top of page
Writer's pictureGruffudd ab Owain

Sut i gynllunio’r route perffaith

Rydym ni i gyd yn dyheu am gael diwrnod i’r brenin ar y beic ac i brofi’r wefr o ddarganfod lleoliadau newydd.


Fel dw i eisoes wedi’i grybwyll ar y blog yn y gorffennol, dydy mynd ar goll - hyd yn oed os ydy hynny’n golygu stymblo ar rywle prydferth - ddim yn apelio.


Felly mi rydw i’n meddwl mod i’n meddu ar ddigon o brofiad o ran cynllunio routes er mwyn rhannu ychydig o syniadau.


Dw i hefyd, yn ôl yr arfer, wedi cael rhai cynigion gennych chi’r dilynwyr ac yn ddiolchgar i Cynan Llwyd a Ryan Jones am gynnig help llaw ag ambell i dip.


Heb oedi ymhellach, bant â’r cart.


Highlights ar Komoot

Mae meddalwedd Komoot yn hen gyfarwydd i ddilynwyr y blog. Mae’n llawer haws i’w ddefnyddio nag oedd rai blynyddoedd yn ôl ac erbyn hyn mae’i ddarpariaeth yn sicr yn gynhwysfawr a chyfleus. Yn ogystal â chasgliadau wedi eu paratoi ar eich cyfer, mae’r mapiau’n ei gwneud hi’n hawdd iawn gwahaniaethu rhwng prif ffyrdd, ffyrdd cefn a graean tra hefyd yn uwcholeuo routes oddi ar rwydweithiau blaenllaw megis rhai Sustrans a EuroVelo. Ond y prif perk o’n safbwynt i yw’r highlights; eicon beic ar gefndir coch sydd wedi eu nodi gan ddefnyddiwyr fel chi a fi gan gynnwys lluniau a geiriau doeth. Gall rhain fod yn leoliad neu’n rhan o ffordd y gallwch eu hychwanegu’n rhwydd iawn at eich route. Mae’n werth nodi hefyd fod y meddalwedd ei hun yn dangos mannau o ddiddordeb, toiledau cyhoeddus, ffynhonnau dŵr, meysydd parcio ac ati sy’n hynod ddefnyddiol wrth fentro i le newydd.


Casgliadau’r Ddwy Olwyn

Doeddech chi ddim yn meddwl y byswn i’n sgwennu cofnod am routes heb hybu fy nghynnwys fy hun?! Ers sefydlu’r blog bron i bedair (4!) blynedd yn ôl mae ‘mhrofiad i a’ch gwybodusrwydd chi wedi cyfuno i adeiladu storfa dda o gasgliadau sy’n cynnwys dringfeydd a chaffis yn bennaf. Cliciwch yma i gael mynediad at y map.


Trip Advisor ac ati

Mae angen gwybod ymhle mae’r caffis pryd bynnag y boch chi allan ar y beic. Dw i’n credu mai TripAdvisor yw’r man gorau i fynd i chwilio am gaffis gorau ardal benodol - er bod argymhellion gwerth chweil i’w cael ar Y Ddwy Olwyn - gan ei fod yn cael ei ddiweddaru drwy’r amser a’i fod yn gydnabyddedig ledled y byd.


Apiau tywydd a gwynt

Un o’r pethau sy’n cael eu gofyn amlaf i seiclwyr proffesiynol yw pa sawl ap tywydd sydd ganddyn nhw ar eu ffôn. Mae gan nifer ohonyn nhw lawer iawn er mwyn gallu cael syniad gweddol ddibynadwy o’r hyn sydd o’u blaenau o ran yr elfennau. Cymharu rhwng y MetOffice a’r BBC yn ogystal â Komoot fydda i, a rhwng y rheiny dw i’n gallu dweud os y bydd angen côt law neu eli haul. Mae ‘na rai, fodd bynnag, sy’n mynd gam ymhellach, a defnyddio gwefanau fel MyWindsock. Meddalwedd yw hwn sy’n dangos i chi’n union ble y bydd hi’n chwythu penwynt, sgilwynt neu groeswynt mewn modd syml iawn i’w ddeall. Uwchlwythwch eich route i’r wefan, a bydd y map yn goleuo mewn lliwiau gwahanol i nodi cyfeiriad y gwynt.


Street View

Un o’r tŵls mwyaf defnyddiol, yn fy marn i. Mae posib cael syniad da iawn o arwyneb a lled ffordd yn defnyddio instant street view ar lein neu drwy dragio’r dyn melyn ar y map yn Google. Gogoniant hwn hefyd yw ei ddiweddariadau cyson, a’r peth agosaf at recon o reid y gallwch chi ei wneud o gyfforddusrwydd eich cartref.


Heatmaps ar Strava

Er mod i wedi canu clodydd Komoot hyd yn hyn, i Strava y bydda i - fel miliynau o bobl eraill - yn uwchlwytho’n reids ar y diwedd. Drwy hynny, mae ganddyn nhw‘r hyn elwir yn heatmaps. Mae’r rhain yn dangos i chi fap gyda graddfa o ran faint o bobl sydd wedi troedio’r llwybr fel petai. Gallwch chi wneud penderfyniad ar sail hynny wedyn - bod yn fwy arbrofol o ran ffyrdd llai poblogaidd neu ddilyn y prif lif ar ffyrdd mwy poblogaidd.


Yr hen ffasiwn - mapiau OS a llyfrau

Mae ‘na fyrdd o lyfrau fydd o fudd i unrhyw seiclwr, er bod blogiau’n tyfu’n fwyfwy defnyddiol hefyd. O lyfrau 100 Climbs Simon Warren i Epic Rides of the World a llyfrau Jack Thurston, mae ‘na gyfoeth o arbenigedd i chi’i ddilyn ôl ei droed. Mae rhai pobl yn dal i ddweud hefyd mai mapiau OS yw’r gorau i gynllunio routes - yn enwedig rhai oddi ar y tarmac. Peidiwch anghofio’n llwyr am gyfoeth y llyfrau a’r mapiau er cyfleustra’r we!

 

Dyna ni felly, y tŵls i gyd gennych ar gyfer cynllunio routes perffaith a chreu atgofion i’w trysori ar ddiwrnodau i’r brenin.


Cofiwch eu rhannu nhw i ni gael eu gweld yn eu holl ogoniant - @cycling_dragon ar Twitter neu @yddwyolwyn ar Instagram.


Hwyl am y tro.

Recent Posts

See All

Comments


bottom of page