top of page

O dde Ffrainc


Wel helo 'na ers tro!


Ro'n i'n meddwl y byddai'n well i mi lenwi rhywfaint ar y tawelwch llethol sydd wedi bod ar Y Ddwy Olwyn ers rhyw ychydig, gan yn gyntaf ymddiheuro am beth fu siwr o fod y cyfnod hiraf ers cychwyn y blog lle na bu unrhyw gynnwys o gwbl!


Y rheswm syml am hynny ydy 'mod i bellach yn byw yn Menton yn ne Ffrainc, ar lan y môr rhwng Nice a'r Eidal, yn astudio fel myfyriwr blwyddyn gyntaf. Coleg y Brifysgol yn Llundain sy'n gyfrifol am y radd (European Social and Political Studies pe bai gennych ddiddoreb) ac maen nhw'n ein gyrru ni i un o gampwsus (un o gampi?) SciencesPo.


Apêl y radd i mi, o safbwynt academaidd (!), oedd ehangder ac amrywiaeth y cyrsiau; hynny yw, dwi'n astudio'r gyfraith mewn cyd-destun gwleidyddol, hanes Ewrop yn y 19eg ganrif, cymdeithaseg a hunaniaeth/crefydd yn y Dwyrain Canol ar hyn o bryd, yn ogystal â Ffrangeg a Sbaeneg a Mathemateg.


Wrth reswm - a do'n i heb cweit ragweld hyn am ryw reswm - mae hynny'n golygu lot o waith, yn enwedig pan fo'r system addysg yma yn rhoi pwyslais mawr ar asesu parhaol er gwell neu er gwaeth.


Ar ben hynny, am resymau Brexit-aidd, mi fum i bythefnos yn hwyr yn cyrraedd felly roedd 'na beth gwaith dal fyny i'w wneud hefyd.


Felly rhwng hynny i gyd a chydbwyso byw ar 'mhen fy hun am y tro cyntaf a phopeth arall sy'n dod gydag wythnosau cyntaf bywyd myfyriwr, dydy'r blog heb fod yn agos at frig y rhestr tŵ dŵ.


Ta waeth am hynny, dwi yma'n eistedd ar fy soffa hefo 'ngliniadur ar fy nglin, macaroni cheese yn ailgynhesu yn y meicro, a minnau newydd fod ar y beic i fyny'r Col de la Madone.


Dwi wedi llwyddo i wneud amser i fynd ar y beic o bryd i'w gilydd, ac yn fwy diweddar wedi'i ffeindio fo'n ffordd gyfleus iawn o fynd i siopa bwyd ac ati.


Dwi hefyd ers bod yma wedi ysgrifennu ambell waith i gylchgrawn Chwys - mae'n costio £1 y mis i danysgrifo i gael cynnwys gwreiddiol iawn am chwaraeon yng Nghymru. Mae gen i erthygl ar seiclo yng Nghymru yn hwnnw ar ddydd Gwener cyntaf pob mis, os oes gennych chi ddiddordeb. (Mae'r cytundeb yn fwy tynn na chytundeb Y Ddwy Olwyn!)


Mae'n gyffrous cael chwarae rhan fechan iawn mewn gwasanaeth allai dyfu'n gaffaeliad i'r byd cyfryngau Cymraeg/Cymreig. Tanysgrifwch drwy fynd i chwys.360.cymru.


Dwi hefyd yn y cefndir yn gweithio ar brosiect seiclo cyffrous dros ben yr ydw i'n ei gadw'n dawel am y tro. Ond os ydych chi'n fy nilyn i ar Strava efallai fod 'na ambell gliw.


Ac mae'n ddyddiau cynnar, ond mae 'na brosiect arall gen i ar y gweill yn ymwneud â seiclo yng Nghymru sydd wirioneddol yn fy nghyffroi i am ei fod o'n gyfle i droi gweithgarwch Y Ddwy Olwyn yn rhywbeth sy'n cael effaith y tu hwnt i'r byd seiclo yng Nghymru. Gawn ni weld be' ddaw efo hwnnw.


Felly dyna ryw ddiweddariad bach i chi! Ciplun o lle dwi arni ar hyn o bryd, a chadarnhad mod i dal mor ymroddedig ag erioed i chwarae rhan yn y byd seiclo yng Nghymru.


Gobeithio fod pawb ohonoch chithau'n cadw'n iawn hefyd, a hwyl am y tro.

Recent Posts

See All
bottom of page