top of page
Writer's pictureGruffudd ab Owain

Team Ineos: Delwedd newydd i seiclo

Updated: Mar 24, 2019

Sgroliwch i'r gwaelod am restr gyflawn o ffynnonellau gwybodaeth ddefnyddiwyd ar gyfer y gofnod yma.


Mae'n swyddogol felly - mae dyn cyfoethocaf Prydain, Sir Jim Ratcliffe a'i gwmni, Ineos, am gymryd drosodd mawrion y byd seiclo, Team Sky, ar y 1af o Fai.


Bydd y tim newydd, gyda chit a noddwyr newydd, yn cael ei lansio yn y Tour de Yorkshire, lle mae disgwyl i Chris Froome rasio.


Mae'r newyddion yn dod wedi misoedd o sïon am ddyfodol y tim wedi i Comcast - sy'n berchen Sky - gyhoeddi eu bod am ddod a nawdd y tim i ben ar ddiwedd 2019.


Yn gyntaf, roedd son am bartneriaeth gyda Academi Seiclo Israel, ac yna son am gytundeb gyda chwmni petrogemegion yng Ngholombia, cyn i'r sïon pellach am Ineos gael eu cadarnhau wythnos diwethaf.


Ond beth mae'n ei olygu i seiclo?


Pwy yw Ineos?

  • Mae Ineos yn gwmni petrogemegion sy'n cael ei leoli yn swydd Hamp.

  • Mae o fewn y ddau gwmni cemegion mwyaf y byd yn ol eu refeniw o $90 biliwn (Wikipedia).

  • Dyn cyfoethocaf Prydain, Sir Jim Ratcliffe, sy'n berchen Ineos ac yntau werth $13.1 biliwn yn ol rhai, ond eraill yn tybio fod y ffigwr yn agosach at $21 biliwn.

Y gyllideb yn cynyddu?


Digon o arian i'w rannu i'n camp felly gan y cwmni aml-filiwn, Ineos - ond er disgwyl (gobaith, efallai) fod y gyllideb yn mynd i ostwng, cynydd o 5 miliwn o ewros sy'n cael ei ragweld wedi'r trosfeddiant.


Gyda'r tim eisoes yn hawlio cyllideb fwyaf y byd seiclo o bellffordd gyda ffigwr oddeutu 35 miliwn ewro, 40 miliwn ewro fydd gan y tim ym meddiant Ratcliffe ac Ineos.


Mae hynny felly'n ehangu'r bwlch ymhellach rhwng y tim mawr a'r timau bychain, gyda'r cynnydd yr un faint a chyllideb rhai timau.


Er nad yw ffigyrau cyhoeddus am 2019 yn bodoli ar hyn o bryd, mi roedd cyllideb Bora-Hansgrohe (Bora-Argon 18 ar y pryd) yn 4 miliwn ewro (cyn iddynt arwyddo Peter Sagan) yn 2016.


Cyfartaledd cyllideb timau seiclo yw 15 miliwn o ddoleri - sef faint mae Deceuninck-QuickStep yn ei weithredu arno - a hynny'n ddim ond 38% o gyllideb rhagolygedig Ineos.


Ac mae rhaid cofio nad tim ffol o gwbl yw Deceuninck - ond tim sy'n goruchafu rasys undydd gan gipio dros i bedwar-ugain o fuddugoliaethau yn 2018.


Hynny felly'n rhoi maint eu cyllideb i fewn i'w persbectif. Yn ychwanegol i hynny, mae Sky (ar hyn o bryd) yn talu miliynau i unigolion yn flynyddol.


Mae Chris Froome a Geraint Thomas yn derbyn ffigwr deidi o 5 miliwn ewro yr un bob blwyddyn, gyda reidwyr fel Michal Kwiatkowski yn derbyn 3 miliwn ewro y flwyddyn.


Lleiafswm cyflog seiclwyr WorldTour yw 38,155 o ewro, 0.76% o gyflog blynyddol Geraint a Froome.


Ond pa mor hir fydd cyllideb di-guro Sky yn parhau?


Dim ond ychydig fisoedd.


Yn ol pennawdau ym mis Hydref, mae Brian Smith a Shane Sutton, ynghyd a Tim Kay - yn lansio tim WorldTour Tseinsiaidd gyda chyllideb hyd yn oed yn fwy yn 2020.


Yn ogystal, mae'n bosib y gwelwn ni Bahrain-Merida yn codi ger hefyd wedi iddynt sicrhau nawdd sylweddol gan McLaren ar gyfer 2020.


