Rhagolwg: Le Tour de France 2022
Mae’n anodd crynhoi mawredd y Tour de France mewn geiriau. Pinacl y calendr seiclo, lle mae seiclwyr gorau’r byd yn dod ynghyd i gystadlu, lle mae’r gwobrau’n fwy nag unrhyw le arall. Mae llygaid y byd ar y Tour de France, y digwyddiad chwaraeon blynyddol mwyaf yn y byd. Cenhedloedd y byd yn dod ynghyd, a phlethwaith lliwgar o feics, seiclwyr, cefnogwyr gwyllt a brwdfrydig, diwylliant, angerdd, iaith, mynyddoedd a dyffrynoedd, dringfeydd a gwastadeddau. Hynny oll wedi’i gywasgu i dair wythnos.
Does dim byd tebyg iddo’n bod. Mae’r holl beth yn sioe fawr, sy’n gallu teimlo dros ben llestri. Ond eto, rydym ni’n dal i’w garu. Yn methu â thynnu’n llygaid oddi wrtho. A thirwedd a diwylliant Ffrainc yn gefnlen i’r cyfan, yn gefnlen i’r ddrama sy’n deillio o gystadlu brwd ymysg seiclwyr gorau’r byd.
Mae’n apelio at bawb; boed ichi wylio rasio beics bob wythnos, neu unwaith y flwyddyn pan ddaw’r Tour. Mae’n nefoedd i bobl sy’n ymddiddori ym mhob tro o’r pedalau, neu i rai sy’n dymuno bod yn rhan o road trip rownd Ffrainc o’r lolfa.
Dyna’r gobaith o’r rhagolwg hwn hefyd, y prif ragolwg yr ydw i’n ei ysgrifennu cyn y Tour de France bob blwyddyn - apelio at bawb. Y gallwch chi siwper-ffans seiclo ei fwynhau, ac y gallwch chi sy’n ymddiddori’n fwy yn y tirwedd a’r diwylliant ei fwynhau.
Mae’n bwrpasol fanwl ac estynedig, ac mi fyddai ‘falle’n syniad pigo ‘nôl a mlaen ato o’r herwydd. Mi fydd ‘na ragolwg mwy cryno gen i’n cael ei gyhoeddi yng Nghylchgrawn Golwg ddydd Iau yma, felly mynnwch gopi, a bydd darn gwahanol Tour-aidd gen i ar wefan BBC Cymru Fyw ryw ben wythnos yma hefyd.
Ond yn y cyfamser, on y va, ymlaen â ni efo’r rhagolwg.
Cynnwys:
Yr holl wybodaeth yn gywir pan gyhoeddwyd y darn.
Y Cwrs

Bydd cwrs y Tour de France eleni yn apelio at y rhai sy’n hoff o’r traddodiadol. Mae’n ‘gylchdaith’ glocwedd draddodiadol, gan ddechrau’n y Gogledd Ddwyrain, cyrraedd yr Alpau erbyn diwedd yr wythnos gyntaf a chloi yn y Pyrénées yn y drydedd wythnos. Yn ogystal, mae llawer o’r daith yn dilyn taith resymegol, gan orffen mewn tref ar un cymal, a dechrau yno’r diwrnod canlynol. Does dim gormod o hedfan neu deithiau bws hir i’r reidwyr, sy’n golygu bod cymalau trosglwyddo hirion a gwastad ganol-wythnos, lle bydd angen i ni gyd frwydro yn erbyn siesta.
Mae route eleni fymryn yn wahanol i’r blynyddoedd diwethaf. Mae ‘na brinder rhyfeddol o gymalau gwibio go iawn, dim llawer o arbrofi’n y mynyddoedd gan lynu at y dringfeydd enwog, a digonedd o gilometrau yn erbyn y cloc i ffafrio’r arbenigwyr.

