top of page

Goreuon Cyfres 1 Hoff Bump

Mae'n deg dweud fod cyfres gyntaf 'Hoff Bump' y llynnedd, wnaeth redeg ar y blog mis Mai a Mehefin, wedi bod yn boblogaidd ymysg chi'r darllennwyr.


Cawson ni gyfraniadau gwerth chweil gan Ifan Gwilym, Dyfrig Williams, Rhys James, Lefi Gruffudd, Tommie Collins, Robyn Davies ac Eluned King. Amcan y gofnod heddiw yw edrych yn ol ar eu hoff leoliadau seiclo a rhoi rhai o'r goreuon mewn un casgliad.


A gyda diolch i Komoot, mae'r cyfraniadau'n fwy rhyngweithiol byth a thrwy ddefnyddio'u platfform nhw, gallwch chi gynllunio routes o'u cwmpas mewn ambell i glic.


Diolch i Eleanor Jaskowska am sefydlu'r bartneriaeth rhwng Y Ddwy Olwyn a Komoot - ac mae 'na ambell i sylw ganddi hi ar rai o uchafbwyntiau'r canolbarth.


Dyma ni felly, goreuon cyfres 1 Hoff Bump, gan gychwyn gyda'r uchafbwynt fwyaf gogleddol a gorffen gyda'r uchafbwynt fwyaf deheuol.

Dringfa o Ddinbych i'r Brenig

Dywedodd Ifan Gwilym yn ei gyfraniad: " 'Fi wedi dringo lan i Lyn Brenig o Ddinbych dwywaith, y tro cynta fel rhan o Gran Fondo Conwy. Yr ail dro, nes i ddilyn route y Road to Hell, sydd wedi’i gynnwys yn ‘100 climbs’ gwreiddiol Simon Warren. Rodd yr ail ffordd tipyn anoddach wrth ddilyn y B4501 yr holl ffordd, a gorfod delio da’r darn caled ar ôl pasio Capel Peniel. Naill ffordd, ma rhan ola’r ddringfa cyn cyraedd Llyn Brenig yn teimlo’n anghysbell, a gyda’r blinder yn bwrw, ma na naws arall-fydol wrth orffen yr 11km hir."


Cowlyd

Lefi Gruffudd: "Dwi gorfod nodi allt cefn cyfarwydd at lyn Cowlyd, fel person sy’n ffafrio dringfa serth, ond dyw hon ddim i’r gwangalon – mi wnaeth fy nychryn a fy llorio y tro cynta i fi ei fentro (ac mae’n haeddu mwy o sylw na Penllech, Harlech!). Mae’n dechre’n serth o Trefriw a ddim yn gadael fynd am dair milltir yn gyson fwrw 20%, heblaw un ysbaid lle mae’n gostwng i tua 10%. Fel Bwlch-y-groes, does dim lle i ddianc. Does dim syndod iddi gael ei disgrifio fel yr anoddaf ym Mhrydain gan Cycling Weekly ac i Simon Warren roi 11 mas o 10 iddi."

Tommie Collins: "Ar adegau roeddwn ond yn mynd tua thair milltir yr awr, gyda chyflymdra gyfartaledd o 4.9

MYA, roedd ond wedi codi gyda'r allt yn mynd llai serth yn y rhan olaf, 24m 59 eiliad oedd fy amser, i roi dipyn o bersbectif ar Strava amser y gyntaf ar yr allt sef y Cymro, Dan Evans, ydy 14.22 - 8.4MYA gyfartaledd, sut ar y ddaear ma’ neud hynna, atebion ar gerdyn post plîs. Felly bydd y ddadl pa un ydy allt galetach Cymru yn parhau, dwi'm yn siŵr pe bai BYG yn galetach neu'r gwrthwyneb."


