Ar gyfer cofnod yr wythnos hon, rydw i wedi penderfynu dod a deunydd o gasgliad cynnar y blog yn ol i'r wyneb.
Dyma'r gofnod y gwnes i ryddhau pan oedd blog Y Ddwy Olwyn yn ifanc, a buddugoliaeth Geraint Thomas yn iau fyth. Dyma'r paragraff agoriadol ar y pryd:
Wedi’ch ysbrydoli gan lwyddiant ysgubol Geraint Thomas yn y Tour de France? Eisiau gwybod a deall mwy am fyd cymhleth seiclo proffesiynol? Dyma’r lle perffaith i chi felly wrth i mi geisio esbonio beth sy’n digwydd y tu ôl i sgrîn y teledu a lleisiau criw Seiclo S4C.
Dydy amcan y blog heb newid dim hyd heddiw. Yr amcan, yn syml, yw i apelio at gymaint o bobl a sydd bosib. Mae hyn yn golygu fy mod i'n ceisio gwneud y blog yn un y bydd pobl sydd ddim yn arbenigwyr seiclo yn gallu'i ddarllen, y bydd pobl sydd yn gwybod eu stwff am seiclo yn gallu'i ddarllen, a phawb rhwng y ddau begwn.
Ers i mi gyhoeddi'r gofnod hwn, mi rydw i wedi heneiddio dwy flynedd a hanner ac yn y cyfamser wedi cyhoeddi dros i 100 o gofnodion pellach, yn ogystal ag ennu dros 750 o ddilynwyr rhwng Twitter ac Instagram ac hyd yma mae bron i 250 o aelodau ar y clwb Strava.
Doedd y rhan fwyaf o'r rheiny ddim yn ymwybodol a ddim yn darllen y blog bryd hynny, felly dyma gyfle i rai ohonoch fwynhau sut y gwnaeth fersiwn ieuengach ohona i geisio esbonio seiclo proffesiynol.
Mwynhewch.
Neidio i:
Mathau o rasys
Yr eirfa bwysig
Tymor = y cyfnod o fewn blwyddyn lle maent yn rasio SEASON
Cymal(au) = un diwrnod o fewn ras aml-ddiwrnod STAGE
Ar draws y tymor seiclo (Ionawr tan Hydref) mae nifer o wahanol fathau o rasys i’w cael ar y calendr.
Drwy gydol y flwyddyn mae rasys wythnos yn cael eu cynnal ar draws y byd. Ras gynta’r flwyddyn yw’r Tour Down Under (Awstralia) ac yn y gorffennol mae Geraint Thomas wedi ennill Paris-Nice (Ffrainc) a Bayern-Rundfahrt (Yr Almaen).
Yma, mae rhwng 4-9 o gymalau unigol lle mae gwahanol reidwyr yn ennill ar ddiwrnodau gwahanol, ac mae dosbarthiadau gwahanol i’w hennill.
Y reidiwr cyflymaf ar draws y ras sy’n ennill y dosbarthiad cyffredinol a chesglir pwyntiau yn ystod y ras ar gyfer dosbarthiad y mynyddoedd a’r dosbarthiad bwyntiau. Bydd arweinwyr y dosbarthiadau hyn yn gwisgo crys arbennig.
Yn y gwanwyn, cynhelir y clasuron, rasys undydd mwya’r byd megis Paris Roubaix, Taith Fflandrys (Tour of Flanders), Ghent-Wevelgem, Omloop Het Nieuwsblad, Liège Bastogne Liège a Strade Bianche. Maent yn para un diwrnod ac felly mae’r pellter fel arfer yn uchel – 250-300km. Mae Geraint a Luke Rowe wedi serennu yma’n y gorffennol ac mae’r Cymro ifanc, Owain Doull, yn debygol o herio yn y dyfodol.
Yn ogystal, mae’r clasuron mwyaf mewn dosbarth o’r enw’r “Monuments”.
