Ar drothwy ail rediad y Tour de France Femmes yn ei ymgnawdoliad presennol, mae'n bryd bwrw golwg dros y cwrs a'r reidwyr sy'n debygol o gael dylanwad ar ganlyniad y ras.
Rydym ni'n amlwg yn dal i fod yn nechreuadau cynnar y ras yma, ond mae'n braf gweld ei bod yn dechrau creu ei hunaniaeth ei hun. Er fy mod i'n dueddol, dwi'n cydnabod, yn y blogbost yma, i dynnu cymariaethau anochel â ras y dynion, mae'n sicr fod y ras yn torri'i chwys ei hun. Mae'n ras sydd ar yr un pryd, dwi'n teimlo, yn gweddu i'r peloton presennol, ac yn dangos addewid i ddatblygu tua'r dyfodol.
Boed ichi ystyried yr wyth niwrnod yma o rasio fel wythnos ychwanegol o Tour de France y dynion, neu ras ar ei phen ei hun, mae'n sicr yn mynd i fod yn werth ei gweld a'i gwerthfawrogi.
Y Cwrs
Beth sy'n braf i'w weld wrth fwrw golwg ar gwrs ail rediad y Tour de France Femmes yw'r modd y mae'r trefnwyr yn ystyried sut mae camp y menywod yn dra gwahanol mewn gwirionedd i gamp y dynion. Hynny yn yr ystyr fod y rasio yn dueddol o fod yn fwy ymosodol, ac felly mae'r cwrs wyth cymal yma yn canolbwyntio ar greu drama yn y bryniau, yn hytrach efallai na'r mynyddoedd mawrion. Fodd bynnag, mae digon o amrywiaeth wedi'i wasgu i'r cymalau hyn i blesio cyfran helaeth o'r peloton.
Canolir y ras eleni yn y de ddwyrain, ac i raddau helaeth mae'n mynd yn groes i'r un trywydd ddilynodd peloton y dynion heb fod yn hir yn ôl; yn ymlwybro o'r Auvergne tuag at y Pyrénées.
Cymal 1
Cymal digon gwastad ar y cyfan yn y gylchdaith sy'n cychwyn a gorffen yn Clermont-Ferrand. Nid diwrnod i'r gwibwyr mohono chwaith, wrth i'r ddringfa gategoredig honno - y Côte de Durtol - ymddwyn fel hidlydd. Puncheuses - y reidwyr sy'n arbenigo ar y bryniau byrrach ond serthach o bosib - ddylai serennu ar y diwrnod agoriadol. Mae rhyw fymryn o ddringo i'r llinell; mae'n ddiwrnod i'r reidwyr mwyaf pwerus. Bydd y pwysau a'r nerfau'n uchel â'r fraint o wisgo'r crys melyn yn y fantol.
Cymal 2
Uchelfannau'r Auvergne ac ardal y Puy de Dôme i ddechrau fydd cartref yr ail ddiwrnod o'r Tour eleni. Ymysg cymalau hirraf y ras, ac mae'n ymddangos fel cwrs allai brofi'n goelcerth o ymosodiadau. Pum dringfa gategoredig, gwib ganolig ac eiliadau bonws yn y gymysgedd hefyd; mae'n sicr o ddod yn sioc i'r system mor gynnar â hyn yn y ras. Mae'n dringo o'r cychwyn cyntaf, er nad yw'r ddringfa honno i Col de Guéry wedi'i chategoreiddio, ac yn dringo i'r diwedd.
Cymal 3
Diwrnod cyntaf y gwibwyr i serennu ddylai fod ar y gweill ar gymal 3, gan fod pob dringfa gategoredig, a'r rheiny ddim ond plorod mewn gwirionedd â'u graddiannau gosteg yng nghategori 4, yn dod yn y ddau draean cyntaf cyn cyrraedd iseldir y Dordogne. Cymal fyddai'n gweddu'n berffaith yn ail wythnos Tour y dynion, cymal digon cysglyd ond digon i weld hefyd; pentrefi bychain del yng nghanol y tirwedd gwledig, a châteaux rownd pob cornel.
