Ymuno รขโr tifosi yn Strade Bianche
- Gruffudd ab Owain
- Mar 9
- 6 min read

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae'n deg dweud fod fy niddordeb yn y byd seiclo proffesiynol wedi pylu rhywfaint.
Alla i ddim rhoi 'mys ar pam yn union, ond dwi'n sicr ddim yn meddwl ei fod o'n beth drwg o reidrwydd; hynny yw, mae pethau eraill llawen wedi dod i lenwi unrhyw fwlch adawyd ar ei รดl.
Ond mi'r oedd y 'fi' o ychydig o flynyddoedd yn รดl wedi mopio efo Strade Bianche, ras undydd ar hyd lonydd llychlyd (lonydd gwynion) Toscana yn yr Eidal, yn cychwyn a gorffen yn Siena.
Beth oedd a sydd wrth wraidd apรชl y ras hon?
Wel, mae iddi apรชl o ran y rasio. Mae'r rhannau ar y graean yn aml yn creu amodau anwadal, gan greu cryn gyffro i'r gwylwyr. Mae'r ras yn gorffen yng nghanol Siena, ar y Piazza del Campo (lle cynhelir rasys ceffylau hefyd), ar รดl iddyn nhw orfod dringo Via Santa Caterina, a'i graddiant o 16%.
Ond mae iddi apรชl o ran aesthetic hefyd. Mae'n bur debyg mai dyma un o'r diweddgloeon mwyaf prydferth i unrhyw ras ar y calendr seiclo, a hynny ar ben y lonydd llychlyd sydd megis nadroedd dros dirlun gwyrdd Toscana.
Felly dyna a'm denodd i garu'r ras undydd hon. Mi wnes i addewid i mi'n hun y byddwn i'n mynd i Siena i'w phrofi yn y cnawd ryw ddydd. I ymuno รข'r tifosi sydd o boptu i'r lรดn.
(Tifosi yw'r enw ar ffร ns seiclo'r Eidal. Tifoso/tifosa yw'r unigol am ffร n; gellir dweud sono tifoso/a di, dwi'n ffร n o. Sono tifoso/a del ciclismo, er enghraifft)
Ac er efallai nad ydw i'n cadw tabs ar y rasys a'r mynd a'r dod ar y sรฎn broffesiynol bellach, mae 'na ran ohona'i sydd eisiau cadw'n driw i'r 'fi' yna o'r gorffennol.
Yn aml iawn, dwi'n canfod fy hun eisiau gwireddu breuddwydion fy ngorffennol, hyd yn oed os nad ydyn nhw'n fy nghadw i'n effro mor aml, os o gwbl, erbyn hyn.
A chan fod fy nghyfnod i'n byw ar gyfandir Ewrop yn prysur ddirwyn i ben - am y tro, o leiaf - eleni fyddai'r cyfle olaf i wneud y gorau o rwydwaith trenau'r Eidal, a dianc am benwythnos i fynd i brofi naws unigryw Strade Bianche.
Felly ar รดl dysgu sol-ffa a fflats a sharps i ddau ddosbarth cynradd fel rhan o 'mhrofiad gwaith, dwi'n cychwyn ar y daith hir o Menton, hanner dydd ddydd Gwener.
Cwta ddeng munud yw hyd y siwrne gyntaf dros y ffin i Ventimiglia, a newid trรชn yn fanno i fynd am Genova. Ar รดl cinio yn fanno, oedd รข naws hyfryd ar ddiwrnod braf o Wanwyn, dwi'n cymryd y trรชn wedyn i Pisa. Dwi'n treulio gormod o amser yn ymgymryd รข chliw cryptig rhaglen Tudur Owen, a'i gael o'n anghywir yn 'diwedd, ac o bryd i'w gilydd yn gwirioni ar y golygfeydd arfordirol drwy'r ffenestr. Dwi'n gwneud adduned o'r newydd i ddychwelyd i rai o'r llefydd y mae'r trรชn yn gwibio heibio iddyn nhw.
Dros yr uchelseinydd, maen nhw'n cyhoeddi bod staff y trenau ar streic rhwng 9 o'r gloch heno, a 9 o'r gloch nos yfory (Sadwrn) - ddim yn aidial, ond mi ddown ni drwyddi. Mae'n amlwg fod y cyfieithiad Saesneg wedi'i gynhyrchu gan gyfrifiadur o ryw fath, achos mae 'Trenitalia' yn cael ei yngan i odli รข genitalia. Anffodus.
Mae'r trรชn yn cyrraedd Pisa ychydig yn gynnar, sy'n rhoi hanner awr i mi cyn y trรชn olaf i Firenze (Fflorens).
Dwi 'rioed 'di bod yn Pisa o'r blaen.
Dwi'n edrych ar y map. 25 munud i gerdded at y tลตr.
Be 'nawn ni, awn ni?

