top of page

Rhagolwg: Giro d'Italia 2022

Updated: May 6, 2022

Pam fod y Giro’n apelio gymaint? Faint o’r apêl sy’n ymwneud â’i leoliad ar y calendr fel Grand Tour cynta’r flwyddyn? Y cyfle cyntaf i weld rhai o reidwyr gorau’r byd yn herio’i gilydd ar y llwyfan mwyaf?


Dwi’n credu bod llawer mwy i fawredd y Giro na hynny. Fel mae hunaniaeth yr Eidal mor gref ac mor amlwg i ni gyd yn ystod y Giro, mae gan y Giro ei hunaniaeth unigryw ynddo’i hun. Y cyfuniad o angerdd, treftadaeth, diwylliant ac iaith heb sôn wrth gwrs am y cynhwysyn pwysicaf un o ran y ras ei hun - y tirwedd. Bron fod y Giro fel opera; crescendi a sforzandi lu i edrych ymlaen atynt dwi’n siwr.


Mae llwybr dair wythnos y Giro yn arwain y peloton at Milan a’r wobr fawr i un seren ar ei diwedd.


Eisteddwch ‘nôl a mwynhewch fy rhagolwg o’r ras orau ar y calendr.


Cynnwys:


Ffeithluniau defnyddiol

Cywiriad: un 'n' sydd i fod yn enillydd


Y Cwrs

Am y tro cyntaf ers 2018, bydd y Giro yn dechrau y tu hwnt i’r Eidal. Mae’n rhywbeth mae’r trefnwyr yn hoffi ei wneud yn eithaf aml; dechrau ar ddydd Gwener, cymryd tridiau y tu hwnt i ffiniau’r wlad, diwrnod gorffwys ar y dydd Llun a dechrau ‘go iawn’ ar y dydd Mawrth. Eleni, mae’r ras yn dechrau yn Hẁngari ac yn lleoli’i hun yn y brifddinas Bwdapèst. Mae’r cymal cyntaf bron yn gwbl wastad tan y 6km olaf, pan fydd yr heol yn codi rhyw fymryn tan y llinell derfyn yn y castell yn Visegrad. Gyda graddiant ar y mwyaf yn 8%, bydd dim gormod o gyffro yng nghyd-destun y dosbarthiad cyffredinol, ond bydd cyfle i un o’r puncheurs gael gafael ar y maglia rosa cyntaf. Ras yn erbyn y cloc unigol o 9.2km, sy’n ddigon technegol, fydd yn dilyn ar ddiwrnod dau, gan aros yn y brifddinas, gyda’r prawf yn gorffen ar ddringfa gategori 4. Diwrnod cynta’r gwibwyr fydd yn dod â’r tridiau yn Hẁngari i ben, a thamaid i aros pryd cyn y diwrnod gorffwys cyntaf a gweddill y cyffro.


Dydy trefnwyr y Giro byth yn oedi cyn lluchio cyffro i ganol yr wythnos gyntaf. Mae cymal 4 yn mynd â ni o dref ddiwylliannol Avola i gopa Etna a’i dringfa 23km ar raddiant cyfartalog o 6%, gyda’r uchafswm graddiant 14% yn dod tua hanner ffordd i fyny. Y cyfle cyntaf am dân gwyllt gwirioneddol ymysg y ffefrynnau am y pinc. Mi ddylai cymal 5 a 6 ddiweddu mewn gwibiau clwstwr wrth i ni ymlwybro tua’r gogledd ar hyd arfordir Sicilia a Calabria, cyn cymal ‘mynyddig canolig’ ym mharciau cenedlaethol rhanbarth Basicilata. Diwrnod y bydd y gwibwyr yn ei uwcholeuo yw cymal 8 yn Napoli er nad yw’n gwbl wastad, cyn bydd yr wythnos gyntaf yn dod i ben ag uchafbwynt gyda diweddglo copa i’r Blockhaus. Mae hon yn un o ddringfeydd anoddaf yr Eidal, heb son am yr Apeninos, sydd â graddiannau anghyson ar hyd ei 14km. Mae’r cyfartaledd o 8.5% yn sicr o frathu, ond mae rhannau eithaf hir yn llawer uwch na hynny. Daw tardd yr enw o wreiddiau ieithyddol Awstro-Hwngaraidd, a bu i Eddy Merckx gipio’i fuddugoliaeth gymal gyntaf yn y Giro yma ym 1967. Gallwn ddisgwyl cystadlu brwd a thanllyd yn y ras am y pinc i gloi’r wythnos gyntaf.