Bydd Grand Départ y Tour eleni yn Nenmarc, cenedl sydd â chysylltiad agos â’r ddwy olwyn ac yn enghraifft arall o genedl fychan (poblogaeth o ryw 5.5 miliwn) yn ‘gor-gyflawni’ yng nghyd-destun y gamp broffesiynol hefyd, yn enwedig mewn blynyddoedd diweddar. Byddwn ni’n cymryd golwg fanylach ar gysylltiad Denmarc â byd y beic yng nghofnod wythnos nesaf. Ta waeth am hynny, yn y brifddinas København (Copenhague ar fapiau’r Tour) y bydd y ras yn dechrau, a hynny gyda ras yn erbyn y cloc 13.2km ddydd Gwener. Er nid yn swyddogol yn cael ei galw’n prologue, fel y byddai wedi bod bob blwyddyn rhwng 1967 a 2007, mae’n cymryd ysbrydoliaeth o’r syniad hwnnw ac yn cynnig cyfle i bob reidiwr gael ei gyflwyno o flaen llygaid y byd ar ddechrau’r ras dair wythnos. Ac er nad yw’n ddigon hir i wneud gwahaniaeth mawr, bydd yn rhoi’r cyfle i ni gael argraff ar gyflwr y ffefrynnau. Bydd y reidwyr yn mentro i ynys Sjælland ar gyfer rhan helaeth cymal 2, ond yn dychwelyd i’r prif dir ar gyfer y diweddglo yn Nyborg, ddylai fod yn wib glwstwr. Mae hyn yn golygu reidio dros y môr ar bont hir y Grand Belt, ac yn naturiol mi all y gwyntoedd beri helbul, a bydd angen i’r ffefrynnau fod yn wyliadwrus. Mi ddylai cymal 3 yn rhanbarth ddeheuol y wlad fod yn rhwyddach, wrth i’r ffling fyrhoedlog ddod i ben, ac ar ei ôl ddiwrnod gorffwys cynta’r ras.

Diwrnod arall i’r gwibwyr ddylai wynebu’r peloton ar gymal 4 rhwng Dunkerque a Calais, ond mae’n cynnwys chwech o ddringfeydd categori 4 yn ardaloedd gorllewin Fflandrys a’r Boulonnais. Mae’r olaf o’r rheiny’n dod fymryn dros 10km o’r diwedd, gyda graddiant o 7.5% am 900m, ac felly gallai fod yn anodd i dimau’r gwibwyr gadw rheolaeth ar ambell ymosodwr manteisgar. Dyna ddiwedd cyfleoedd gwirioneddol y gwibwyr yn yr wythnos gyntaf, sydd fymryn yn groes i batrymau rhediadau diweddar. Mae cymal 5 yn ddiwrnod i edrych ymlaen ato, wrth i’r reidwyr fentro dros grynfeini neu goblau gogledd ddwyrain Ffrainc mewn taith fydd yn gofyn am wytnwch, am sgiliau trin beic ac am ganolbwyntio drwyddi draw. Gallai fod yn ddiwrnod hunllefus i rai o’r ffefrynnau, a’u gobeithion o herio’n dod i ben, ond yn gyfle i fanteisio o safbwynt y rhai ohonynt sydd wedi ymgyfarwyddo â nodweddion beichus heolydd yr ardal. Cymal bryniog sy’n dilyn ar cymal 6, gan dreulio’r 70km cyntaf yng Ngwlad Belg wedi iddynt ddechrau yn Binche, cyn taclo bryniau’r Ardennes ar eu taith i ddiweddglo allt yn Longwy yn rhanbarth Meurthe-et-Moselle.
Daw cymal mynyddig cyntaf y ras ar cymal 7, gan aros yn y gogledd ddwyrain ac ym mryniau a mynyddoedd Vosges ar eu taith i ddiweddglo copa cynta’r ras, yn La Planche des Belles Filles. Yn ddringfa boblogaidd mewn blynyddoedd diweddar, daw â her o 7km ar 8.7%. Yma collodd Geraint Thomas a Primož Roglič eu crysau melyn, yn 2017 a 2020 yn ôl eu trefn, ac yma coronwyd talent ifanc diweddaraf seiclo, Tadej Pogačar, am y tro cyntaf. Ni ddylai wneud gormod o wahaniaeth yng nghyd-destun y ras yn ei chyfanrwydd, ond eto bydd yn rhoi darlun gwell i ni o gyflwr y ffefrynnau a’r hierarchaeth o bosib. Wedi hynny, bydd cymal 7 yn cychwyn yn Dole (na, nid y pentref tu allan i Aberystwyth) cyn nadreddu drwy fryniau - nid mynyddoedd - y Jura, ac yna holi-a-ci-ci i mewn i’r Swistir. Nid yw’n gymal wedi’i ddylunio ar gyfer y dringwyr, ond yn hytrach ar gyfer y puncheurs, reidwyr fel Wout van Aert, fydd yn awyddus i ddangos eu doniau ar y ddringfa i’r diweddglo yn Lausanne ar lan Lac Léman. I gloi’r wythnos gyntaf, bydd cymal 9 yn arwain y peloton ar gylchdaith drwy’r Fribourg a’r Vaud cyn croesi’n ôl i Ffrainc ac i Haute-Savoie. I gyfeiriad yr Alpau y byddent yn teithio, a dim ond blas o’r hyn sydd i ddod y cawn ni. Copa’r ddringfa gategoredig olaf yn dod llai na 10km o’r terfyn, gyda disgyniad byr cyn dringfa fer yn dilyn. Tamaid i aros pryd, a dybiwn i y bydd yn rhaid aros tan yr ail wythnos yn yr Alpau i weld rasio tanllyd go iawn.