Felly dwi'n g'luo hi ar hyd lรดn dawel, yn croesi'r bont, รข'r haul yn machlud yn dlws dros y bryniau yn y cefndir. Ymhen ychydig, mae'r tลตr yn gwyro oddi wrtha'i yn y pellter. Ond mae 'na goeden a wal go dal yn fy rhwystro fi rhag ei weld o'n iawn. Felly ymlaen รข fi.
Dwi'n cyrraedd, ac mae'n dipyn o wefr ei weld o'n llawn, yn y cnawd.
Dwi'n cymryd ambell lun, ac wedyn yn g'luo hi'n รดl am yr orsaf.

Dwi'n ifanc, dwi'n dawnsio ar y dibyn, and I love it.
Diolch byth am allu rhedeg, dwi'n meddwl. Dwi'n cyrraedd yr orsaf efo rhyw bedwar neu bum munud yn sbรขr, ac o gyrraedd y platfform, mae'r trรชn yn cyrraedd yr un pryd รข fi.
Awr sy'n weddill o'r daith i Firenze wedyn, a dwi'n dod o hyd i swper yn ddigon rhwydd yn fanno, cyn cymryd tram at y gwesty, sydd yn ardal Novoli o'r ddinas. Mae'r gwestai yng nghanol y ddinas yn ddisgwyliedig ddiawledig ddrud.
Dydw i heb gael defnydd o lawer o noddwyr timau'r byd seiclo, ond dwi'n falch iawn o wybod am B&B Hotels.
Nรดl at streic y trenau. Dwi wedi llwyddo dod o hyd i ddogfen sy'n rhestru'r trenau sy'n siลตr o redeg fory, fel rhan o'r gwasanaeth lleiaf y mae'n rhaid iddyn nhw ei gynnig. Y trรชn hwyraf yw 08:10 yn y bore.
Nid yn union y penwythnos ymlaciol o'n i wedi gobeithio amdano, ond ta waeth. Dwi'n gosod larwm ar gyfer toc cyn saith, er mwyn manteisio ar frecwast gwesty (un o bleserau mawr bywyd) cyn mynd.
Does dim trafferth ar y trรชn hwnnw drannoeth, diolch byth, a dwi'n cyrraedd Siena'n ddiogel.
Y peth cyntaf dwi'n ei weld ar รดl gadael yr orsaf (sy'n cymryd sbel go hir a llawer iawn o risiau symudol) ydy bysus y timau. Dwi yn y dref iawn, o leiaf.

Dwi'n dilyn yr arwyddion wedyn am y 'pentref cychwyn'. Dwi'n rhy hwyr i weld ras y menywod yn cychwyn, ond yn ymuno a'r cannoedd os nad miloedd o bobl yn gwylio'r dynion yn cael eu cyflwyno yn eu tro. Mae'n teimlo ychydig fel Steddfod, stondinau (Kask a Lidl yn hytrach na Cadwyn a Merched y Wawr), a dim lot o le i symud. Mewn rhyw fath o amphitheatr mae o, ac o fa'ma maen nhw'n cychwyn ychydig wedi 11.