Marchlyn

Lefi Gruffudd: "Dyma efallai’r ddringfa hiraf ac bendant yr orau yng Ngwynedd (os nad Cymru), yn arbennig o ddechrau ar droed llyn Peris, ac anelu am ddringfa Fachwen yn gyntaf. Mae’r golygfeydd gyda’r gorau dwi wedi eu profi ar gefn beic, yr agosa ddewch chi at fod yng nghrombil Eryri ar Elidir Fawr (yn arbennig os ewch chi at y surge pool yn hytrach nag am y llyn). Mae rhywbeth ysbrydol wedi i’r troad yn y canol gyda’r goledd yn lleddfu mi gewch chi begynau Eryri o’ch blaen, yna’r llyn yn dod i’r golwg a dim un enaid byw o’ch cwmpas heblaw ambell i afr. Oes mae na ragor o ddringo wedyn, a falle un troad yn ormod, ond mae werth yr ymdrech wrth weld y Wyddfa reit o’ch blaen wrth gyrraedd y brig. Gwefreiddiol."


Rhys James: "Y ddringfa lleol, ac hefyd, yr un anodda o gwmpas. Pellter byr o’r ty lawr i Brynrefail a seibiant sydyn wrth yml Llyn Padarn – llun isod. Os ydych chi eisiau gweld eich lefel ffitrwydd, hwn yw’r dringfa i’w wneud. Mae’r cilomedr olaf yn 11% gyfartaledd ar Fachwen efo yr 'maximum' yn cyrraedd 20% tua’r top. Mae yna rhywfaint o seibiant ar ol cyrraedd y top cyn mynd am giat Marchlyn, a wedyn mae hi’n hunllef yr holl ffordd i’r top. Mae’n ddringfa braf (mewn ffordd), ac reit ar fy stepen ddrws – nunlle gwell na adref! A gyda caffi newydd ar top Fachwen, esgus go dda am seibiant."


Nant Gwynant i Pen y Pas

Rhys James: "Mi oedd byw yn Deiniolen, ac yn ganol ardal mynyddig, pan mi oeddwn yn tyfy fyny yn hynod o wych i feicwyr. Y reid hir gyntaf wnes i ar y beic oedd y cwrs isod – mynd am Gaernarfon o adref ac yna trwy Waunfawr, Rhyd Ddu, Beddgelert cyn taclo y ddringfa. Lŵp hynod o braf ac o gwmpas ddwy awr o feicio – perffaith. Hyd yn oed gwell, mae yna gaffi yn Nant Gwynant ei hyn, o gwmpas 2 filltir cyn cychwyn y dringfa, esgus perffaith i stopio ac i gafael ar bach o egni. Mae dringfa o Nant Gwynant i fyny am Pen y Pass yn raddol, sydyn a just y fath o ddringfa dwi’n mwynhau – tempo sydyn ac o gwmpas 20 munud o hyd. Mae’r ddringfa yn fy atgoffa i o fy nyddiau iau ar y beic, yn mynd o gwmpas y cwrs ar ol Ysgol, neu ar benwythnos gyda’r ffrindiau. Mi oedd yna hefyd ras time trial yn yr haf yno – rhywbeth oeddwn wastad yn edrych ymlaen i wneud."


Drws y Coed

Lefi Gruffudd: "Dyw’r ddringfa ei hun ddim ry heriol (er fod y gwynt rhy aml yn eich erbyn), a’r clip terfynol sy’n codi dros 12% y cant yn ddigon byr. Mae’r ffordd wedyn i Ryd Ddu yn agor yr opsiynau i fynd rownd y Pas neu nôl am lyn Cwellyn. Pa le gwell yng Nghymru?"


Rhyd

Tommie Collins: "Allt Rhyd rhwng Llanfrothen a Rhy ydy fy nialedd ( nemesis). Rwy’n ceisio dringo hon yn y gaeaf neu ar ôl y Nadolig i weld sut mae fy ffitrwydd. Mae dros filltir gyda chyfartaledd o 7%, tydi ddim yn un gallwch ei ymosod ( barn fi) , ma’ serth yn dechrau gydag un darn wastad yn ei ganol, maegolygfeydd syfrdanol yn dop yr allt - gyda Chnicht ar Moelwynion ar y chwith a Porthmadog yn ei ogoniant tu ôl i chi, fy record bersonol yw 7 munud 16 eiliad , dwi ar ddiwrnod da cael rhyw 8 munud ac un drwg rhwng 9/10 munud, amser y KOM ydy 5m 27 eiliad. Ha!"