Cymal 4
Cymal hiraf y Tour eleni yn 177km, a gellid yn hawdd torri'r cymal yn ei hanner. Yn yr hanner cyntaf does fawr ddim i herio'r reidwyr o Cahors yn ardal y Lot, cyn bo'r ail hanner yn cychwyn â dringfa gategori pedwar cyn hofran yn yr uchelfannau am weddill y cymal. Cyfres o lwyfannau ymosod sy'n dilyn mewn diweddglo talpiog, a dringfa gategori dau cynta'r ras sy'n rhoi ryw arwydd i ni fod pethau am ryw ddechrau ffrwtian. Rodez yw tre'r llinell derfyn, ffefryn arall gan y Tour.
Cymal 5
Dyma un o gymalau mwyaf diddorol y ras gan nad oes modd mewn gwirionedd rhagweld beth yn union sy'n mynd i ddigwydd. Mae'r modd y mae'r ras yn rhyw hofran yn yr uchelfannau yn y dechrau a'r llwyfannau sydd i ymosod hefyd yn ffurf y dringfeydd categoredig yn gwneud i rywun ystyried y gallai dihangiad o swmp a sylwedd lwyddo ar ddiwrnod fel heddiw. Ar y llaw arall, gallai timau'r gwibwyr fod yn awyddus i gadw'r ras dan reolaeth er mwyn rhoi cyfle prin i'w reidwyr cyflym nhw yn Albi - tref arall sy'n gyfarwydd i'r Tour.
Cymal 6
Efallai y bydd rhyddid i ddihangwyr gwryd cymal 5 pe bai timau'r gwibwyr yn bwrw golwg fanylach ar gymal 6, gan fod y cymal hwn yn dod â chymal llawer iawn mwy eglur a deniadol iddyn nhw. Cymal pontio yw hwn er mwyn cyrraedd y deuddydd olaf yn y Pyrénées, er nad yw'n hir iawn. Symud o ardal Tarn i'r Haute-Garonne wna'r peloton ar hyd y cymal hwn, sy'n ymddangos yn reit rhwydd. Serch hynny, mae'r ddringfa fach yna heb ei chategoreiddio fymryn wedi 100km i fewn i'r cymal yn dod â her annisgwyl, ac mi allai'r croeswyntoedd achosi problemau yn y diweddglo hefyd.
Cymal 7
Dyma'r diwrnod mawr lle y gallai'r Tour gael ei hennnill neu ei cholli, heb os nac oni bai. Yr unig ddiwrnod yn y Pyrénées, a'r cyfan wedi'i wasgu i ddiwrnod o gwta 90km. Mae digon o gyfle i gynhesu a dod i arfer â'r tirwedd ar y daith i droed y Col d'Aspin, yr unig ddringfa gategori 1 ar y Tour yn ei gyfanrwydd. Gallai ymddangos i reidwraig wryd fel cyfle arbennig i ymosod o hirbell mewn modd epig. Serch hynny, mae'n fwy tebygol y bydd y ras am y fuddugoliaeth yn cael ei chynnal ar y ddringfa olaf, hors catégorie, i'r Col du Tourmalet. Yr un ddringfa'n union ag a gafwyd yn ras y dynion ychydig wythnosau'n ôl, ond bod mymryn o farchnata i gyrchfan sgïo Bagnères de Bigorre. 17km ar 7.5% - mae'n lladdfa. Bydd y ras yn cyrraedd crescendo dramatig yn fan hyn.
Cymal 8
Ras yn erbyn y cloc ddaw i gloi'r wythnos swmpus o rasio, a hynny yn y dref sydd wedi croesawu'r Tour amlaf yn ras y dynion, sef Pau. Nid yw'n gwrs, fodd bynnag, fydd yn plesio'r rhai sy'n arbenigo yn y rasys yn erbyn y cloc mwy pur. Mae'r ddringfa ganol y cwrs, sydd â chyfartaledd o ryw 7% am gilometr, yn dwyn her, ac felly hefyd natur dechnegol yr ail hanner, lle bydd gofyn am arafu a chyflymu ac ymdrech fwy ysbeidiol. Bydd y ffordd yn codi ar ryw 5% i'r llinell derfyn lle bydd golygfeydd panoramig yn cynnig cefnlen berffaith i ddrama allai brofi'n allweddol yng nghanlyniad y ras eleni.
