top of page

Hoff Bump: Tommie Collins

Updated: Jan 13, 2021

Yn ein harwain ni i'w hoff bum lleoliad seiclo yr wythnos hon mae Tommie Collins. Mwynhewch!


1.Farellones 33km 2400m


"Mi es i Chile ym mis Mawrth 2018 ac ar y rhestr bwced oedd dringo’r ddringfa i orsaf sgïo Farellones o’r brif ddinas Santiago. Yn anffodus roeddent wedi cael gaeaf eithaf caled gartref felly doedd fy ffitrwydd ddim yn 100%. Roeddwn wedi trefnu dringfa gyda Jose sy’n rhedeg Chile Cycling.


"Roedd hi’n fore braf iawn a dim gwynt o gwbl, tywydd perffaith, roedd rhewlif i’w weld yn bellter ar y mynyddoedd, roedd y golygfeydd yn syfrdanol! Roedd Jose wedi fy rhybuddio byddan yn stopio ar fachdro 25, “duw pam” meddais i “nai ddweud pe bai fy mod im yn teimlo’n iawn”, ‘na mae problemau ag uchder ar ôl fanna dwedodd’. Felly mi gawsom seibiant bach yn fanna ac wedyn cario’n flaen. Roedd loriau mawr yn mynd heibio ag oglau brecs mawr pan roedden ddod lawr, roedd nifer o feicwyr erial ar y ffordd hefyd.


"Roedd yn galed iawn oherwydd y gwres ar uchder ond roedd y golygfeydd ar y copa yn werth y boen. Roedd y caffi arferol yn ddiwedd a gefais sgwrs fach a beicwyr eraill a digon o ddiod oer i dorri’r syched. Profiad anhygoel ac wrth gwrs di rhoi blas o fynd yn ôl i’r cyfandir - Colombia nesa!'


2. Lwp Aberdyfi – fy hoff 100 milltir

"Pob blwyddyn mi fyddai yn trio gwneud y can milltir gyntaf o’r flwyddyn ddim hwyrach na mis Ebrill, mae rhaid cael y milltiroedd yn y coesau neu’r banc fel saf rwy’n yn ei ddweud. Mae’r can milltir gyda phob dim, mynyddoedd, llynnoedd a’r môr, dringfeydd hir a rhai bach caled

Cychwyn ym Mhorthmadog ac wedyn i Ddolgellau, mae angen droi i lawr am allt uwchben llyn Tal-y-llyn lle mae’r llyn yn edrych yn syfrdanol a Chader Idris ar y dde. Mae rhan eitha’ caled wedyn i Gorris, ond wedyn mae 'na bum milltir o allt lawr i Fachynlleth. Mae

angen troi wedyn am Aberdyfi a Thywyn drwy Bennal. Mae rhan yma o’r daith yn wych, cofleidio ochr lein rheilffordd Cambrian, gweld y môr o'ch blaen a'r mynyddoedd tu ôl i chi, mae dringa fach wedyn o Aberdyfi i Dywyn, ac ar ôl Tywyn mae angen mynd dros y bont newydd i gerddwyr a beicwyr cyn dringo ger y môr i Lwyngwril cyn cyrraedd Llanelltyd.

Mae’r darn olaf yn boenus gyda 75 milltir yn y coesau, yn enwedig yr allt heibio coedwig Coed-y-Brenin, mae dod i lawr allt Minffordd a gweld Y Cob yn deimlad braf iawn.. y tro dwetha i neud y sbin wnes gymryd 5 awr 52 munud."


3. Rhyd

"Allt Rhyd rhwng Llanfrothen a Rhy ydy fy nialedd ( nemesis). Rwy’n ceisio dringo hon yn y gaeaf neu ar ôl y Nadolig i weld sut mae fy ffitrwydd. Mae dros filltir gyda chyfartaledd o 7%, tydi ddim yn un gallwch ei ymosod ( barn fi) , ma’ serth yn dechrau gydag un darn wastad yn ei ganol, maegolygfeydd syfrdanol yn dop yr allt - gyda Chnicht ar Moelwynion ar y chwith a Porthmadog yn ei ogoniant tu ôl i chi, fy record bersonol yw 7 munud 16 eiliad , dwi ar ddiwrnod da cael rhyw 8 munud ac un drwg rhwng 9/10 munud, amser y KOM ydy 5m 27 eiliad. Ha!"