Prenteg

Lefi Gruffudd: "Mae hon yn ddringfa heriol sy’n dechre o betre bach Prenteg, ddim ymhell o Gaffi Eric, yn gwyro lan ochr y mynydd hyd at unigeddau gogoneddus Gwynedd. O’r pentre mae na arwydd 1:6 sy’n codi’n serth yn syth ac yn para felly am filltir a mwy. Heibio’r coed mae pethau’n goleuo a’r golygfeydd i bob cyfeiriad yn wych. O’ch blaen mae’r Cob a thu ôl i chi cewch olygfa ogoneddus o Cnicht. Ar ôl cyrraedd y rhan sy’n llai serth o’r ddringfa a’r gridiau gwartheg mae peryg i chi dwyllo’ch hun fod y gwaetha drosodd, ond ar ôl sbel, mae na un clip creulon i ddod, ac ar ben hwnnw, un dringfa derfynol i’ch dinistrio. Ar y brig wedyn mae gogoneddau anial Gwynedd am Gwm Ystradllyn a Chwm Pennant – bron cystal ag Elenydd, sy’n gwneud i fi deimlo’n gartrefol. Lle delfrydol i osgoi prysurdeb bywyd."


Bwlch y Groes

Lefi Gruffudd: "Mae’r arch-ddringwr Simon Waren yn disgrifio Bwlch-y-groes fel 'the most unrelentingly steep piece of tarmac in Britain', ac am sbel hir o’n i ofn ymgymryd a’r dasg o ddringo yr anghenfil yma o ddringfa.


"Ond o basio’r ardal mor aml, dwi bellach wedi bod yno dair gwaith, a sicr o fynd nôl yno’n flynyddol. Mae’n werth dechre o Dinas Mawddwy i werthfawrogi tirwedd serth Maldwyn a llwybr y porthmyn at y bwlch. Yn Llanymawddwy mae na eglwys, yn gyfle ola i roi gweddi fach cyn yr artaith o’ch blaen. O fewn milltir mae na droad siarp i godi blas. Llwynog o ddringfa yw hon lle byddwch yn teimlo’n gyfforddus ar y cam cynta sydd â goledd digon derbyniol, ond wrth i’r goledd gynyddu fel mae’r olygfa’n agor mas, ry’ch chi’n sylweddoli nad oes na le i guddio, dim gorffwys na dihangfa tan y diwedd. Mi welwch groesffordd, gyda chroes i’r pererinion gynt. Ond dyw hi ddim drosodd nes cwblhau’r un ymdrech arteithiol ola i’r brig lle gewch chi olygfeydd o anialdir gogoneddus Cymru i’w werthfawrogi i bob cyfeiriad – Arenig, Elenydd ac Eryri. Mae hefyd werth mentro i’r brig o Lanuwchlyn, ond sy’n opsiwn braidd yn hawdd ar ôl mentro o Lanymawddwy."


Dylife

Robyn Davies: "Dyma daith o Lanidloes i Fachynlleth ar un o’r ffyrdd uchaf yng Nghymru. Pan yn ifanc, byddwn yn dechrau o Lanidloes ac ym ymlwybro i fyny drwy Goedwigoedd Hafren i gyrraedd Penfforddlas (Staylittle i rai ohonoch) cyn troi i fyny eto am Ddylife. Rydych yn cyrraedd y pwynt uchaf, 512 metr uwchlaw’r môr, dafliad carreg o’r gofeb i Wynford Vaughan Thomas. Does dim syndod fod hwn yn hoff fan ganddo o weld yr olygfa wefreiddiol o edrych allan dros Eryri. Mae deg heol gyhoeddus yn codi I uchder o dros 500m yng Nghymru a dyma un ohonynt. Mae’r darn olaf o Ddylife ar raddfa o dros 15% ond yn llawer haws na’r dringfa hir i fyny nôl o’r ochr arall."