Wedi’r ail ddiwrnod gorffwys ar y 16eg o Fai, bydd dechrau gweddol hamddenol i’r ail wythnos; er nad yw cymal 10 yn ffafrio’r gwibwyr pur yn llwyr, mae cymal 11 - cymal y ‘Parmigiano Reggiano’ yn Emilia Romagna - fel crempogyn ac wedi’i ddylunio ar eu cyfer. Daw triawd o gymalau bryniog sy’n cynyddu’n raddol yn eu her wedi hynny; ar gymal 12 rhwng Parma a Genoa, ar gymal 13 rhwng Sanremo a Cuneo, ac ar gymal 14 tua Torino. Wrth gyrraedd y gogledd orllewin, mae cymal 15 yn cynnig rhagflas o’r hyn sydd i ddod yn yr Alpau gyda thriawd o ddringfeydd categori 1 a 2, gyda diweddglo copa i gloi’r ail wythnos.


Unwaith eto eleni, yn ôl y fformiwla arferol, mae’r drydedd wythnos wedi’i lleoli yn yr Alpau. Ceir trindod o ddringfeydd categori 1 ar cymal 16; yr anfarwol Passo del Mortirolo yn eu plith, ond y ddringfa i Valco di Santa Cristina sydd â’i chopa ryw 6km o’r diwedd sy’n fwy tebygol o wneud gwahaniaeth. Diwrnod arall yn y mynyddoedd gyda dwy ddringfa gategori 1 ar ei ddiwedd yw cymal 17, cyn cyfle am anadl a chyfle i’r gwibwyr yn Treviso ar gymal 18. Mae’r cymalau mynyddig yn parhau ar gymal 19 wrth i’r ras groesi i Slofenia am blwc gyda dringfa hynod galed y Kolovrat, sy’n esgyn fel grisiau ar raddiant o hyd at 15%, cyn dychwelyd i’r Eidal ar gyfer diweddglo copa heriol i Santuario di Castelmonte. Yna bydd y crescendo’n cyrraedd y sforzando ar y cymal mynyddig olaf ar gymal 20, lle bydd unrhyw ddringwyr pur yn ysu am gael gwneud y mwyaf o’u cyfle olaf i wneud eu marc. Triawd o hen ffefrynnau’r Giro; y Passo San Pellegrino; dringfa ucha’r ras (y Cima Coppi) sef y Passo Pordoi; cyn diweddglo copa ar y Passo Fedaia. Mae hanner olaf y Passo Fedaia yn uffern llwyr gyda graddiant cyfartalog o dros 11% am dros 5km, a’r uchafswm yn 18%. Gadewch i ni gyd obeithio y bydd y ras yn dal i fod yn y fantol ar y pwynt yma, achos mae’r route yn un all newid popeth. Nid prosesiwn mo’r diwrnod olaf un chwaith, gan fod ras yn erbyn y cloc i ddelio â hi yn Verona. Dydy hi ddim yn un sy’n llwyr ffafrio arbenigwyr y maes gan fod dringfa gategori 4 yn gwyro tuag at ffafrio’r dringwyr, ac mae hefyd yn ddigon hir yn 17.4km i weld bylchau ymysg y ffefrynnau. Bydd y Giro eleni yn frwydr tan y cilomedr olaf un.

Mae’n rhaid i mi gyfaddef, dydy’r cwrs yma ddim yn fy llenwi â chyffro; dydw i ddim yn teimlo bod y trefnwyr wedi bod yn anturus fel yr oedden nhw llynedd lle cyflwynasant ddringfeydd newydd yn ogystal â sectorau graean. Mae’n sicr yn dilyn fformiwla; tridiau o dwristiaeth i fodloni’r cyfrif banc, Etna a Blockhaus yn yr wythnos gyntaf, dringfeydd mawr yr Alpau yn y drydedd wythnos, a chymalau bryniog neu fynyddig i bontio tuag atyn nhw yn yr ail wythnos. OND does dim byd o gwbl yn bod â’r ffaith fod hwn yn Giro traddodiadol; y ‘fformiwla’ yma sy’n llwyddo i gymysgu diwylliant a chwaraeon yw’r rheswm mai dyma un o’r digwyddiadau chwaraeon gorau yn y byd.