Cymal bryniog, nid mynyddig er ein bod yng nghalon yr Alpau yn yr Haute-Savoie, ar gymal 10 rhwng Morzine a Megève, fydd yn gorffen ar ddringfa hir heb fod rhy heriol (19km ar 4%); dringfa sydd heb wir lwyfan ymosod i’r dringwyr cryf. Ond bydd newid gêr sylweddol ar gymal 11 wrth i’r bryniau cymharol droi’n fynyddoedd mawrion a bygythiol. Wedi’r dechrau yn Albertville yn Savoie, daw’r ddringfa gyntaf wedi ryw 50km a hynny i’r Lacets de Montvernier. ‘Lacets’ yn debyg i’r gair Saesneg am garau esgidiau, ac yn wir, mae’n werth i chi gŵglo’r ddringfa hon, sy’n llwyddo i bacio 17 o droeon pedol mewn 2.5km. Boncyrs. Dechreubryd yn unig yw hynny, fodd bynnag, ar gyfer dringfeydd mwy yn yr Hautes-Alpes. O gyrchfan boblogaidd Saint Jean de Maurienne, ymlaen fydd y peloton yn dringo i’r Col du Galibier, 2,642m uwch lefel y môr (y cyntaf i’r brig yn teilyngu Prix Henri Desgrange, gan mai dyma gopa ucha’r Tour eleni) via’r Col du Télégraphe. Dringfa gategori 1 ar y ffordd i ddringfa hors categorie, a dyw’r dydd ddim drosodd wedyn chwaith. Bydd y diweddglo copa i Col du Granon (2,413m uwch lefel y môr) yn ddringfa 11.3km ar 9.2%. Diwrnod mwyaf heriol y ras hyd yn hyn, ac mi fydd hi’n sicr yn chwalu’r dosbarthiad cyffredinol yn rhacs. Un o gymalau pwysica’r Tour eleni, heb os.

Les Lacets de Montvernier
Does dim newid ‘lawr gêr y diwrnod canlynol chwaith, wrth i’r reidwyr ddechrau yn Briançon ar droed y Granon. Mi fydden nhw’n mynd yn ôl dros y Galibier i’r cyfeiriad gwrthwyneb i gymal 11, cyn troi i’r chwith i gyfeiriad y Col de la Croix de Fer, un arall o hoelion wyth y Tour de France. Yr ail ddringfa HC o dri ar y cymal hwn, gan groesi’r ffîn i Isère ar gyfer y drydedd a diweddglo copa pwysig arall. Bydd hynny i Alpe d’Huez, un o’r dringfeydd mwyaf ohonyn nhw i gyd. Mae’r route yn gopi union o gymal 18 y Tour ym 1986, pan fu i Bernard Hinault a Greg LeMond fynd benben. Y Tour hwnnw sy’n cael ei gloriannu yng nghyfrol arbennig y diweddar Richard Moore, ‘Slaying the Badger’. Bydd angen saib i gymryd anadl arnom ni ‘gyd wedi’r deuddydd tanllyd, gyda thriawd o gymalau fydd yn pontio o’r de ddwyrain i’r de orllewin. Dylen ni gael gwib glwstwr yn Saint-Étienne ar gymal 13, wedi i’r peloton groesi o Isère i Rhône. Dilyn y Loire wnaent ar gymal 14; cymal sy’n fwy heriol a bryniog ei naws, gyda’r ddringfa 3km ar 10% yn agos at ddiwedd y dydd yn sicr o gynnig rasio cyffrous. I gloi’r ail wythnos, bydd y reidwyr yn teithio o Rodez i dref hanesyddol a thrawiadol Carcasonne, lle mae disgwyl gwib glwstwr ar ddiwedd cymal wedi’u ddylunio ar gyfer y gwŷr cyflym.