Clywedog

Dyfrig Williams: "Os dy chi'n seiclo rownd fan hyn, rhaid sicrhau eich bod chi gyda cit sbâr cyn dechrau, achos does dim byd ond cefn gwlad. Mae fe'n siwrne byr, ond mae’n heriol dros ben gan does'na bron dim darnau fflat i ddal anadl, ond mae'r golygfeydd yn bendant yn werth yr ymdrech. Mae rhaid stopio ar gyfer yr olygfa dros argae Clywedog, ac mae’r bywyd gwyllt yn anhygoel. Rhaid cael coffi ar y dechrau neu'r diwedd yn Llanidloes, achos does dim lle am fwyd. Ar ddiwedd y dydd, os mae fe'n ddigon da i Emily Chappell, mae fe'n ddigon da i fi."


Y Diafol

Dyfrig Williams: "Mae gen i deulu ym Montgoch, ac mae'r ffyrdd yn yr ardal yn llawn hwyl. Does gennym ddim yr amser am reid hir gan ein bod ni'n gweld teulu, felly mae gwneud rhan gyntaf Diafol Aber Cycle Fest yn gwneud y job. Os dy chi'n dechrau yn Aber, gallwch fynd dros Benglais, sy'n ffordd da i ffeindio mas pa mor gryf mae’ch coesau ar ddechrau reid. Os dy chi'n mynd heibio'r crem lawr i Glarach mae 'na gornel 'hairpin' sy'n rhoi golygfa brydferth dros y traethau sy'n rhedeg i'r Gogledd. Yna, mae'r ffyrdd yn rhedeg heibio traethau Borth ac Ynyslas. Y peth da am Geredigion yw bod yr ardal wledig jyst mor lush a lan y môr. Os oes da chi amser am reid hirach, mae dringo Nant y Moch yn her dda, ac mae Pontarfynach mor lush hefyd!"


Nant y Moch

Rhys James: "Oni’n arfer mynd drosodd i Gwyl Seiclo Aber efo’r rhieni, ond ers dechrau gweithio efo Beicio Cymru, dwi wan yna yn flynyddol sydd yn hynod o wych cael bod yn rhan o’r digwyddiad. Mae’r rhieni dal i ddod hefyd, sydd yn well fyth. Mae’r Sportive ar y dydd Sul yn ffordd dda o orffen yr penwythnos, a dwi wastad yn mwynhau gwenud hi. Mae hi’n gwrs heriol ofnadwy ac yn fynyddig ofnadwy, ond yn siwtio fi i’r dim. Y ddringfa nesaf yw dringfa Nant-y-Moch. Gyda’r ddringfa dros 5 milltir o hyd ac o 4% gyfartaledd, mae’n hynod o braf. Tydi’r ffordd ddim y fwyaf rhwydd, on os rhywbeth, mae’n gwneud y dringfa yn well. Dim byd rhy anodd, ond mi fyswn yn argymell i bawb ei wneud – hynod o wych a hwyl. Gyda golygfa hynod o wych tua’r copa – ond llawer mwy o ddringo i fynd yn y sportive!"


Cwm Ystwyth

Robyn Davies: "Mae’r heol o Bont ar Fynach i Rayadr yn torri yn syth ar draws mynyddoedd y Cambrian. Mae’n teithio drwy goedwigoedd hynafol, ardal lle gellir gweld olion mwynglofeydd tin ac ardal fynyddig, cyn troelli lawr wrth ochr llynoedd Cwm Elan i orffen yn Rhayadr. Cafodd y ffordd yma ei disgrifio gan sefydliad yr AA fel un o’r deg ffordd orau i yrru arni yn y byd! Mae hyd yn oed yn well ar gefn beic. Cefais fy mlas cyntaf o’r ffordd hon fel bachgen tair ar ddeg oed ar daith gyda chlwb beicio Llanidloes, y Llani Wheelers. Er i mi gael trafferth gyda gers fy meic hanner ffordd drwy’r daith, ces fy swyno gymaint nes i mi ddychwelyd dro ar ôl tro."