A beth bynnag, y reidwyr sy’n gwneud y ras, ac nid y cwrs. Nhw sy’n gosod y telerau. Gadewch i ni gymryd golwg dros y rhai sy’n debygol o wneud eu marc eleni.


Y gwibwyr

Yn fwy nag arfer efallai eleni, mae ‘na wledd yn ein disgwyl o safbwynt y gwibiau clwstwr. Mae’r rhestr ddechrau yn llawn o wibwyr o’r radd flaenaf, a digon o rai all greu argraff mawr ar y llwyfan mwyaf am y tro cyntaf. Wedi dweud hynny, nid yw’r cyfleon sydd ganddynt i serennu yn niferus ofnadwy, gydag ond llond llaw o ddyddiau y byddent wedi eu huwcholeuo’n bendant.


Mae’n rhaid dechrau gyda’r ‘tri mawr’. Caleb Ewan, Arnaud Démare a Mathieu van der Poel. Ar ei ddydd, does neb yn well am nadreddu drwy fannau cyfyng i gyrraedd blaen y peloton nag Ewan, ac mae Démare yn hen law ar maglia ciclamino y Giro, tra bo van der Poel yn hyblyg ar y gwibiau pur yn ogystal ag ar y cymalau mwy bryniog. Ewan sydd wedi cael y dechrau gorau i’r tymor gyda phum buddugoliaeth i’w enw, tra bo van der Poel wedi llwyddo i gasglu dwy wedi dychwelyd o anaf, ond mae Démare yn dal i aros i agor ei gyfrif am eleni.


Yn gyn-enillydd y maglia ciclamino, mae Fernando Gaviria yn un arall i gadw llygad barcud arno. Dydy o dal heb lwyddo i gyrraedd yr un lefel ag y gwnaeth efo Quickstep, ond eto mae wedi llwyddo i gasglu ambell fuddugoliaeth hyd yma eleni. Sôn am Quickstep, mi fydden nhw dan arweiniad Mark Cavendish yn y gwibiau clwstwr, ac yntau’n ceisio adeiladu ar berfformiad cofiadwy’n y Tour, tra bo Davide Ballerini hefyd yn cynnig peth hyblygrwydd iddynt ar gyfer cymalau bryniog.


Mae Giacomo Nizzolo a Magnus Cort yn ddau sydd wedi serennu’n enwedig ar ôl y clo mawr, ac ill dau yn wibwyr hyblyg o’r radd flaenaf. Mae Biniam Girmay wedi cael dechrau llewyrchus i’r tymor gydag uchafbwynt o fuddugoliaeth yn Gent-Wevelgem, a’r Eritread ifanc yn barod i greu argraff yn ei Grand Tour cyntaf wedi iddo arwyddo cytundeb newydd i bara hyd 2026. O ran yr enwau eraill, cadwch olwg ar Edward Theuns, Cees Bol a Phil Bauhaus.


Y ffefrynnau


***


Richard Carapaz (Ineos): Yn dîm sydd wedi serennu mewn Grand Tours ers degawd a mwy, Ineos sy’n cyrraedd yr Eidal fel deiliad tlws y Giro. Richard Carapaz yw’r etholedig un i’w harwain eleni, ac yntau’n gyn-enillydd o 2019. Mae wedi adeiladu’n raddol ym misoedd agoriadol y flwyddyn, er bod dos o Covid wedi tarfu ar ei baratoadau, gyda’r uchafbwynt yn dod gydag 2il yn Volta a Catalunya. Mi all cael tîm cryf brofi i fod yn bwysig iawn yn y Giro eleni, ac mae ’na garfan gref i’w gefnogi - Richie Porte, Pavel Sivakov, Jonathan Castroviejo i enwi ond tri super-domestique. Popeth yn pwyntio i’r cyfeiriad cywir o safbwynt yr Ecwadoriad.