Bydd y drydedd wythnos yn dechrau gyda chymal fydd yn cynhesu’r reidwyr am gymalau canlynol mwy heriol, yn hytrach na chwyldroi’r dosbarthiad cyffredinol ynddo’i hun. Wedi dweud hynny, mae pâr o ddringfeydd categori 1 digon difyr yr olwg yn y 60km olaf yn ardal yr Ariège. Dau gymal hynod arwyddocäol ddylai ddilyn yn yr Hautes-Pyrénées. Bydd y cyntaf ohonynt yn gymal cymharol fyr, 129km, rhwng Saint-Gaudens a chopa’r Peyragudes (dringfa 8km ar 8%). Rhyngddyn nhw, daw’r Col d’Aspin, Hourquette d’Anzican a Col de Val Louron-Azet. Ond y cymal pwysicaf ohonynt fydd cymal 18 yn dechrau yn nref Gristionogol enwog Lourdes. Wedi ysbaid yn y Pyrénées-Atlantiques yn diweddu ar gopa dringfa HC Col d’Aubisque, byddent yn dychwelyd i’r Hautes Pyrénées ar gyfer dringfa lai adnabyddus y Col de Spandelles (cat 1), ystyrir yn un o ddringfeydd tawelach ardal boblogaidd sy’n llawn o ddringfeydd. Daw diweddglo copa ola’r ras ar ddringfa enwog yr Hautacam, dringfa HC 13.6km ar 8%, lle bydd cyfle ola’r dringwyr pur i wneud gwahaniaeth sylweddol.
Teithio i’r gogledd, i ffwrdd o’r Pyrénées, wnaent ar gymal 19; cymal ddylai orffen mewn gwib glwstwr yn Cahors yn ardal y Lot, enwir ar ôl yr afon o’r un enw, sy’n rhan o ranbarth yr Occitanie. Yma fydd cartref cymal 20 hefyd, fydd yn berffaith ar gyfer arbenigwyr pur yn y ras yn erbyn y cloc. 40.7km digon gwastad, er ei fod fymryn yn dechnegol o ran corneli ac ati, ond mi ddylai hwn fod yn gyfle perffaith i ennill amser o safbwynt rhai o’r ffefrynnau. Y cymal prosesiwn arferol fydd yn cloi’r cyfan ar y Champs-Élysées, gan rannu’r llwyfan gyda chymal agoriadol y Tour de France Femmes. Bydd rhagolwg manwl o’r ras hanesyddol honno i’w gael ar y blog wythnos o flaen llaw.
Bydd angen i fuddugwr Tour de France 2022 fod yn ddringwr cryf sydd â gallu’n erbyn y cloc, tîm cryf i osgoi colledion amser ar gymalau lle gall y gwynt chwythu, a hyblygrwydd ar gymalau bryniog a’r cymal coblog ‘na’n yr wythnos gyntaf.

Y Ffefrynnau
Yn wahanol i fy arferiad o restru nifer fawr iawn o reidwyr yn y rhan hon o’r gofnod er mwyn sicrhau nad ydw i wedi hepgor neb, dw i wedi penderfynu bod yn glinigol a rhoi fy mhen ar y bloc. Mewn gwirionedd, mae’r math o naratif sydd i’w ddisgwyl yn esgor ar hynny; mae gennym ni un ffefryn clir gydag haenau oddi tano sydd, fwy na thebyg, yn mynd i dargedu podiwm neu ddeg uchaf ar y gorau. Nid fod Pogačar wedi ennill y Tour yn barod, ond mewn difri calon does dim angen gwastraffu amser yn trafod reidwyr sydd â chyfle ymylol o gyrraedd y deg uchaf. Ond mi ddown ni atyn nhw fel ‘reidwyr i’w gwylio’ maes o law.
Eto, yn wahanol i’r arfer, dw i ddim am edrych ar bob reidiwr yn unigol, fel petai, ond yn hytrach ar y gwahanol baratoadau, sydd yn cynnig syniad da o’u cyflwr a phwy y dylem eu hystyried yn ‘ffefrynnau’ ar gyfer y Tour eleni.