Llanymddyfri i Lyn Brianne

Robyn Davies: "Dyma fy hoff daith ar hyn o bryd. Dyma heol sy’n mynd o Lanymddyfri drwy Rhandirmwyn, o amgylch Llyn Brianne ac yna nail ai i Dregaron neu i Abergwesyn. Ar ôl gadael Rhadirmwyn nid oes metr o darmac gwastad . Dyma heol sydd yn droellog, yn llyfn, yn fynyddig, bob amser yn edrych yn wahanol a phob amser yn heriol. Mae’r heol sy’n troelli o gwmpas yr argae nes iddi gyrraedd capel diarffordd Soar y Mynydd yn un o’r ffyrdd gorau, as nad y gorau i feicio yn y byd, yn fy marn i. Ychydig flynyddoedd yn ôl cawsom y pleser o gael Jean Marie Leblanc, trefnydd y Tour de France ar y pryd, i’n hannerch yng nghinio ein clwb seiclo yn Llanymddyfri. Y diwrnod wedyn, aethom ag e o gwmpas y llyn, mewn car yn anffodus!. Dywedodd nad oedd e erioed wedi gweld y fath heol a byddai unrhyw “Grand Tour” yn falch o fedru cynnwys cymal o’r fath."


Epynt

Robyn Davies: "Dyma daith, tua tair milltir o stepen fy nrws, na sydd wedi cael y sylw mae’n haeddu, efallai am ei bod yn eithaf anghysbell. O bentref Myddfai, tua tair milltir o Lanymddyfri, gellir dilyn heol fynyddig drosodd I Drecastell, lle cewch grib Llyn y Fan ar y dde a Llyn Wysg ar y chwith, ymlaen i Lywel a thros yr Epynt i Dirabad. Unwaith eich bod wedi dringo i’r pwynt uchaf mae’r golygfeydd o Fannau Brycheiniog cystal os nad yn well nag o unman arall. Gellwch weld yr holl ffordd o’r Preseli i’r Gelli Gandryll. Mae manteision mawr eraill, sef, dim traffig a tharmac sydd mor llyfn â phen ôl babi!. Er bod y Weinyddiaeth Amddiffyn yn gyfrifol am ansawdd y ffordd gallaf eich sicrhau nad ydych yn debygol o gael eich saethu! Os byddech yn dymuno profiad llawnach o’r Epynt, mae’n bosibl mynd ymlaen o Dirabad i Langammarch a throsodd i Gapel Uchaf a Chapel Isaf cyn dychwelyd drwy Cradoc (ger Aberhonddu) i Drecastell."


Tymbl

Dyfrig Williams: "Dyma'r mynydd hir cyntaf wnes i ar feic. Weithiau mae'n teimlo fel gwneith e byth gorffen! Mae yna amrywiaeth yn y dringo - ar adegau mae'n serth, ond mae yn hefyd darnau sydd ychydig yn haws, ond byth yn hawdd! Mae'r ffaith ei fod e wedi bod y prif fynydd ar gymal o Tour Prydain Fawr yn dangos pa mor heriol yw e. Mae'n gallu fod yn hynod o wyntog ar y brig, ond bydd 'da chi teimlad o lwyddiant wrth i’r gwynt eich chwipio. Yn ffodus, mae'r ardal ehangach yn hynod o brydferth hefyd. Mae yna sawl siwrne posib - os dy chi’n ffansio siwrne hir, gallwch fynd o Gaerdydd. Neu fel arall, gallwch wneud loop o Gwmbrân, neu mae yna bosibiliadau di-ri o’r Fenni."


