrth i mi ‘sgwennu hwn. Mae nifer o’r eitemau ar y rhestr yn parhau i gael eu defnyddio’n gyson dros ben yn ystod y Gaeaf, a rhai ohonynt yn addas ar draws y flwyddyn.
Heb oedi ‘mhellach, dyma ddeg o hanfodion yr Hydref.
Rhagrybudd: dw i’n mynd i fod yn defnyddio’r hyn sydd gen i fel enghreifftiau, a hynny heb unrhyw fath o nawdd na thaliad yn y byd. Fy marn bersonol yn unig a geir yma.
Menyg
Dwi’n dueddol o gael dwylo oer iawn pan mae’r tymheredd yn disgyn i’r ffigyrau sengl isel, felly’r pâr sydd gen i yw rhai dhb Extreme Winter. Dydyn ni ddim yn cael ‘extreme winter’, ond ar y cyfan mae’r rhain yn cadw fy nwylo i rhag bod yn rhy oer yn ystod reids yr Hydref a’r Gaeaf. Mae ‘na jyst abowt digon o le i roi par tenau oddi tano hefyd pan mae hi wirioneddol yn rhewllyd.
Côt law
Rhywbeth sydd ei angen ar draws y flwyddyn, ac fel arfer dwi’n ei gadw o efo’r tŵls yn y cyfrwy-fag fel ei fod o wastad gen i. Am flynyddoedd bues i’n defnyddio’r Castelli Squadra oedd yn gwneud y tro, ond erbyn hyn dwi wedi uwchraddio i’r Galibier Tempest Pro 2. Mae hwn yn wirioneddol wych; yn pacio’n fychan, yn sicr yn wrth-ddŵr ac hefyd yn cynnig gwerth da iawn am arian.
Côt neu siaced gynnes
Mae Galibier yn frand ffantastig ar gyfer dillad gaeaf am brisiau gwych. Pan fues i’n ymchwilio am gôt gynnes ar gyfer y misoedd oerach, roedd yr adolygiadau ar gyfer y Colombière (dringfa yn yr Alpau yr ydw i wedi’i wneud) yn dweud ei fod yn perfformio’n ffafriol yn erbyn opsiynau tebyg gan Sportful neu Castelli, ond am hanner neu hyd yn oed traean y pris. Ceir dau gôt am bris un gan ei fod o’n reversible, a dwi wedi’i wisgo o tua 10 gradd gyda haen denau iawn oddi tano i lawr i’r rhewbwynt gyda mwy o haenau, ac wastad yn gyfforddus. Dwi hefyd yn ffan o fy Sportful Bodyfit Thermal ar gyfer tymereddau mymryn yn fwynach.
Overshoes
Am flynyddoedd, roedd gen i esgidiau seiclo gaeaf gan Northwave a doedd dim posib i fy nhraed i fod yn oer. Fe’u dylunwyd ar gyfer gaeafau garw iawn yng Nghanada ac ati, felly maen nhw’n hen ddigon cynnes ar gyfer gaeafau Cymreig. Erbyn hyn, dwi ‘di tyffno fyny rywfaint ac yn defnyddio’r dhb Extreme Weather overshoe. Cwyn aml am overshoes yw eu bod nhw’n anodd iawn i’w rhoi ‘mlaen a’u tynnu ‘ffwrdd, ond dwi heb gael dim problem efo’r rhain.
Sanau trwchus
Mae angen bod fymryn yn ofalus efo sanau, rhag eu bod nhw’n rhy drwchus a bod diffyg cylchrediad y gwaed yn eich traed - sydd ddim yn beth da os ‘dech chi’n trio cadw’n gynnes. Byddai pobl wastad yn eich cynghori i gynhesu’ch traed dros y sgidiau (h.y. overshoes) yn hytrach nag oddi tano, ond i mi mae’n hanfodol i gael pâr fel y Defeet Woolie Boolies sy’n taro cydbwysedd perffaith.
Cap glaw
Yn enwedig yn yr hydref, dwi’n ffeindio fod pigyn ar y cap yn hynod ddefnyddiol i gadw’r glaw rhag gwlychu fy sbectol. Mae nifer yn gwisgo cap drwy’r flwyddyn, ond dwi’n dueddol o beidio - cap gwrth law fydda i’n ei ddefnyddio. Byddwn i’n argymell falle hefyd i gael un sy’n mynd i gadw’ch clustiau chi’n gynnes, achos does ‘na neb eisiau clustiau oer.
Bỳff
Wedi tyfu hyd yn oed yn fwy poblogaidd os rhywbeth ers y pandemig - dwi ‘di cario un ers y dechrau rhag ofn y bydd angen i mi’i ddefnyddio fel mwgwd. Maen nhw’n dweud mai gwddf a brest cynnes sy’n cadw annwyd draw, felly mae bỳff yn hanfodol. I’w cael mewn pob lliw a llun mewn ystod eang iawn o siopau.
Goleuadau
Bydd gen i oleuadau ar fy meic drwy’r flwyddyn, ond yn amlwg maen nhw’n bwysicach o lawer yn amodau tywyllach yr Hydref. Byddwn i’n argymell gosod cyllideb, ac wedyn dod o hyd i’r rhai gyda’r mwyaf o lwmens, gan mai’r rhain fydd y mwyaf llachar yn naturiol ddigon. Maen nhw hefyd yn dweud y dylai’r golau blaen fod yn fwy llachar na’r un cefn, ond ar hyn o bryd mae’r ddau sydd gen i mor llachar â’i gilydd.
https://www.probikekit.co.uk/cycling-accessories/lezyne-zecto-max-drive-250-rear-light/11509392.html
Bib tights
Rhaid i mi gyfaddef, mi’r oedd dod o hyd i bib tights oedd ddim yn edrych fel legins chwaraeon menywod yn dipyn o dasg. Mae nifer yn gwisgo’u shorts arferol efo leg warmers, ond dwi’n ffan mawr o fy rhai gan van Rysel (Decathlon) sydd efo gwnïad i wneud o edrych yn llai fel legins. Yn anffodus, dydyn nhw ddim yn gwerthu’r rhain mwyach, ond dwi’n siwr y gallwch chi ddod o hyd i rai gan y brandiau dwi eisoes wedi eu crybwyll os ydych chi yn y farchnad am rai.
Glanhäwr beic
Mae’r beic yn fwy budr ym mis Hydref, sy’n golygu bod angen ei olchi’n amlach. Mae wedi cymryd ambell flwyddyn i ddod o hyd i’r strategaeth berffaith ar gyfer golchi’r beic yn effeithlon a chyflym - a’r allwedd i hynny ydy glanhäwr beic gan MucOff. Maen nhw’n frand sy’n arwain y gad yn y maes yma, a digwydd bod mae’r siop feics yn lleol yn gwerthu eu stwff nhw. Nes i weld mewn cylchgrawn wythnos yma hefyd eu bod nhw’n gwerthu pwdr rŵan i chi’i roi mewn dŵr sy’n gwneud cymysgedd golchi beic mewn carton alwminiwm. System mwy eco-gyfeillgar maen nhw’n dweud y dylai bara am byth i chi.
Mae’n hawdd gwario gormod ar hanfodion yr Hydref, ond wrth wneud ychydig o ymchwil ac aros falle am ostyngiadau, mae ‘na ffyrdd o gael gwerth da iawn am arian.
Mwynhewch y seiclo a chadwch yn gynnes ac yn sych!
Comentários