Fel sy’n cael ei adrodd yn erthygl ddiweddar CyclingTips, ‘Are the [...] contenders avoiding each other?’, mae’r prif ffefrynnau wedi mynd i fannau gwahanol ar gyfer eu paratoadau. Aeth Tadej Pogačar i’r Tour of Slovenia, aeth Jumbo-Visma â Primož Roglič a Jonas Vingegaard i’r Critérium du Dauphiné, ac mi aeth Ineos â’u harweinwyr i’r Tour de Suisse. Am ba reswm? Bwriad Pogačar fyddai ceisio codi ei broffil a’i boblogrwydd ymysg cefnogwyr ei famwlad. Daeth y Dauphiné i ben bythefnos yn ôl i heddiw (felly tair wythnos cyn y Tour), ac felly mae Jumbo wedi rhoi’r cyfle iddyn nhw’u hunain fireinio eu paratoadau a dysgu o’u profiadau yno. Ydy Ineos ofn y Slofeniaid? Ofn cael eu curo, a chael ergyd seicolegol boenus ar drothwy’r Tour heb ddigon o amser i newid yn sylweddol?
Gadewch i ni gymryd golwg fanylach, â ninnau’n gwybod i sicrwydd beth yw cyflwr y rhain wedi’r mis diwethaf o rasio.
Mi ddechreuwn ni’n y man amlwg, gyda Tadej Pogačar a’r Tour of Slovenia. Yn ôl y disgwyl, yn absenoldeb unrhyw gystadleuwyr o safon uchel, mi racsodd o’r ras. 12 eiliad o flaen ei gyd-reidiwr UAE, Rafał Majka, a dros 2 funud a hanner o flaen y sawl yn y trydydd safle, a’r ddau ohonynt yn cipio dau gymal yr un (oedd unwaith yn cynnwys rock, paper, scissors i bennu pa un fyddai’n ennill). Gydag unrhyw un arall, mi fyswn i’n cwestiynu os ydy o wedi cael digon o rasio safonol yn erbyn cystadleuwyr gwirioneddol cyn y ras. Ond Tadej Pogačar ydy o, reidiwr a thalent unwaith-mewn-cenhedlaeth.
Ym mis Chwefror a Mawrth, enillodd o ddwy ras wythnos - taith yr EAU a Tirreno-Adriatico - ac wedi hynny bu’n gweithio ar ei gyflawnder, gan fentro i goblau Gwlad Belg. Yno, magodd brofiad fydd yn hynod werthfawr ar gyfer y pumed cymal hollbwysig, ac mi gawson ninnau fel gwylwyr weld agweddau gwahanol i’w gymeriad. Yn De Ronde van Vlaanderen, roedd yn y detholiad olaf o bedwar, ond wedi iddo wneud camgymeriad eithaf elfennol, dangosodd fflach o ddicter mewn moment braidd yn ymfflamychol. Ond, mae gan bob arwr gwerth ei halen ei wendid a ffaeledd, ac yn wir, dyna’r tro cyntaf i ni weld unrhyw beth o’r fath ganddo. Rydym ni wedi arfer ei weld yn gwireddu’r ‘ddelfryd arwrol’ y canwyd amdano mewn barddoniaeth Gymraeg yn y chweched ganrif (randym, sori). Dwy rinwedd bwysig i arwr, yn nhyb y beirdd bryd hynny, fyddai dewrder a haelioni. Y dewrder yn amlwg gan Pogačar - yn enwedig os y gwnawn ni ddwyn i gof ei ymosodiad hurt ar gymal 8 i Grand-Bornand llynedd pan enillodd dros dri munud ar y grwp o ffefrynnau. A haelioni, mae’n debyg, wrth wario’i enillion o’r Tour llynedd ar Vespa melyn - wedi’w harwyddo - i bob aelod o’r tîm (ffynhonnell: cylchgrawn Stelvio).
Does dim ond angen meddwl am eiriau anghrediniol aelodau tîm Jumbo yn y cymal REC i La Planche des Belles Filles yn 2020 recordwyd yn y rhaglen ddogfen Code Geel - ‘dyw e ddim yn bosib’, ‘mae’n fyd gwahanol’ - i werthfawrogi talent y Slofeniad hwn. Dyna agorodd y drws i benbleth fwya’r byd, mae’n debyg - sut i’w guro fo.