Wedi gaeafgwsg hir i nifer ohonom ni seiclwyr dros y misoedd diwethaf, daeth trobwynt yn ddiweddar wrth i ni groesawu’r Gwanwyn. Ac wedi i ni droi’r clociau dros y penwythnos, mae’r tymor seiclo wir wedi dechrau.
Does dim byd sy’n crisialu’r wefr o fynd allan ar ddwy olwyn na’r dringfeydd. Y gwaith caled i esgyn i’w brig, ond y gorfoledd o gyrraedd a gwerthfawrogi’r tirlun mawreddog o’n cwmpas cyn mwynhau’r disgyniad.
Bron bod y dringfeydd hyn hefyd wedi bod yn gaeafgysgu, â hwythau’n aml dan flanced o rew neu eira dros y misoedd diwethaf - ac er na wna un wennol wanwyn, mae’r amser yn sicr wedi dod i brofi gwefr o oresgyn ein dringfeydd unwaith yn rhagor.
Pan ofynnwyd i mi ddod â chasgliad o ddringfeydd gorau Cymru at ei gilydd, tasg anodd iawn oedd crynhoi i ddeg, a mwy fyth i sicrhau fod cynrychiolaeth ar draws y genedl.
Ond dyna’r dasg y gwnes i geisio’i oresgyn ar gyfer gwefan BBC Cymru Fyw.
Dyma’r canlyniad; dilynwch y ddolen i’w ddarllen:
https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/60920820
Commenti