Miguel Angel López (Astana): Bydd dilynwyr y gyfres Netflix El Día Menos Pensado yn ymwybodol iawn o’r modd y gwnaeth Lopez ffraeo go iawn efo Movistar, gan ddychwelyd i Astana wedi dim ond blwyddyn. Mae wedi gorffen ar y podiwm yn y Giro a’r Vuelta yn y gorffennol ac wedi dangos gallu yn rasys yr Alpau ac Andalucía hyd yma eleni; ac yntau’n 28 oed, mae’r Colombiad yn prysur ddynesu at yr oed pan y bydd y rhan fwyaf yn cyrraedd brig eu gallu. Mae’n meddu ar dîm gweddol gryf i’w gefnogi’n y Giro, ond gwyddwn y bydd López yn gwneud gwahaniaeth ar ei liwt ei hun yn y mynyddoedd mawr, a byddwn i’n dweud fod y cwrs eleni’n ei siwtio i’r dim.


Simon Yates (BikeExchange): Cyn-enillydd Grand Tour arall, 3ydd yma’r llynedd, ac 2il yn Paris-Nice ryw fis a hanner yn ôl, dyma reidiwr sy’n brofiadol ac yn dal i lwyddo. Mae yntau hefyd yn oed tebyg i Carapaz a López, ac felly mi ddylen ni gael ein diddanu gan frwydr rhwng tri reidiwr ar frig eu gallu. Mae’n profi’i hun ar hyn o bryd ar gyfer y Giro yn y Vuelta a Asturias, ac wedi ennill y cymal cyntaf. Ac yntau wedi dweud na fydd o’n gwneud y Giro am sbel ar ôl eleni, mi fydd o’n sicr o geisio creu argraff fawr yn y ras.


**


Pavel Sivakov a Richie Porte (Ineos): Mae’n teimlo fel ’mod i wedi bod yn gobeithio y gwnaiff Pavel Sivakov, sydd bellach yn reidio dan faner Ffrainc yn lle un Rwsia, serennu mewn Grand Tour ers hydoedd, ond dim ond 24 oed ydi o. Er mai Carapaz yw arweinydd Ineos, mae wedi cael dechrau addawol i’r tymor gyda deg uchaf ar ambell i ddosbarthiad cyffredinol. Ac er fod dyddiau arwain yr Awstraliad Richie Porte fwy na thebyg ar ben, mae wedi dangos fod ei ddawn dringo’n dal i fod ganddo eleni. Felly pwy a ŵyr?


Vincenzo Nibali (Astana): Dydy dechrau 2022 heb fod yn rhwydd i’r siarc o Messina o bell ffordd, ac yntau wedi cael dosys o Covid a tonsilitis. Roedd ei gyflwr yn ddiarwybod cyn y Giro di Sicilia, ond llwyddodd i orffen yn 4ydd felly mae’n amlwg ar y trywydd cywir. Chwarae ail feiolin* i López fydd o fwy na thebyg, ond mi all hynny olygu tactegau effeithiol i Astana.


Dwi’n ymwybodol iawn mod i’n euog o gyfieithu dihareb Saesneg yma - oes gan unrhyw un gynnig o ddihareb Gymraeg gyfystyr? Cysylltwch efo fi (yddwyolwyn@gmail.com) - diolch!


João Almeida (UAE): Bu Giro 2020 yn rhyfedd ofnadwy, gydag enwau newydd yn serennu i bob cyfeiriad. Un ohonynt oedd Almeida, bryd hynny’n dal y maglia rosa am nifer o ddyddiau yn nhîm Quickstep. Gorffennodd yn 4ydd bryd hynny, ac yn 6ed llynedd, felly mae’n gobeithio mai tri chynnig i Gymro - neu Bortiwgëad - fydd hi’r tro hwn. Mae wedi cael dechrau da i’r tymor - 5ed yn UAE, 8fed yn Paris-Nice a 3ydd yng Nghatalwnia - ond a fydd camgymeriadau tactegol, fel ddigwyddodd yng Nghatalwnia, yn dod i’w frathu?