Ar รดl iddyn nhw gychwyn ar eu taith hwythau, dw innau'n cychwyn ar fy nhaith o gwmpas Siena. Wedi'r cyfan, esgus i ddod i Siena ydi'r ras feics - nid dod yma'n unswydd i weld y ras feics ydw i, fel petai. Felly fues i'n rhesymu efo ambell un oedd ddim cweit yn amgyffred yr apรชl yn ystod yr wythnos - "what, they only go past once?"

Do'n i heb cweit ddeall ei bod hi'n gymaint o bot mรชl i dwristiaid, ac mae'r rhai sydd yma i weld Strade Bianche ar ben y torfeydd arferol yn golygu'i bod hi'n brysur a byrlymus.
Ar รดl crwydro ychydig, dwi'n cymryd fy lle ar yr allt - ar Via Santa Caterina - tua awr cyn bo disgwyl i'r merched ddod heibio. Dwi'n gwyro'n erbyn y wal i ddarllen i basio amser (The Seasoning, cyfieithiad 'Blasu' Manon Steffan Ros - diolch i Gwyn a Rhian yn Awen Meirion am argymell. Dwi'n gyndyn iawn o ail-ddarllen pethau, rhag sbwylio'r teimlad gwreiddiol, ac felly mae darllen cyfieithiad yn teimlo fel ffordd dda o fwynhau stori gystal o'r newydd).

Mae 'na wefr am wylio ras feics yn y cnawd, hefyd, er mai mynd heibio mewn mater o eiliadau maen nhw yn 'diwedd (wel, o fod ar allt, o leia' den nhw ddim yn mynd heibio cweit mor fuan). Yr aros, y beics modur yn dod yn ara' bach, wedyn y ceir, y tensiwn yn codi, rhywun yn gwylio ar ei ffรดn yn dweud faint sydd ar รดl. Ac wedyn sลตn y dorf yn y pellter - dyma nhw'n dod. Roedd hi'n dipyn o wefr gweld brwydr ar yr allt hefyd - Anna van der Breggen, yn ei ras gyntaf ar รดl rhoi'r gorau i'w hymddeoliad, a Demi Vollering, yn mynd benben ar yr allt.
Mae'n cymryd tipyn o amser i'r gweddill ddod heibio, yn llwch i gyd, hoel dioddefaint yn llygaid sawl un, a dyna ni wedyn.

Chwilio am gelato, eistedd yn y Piazza del Campo yn gwylio ras y dynion ar sgrรฎn fawr, cyn mynd yn รดl i'r allt rhyw awr cyn bo disgwyl iddynt hwythau gyrraedd. Dwi'n gorfod bodloni ar fod yn is i lawr yr allt, yn yr ail reng o tifosi tro'ma.

Dwi wastad yn ffraeo efo fi'n hun - p'un a i dynnu lluniau, neu i "fyw yn y funud" a mwynhau'r wefr o'u gweld yn mynd heibio am be' ydy o. Nid 'mod i o reidrwydd yn meddwl fod rhain o reidrwydd yn mutually exclusive. Dwi'n meddwl mod i wedi dod o hyd i falans go lew heddiw rhwng y ddau beth.
Y tro hwn, Tadej Pogaฤar sy'n dod heibio'n gyntaf, a fyntau ar ei ben ei hun bach, ei siorts a'i grys wedi eu rhwygo ar รดl mynd dwmbal dambal oddi ar gornel ar un o'r sectorau graean.
Dwi'n reit smแปณg o wybod ei fod o'n hyfforddi ar rai o fy hoff lonydd yn yr Alpes-Maritimes.
Dwi'n cofio pan oedd o'n eistedd ar y bwrdd drws nesa' i mi tu allan i'n hoff boulangerie ni ein dau, yn La Turbie.
Mae teimlo 'mor agos' at un o arwyr mawr y byd seiclo yn ychwanegu at y wefr o fod yn rhan o'r tifosi, yn gweiddi "Dai! Dai! Dai!" wrth iddo fynd am fuddugoliaeth drachefn.
Dwi'n teimlo'n rhan fechan (iawn, iawn, iawn) o'r fuddugoliaeth.
A hefyd yn teimlo'n rhan o'r tifosi.
