top of page

10 dringfa mwyaf eiconig Cymru

Mae'r gyfres, Stepen Drws, sydd bellach wedi siapio Map Seiclo Cymru (yddwyolwyn.cymru/stepen-drws), yn un o agweddau mwyaf poblogaidd a llwyddiannus y blog - ac ysgrifennu am gyfoeth y genedl yw fy hoff agwedd i o flogio.


Rhwng y cofnodion am gaffis a dringfeydd gorau Cymru, mae 450 ohonoch wedi darllen cofnodion y gyfres, felly rwy'n hynod ddiolchgar.


Heb gael cyfle i ddarllen y cofnodion eto? Gallwch sgrolio neu chwilio amdanynt ar y dudalen cofnodion, sef yddwyolwyn.cymru/blog. 'Dwi ar ganol eu rhoi nhw mewn categori ar wahan, felly byddent yn haws i'w cyrraedd ar ol i mi wneud hynny.


Beth bynnag, y cam nesaf i'r gyfres oedd dod o hyd i'r goreuon o'r goreuon. A chan ei bod hi'n gyfres lle mae'ch barn chi fel dilynwyr a darllenwyr sydd bwysicaf - mi wnes i roi pol ar fy nghyfrif Twitter gyda phedwar grwp gwahanol (2 o'r Gogledd, a 2 o'r De):


Grwp 1: Bwlch y Groes, Bwlch Pen Barras, Mynydd Caerffili, Nant y Moch


Grwp 2: Cowlyd, Hirnant, Bwlch yr Efengyl, Mynydd Du


Grwp 3: Ffordd Pen Llech, Bwlch yr Oernant, Bwlch y Clawdd, Devil's Elbow


Grwp 4: Stwlan, Nant Gwynant, Rhigos, Mynydd Betws


Dyma'r 16 wnes i benderfynu oedd fwyaf boblogaidd yn ol yr ymateb a gefais ar ddechrau'r gyfres flwyddyn yn ol - a daeth 108 o bleidleisiau i ffurfio'r 10 uchaf, fel a ganlyn.


Mwynhewch.


(canran ddangosir yw'r canran o bleidleisiau, nid y graddiant!)


10. Nant Gwynant 4.6%

Y ddringfa fwyaf gogleddol ar y rhestr, ac yn crafu heibio Devil's Elbow i fewn i'r 10 uchaf gyda phleidlais fwrw yn unig. Yn hawlio'i lle yn rhan o glwb dringfeydd eiconig Cymru yn bennaf oherwydd ei bod hi'n bellach na llawer o'r gweddill, byddwn i'n tybio, a'r graddiant yn 5% cyson am y 6 cilomedr.


9. Ffordd Pen Llech 4.6%

Un o'r dringfeydd hynny oedd yn siwr o gyrraedd y rhestr wedi hawlio'r teitl am stryd serthaf y byd oddi wrth Stryd Baldwin yn Seland Newydd. Cynhaliwyd REC dringfa (hill climb race) i fyny'r llethrau yn yr haf eleni drwy Welsh Cycling, brofodd yn boblogaidd - gydag ambell un yn llwyddo i'w goncro mewn llai na munud. Graddiant cyfartalog o 21% - hurt!


8. Bwlch yr Oernant 6.5%

A'i throed yn nhref Llangollen ar yr Afon Ddyfrdwy, byddwn i'n tybio bod hwn yn un o'r dringfeydd mwyaf poblogaidd ar y rhestr, ymysg Prydeinwyr a beicwyr modur yn ogystal a seiclwyr Cymru. Clwb rasio Wrecsam sy'n cynnal y REC dringfa ar llethrau'r Oernant (Horseshoe Pass) yn flynyddol.


7. Rhigos 6.5%

Yn un o hoff ddringfeydd rhai o seiclwyr proffesiynol y genedl a'r ardal, megis Geraint Thomas, fu'n defnyddio'r ddringfa fel rhan o'i baratoadau ar gyfer ei fuddugoliaeth yn y Tour yn 2018. Mae'r ddwy ochr i'r ddringfa, y naill o Dreorci a'r llall o bentref Rhigos, yn rhyfeddol y debyg, gyda'r ddau a chyfartaledd o 5% am 6 cilomedr.