Mikel Landa, Wout Poels a Pello Bilbao (Bahrain): Tîm â dau neu dri arweinydd yw Bahrain-Victorious yn y Giro eleni. Mae Mikel Landa yn brofiadol iawn erbyn hyn, yn ffefryn ymysg nifer, ac wedi dangos cyflwr gweddol hyd yma eleni gyda 3ydd yn Tirreno Adriatico. Yn 5ed yn y Giro yn 2020, bu rhaid i Pello Bilbao chwarae ail feiolin i Damiano Caruso llynedd, ond mae wedi dangos ei allu eleni ac wedi cael llawer iawn o rasio o dan ei wregys. O ran Poels, mae fel pe bai wedi cael ail wynt ar ôl gadael Sky, ond mae’n debyg mai cefnogi’r ddau arall fydd ei swydd yn ystod y ras eleni.


Guillaume Martin (Cofidis): Bydd yr athronydd yn cymryd rhan yn y Giro am y tro cyntaf eleni, a byddwn i’n dweud fod y ras yn gweddu ei rinweddau’n well na’r ddau Grand Tour arall. Dyma fydd ei drydydd Grand Tour o’r bron, a llwyddodd i gael deg uchaf yn y Tour a’r Vuelta felly mae pethau’n argoeli’n dda. Ond ai chwarae’n saff a cheidwadol neu fentro mewn dihangiadau fydd y strategaeth?


Hugh Carthy (EF): Mae Carthy wedi tyfu’n enw mawr yn y blynyddoedd diwethaf gyda 3ydd yn y Vuelta yn 2020 ac 8fed yn y Giro llynnedd. Dydy o heb lwyddo i danio eto eleni, gyda 9fed yn yr Alpau yn uchafbwynt. Diddorol fydd gweld os y bydd o’n gallu cyrraedd ei safon yn y Giro eleni sydd â digon o raddiannau hurt o serth i apelio ato, yn enwedig tua’r diwedd. Cafodd y cymal yr oedd o wedi’i dargedu ei newid llynedd oherwydd tywydd garw, felly mi fydd o’n gobeithio y bydd lwc o’i blaid y tro hwn.


Tom Dumoulin a Tobias Foss (Jumbo): Un o’r rhai y dylech chi’n bendant gadw golwg arno yw Dumoulin. Wedi iddo gymryd seibiant o bwysau enbyd y byd seiclo, mae wedi dychwelyd ac yn barod i danio’n y Grand Tours am y tro cyntaf ers sbel. Mae’n un arall o’r cyn-enillwyr ar y llinell gychwyn, ond dybiwn i efallai fod y crys pinc yn gogwyddo oddi wrtho yn absenoldeb cilometrau o rasio yn erbyn y cloc pur. O ran Foss, targed y Norwyad eleni yw mynd ‘ffwl gas’ yn y Giro efo Dumoulin, ac mi fydd o’n ceisio adeiladu ar 9fed gafodd llynedd. Yn gyn-enillydd y Tour de l’Avenir - ras fwyaf ei bri i’r ieuenctid - mae ganddo dalent aruthrol, a mawr obeithio y gwelwn i o’n blodeuo’r tro hwn.


Ivan Sosa (Movistar): Un arall sydd heb ddangos addewid mawr mewn Grand Tours eto ond sydd wedi gwneud hynny mewn rasys wythnos ers ambell flwyddyn. Ambell fuddugoliaeth dan ei wregys eleni hyd yn hyn, gan gynnwys yn y Vuelta a Asturias heddiw, a golygwedd ffres gyda lifrai newydd Movistar ar ei ysgwyddau. Ai dyma’i gyfle mawr i dorri drwodd?


Romain Bardet (DSM): Bydd enillydd Taith yr Alpau yn gobeithio parhau i droi’r cloc yn ôl i flynyddoedd gorau ei yrfa ryw chwe mlynedd yn ôl pan fydd y Giro’n cychwyn ddydd Gwener. Yn un sydd ar ei orau’n y mynyddoedd, ac mae digonedd ohonyn nhw i’w cael eleni, gorffennodd yn 7fed yma llynedd. Mae’i allu yn y bryniau - dangosodd yn Strade Bianche rai blynyddoedd yn ôl - yn sicr o fod yn bwysig iddo hefyd. Ond dydy DSM ddim yn enwog am harmoni o fewn y tim, ac a fydd hynny’n ddigon i’w dynnu oddi ar drywydd buddugoliaeth?


