top of page
Writer's pictureGruffudd ab Owain

Seiclo proffesiynol – gwybodaeth i ddechreuwyr

Wedi’ch ysbrydoli gan lwyddiant ysgubol Geraint Thomas yn y Tour de France? Eisiau gwybod a deall mwy am fyd cymhleth seiclo proffesiynol? Dyma’r lle perffaith i chi felly wrth i mi geisio esbonio beth sy’n digwydd y tu ôl i sgrîn y teledu a lleisiau criw Seiclo S4C.

Mathau o rasys

Yr eirfa bwysig

Tymor = y cyfnod o fewn blwyddyn lle maent yn rasio SEASON

Cymal(au) = un diwrnod o fewn ras STAGE

Ar draws y tymor seiclo (Ionawr tan Hydref) mae nifer o wahanol fathau o rasys i’w cael ar y calendr.

Drwy gydol y flwyddyn mae rasys wythnos yn cael eu cynnal ar draws y byd. Ras gynta’r flwyddyn yw’r Tour Down Under (Awstralia) ac yn y gorffennol mae Geraint Thomas wedi ennill Paris-Nice (Ffrainc) a Bayern-Rundfahrt (Yr Almaen).

Yma, mae rhwng 4-9 o gymalau unigol lle mae gwahanol reidwyr yn ennill ar ddiwrnodau gwahanol, ac mae dosbarthiadau gwahanol i’w hennill.

Y reidiwr cyflymaf ar draws y ras sy’n ennill y dosbarthiad cyffredinol a chesglir pwyntiau yn ystod y ras ar gyfer dosbarthiad y mynyddoedd a’r dosbarthiad bwyntiau. Bydd arweinwyr y dosbarthiadau hyn yn gwisgo crys arbennig.

Yn y gwanwyn, cynhelir y clasuron, rasys undydd mwya’r byd megis Paris Roubaix, Taith Fflandrys (Tour of Flanders), Ghent-Wevelgem, Omloop Het Nieuwsblad, Liège Bastogne Liège a Strade Bianche. Maent yn para un diwrnod ac felly mae’r pellter fel arfer yn uchel – 250-300km. Mae Geraint a Luke Rowe wedi serennu yma’n y gorffennol ac mae’r Cymro ifanc, Owain Doull, yn debygol o herio yn y dyfodol.

Yn ogystal, mae’r clasuron mwyaf mewn dosbarth o’r enw’r “Monuments”.

Ond heb os, y rasys mwyaf yn y byd yw’r Grand Tours. Ym mis Mai, cynhelir y Giro d’Italia (Taith yr Eidal), ym mis Gorffennaf mae’r fwyaf ohonynt, y Tour de France (Taith Ffrainc) ac yn Awst-Medi, mae taith Sbaen, y Vuelta a España. Maent yn para tair wythnos ac mae 21 cymal. Bydd brwydro am yr un dosbarthiadau a sydd yn y rasys wythnos, ond mae’r reidwyr yno’n dueddol o fod yn fwy safonnol.

O fewn rasys wythnos/Grand Tours, mae cymalau mynyddig, cymalau gwastad, cymalau bryniog a rasys yn erbyn y cloc yn unigol ac i dimau.

Digwyddiadau o fewn cymal

Ar gymal benodol, yn y bôn y cwbl sy’n bwysig yw gorffen yn gyntaf.

Bydd grŵp bychan o reidwyr (dihangiad) yn ymosod y peloton (y prif grwp o reidwyr) ar gymalau gwastad er mwyn cael amser teledu i’w noddwyr.

Ar ddiwrnodau eraill fodd bynnag, bydd rhai o’r ffefrynnau’n ymosod er mwyn ceisio ennill y cymal.

Mathau o reidwyr

Mae gwahanol reidwyr yn serennu mewn gwahanol rasys ac felly’n canolbwyntio ar eu cryfderau.

Reidwyr DC – Y rhain sy’n arwain y tîm mewn rasys cymalau (ras wythnos neu Grand Tour).

Klassiekers – Bydd rhain yn ffefrynnau yn y clasuron a’r Monuments.

Domestiques – Y rhain sy’n helpu* arweinwyr y tim.

Arweinwyr tîm – Y reidiwr sydd fwyaf tebygol o ennill y ras (o fewn tîm) ac felly’n cael eu cymorth.

Gwibwyr (sprinteurs) – Gan gynhyrchu pŵer uchel, byddent yn gwibio’n erbyn eu gilydd ar gymalau gwastad.

Dringwyr (grimpeurs) – Y rhain sy’n wych am reidio i fyny elltydd serth gan gystadlu am ddosbarthiad brenin y mynyddoedd.

Rouleurs – Yn dda am bopeth ond yn bennaf y ras yn erbyn y cloc a dringfeydd serth.

Felly beth ar wyneb y ddaear yw “helpu”?

Yn syml iawn, os ydych yn reidio y tu ol i reidiwr arall, rydych yn arbed egni oherwydd eu bod yn torri twll yn yr aer i’ch gwarchod rhag y gwynt h.y. mae reidio yn y gwynt yn anoddach o lawer.

Dylai’r ffeithlun isod helpu.

Felly gobeithio i chi ddeall mwy am seiclo proffesiynol wedi darllen y gofnod hon ac y bydd gennych well syniad o beth sy’n mynd ymlaen mewn ras feics!

Cofiwch rannu’r gofnod hon â’r rhai fyddai’n ei weld yn berthnasol a’m dilyn ar Trydar – @cycling_dragon .

Wedi mwynhau darllen am seiclo? Cofiwch am bodlediad “Y Dihangiad” sydd ar gael drwy gydol y flwyddyn

Recent Posts

See All

Comments


bottom of page