top of page

Popeth sydd i'w wybod am reids Zwift Y Ddwy Olwyn

Beth?

Union flwyddyn yn ôl, roedd hi’n sefyllfa ddigon wahanol i’r un sydd gennym ni eleni. Wedi hanner tymor o waith, roeddwn i’n mynd i gael wythnos ychwanegol o wyliau cyfyngiedig fel rhan o glo dros dro’r Llywodraeth.


Bryd hynny, roedd nifer o sefydliadau o fewn y byd seiclo yn cynnal sesiynau cymdeithasol ar y meddalwedd seiclo rhithiol, Zwift; dyfodd yn hynod boblogaidd dros y clo mawr. Mi neidiais i ar y wagon, a chychwyn rhai fy hun - gan gynnal yn wythnosol dros y Gaeaf bob nos Fercher.


Roedden nhw’n llwyddiant ysgubol - yn fy llygaid i beth bynnag - ac yn llawer iawn mwy poblogaidd na’r disgwyl. Rai wythnosau, roedd dros i ddeg ar hugain o seiclwyr Cymraeg eu hiaith yn ymuno. Cafwyd sgyrsiau difyr am bob pwnc dan haul, a chyfle i gysylltu â seiclwyr o’r newydd mewn cyfnod lle’r oedd seiclo cymdeithasol yn y cnawd yn amhosib. Mi barodd y rhain drwy glo dechrau’r flwyddyn hefyd, hyd nes oedd nifer o gyfyngiadau wedi eu llacio a bod modd ailgydio yn elfennau cymdeithasol y gamp eto.


Felly, yn syml, reid gymdeithasol rithiol i Gymru gyfan (a thu hwnt o bryd i’w gilydd) yn wythnosol.


Pwy?

Bydd y sgwrsio a’r cyfathrebu i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg, ond wrth gwrs mae modd i unrhyw un di-Gymraeg ymuno hefyd. Fel crybwyllwyd eisoes, fe’u cynhelir ar Zwift - felly bydd angen cyfrif ar y meddalwedd hwn, a gyda hynny, tyrbo sy’n gallu cysylltu ag o. Mae nifer o dudalennau gwe i’ch cynghori ar sut i ymuno a sut i gysylltu’r hyn sydd ganddoch chi.


Un sylw gafwyd llynnedd oedd mantais cael tyrbo ‘clyfar’ (smart trainer) - sy’n newid y gwrthiant y gwnewch chi’i deimlo gyda’r graddiant yn y meddalwedd. Dydy hyn ddim yn angenrheidiol o bell ffordd - yn wir, bydd y rhan fwyaf o’r routes dwi’n eu dewis yn rhai gwastad - ond byddai’n sicr yn cyfoethogi’r profiad ar y ddau series finale fyny’r mynyddoedd.


Sut i ymuno?

Unwaith mae gennych chi’r tyrbo a Zwift, ‘dech chi bron yn barod i ymuno. Yr unig beth ar ôl yw lawrlwytho ap Zwift Companion i’ch ffôn neu dabled, mynd i ‘Find Zwifters’ a chwilio am ‘Gruffudd (Y Ddwy Olwyn)’. Yna, dilynwch y cyfri hwnnw drwy glicio ar y botwm oren gyda pherson ac arwydd +, ac mi alla i wedyn yrru gwahoddiad i chi. Dyna’r unig ffordd y galla i eich ychwanegu i system ‘Meetup’ y meddalwedd. Oddi fewn i’r system hwnnw, mae pawb yn aros gyda’i gilydd - neb yn gallu mynd oddi ar y blaen na’r cefn (fe’i elwir yn effaith y band elastig) - a dim ond y bobl yn y ‘meetup’ y byddwch chi’n gallu ei weld ar eich sgrin.


Mi ddylai unrhyw un ymunodd llynedd fod wedi derbyn gwahoddiad eisoes, felly gwiriwch ar yr ap.


Pryd a lle?

Ar hyn o bryd, bydd y sesiynau bob nos Fercher rhwng 6.30 a 7.30 (*yn wahanol i 6-7 llynedd) o’r 27ain o Hydref (dydd Mercher yma) tan y 2il o Fawrth, ac eithrio’r 29ain o fis Rhagfyr (saib Nadolig). Mi all hyn newid yn ddibynnol ar farn y rhai sy’n mynychu, ac mae’n debygol y bydd rhywfaint o newid ddiwedd mis Tachwedd am amrywiol resymau.


Dyma’r amserlen manylach:

Felly, mawr obeithiaf y gwna i’ch gweld chi un ai nos Fercher yma, neu rywben cyn mis Mawrth. Mi wnaeth nifer fwynhau llynedd - ond mae llwyddiant y sesiynau yn llwyr ddibynnol ar y nifer sy’n dod a faint o gyfathrebu sydd.


Ac os y gwnewch chi fwynhau, mae ‘na sesiwn wych (â mymryn mwy o strwythur gan hyfforddwyr cymwys) ar fore Sadwrn am 8 gyda David a Nia o bodlediad Nawr yw’r Awr. Mae’r rhain wedi dechrau ers ddoe, a dwi’n edrych ymlaen at allu ymuno mewn pythefnos. Cysylltwch â hwy ar Twitter neu Facebook, neu efo fi ac mi alla i’ch cyfeirio chi atyn nhw.


Recent Posts

See All
bottom of page