Abertawe, Caerfyrddin, Rhydaman

Eluned King: "Ar ddechrau'r ‘Lockdown’ fe wnes i ddewis i gwblhau 100 milltir ar ben fy hunan yn defnyddio rhan fwyaf o loop rydw i’n beicio yn aml, sef o Abertawe i Gaerfyrddin ac wedyn nol i Abertawe drwy Rhydaman. Mae fy Mamgu yn byw yng Nghaerfyrddin ac roeddwn i yn aelod o Towy Riders (sydd wedi sefydlu ar yr hen felodrom ym mharc Caerfyrddin) felly rydw i wedi treulio llawer o amser dros y blynyddoedd yn beicio o gwmpas Sir Gar. Rydw i yn hoffi beicio o gwmpas Brechfa a lan i Lanymddyfri dros yr heol sydd yn rholio, dim gormod o ddringo ond nad yw’n fflat chwaith. Mae gan y loop yma bach o bopeth. Mae’r awr gyntaf yn fflat wrth deithio draw i Ben-bre ar y llwybr beic ond unwaith rydych chi’n pasio mae’r heol yn dechrau mynd i fyny wrth i chi gyrraedd Caerfyrddin. Gyda’r gwynt ar eich cefn gallwch gael cyflymder cyfartalog uchel ar yr heol yma cyn mynd i’r bryniau lle mae’n cwympo yn gyflym! Mae’r heol lan i Frechfa yn galed ac yn dawel ac yn dilyn y llwybr cymerodd y menywod pan daeth ‘The Women’s Tour’ i barc Pen-bre yn 2019. Anodd yw cael unrhyw ‘QOMs’ felly! Ar y ffordd adref rydw i’n pasio trwy Landeilo lle rydw i’n hoffi stopio yn y Co-op yng nghanol y dre i ail lenwi fy mhoteli. Mae’r heol yn weddol fflat nes eich bod chi’n cyrraedd Rhydaman lle mae gennych chi ddau opsiwn, i fynd dros y mynydd Garnswllt, neu i fynd trwy Lanedi. Mae’r heol trwy Garnswllt yn galetach ond weithiau braidd yn brysur."


Dragon Ride Gran Fondo

Ifan Gwilym: "nes i’r Dragon Ride nôl yn 2015, ac er bod hi ddim yn sportive gyda ffyrdd ar gau, hwn odd y digwyddiad gorau fi di neud yng Nghymru. Yn dechrau ym Mharc Margam, rodd y route (gwrth-glocwedd ar y pryd) yn cynnwys dringfeydd megis Bwlch y Clawdd, Rhigos, Devil’s Elbow a Mynydd Du (ma’r route newydd yn mynd gyda’r cloc). Rodd y dwrnod yn cynnig lot o ran y golygfeydd a’r dringfeydd, yn enwedig wrth gymharu gyda’r Velothon odd mond yn cynnig dau ddringfa a chyfnodau hir yn seiclo ar hyd ffyrdd heb olygfeydd."


Bargoed

Ifan Gwilym: "mae lleoliad Caerdydd i’r de o’r cymoedd yn neud hi’n ddinas grêt ar gyfer cyraedd dringfeydd heriol o fewn dim amser. Hwn yw fy hoff daith (75km), sy’n cynnwys dringo Rhiwbeina, Bwlch Carnygelli, a Bedlinog, wedyn Mynydd Caerffili ar y ffordd nôl adre. Yr “uchafbwynt” yw’r ddringfa tua 1km trwy tref Bedlinog sydd bron i 11% ar gyfartaledd, ond i ddilyn mae dros 1km arall yn codi’n fwy graddol ar y tîr comin uwch y dref sydd yn teimlo fel artaith wedi’r dechrau serth trwy’r dre! Y peth gorau am y daith yma yw bod posib addasu i neud hi’n fyrach - gan droi nôl yn Nelson (50km), tref Caerffili (30km) neu Fynydd Caerffili (20km) yn dibynu ar faint o amser sydd gyda chi."