Delwedd newydd i seiclo

Mae nifer wedi amlycu ac uwcholeuo'r ffaith mae cwmni petrogemegion ydy Ineos ac felly'n erbyn ymgyrch Ocean Rescue Sky a'r tim yn 2018.


Ond yn ol Dewi Owen oedd yn mynegi ei farn yn wych, os gai ddweud, ar bodlediad y Dihangiad wythnos yma, ffars llwyr ydy'r prosiect yna beth bynnag.


I ychwanegu at hynny, mae Ineos yn un o wneuthurwyr plastigau mwya'r byd.


Rwy'n cytuno'n gryf gyda Dewi a Rheinallt ar y Dihangiad a chriw podlediad seiclo'r BBC, BeSpoke, fod Ineos yn cyfrannu at waethygiad yn nelwedd seiclo, yn enwedig o ystyried fod alloriannau carbon y byd seiclo nesa' peth i ddim.


A dydy noddwyr gwrth-amgylcheddol ddim yn bethau newydd o gwbl mewn seiclo. Cwmni mwyngloddio oedd Orica, ac fel yr oedd nifer o'r podledwyr nodir uchod yn cyfeirio ato, dydy delwedd gyffredinol Kazakhstan, Bahrain a'r EAU ddim yn un bositif chwaith.


Ond mae'r ffaith i Sky drafod gyda chwmni cemegion yng Ngholombia hefyd yn golygu bod y 'big bycs' gan y cwmnioedd sydd ddim yn wyrdd.

Mae seiclo wastad wedi bod yn gamp dlawd, gyda dim un corff yn talu arian i'r timau, dim gwerthiant ticedi a dim hawliau teledu'n cael eu rhannu rhwng y timau a dydy'r gamp ddim angen yr arian mawr.


Mae Ineos yn dod i mewn gyda'u miliynau i noddi tim seiclo mwya'r byd - sy'n rhoi'r delwedd bod angen refeniw o $90 biliwn y flwyddyn i noddi.


Er ei bod hi, heb os, yn wych bod cwmniau'n fodlon buddsoddi cymaint i'r gamp - nid dyma'r ffordd i ddenu mwy o noddwyr.


Yn bersonol, dwi'n credu fod angen nenfwd gyllideb mewn seiclo - ac yn fy marn i, mae angen hanneru'r swm ragolygedig gan Ineos a dod a'r nenfwd i 20 miliwn o ddoleri.


Byddai hynny'n golygu torri cyllideb Sky/Ineos, yn ogystal a chyllideb Katusha-Alpecin.

Mae'r UCI yn ceisio datblygu'n camp, fel soniodd y Dihangiad, a dydy cael timau mawr a thimau bach ddim yn ffordd dda o gwbl i farchnata'n camp.


Dylai cydbwysedd fodoli rhwng cyllidebau'r timau.


Beth am oruchafiaeth Sky?


Fe soniodd Jonathan Vaughters, y cyn-reidiwr proffesiynol sydd bellach yn rheoli EF Education First, fod arian mawr Sky wedi bod yn sylfaen amlwg i'w llwyddiant.


Ond mae goruchafiaeth yn beth naturiol ar draws yr holl gampau - sut mae'n cymharu?


Mae'n amlwg felly fod arian a chyllideb yn ffactorau mawr o ran llwyddiant tim mewn ras neu gystadleuaeth benodol.


Cred rhai yw bod goruchafiaeth yn gwneud camp yn beth hirwyntog a diflas, ydy hynny'n cael ei adlewyrchu yn y ffigyrau teledu tybed?

Er fod y graff yma'n ddiffygiol o ddata digonol, mae'r patrwm yn weddol amlwg. Mae gostyngiad ar draws y rhan fwyaf o wledydd, ac eithrio'r Iseldiroedd.


Mae'n bwysig nodi fod posiblrwydd fod Cwpan bel-droed y Byd wedi effeithio ar ffigyrau teledu 2018 - er nad oedd yr Eidal na'r Iseldiroedd yn cymryd rhan.


Os nad ydy'r UCI yn gweithredu ar wneud ein camp yn un mwy diddorol a chyffrous yn fuan, a fydd perygl o golli pleser gwylio seiclo?


Rhestr ffynnonellau


Ffigyrau teledu - Daam van Reeth

Podlediadau a nodwyd - BeSpoke, Y Dihangiad

Gwybodaeth arall - INRNG, The Road Book, Wikipedia

Recent Posts

See All

Comments


bottom of page