Giulio Ciccone a Bauke Mollema (Trek): Dau reidiwr sydd yn eithaf gwahanol yn eu harddulliau ond eto’r un mor alluog yn y Grand Tours, ac felly mi allen nhw weithio’n dda efo’i gilydd. Mae Ciccone wedi dangos ambell fflach o’i allu eleni ond heb ddangos gormod o’i gardiau, tra bo Mollema efallai wedi pasio’i flynyddoedd gorau. Bydd hi’n ddiddorol gweld os y bydd Ciccone’n mynd am y DC fel y gwnaeth llynedd - roedd o’n agos i’r brig tan gorfod gadael y ras yn y drydedd wythnos - neu fynd am fuddugoliaethau cymalau.


Wilco Kelderman, Emanuel Buchmann a Jai Hindley (Bora): Bydd strategaeth Bora yn ddifyr eleni, o ystyried fod ganddyn nhw’r tri yma sydd â phrofiad a chalibr arwain yn ogystal â reidwyr i dargedu cymalau. Roedd Buchmann yn dringo’r DC yn raddol yn ail wythnos y Giro llynedd, cyn tynnu allan wedi damwain pan oedd o’n y 6ed safle. Siomedig braidd oedd ei dymor yn 2021, a dydy o heb ddangos fflachiadau hyd yma eleni chwaith, ond dybiwn i y bydd ei brofiad yn ddigon i wneud ymgais lew ar y pump uchaf. O ran Hindley, mi lwyddodd o i orffen yn 2il tu ôl i Tao Geoghegan Hart yn y rhediad gwallgof yn 2020, ond heb gyrraedd yr un uchelfannau ers hynny. Er, cafodd 5ed yn Tirreno, felly mae’n argoeli’n weddol iddo ar drothwy’r Giro. Yn 3ydd yma yn 2020 ac yn 5ed yn y Tour llynedd, mae Wilco Kelderman yn reidiwr eithaf cyson ac yntau wedi cyrraedd y deg uchaf mewn Grand Tour bum gwaith yn yr wyth mlynedd ddiwethaf. Cryn benbleth i benaethiaid Bora ar drothwy’r Giro felly, a hwythau angen bodloni gofynion y tri gŵr yma ac eraill yn eu hymgyrch am y maglia rosa.


*


Felix Gall (AG2R): Yn enw digon anghyfarwydd, mae’r Awstriad o dîm AG2R wedi dangos fflachiadau o’i allu hyd yma eleni; 6ed yn nhaith yr Alpau a 3ydd yn nosbarthiad ieuenctid Itzulia. A fydd AG2R yn barod i gefnogi ymgyrch am y pinc, neu ai cymalau fydd targed Gall? Un i gadw llygad arno.


Thymen Arensman (DSM): Reidiwr ifanc sydd wedi colli allan ar rasys dan 23 oherwydd Covid ond sydd wedi ffrwydro ar y sîn broffesiynol. Yn 2020, cafodd 3ydd a 6ed ar gymalau o’r Vuelta, ac mae wedi gorffen yn 3ydd yn nhaith yr Alpau a 6ed yn Tirreno yn yr wythnosau diwethaf. Reidiwr cryf ac ymosodol; ail feiolin i Bardet neu ryddid i fynd ei hun?


Attila Valter (Groupama FDJ): Ar ôl gorffen yn y 5 uchaf o’r dihangiad ar cymal 4 a 5 yn y Giro llynnedd, llwyddodd Valter i hawlio’r maglia rosa am dridiau. Wedi hynny, mae wedi parhau i ddangos calibr uchel, gyda 4ydd yn Strade Bianche a 5ed yn nhaith yr Alpau hyd yma eleni. A fydd cymalau cartref i gychwyn y ras yn ddigon i sbarduno’r cam nesaf i’r Hwngariad?


Reidwyr i’w gwylio


Dringwyr: O ran y cymalau mynyddig lle na fydd y DC yn brwydro, byddwn i’n cadw llygad ar reidwyr megis David de la Cruz, Harold Tejada a Joe Dombrowski (Astana), Davide Formolo (UAE), Santiago Buitrago (Bahrain), Lorenzo Fortunato (Eolo Kometa), Alexander Cepeda (Androni), Jonathan Caicedo (EF) a Lennard Kämna (Bora) a hwythau wedi dangos talent ar gymalau o’r fath yn y gorffennol.