Penrhyn Gwyr

Eluned King: "Gan fy mod i yn byw yng nghanol ail ddinas fwyaf Cymru, gyda’r môr i’r de a’r mynyddoedd i’r gogledd, mae’n gallu bod yn galed i gael cwrs sydd yn fflat ac yn cadw yn agos i adref. Mae’r lap o Benrhyn Gwyr yn berffaith, gyda dwy ddringfa fer a golygfeydd anhygoel. Mae wir yn ardal ardderchog o Gymru i feicio ac rwy’n lwcus bod ar stepen ddrws. Mae ‘Cefn Bryn’ yn enwog oherwydd Maen Ceti (yn draddodiadol) neu Garreg Arthur i'r rhan fwyaf o drigolion Abertawe. Yn ôl y chwedl, tra’n teithio trwy Sir Gaerfyrddin, taflodd Brenin Arthur garreg o’i esgid ar draws Afon Llwchwr ac erbyn i’r garreg cyrraedd copa Cefn Bryn roedd yn glogfaen enfawr! Peth arall arbennig am y lap fer yma yw y gallu i ychwanegu neu dynnu i ffwrdd fel rydych yn dymuno. I’w wneud yn hirach neu i weld golygfeydd arbennig Llangennith, allwch feicio lawr trwy droi i’r dde yn Burry Green. Dim ond ychydig o filltiroedd (dwy neu dair) ychwanegol, ond mae’r olygfa yn anhygoel. I wir brofi eich hunan allwch hefyd feicio lawr i Rhossili. Mae’r heol yn ddiogel ac yn dawel yn y Gaeaf pan mae’r niferoedd o dwristiaid yn isel. Unwaith eto mae’r golygfeydd yn hynod o brydferth."

Mynydd Caerffili

Dyfrig Williams: "Dyma un o'r reidiau roedd i'n gwneud y fwyaf pan roeddwn i'n byw yng Nghaerdydd achos roedd e’n berffaith am reid fer ar ôl gwaith. Mae'r ffordd mas o'r ddinas trwy Barc Bute yn osgoi'r traffig prysur, ac mae'n cynnig cyfle da am glonc gyda ffrind cyn i'r gwaith caled dechrau. Rydych chi ar y Taff Trail nes i chi gyrraedd Tongwynlais, a dyna pryd mae pethau’n dechrau mynd yn fwy serth wrth i chi mynd heibio Castell Coch. Mae prysurdeb y ddinas yn diflannu wrth i chi seiclo o fewn y goedwig. Ar ôl cyrraedd brig y bryn, rhaid disgyn i lawr eto i Gaerffili, cyn esgyn y mynydd hynny. Mae’n teimlo fel eich bod chi’n codi'n unionsyth. Mae'n fryn byr ond mae'n hynod o heriol. Ond o leiaf pan rydych chi’n cyrraedd y brig, rydych chi'n gwybod bod e'n syth nol lawr ochr arall y bryn i'r brifddinas."

 

Braf rhoi detholiad o uchafbwyntiau rhai o seiclwyr Cymru at ei gilydd, rhywbeth wnes i yn y gobaith o ysbrydoli pobl i gynllunio ar gyfer y dyfodol.


Roeddwn i hefyd yn gobeithio ysbrydoli rhai ohonoch i gyfrannu ar gyfer cyfres 2021 o Hoff Bump - rhywbeth byddwn i wrth fy modd yn ei wneud.


Os hoffech chi gyfrannu hoff bump route / dringfa / caffi etc yng Nghymru neu du hwnt, cysylltwch gyda mi drwy e-bost - yddwyolwyn@gmail.com - neu gyrrwch DM ar Twitter (@cycling_dragon) neu Instagram (@yddwyolwyn).

Recent Posts

See All
bottom of page