top of page
Writer's pictureGruffudd ab Owain

Triple Everest?! Sgwrs gyda Jac Lewis

Defnyddiwyd yr holl luniau yn y gofnod gan gynnwys yn y clawr drwy garedigrwydd Gwynfor James yn sportpictures.cymru

Using Google Chrome? You can translate this post, and every other one on the blog (of which there are many), into English.


Mae 'Everesting' wedi bod yn ffenomenon sydd wedi cydio sylw seiclwyr ledled y byd ers ambell i flwyddyn bellach.


Yn syml, y dasg yw ailadrodd dringfa nes eich bod wedi dringo cyfwerth ag Everest sef 8848m neu 29031 troedfedd. Yn ôl gwefan Hells500 sy'n cydlynu Everesting, mae bron i 16,000 o bobl wedi cwblhau'r her erbyn hyn - a cafwyd cofnod yn sgwrsio ag un o'r rheiny ar y blog llynnedd.


Ond dydy'r ddynolryw byth yn bodloni ar unrhywbeth; mae'n rhaid ei gymryd i'r cam nesaf.


Wythnos diwethaf, cyflawnodd David Cole (DC Triathlon a phodlediad Nawr yw'r Awr) a dau arall vEveresting - Everesting rhithiol ar feddalwedd Zwift - a llongyfarchiadau mawr iddynt ar gyflawni'r her.


Ar yr un pryd, roedd un dyn yn mynd gam ymhellach er mwyn torri record cenedlaethol ac ymuno gyda rhestr ddethol iawn o bobl ar draws y byd.


Ei enw yw Jac Lewis.


Penderfynodd gyflawni nid un, nid dau, ond TRI Everest mewn un go, a hynny ar ddringfa'r Marchlyn sydd â'i throed yn Neiniolen, sef y ddringfa uchaf yng Nghymru (mwy yng ngofnod wythnos diwethaf).


Cysylltais gydag o i glywed mwy am yr her aruthrol yma, a dyma oedd ganddo i'w ddweud. Diolch o galon iddo am ei barodrwydd i ateb a'i amser.


Dyma hanes her 39 awr, 335 milltir gyda 88127 troedfedd o ddringo.


Mwynhewch.

 

Beth wnaeth dy ysgogi di i ymgymryd â’r her yma? Oedd y ffaith mai dim ond 12 o bobl ledled y byd - a’r un o’r rheiny o Gymru nac Ynysoedd Prydain - oedd wedi’i gyflawni yn ffactor?


Yn fy nghylch ffrindiau 'den ni gyd yn caru'r syniad o Everesting. Mae pob un ohonom ni wedi gwneud un sengl a gwnes i f'un i llynnedd, hefyd ar Marchlyn. Awst diwethaf gwnaeth un o fy ffrindiau un dwbl oedd yn teimlo'n hurt ar y pryd a'n impressive… dim ond un her arall oedd ar ol gan Hells 500 sef triple ac mi roedd rhaid i mi roi tro arno.

Faint o brofiad oedd gennyt ti o’r math yma o heriau o’r gorffennol - oedd hynny’n dylanwadu ar faint o baratoi oedd angen ei wneud?


Doeddwn i heb wneud unrhywbeth tebyg o'r blaen. Y peth agosaf oedd ras aml-gymal yn Ffrainc (Le Grand Trophée) lle roeddem yn rasio am bedwar diwrnod yn yr Alpau. Dau cymal ar 115 milltir, 17000 troedfedd o ddringo yr un a dau REC (ras yn erbyn y cloc) fyny allt. Fel arall, dwi'n newydd i ddigwyddiadau pellter 'ultra'.

Disgrifia’r emosiynau yn ystod ac ar ôl yr her.


'Nes i ddim sylweddoli ar beth oeddwn i wedi'i wneud tan ryw ddau neu dri diwrnod wedyn. Oherwydd y mindset y gwnes i roi fy hun ynddo roedd o'n ddigon hawdd i barhau i fynd amdani. Roedd fy ffrindiau yn crybwyll yn ystod y digwyddiad pa mor hawdd oeddwn i'n gwneud iddo edrych gan mai dyna sut oeddwn i'n edrych arno. Hawdd. Dim ond cwpl o ddiwrnodau wedyn gwnes i sylweddoli pa mor wallgof oedd yr holl beth a cymerodd ambell ddiwrnod i gerdded yn normal eto 😂


Roedd y pellter, y dringo a’r amser yn anferth yn yr her yma - beth oedd yr elfen anoddaf o’r her?


O bellffordd y rhan anoddaf oedd y cyfnodau dros nos, yn enwedig yr ail noson oherwydd erbyn hynny roedd diffyg cwsg, diffyg hydradiad yn ffactorau ac roedd hi'n -1°C felly roedd hi'n OER ar y goriwaered. Gwnaeth y cyfnod mwyaf anodd ond para ryw awr oherwydd 'nes i ddechrau gweld pethau (hallucinate) fel ieir yn rhedeg ar draws y ffordd. Ar ôl hynny gwnes i gymryd cwsg yn gynt nag o'n i wedi'i gynllunio i osgoi damwain. Ar ôl deffro 'nes i yfed coffi a crack on... ro'n i'n hollol iawn wedyn am weddill yr her.

Llwyddaist i godi dros i £1,500 at elusen Cymdeithas Alzheimer’s - pam dewis yr elusen yma’n arbennig?


Mae'r elusen yn golygu llawer i mi ac i fy nyweddi gan fod aelodau o'r teulu wedi profi'r salwch. Oherwydd hynny, roedd dewis Cymdeithas Alzheimer's yn no-brainer.


Beth fyddi di’n ei gymryd o’r her yma?


Mae o I GYD yn y pen! Mae sut 'dech chi'n edrych ar bethau yn llwyr newid eich safbwynt. Roedd Everest sengl llynnedd yn anodd ofnadwy ond rwan dwi wedi gwneud 3 mewn un go. Dydy fy ffitrwydd heb newid bron dim ond pa mor wydn ydw i'n feddyliol sydd wedi newid. Grit. Dwi'n edrych ar athletwyr ultra fel David Goggins a Ross Edgley ac maen nhw'n credu'r un fath.

 

Dyna chi, hanes her wallgof er budd achos teilwng tu hwnt. Mae'n parhau i fod modd cyfrannu yma: https://www.gofundme.com/f/triple-everest.


Ysbrydoliaeth i chi ymgymryd â her o'r fath?!


Tan y tro nesaf.

Recent Posts

See All

Comments


bottom of page