top of page

Diweddariadau Dyddiol: Giro d'Italia 2021

Updated: May 28, 2021

Dyma gartref diweddariadau fideo dyddiol Y Ddwy Olwyn wrth ddilyn hynt a helynt y Giro d'Italia yn 2021.

Cymal 19

Mae'n poethi rywfaint ar ddiwrnod cyntaf yn y drioleg o gymalau i orffen y Giro all fod yn arwyddocaol i'r canlyniad. Buddugoliaeth gymal gyntaf Simon Yates, ond dal gwaith i'w wneud i ddal Bernal. Caruso'n dal gafael ar yr ail safle. Diwrnod mawr fory!


Cymal 18

Y dihangiad yn llwyddo unwaith yn rhagor. Un sy'n arbenigo ar ddiweddgloeon bryniog sy'n efelychu'r rhai welir yng nghlasuron undydd Gwlad Belg, Alberto Bettiol, yn llwyddo i gipio'r cymal yn ddigon cyfforddus.


Cymal 17

- Dan Martin yn llawn haeddu ennill y cymal, a thrwy hynny gwblhau'r drindod GT

- Yates wedi deffro! BEX yn wych drwy'r dydd i roi llwyfan perffaith iddo ymosod a chracio Bernal

- Brwydr am y pinc rwan rhwng 3; Caruso mewn sefyllfa dda...


Cefn Bernal yn ei frathu am y tro cyntaf.


Pam? Dau esboniad posib yfmi:


1. Pwysau uchel, hirbell gan BEX yn naddu'n raddol. Gallent adnabod 'llwyddiant' hyn a manteisio Gwe/Sad


2. Graddiannau 'grisiau' yn anfantais, tebyg iawn i'r Grand Colombier llynnedd. Dim mwy i ddod.


Bore ma, ro'n i'n ystyried y Giro i fod ar ben bron. Bod y trefnwyr wedi lleoli'r cymalau allweddol yn rhy gynnar ac felly uchafbwynt cynamserol.


Ymddengys mod i'n anghywir. Lot o gwestiynau i'w hateb.

Cymal 16

Bernal yw'r meistr. Bernal sy'n teyrnasu. Bernal sy'n rheoli. Perfformiad gwbl ysgubol gan y Colombiad gan gipio'r cymal yn y pinc. Bydd Caruso a Bardet yn fodlon, ond Yates lawr i 5ed a diwrnod gwachul i Remco.

Cymal 15

Gorfoledd i'r 'underdogs' eto, wrth i Qhubeka Assos gyrraedd y brig, y tro hwn drwy Victor Campenaerts wnaeth chwarae gem glyfar i guro'i gyd-ddihangwyr. Diwrnod anferthol yn y cyfrwy yfory i'r ffefrynnau, fydd un yn llai wedi ymadawiad Buchmann.


Cymal 14

Y frwydr ddisgwyliedig rhwng ffefrynnau'r DC yn amlygu mai Bernal yw'r meistr, ond fod y coesau dringo gan Yates. Y dihangiad yn eu rhwystro rhag cymryd eiliadau bonws; buddugoliaeth gofiadwy i Lorenzo Fortunato.


Cymal 13

Er mor anlwcus mae Giacomo Nizzolo wedi bod mewn Grand Tours hyd yn hyn, nid oedd cymal 13 o'r Giro eleni felly iddo wrth iddo gipio'r fuddugoliaeth. Dim newidiadau ar y DC heddiw wrth i ni edrych ymlaen at cymal allweddol i Monte Zoncolan yfory.


Cymal 12

Diwrnod arall i'r dihangiad, a diwrnod perffaith i AG2R Citroen sy'n profi unwaith ac am byth (?!) nad ydy lliw amheus siorts yn amharu ar berfformiad. Dim newidiadau yn y dosbarthiad cyffredinol, cymal crempog fory, a'r Zoncolan ddydd Sadwrn


Cymal 11

Diawch erioed - dyna i chi beth oedd ras! Mae hwn yn siapio i fod yn Giro d'Italia a hanner wrth i'r sectorau graean ffrwydro'r ras am y maglia rosa yn rhacs jibiders. Tipyn go lew yn newid, ond un cysonyn yw grym a chryfder Egan Bernal, ond am ba hyd?


Cymal 10


Cymal 9

Cymal oedd yn addo cymaint gyda'r tirwedd mynyddig a diweddglo ar y graean, a'n sicr yn cadw atyn nhw gan ein gadael ar flaenau'n seddi. Y ras am y pinc yn ffrwydro'n deilchion wrth i Egan Bernal roi cweir gorfforol a seicolegol i'r gweddill. Y Colombiad sy'n hawlio'r maglia rosa wedi'i fuddugoliaeth argyhoeddiadol i Campo Felice, mae'n edrych ar dân... ar hyn o bryd. Ciccone a Vlasov agosaf ato ar y diwrnod wrth iddynt esgyn i'r pedwar uchaf, ond Remco'n dal yn gadarn yn yr ail safle.

Cymal 8

Y dihangiad yn llwyddo unwaith eto ar y Giro eleni yn ddisgwyliedig gyda Victor Lafay y diweddaraf i gipio buddugoliaeth fwya'i yrfa yn wythnos gyntaf y ras eleni. Campo Felice yfory, lle dylai'r frwydr am y pinc boethi ar y graean a'r graddiannau.


Cymal 7


Cymal 6



Cymal 5

Caleb Ewan yn ol ar frig y gamp gyda buddugoliaeth ar gymal 5 o'r Giro d'Italia gyda ffrwydriad hwyr nodweddiadol. Nizzolo yn 2il eto ac yn y ciclamino fory. Torcalon i Mikel Landa o ran y DC wrth iddo adael y ras yn sgil damwain yn y cilomedrau olaf.


Cymal 4


Cymal 3

Gogoniant y Giro! Diweddglo rhyfeddol wrth i Taco van der Hoorn - aelod o'r dihangiad gwreiddiol - wagu'r tanc i gadw'r peloton draw, gyda phedair eiliad i sbario. Glaw ar y gorwel fory, ras mwy anrhagweladwy byth - methu aros (ac mae gen i bnawn ffwrdd)!

Cymal 2

Tim Merlier yn cadarnhau ei le ymysg gwibwyr gorau a chyflymaf y byd gyda buddugoliaeth ar y llwyfan mawr am y tro cyntaf. Eiliadau bonws i Filippo Ganna yn golygu ei fod o'n ymestyn ei fantais ar frig y DC.


Cymal 1



Recent Posts

See All
bottom of page