top of page

Tri chymal yr Alpau i’w gwylio yn y Tour 2018

Yr Alpau Ffrengig. Fy hoff ardal i’n yn y byd. A’m hoff dref, Annecy, yn cael cychwyn un o’r cymalau.

Rydw i’n bersonol methu aros tan bod y cymalau yma’n fyw ar y teledu a phobl ar draws y byd yn cael profi hud yr ardal.

Ond, nid fi sydd yn bwysig yn Le Tour de France. Mae’r tri cymal yma’n rai i’r dringwyr pur a gyda Alpe d’Huez yn dychwelyd, pwy a wyr beth ddigwyddith.

Mae’n bosib iawn y bydd Sky yn canolbwyntio ar Geraint Thomas yn y cymalau ar y coblau a fo’n ffafrio’r rasys hynny’n y gorffennol.

Wedi cymal Roubaix, mi fydd diwrnod o orffwys cyn teithio i Annecy ar gyfer y cymalau canlynol, ac ar ol ei berfformiad yn y Dauphine, efallai bydd Geraint yn gallu di-sodli dringwyr pur eraill megis Romain Bardet.

Yn bendant, bydd y cymalau canlynol yn siapio’r ras ac mi fydd yn ddiddorol gweld sut bydd y timau’n eu taclo wedi’r coblau.

Cymal 10


Mae’r gymal hon wedi ei dewis ar gyfer digwyddiad y ‘L’Etape du Tour’ fydd yn denu cannoedd o reidwyr o bob lefel gallu, ac mae’n hawdd iawn gweld pam.

Wrth gwrs, bydd golygfeydd o lyn Annecy yn hynod ddeniadol ond mae’r dringfeydd heriol yn niferus yn ogystal.

Wedi cylchdro o’r llyn prydferth, bydd y reidwyr yn cynhesu eu coesau ar ddringfa gategori pedwar y Col de Bluffy.

Categori un yw’r ddringfa nesaf ar y fwydlen sef Col de la Croix-Fry a chredwch chi fi, mae hon yn cynnig sialens.

Ac yna’r ddringfa hir-ddisgwyliedig, Montee du Plateau des Glieres. Chwe cilomedr o hyd ar raddiant cyfartalog o dros 11% gyda 2km yn ddi-darmac.

Sialens ddwbl i’r reidwyr ar ddiwedd y diwrnod; taclo’r Col de Romme ar y ffordd i gopa’r Col de la Colombiere. Dau ddringfa gyda chyfanswm o 16.5km ar raddiant cyfartalog o 9%.

Bydd hwn yn gymal lle mae’n bosib i’r crys melyn olli gafael arno ac un o’r dringwyr pur yn cymryd drosodd.

Cymal 11


Fel y gwelwch chi ar y map uchod, mae nifer o hairpin bends i’r reidwyr eu taclo ar y gymal heriol yma.

Y gyntaf o’r dringefydd yw’r Montee de Bisanne, 12.4km o hyd gyda graddiant cyfartalog o 8%.

Wedi’r disgyniad bydd dringfa arall iddynt ei daclo yn ffurf y Col du Pre, ychydig yn hirach na Bisanne ond y graddiant yn debyg.

Ni fydd gorffwys i’r reidwyr; Cormet de Roselend o gyfeiriad gwahanol i’r Dauphine. Dringfa o 6km gyda graddiant o 6.5%.

Gan fod y gymal hon yn diweddu ar gopa La Rosiere, yn amlwg bydd rhai taclo’r ddringfa gategori un ar ddiwedd y dydd.

Mae’n debyg bydd blinder yn eu coesau cyn y ddringfa o bron i 18km.

Pwy fydd yn gallu gwrthod blinder a chipio buddugoliaeth? Newid yn y crys melyn eto?

Cymal 12

Dyma gymal arall mae nifer yn edrych ymlaen ato – un sy’n gorffen ar frig Alpe d’Huez, sy’n enwog am siapio’r Tour de France.

Bydd y reidwyr yn cychwyn yn Bourg-St-Maurice, ac ar ol 53km yn esgyn am 25km i gopa Col de la Madeleine, 2000m uwch lefel y mor.

Y Lacets de Montvernier fydd nesaf i’r reidwyr heb fod yn 4km o hyd ond y graddiant uwch 8% yn barhaol.

Mae gan y gymal hon ddringfeydd hirfaith a’r ail ohonynt bron 30km o hyd ar gyfartaledd o 5%.

Efallai gwelwn ymosodiadau yma fel eu bod yn ennill tir ar y disgyniad i droed Alpe d’Huez ar gyfer y diweddglo tanllyd.

14 cilomedr o hyd ar 8%, yn eiconig am ei 21 hairpin bends (unrhyw gyfieithiadau am hairpin bends, anfonwch nhw i fi ar Twitter!).

Mae’n sicr bydd nifer fawr yn troi’r teledu ymlaen ar y gymal hon i weld y frwydr fydd yn digwydd ar yr Alpe.

Recent Posts

See All
bottom of page