Ychwanegu (28/2/21): Mae'n amlwg fod Geraint Thomas yn 'big deal' ar y pryd! Yn 2021, ni chynhaliwyd y Tour Down Under oherwydd y pandemig. Mae enghreifftiau o'r rasys cymalau hyn eisioes wedi bod yn nhymor 2021 ac mae llawer mwy ar y ffordd - byddaf yn cnoi cil drostyn nhw'i gyd yng nghofnod wythnosol Bwletin Byd y Beic. O.N. graffeg braidd yn syml erbyn hyn!
Ond heb os, y rasys mwyaf yn y byd yw’r Grand Tours. Ym mis Mai, cynhelir y Giro d’Italia (Taith yr Eidal), ym mis Gorffennaf mae’r fwyaf ohonynt, y Tour de France (Taith Ffrainc) ac yn Awst-Medi, mae taith Sbaen, y Vuelta a España. Maent yn para tair wythnos ac mae 21 cymal. Bydd brwydro am yr un dosbarthiadau a sydd yn y rasys wythnos, ond mae’r reidwyr yno’n dueddol o fod yn fwy safonol.
O fewn rasys wythnos/Grand Tours, mae cymalau mynyddig, cymalau gwastad, cymalau bryniog a rasys yn erbyn y cloc yn unigol ac i dimau.
Digwyddiadau o fewn cymal
Ar gymal benodol, yn y bôn y cwbl sy’n bwysig yw gorffen yn gyntaf.
Bydd grŵp bychan o reidwyr (dihangiad) yn ymosod y peloton (y prif grwp o reidwyr) ar gymalau gwastad er mwyn cael amser teledu i’w noddwyr.
Ar ddiwrnodau eraill fodd bynnag, bydd rhai o’r ffefrynnau’n ymosod er mwyn ceisio ennill y cymal.
Ychwanegu (28/2/21): Mae 'na esboniadau pellach o'r elfennau hyn wedi bod ymysg y 100+ cofnod diweddarach, felly cofiwch bori drwy'r gasgliad: yddwyolwyn.cymru/blog-cd9oi
Mathau o reidwyr
Mae gwahanol reidwyr yn serennu mewn gwahanol rasys ac felly’n canolbwyntio ar eu cryfderau.
Reidwyr DC – Y rhain sy’n arwain y tîm mewn rasys cymalau (ras wythnos neu Grand Tour).
Klassiekers – Bydd rhain yn ffefrynnau yn y clasuron a’r Monuments.
Domestiques – Y rhain sy’n helpu* arweinwyr y tim.
Arweinwyr tîm – Y reidiwr sydd fwyaf tebygol o ennill y ras (o fewn tîm) ac felly’n cael eu cymorth.
Gwibwyr (sprinteurs) – Gan gynhyrchu pŵer uchel, byddent yn gwibio’n erbyn eu gilydd ar gymalau gwastad.
Dringwyr (grimpeurs) – Y rhain sy’n wych am reidio i fyny elltydd serth gan gystadlu am ddosbarthiad brenin y mynyddoedd.
Rouleurs – Yn dda am bopeth ond yn bennaf y ras yn erbyn y cloc a dringfeydd serth.
Helpu
Felly beth ar wyneb y ddaear yw “helpu”?
Yn syml iawn, os ydych yn reidio y tu ol i reidiwr arall, rydych yn arbed egni oherwydd eu bod yn torri twll yn yr aer i’ch gwarchod rhag y gwynt (mae reidio yn y gwynt yn defnyddio mwy o egni o lawer).
Dylai’r ffeithlun isod helpu.
Felly gobeithio i chi ddeall mwy am seiclo proffesiynol wedi darllen y gofnod hon ac y bydd gennych well syniad o beth sy’n mynd ymlaen mewn ras feics!
Ychwanegu 28/2/21: Dim yn ddrwg nag oedd! Gobeithio fod rhai ohonoch o leiaf wedi gweld budd yn ail-gyhoeddi'r gofnod yma. Ac os ydych chi'n newydd i'r blog, croeso!
Comments