top of page
Writer's pictureGruffudd ab Owain

Mwy o ddringfeydd gorau'r Gogledd

Ers sefydlu Map Seiclo Cymru a chyhoeddi cofnodion blaenorol am ddringfeydd gorau'r genedl, mae mwy o awgrymiadau wedi dod i law a thros y dair wythnos nesaf, bydd tair cofnod yn mynd drwy rai ohonynt - un i'r Gogledd, un i'r Canolbarth ac un i'r De.


Dyma ddetholiad arall o ddringfeydd gorau'r Gogledd.

 

Dyma ddringfa sydd ar ddechrau’r hen ffordd Rufeinig rhwng Caerhun a Chaernarfon a’r copa’n cael ei nodi gyda dau faen, credwch neu beidio. Digon o her gyda graddiant o dros 7% am dros 5km, sydd ychydig yn dwyllodrus gyda chyfran ’gwyrdd’ yn y canol, gyda rhan helaeth o’r ddringfa’n agosach at yr uchafswm sef 14.2%.

 

Gan ddechrau ger Dolgarrog, dyma ddringfa heriol gyda nifer o gydranau serth tu hwnt oddeutu 30%, ac yn yr hanner cyntaf yn neu dros 10% yn gyson. Er ei fod fymryn yn haws, mae’r graddiant cyfartalog yn parhau i fod yn 10% am y 3.5km.

 

Dringo’n serth o Drefriw ar gyfartaledd o 11% gyda dringfa, fwy na heb, o ddwy hanner. Yr hanner cyntaf ychydig yn fwy maddeugar gyda’r graddiant yn y melyn tua 6%, cyn mynd yn hynod serth yn agosach at 20% cyn mynd yn fwy gwastad i’r copa.

 

Dringfa allan o Lanrwst i fyny Ffordd Nebo i bentref Nebo gyda graddiant cyfartalog o 5% a hynny’n gyson drwyddi draw. Mae’n 5.5km o hyd a’n ddringfa bleserus yn ol Simon Warren, awdur y llyfr ‘Cycling Climbs of Wales’.

 

Dringfa boenus o brofiad personol gyda'r graddiant yn anfaddeugar o serth cyn

 

Un o'r dringfeydd hiraf sydd ar fap seiclo Cymru gan ddringo o Ddinbych i lyn Brenig yn gyson o ran ei graddiant ar y cyfan ond mae'r cyfran coch serth lle ceir yr uchafswm graddiant o 16.5% sy'n sicr o fod yn heriol.

 

Mae f'atgofion personol i o'r ddringfa hon ychydig yn niwlog gan ei bod hi'n bwrw fel o grwc yr holl ffordd i fyny! Her gyson ydyw gydag ambell i gyfran anoddach a cheir golygfeydd o AHNE Dyffryn Clwyd o'r copa.

 

Un o'r dringfeydd hiraf sydd ar fap seiclo Cymru gan ddringo o Ddinbych i lyn Brenig yn gyson o ran ei graddiant ar y cyfan ond mae'r cyfran coch serth lle ceir yr uchafswm gi bob math o deithwyr.

Dringfa lle mae'r ddwy ochr cyn waethed a'u gilydd o ran yr her, ond o brofiad byddwn i'n dweud fod y ddringfa o Aberangell yn anoddach gyda mwy nag un arwydd 20% yn eich rhybuddio o'r artaith sydd i ddod. Mae'r golygfeydd yn werthfawr ac yn wobr am eich gwaith caled.

Recent Posts

See All

Comments


bottom of page