Cymalau bryniog: Boed iddyn nhw serennu ar y lefel yma o’r blaen neu arddangos talent ifanc, cadwch lygad ar y canlynol ar gymalau bryniog neu mewn dihangiadau: Ben Tulett (Ineos), Andrea Vendrame, Nans Peters (AG2R), Simon Carr (EF), Mauri Vansevenant (Quickstep) ac Alessandro de Marchi (Israel). A gallwn obeithio y cawn wledd gan feistr y dihangiadau ei hun, Thomas de Ghendt (Lotto), wrth iddo fo droedio llwybrau’r Giro eleni.


Y Cymry

Ac yntau wedi dewis reidio dros Gymru yng Ngemau’r Gymanwlad, bu Simon Carr yn reidiwr allweddol yn y Giro llynedd gan fod yn rhan o ddihangiadau yn y bryniau ac yn gaffaeliad yn ymgyrch DC Hugh Carthy. Tybed pa lwybr y gwelwn i o’n ei ddilyn eleni; mwy o ryddid i fynd ei hun, neu barhau’n driw i’r gŵr o swydd Caerhirfryn?


Ar yr un tîm, mae Owain Doull. Wedi blynyddoedd lawer yn awyrgylch gystadleuol Sky/Ineos, mae wedi symud draw at y cool kids yn EF eleni. O’r hyn rydym ni wedi’i weld ganddo hyd yma eleni, mae’n debygol y gwelwn ni o mewn ambell i ddihangiad, a thrwy hynny, gobeithio y gwelwn ni o’n cael rhyw fath o lwyddiant.


Sut i ddilyn y Giro eleni

Yn anffodus, dydy RCS (trefnwyr y Giro) a CBAC heb allu osgoi gwrthdaro rhwng fy arholiadau a’r ras eleni, felly ni fydd modd i mi gynhyrchu’r cynnwys dyddiol y byddwch chi wedi dod i ddisgwyl gennyf dros y blynyddoedd diwethaf. Dwi’n dal i edrych ymlaen at wylio’r ras a dilyn yr holl gyffro sydd o’i chwmpas, ond does dim posib i mi ymroi i ysgrifennu fel o’r blaen.


Nad ofnwch, mae hen ddigon o lefydd i ddilyn y Giro, gan gynnwys yn y Gymraeg. Bydd S4C yn darlledu’r holl gymalau’n fyw o 14.00 ac yn dangos uchafbwyntiau gyda’r hwyr, a cofiwch gadw fyny efo podlediad Y Dihangiad. dwi’n siwr y gallwn ni ddibynnu ar eu harbenigedd a’u gwybodaeth eto eleni, ac y bydd ein profiad o ddilyn y Giro yn un gwerth chweil.


Rhagdybio

Dwi’n gyndyn iawn o roi fy mhen ar y bloc o ran rhagdybio’r enillydd y tro hwn. Mae’r ras mor benagored eleni, efallai’n fwy fyth nag arfer, ac mi allai unrhyw un o’r reidwyr dwi wedi eu henwi - neu hyd yn oed rywun hollol wahanol - gyrraedd y brig.


Dwi’n mawr obeithio y gwelwn ni rywun newydd yn dod i’r brig, rhywun fel Sivakov neu Foss, ond dwi’n credu mai’r hanner ‘yr hen â wyr’ o’r ddihareb fydd yn profi’n allweddol. Drwy hynny, gan fod rhaid rhagdybio, dwi am fynd am Simon Yates. Mae o’n gryf, yn brofiadol, ac wedi datgan ei fod am greu argraff.

 

Wel, gyfeillion, dyna ddod i ddiwedd y rhagolwg.


Bydd peidio a cholli amser ar y cymalau bryniog niferus yr un mor bwysig ag ennill amser ar y cymalau mynyddig yn y Giro d’Italia yn 2022. Dyna sy’n gwneud y ras ychydig yn fwy diddorol; y pwyslais ar bob cymal ac ar bob eiliad.


Ac wrth gwrs, mae’r holl rinweddau eraill i gyd yn ychwanegu at fawredd y ras ac at ein mwynhad o wylio - y treftadaeth, y diwylliant a’r angerdd.


Mawr obeithio y cawn ni ras i’w chofio.


Andiamo.

Recent Posts

See All
bottom of page