6. Cowlyd 6.5%

Y ddringfa anoddaf yng Nghymru meddai rhai, y ddringfa anoddaf ym Mhrydain medd eraill ochr yn ochr gyda Bealach Na Ba yn yr Alban a Bwlch Hardknott yn Lloegr. Mae'n serth o'r cychwyn cyntaf, ac mae'n parhau tan y copa - cyfartaledd o 13.6% am 3km cyfan! Un o ddringfeydd serth niferus Dyffryn Conwy, a byddwn i wedi disgwyl iddo fod yn uwch ar y rhestr - ond rhaid parchu democratiaeth!


5. Mynydd Du 7.4%

Yn y De Orllewin, gyda'i throed yng Ngwaun Cae Gurwen, mae Mynydd Du - un o griw dethol o ddringfeydd categori 2 ar y rhestr. Cyfartaledd o 5% am bedair milltir, gyda'r cyfran coch ar y proffil yn dynodi'r uchafswm graddiant sy'n 17%. Tipyn o her, byddwn i'n tybio - edrych ymlaen i'w goncro pan fydd Eisteddfod yr Urdd yn ymweld a Llanymddyfri yn 2021.


4. Bwlch yr Efengyl 7.4%

Byddai nifer yn siwr o ddadlau bod bwlch uchaf Cymru, yn sefyll 551m uwch lefel y mor, yn haeddu lle ar y rhestr ddethol yma o ddringfeydd eiconig y genedl. Un arall o'r dringfeydd categori 2, a'r hiraf ar y rhestr bron yn 9km o bellter. Mae'r graddiant yn eithaf newidiol, hyd at 15% ond mae'r cyfartaledd yn 5%.


3. Bwlch y Clawdd 8.3%

Dwi'n llwyr ddeall mai ffugenw cyffredin iawn yw 'Bwlch', ond mae'n gynnen pan fydd pobl megis Simon Warren yn datgan yn Cycling Weekly mai dyna yw enw'r ddringfa - yn hytrach na sylweddoli mai Bwlch y Clawdd yw'r enw llawn. Mae pob un o'r tair ochr - o Price Town, Cymer a Treorci - yn hawlio categori 2, ond tybiwn y byddai rhai'n dadlau mai'r llethrau o Price Town yw'r anoddaf oherwydd graddiant mwy newidiol.


2. Stwlan 12%

Haeddiannol iawn yn rhif 2 - byddwn i'n dadlau mai dyma'r ddringfa fwyaf epic yng Nghymru, nid yn unig diolch i'r graddiant serth ond i'r bachdroeon niferus sy'n cynnig nodweddion mynydd Alpaidd mewn dringfa sy'n llai na dwy filltir. Mae'r wobr ar y copa'n werthfawr, gyda golygfeydd am filltiroedd a milltiroedd ar lan cronfa ddwr Stwlan. Mae'r cyfartaledd o 10% ychydig yn dwyllodrus, mae rhai o'r cyfrannau'n anioddefol o serth.


1. Bwlch y Groes 20.3%

Dyma ddringfa mwyaf eiconig Cymru yn ol seiclwyr Cymru, ac mae'n anodd iawn dadlau gyda hynny, gyda'i graddiannau serth, golygfeydd dramatig ac yn ail ond i Fwlch yr Efengyl o ran y bwlch uchaf yng Nghymru. Mae tair ffordd i goncro Bwlch y Groes, ond yr ochr sydd, heb os, wedi hawlio'i lle yn rhif 1 yw'r ddringfa o Lanymawddwy. Hwnnw'n cynnig graddiant cyfartalog o 13.5%, ac mae'r proffil bron a bod yn fflamgoch yn ei chyfanrwydd.

Recent Posts

See All
bottom of page