3 gwibwraig i'w gwylio
Lorena Wiebes
Symudodd y ddynes gyflymaf yn y peloton, Lorena Wiebes, i dîm cryfa'r peloton, SD Worx, ddechrau eleni, ac mae hynny'n ymddangos fel pe bai wedi talu ffordd iddi. Byddai pwysau ychwanegol ar ei hysgwyddau i wireddu'r addewid ddangosodd yn flaenorol yn lifrai carfan o'r fath, ond mae'n ymddangos ei bod hi wedi dygymod â hynny, os nad ffynnu ar hynny. Mae naw buddugoliaeth i'w henw eisoes eleni, ac enillodd ddau gymal yn yr union ras yma llynedd. Gadawodd y Giro Donne er mwyn canolbwyntio ar gipio mwy o fuddugoliaethau ar y Tour, felly gallwn ddisgwyl iddi fod ar dân.
Yn dod o'r un tîm, SD Worx, â Lorena Wiebes, mae Lotte Kopecky hefyd yn dwyn profiad, pŵer a chyflymder i'r Tour eleni. Yn anelu am rasys gwahanol i Wiebes yn naturiol ddigon, mae Kopecky hefyd wedi cipio'r un nifer o fuddugoliaethau â hi, ond mewn llai o ddiwrnodau rasio eleni.
Chiara Consonni
Ar ôl i Lorena Wiebes adael y Giro Donne yn gynnar, yr Eidales Chiara Consonni ddaeth i'r brig yn y wib ar y cymal olaf. Mae'n dal i fod yn gymharol ifanc yn 24, ac mae'n reidwraig sydd ar drywydd campau mwy, mae dyn yn teimlo. Efallai y daw hynny ar y Tour eleni, wedi iddi gipio ambell i fuddugoliaeth mewn gwibiau clwstwr ar draws y flwyddyn.
Marianne Vos
Mae hi wedi bod yn dymor fymryn yn wahanol i'r hyn yr ydym ni wedi arfer ag o gan Marianne Vos eleni. Gorfu iddi dderbyn llawdriniaeth ddechrau'r flwyddyn, ac wedi hynny dydy hi heb cweit allu cyrraedd yr un uchelfannau ag arfer. Dyma'r flwyddyn gyntaf iddi beidio ag ennill cymal ar y Giro Donne, a hithau wedi ennill nifer aruthrol o 32 cymal yn y fan honno. Daeth yn ail i Consonni ar y cymal olaf fodd bynnag, ac mi gipiodd ddwy fuddugoliaeth yn y Vuelta Femenina, felly mae'n ymddangos fod cyflwr ganddi i amddiffyn y crys gwyrdd.
5 ffefryn am y crys melyn
Annemiek van Vleuten
Deiliad y crys melyn yw'r Isalmaenes Annemiek van Vleuten wedi perfformiad hynod argyhoeddiadol y llynedd, ac mae'n ymddangos ei bod hi'n fwy na pharod i amddiffyn ei theitl eleni. Hynny yn dilyn perfformiad cwbl feddiannol yn y Giro d'Italia Donne yn ddiweddar, lle enillodd hi dri chymal, a bod ar frig y dosbarthiad cyffredinol o'r dechrau i'r diwedd. Yn ogystal, dyma flwyddyn olaf van Vleuten yn y peloton cyn ymddeol, felly bydd hynny'n siŵr o fod yn ysgogiad ychwanegol iddi.
Juliette Labous
Y lle amlwg i fynd nesaf fyddai at y sawl orffennodd yn yr ail safle yn y Giro d'Italia Donne, sef y Ffrances Juliette Labous. Dyma reidwraig sy'n ymddangos yn gyson iawn yn y deg uchaf ac yn y pump uchaf ar gymalau bryniog ac ar y dosbarthiad cyffredinol, ond dydy hi ddim fel pe bai'n gallu dod o hyd i'r ychydig bach ychwanegol yna i sicrhau buddugoliaeth. Roedd ail yn y Giro Donne yn un o ganlyniadau mwyaf Labous, i gyfnerthu 4ydd gafodd yn y Tour llynedd.