4. Passo dello Stelvio – Stelvio Pass

"Mae 'na enwau dringfeydd yn y byd seiclo sy'n godi ofn ar rywun sef Alpe d’ Huez, Col du Tourmalet, Mortirolo, Mt Ventoux, Zoncolan ,Alto de L'Angliru ac wrth gwrs Passo delle Stelvio - neu yn Almaeneg Stilfser Joch. Mae 2 ochr i ddringo ond yr un traddodiadol yn y Giro d‘ Italia yw’r un sy’n dechrau’n Prato allo Stelvio - ei hyd yw 24.1 km gyda 48 bachdro (hairpin) ar y copa rydach ar 2,757m o uchder gyda chyfartaledd o 8%.


"Rwyf wedi ei ddringo dwywaith. Y tro gyntaf yn 2013 yn y Drie Lander, Sportive yn dechrau’n Awstria a mynd drwy'r Eidal ag Awstria, dwi erioed di dweud wrth seiclists eraill a fi fy hun i ddangos parch i’r ddringfa, roeddwn wedi cyfrifo baswn yn cymryd dros 2 awr, 47 munud wnes gymryd. Mae’n allt greulon, ac mae’n chwarae ach meddyliau, yn enwedig pan rydach yn gadael yr ardal á choed a gweld y copa. Mi wnes fentro eto yn 2018 gydag aelodau o Glwb Seiclo Madog, wnes rybuddio rhai o beth oedd o’m blaenau ac i ddangos parch, oedd rhai di cael sioc o faint o galed oedd o ac yn amlwg yn deud byth eto! Mae siopa cofroddion ar y copa a diod a phallu, ond mae’n oer ar adegau yno, felly dio’m yn lle i aros am hir, ac mae’r disgyniad y nôl i Bormio yn sydyn ac yn wych!"


5. Cowlyd

"Uwchben pentref Trefriw mae tri llyn sef Crafnant, Geirionyn sydd yn eithaf agos i'w gilydd ac y mwyaf Cowlyd. Roeddwn wedi cerdded rownd y ddau lyn bach gyda'r wraig rhyw dair blynedd y nôl ac wedi sylwi ar yr elltydd serth, ond nad oeddwn yn gwybod am y ddringfa i Gowlyd tan flwyddyn ddiwethaf pan wnaeth aelodau o Glwb Seiclo Madog mentro'r ddringfa erchyll.


"Rŵan, mae rhaid egluro pan mae beiciwr yn mentro dringfa yn farn y rhan fwyaf (dwi feddwl) y nod ydyw beidio stopio o gwbl, eto ar allt galed does dim cywilydd yn clipio allan o'r

pedal, mae bob beiciwr, neu ran fwyaf di cael y profiad o hyn dwi siŵr, a does dim cywilydd,

y peth i'w neud ydy mentro eto a deud wrth y tsimpansî yn eich pen i hel hi am adra!


"Mae Bwlch y Groes i’m bell o ddwy filltir o hir ac ar gyfartaledd ddim llai na 14% a'n sicr yn galetach yn y diwedd lle mae'r barrier yn dechrau, hefyd rydach yn gweld y diawl o Lanymawddwy fel neidr lwyd yn estyn i'r awyr. Roedd hogiau’r clwb yn siŵr bod Cowlyd yn

waeth ac roedd yr amseroedd yn rhywbeth tebyg tua 20-25 munud o ddioddef, ac i fod yn

onest oeddwn yn aros am yr amser cywir i roi cynnig i'r allt frwnt.


"Mae Cowlyd ond yn tua dwy filltir a chyfartaledd o 13% ond roedd rhai o’r bachdro dros

30%, ar un adeg oni'n synnu bod y gadwyn ddim di torri! Ar un bachdro mi gododd y beic,

roedd yn hurt o ddringfa, serth a serth a nunlle i orffwys, mi wnaeth y tsimpansî yn fy mhen

deud wrtha i stopio ond y fi oedd yr enillydd ar y diwrnod hwn.


"Ar adegau roeddwn ond yn mynd tua thair milltir yr awr, gyda chyflymdra gyfartaledd o 4.9

MYA, roedd ond wedi codi gyda'r allt yn mynd llai serth yn y rhan olaf, 24m 59 eiliad oedd fy amser, i roi dipyn o bersbectif ar Strava amser y gyntaf ar yr allt sef y Cymro, Dan Evans, ydy 14.22 - 8.4MYA gyfartaledd, sut ar y ddaear ma’ neud hynna, atebion ar gerdyn post plîs.

Felly bydd y ddadl pa un ydy allt galetach Cymru yn parhau, dwi'm yn siŵr pe bai BYG yn

galetach neu'r gwrthwyneb."

Recent Posts

See All
bottom of page