Elisa Longo Borghini
Mae'r Eidalwraig brofiadol unwaith eto ymysg yr enwau sy'n cael eu crybwyll. Ond, mae'n cyrraedd y llinell ddechrau â marc cwestiwn wrth ei henw, am ei bod wedi gorfod gadael y Giro Donne yn sgil damwain. Cyn gadael y ras honno, mi enillodd gymal o grŵp bychan yn cynnwys van Vleuten a Veronica Ewers, i ychwanegu at palmarès hynod lewyrchus ar draws y tymor hyd yn hyn.
Mae'n werth nodi hefyd gyd-reidwraig Longo Borghini - sef Gaia Realini. Mae'n ansicr os y bydd hi yn y ras o gwbl, ond pan fo hi wedi cael ei chyfle yn ddiweddar yn absenoldeb ei chydwladwraig, mae hi wedi serennu y tu hwnt i'r disgwyl. Gweithio ar ran Longo Borghini wnaeth hi ym mhencampwriaethau'r Eidal ac yn y Giro Donne ond yn y ras honno, fel yn La Vuelta Femenina, gorffennodd ar bodiwm y dosbarthiad cyffredinol o flaen reidwyr llawer iawn mwy profiadol. Un i'w gwylio i'r dyfodol yn sicr.
Demi Vollering
O'r diwedd dwi'n cyrraedd un arall o'r ffefrynnau mawr mawr ar gyfer y ras. Y rheswm dros ei chadw hi'n nes i lawr y rhestr oedd am na wnaeth hi gystadlu yn y Giro Donne; serch hynny, mae hi wedi cael yr hyn mae'r wasg yn ei ddisgrifio fel tymor delfrydol. Ei ras ddiwethaf oedd pencampwriaeth ras ffordd yr Iseldiroedd, a hynny ddiwedd mis Mehefin, felly allwn i ond dychmygu ei bod wedi bod yn paratoi'n ddiwyd at y ras hon. Yn y bedair ras wythnos y mae hi wedi cystadlu ynddyn nhw eleni, mae hi wedi gorffen yn 2il ar dri achlysur, ac ennill y llall. Reidwraig gyflawn y mae rhywun yn teimlo y bydd yn ennill y Tour de France Femmes ryw flwyddyn. Y cwestiwn yw, os mai eleni fydd hynny'n digwydd.
Cecilie Uttrup Ludwig
Ro'n i rhwng tair o ran pwy fyddai'r bumed prif ffefryn i'w chynnwys. Liane Lippert a Kasia Niewiadoma oedd y ddwy arall, ond mi ddois i i ddewis Uttrup Ludwig ar sail ei bod hi'n reidwraig mwy cyflawn na'r ddwy ddringwraig gref yma - am fod y cwrs yn ymofyn hynny - a'i bod wedi perfformio'n well yn y Giro Donne. Yn y ras honno gorffennodd yn 6ed, un o'i chanlyniadau gorau eleni. Enillodd gymal cofiadwy yma y llynedd, a bydd hi'n awyddus i ail-greu hynny o'r newydd y tro hwn
Byddai'n well i mi orffen y cofnod drwy ragfynegi, am fy mod i wedi cystal hwyl ar wneud hynny'r llynedd.
Felly, dwi am ddarogan unwaith eto mai Annemiek van Vleuten fydd yn ennill y ras am yr eilwaith. Dwi'n credu y bydd gwybod ei bod hi'n ymddeol ddiwedd y flwyddyn yn rhoi'r ysgogiad olaf yna fydd ei angen arni i groesi'r llinell yn gyntaf a gwisgo'i hun yn y lifrai melyn.
Sut i wylio:
Dylai'r ras fod yn fyw ar sianeli teledu Eurospot yn ogystal ag yn ddigidol. Bydd angen tanysgrifiad i un ai Discovery+, Eurosport neu GCN+ er mwyn gwylio'r ras yn ddigidol.
コメント