top of page

23 o gyfrolau seiclo 2023

Wel, sut ydech chi ers talwm?


Dwi'n gwybod 'mod i wedi bod yn llai cynhyrchiol yn ddiweddar, ond un peth o'n i'n meddwl oedd yn rhaid gwneud eleni, fel mewn blynyddoedd diweddar, oedd creu rhestr siopa Dolig ar eich cyfer ar ffurf y llyfrau seiclo gyhoeddwyd dros y flwyddyn. Roedd rhaid gwneud amser i roi'r cofnod yma at ei gilydd, am ei fod o'n un o fy hoff rai i'w hysgrifennu bob blwyddyn.


Felly yn syml iawn, rhestr o 23 o gyfrolau seiclo newydd 2023 sydd yma, ac mae hi wedi bod yn flwyddyn dda iawn yn y byd llyfrau seiclo. Gymaint felly bod rhaid dewis a dethol i raddau helaeth, am nad oedd lle i bob dim.


Yn hynny o beth, dwi'n argymell i chi fynd yn ôl i edrych ar gofnod llynedd yn enwedig - https://www.yddwyolwyn.cymru/post-ey1ei/22-o-gyfrolau-seiclo-2022 - am fod llawer ohonyn nhw wedi cael eu cyhoeddi ar ffurf clawr meddal yn ystod 2023.


O ran trefn y cofnod, dwi wedi penderfynu eu grwpio nhw mewn i gategorïau er hwylustod, ac wedi dewis y categorïau'n ofalus hefyd.


Maen nhw i gyd yn cyfateb â'r categorïau sydd gen innau i gofnodion o'r blog.


Un peth dw i wedi gwneud yn ddiweddar ydi mymryn o waith cynnal a chadw ar y wefan, a rhoi mwy o bwyslais ar gategoreiddio cynnwys yn hytrach na blaenoriaethu'r cynnwys mwyaf diweddar. Drwy hynny, dwi'n gobeithio bod y broses o bori a darllen yn fwy pleserus a chyfleus.


Felly dyma restr y categorïau i'r cyfrolau - mi ddylech chi allu clicio arnyn nhw i neidio i'r gwahanol lefydd.


Er gwybodaeth, dwi wedi cynnwys dolenni Waterstones gan fwyaf. Nid am mod i'n eich annog i wario'n y fan honno; lle bo modd, mi fyddai'n ddelfrydol prynu mewn siopau annibynnol. Yr unig reswm i mi gynnwys dolenni Waterstones ydy am fod y siop honno'n gwerthu'r rhan fwyaf o'r cyfrolau ar y rhestr, ac mai o'r wefan honno y dois i o hyd iddyn nhw.

  1. Seiclwyr Cymru

  2. Seiclo yng Nghymru

  3. Map Seiclo

  4. Cynnwys Rhyngwladol

  5. Myfyrdodau ac Ysgrifau Taith

  6. Seiclo Proffesiynol

  7. Gair o gyngor

Seiclwyr Cymru



‘Great Rides According to G’ gan Geraint Thomas

Yng nghyfrol ddiweddaraf ei gyfres answyddogol ‘According to G’, i ychwanegu at ‘The World of Cycling...’, ‘The Tour...’ a ‘Mountains...’, y reids a’r teithiau gorau sy’n cael sylw Geraint Thomas. Yn debyg mewn ffordd i’r cyfrolau bwrdd cofio yr ydw i’n sôn amdanyn nhw yn y cofnod yma, mae argymhellion routes i’w cael ym mhedwar ban byd, gan gynnwys yn nes at adref yn Eryri. Ac yn wahanol i’r cyfrolau blaenorol (os cofia i’n iawn), mae ’na fewnbwn gan eraill megis Remco Evenepoel, a hwythau’n cyfrannu eu hoff reids nhw. Ar sail y cyfrolau blaenorol, does dim disgwyl llawer o swmp a sylwedd, ond gellir disgwyl darllen pleserus er hynny, neu oherwydd hynny.



***


Dwi rŵan am ymestyn y rhwyd i gynnwys dwy gyfrol gan unigolion enwog/dylanwadol, a bydd y gweddill yn ffitio'n dwt o dan 'Myfyrdodau ac Ysgrifau Taith':


‘Bloody Minded’ gan Alex Dowsett

Yn un o seiclwyr Prydeinig mwyaf nodedig y degawd diwethaf, cawn gofiant gan y cyn-reidiwr fu’n serennu yn y ras yn erbyn y cloc ac ar y trac. Mae’r pwyslais yn ei gyfrol, fodd bynnag, ar yr heriau a wynebodd i gyrraedd brig y gêm, ac yntau’r unig athletwr elît able-bodied yn y byd i wneud hynny â haemophilia A. Ceir cyfuniad o rwystrau a dygnwch, o gariad ac o anobaith, yn y naratif yma o’i yrfa.



‘Jobst Brandt!’ gan wasg Isola

Cofiant o fath gwahanol a gynigir yma gan wasg Isola, sy’n cyhoeddi cyfrolau ar sail ffotograffiaeth, ac â dweud y gwir mae dwy gyfrol ganddyn nhw yn seiliedig ar yr un unigolyn. Yr unigolyn hwnnw yw’r arloesol Jobst Brandt (1935-2015), ac mae ‘Jobst Brandt Ride Bike!’ yn talu teyrnged i’w gyfraniad i’r byd seiclo, yn benodol i ddyfodiad y cyfrifiadur GPS, y beic mynydd a theiars llyfn. Maen nhw hefyd yn gwerthu nifer cyfyngedig o ailargraffiad o’i lyfr ‘The Bicycle Wheel’, sy’n sôn am y broses o adeiladu olwynion sbôc.



Seiclo yng Nghymru



'Bikepacking Wales' gan Emma Kingston

Cyfrol gynhwysfawr sydd gennym ni nesa'; yn un sy'n ceisio cynnig ysbrydoliaeth i chi godi pac a mynd ar daith aml-ddiwrnod ar ddwy olwyn i ddarganfod y gorau o'r hyn sydd gan Gymru i'w gynnig. Ceir 18 o deithiau aml-ddiwrnod rhwng y ddau glawr, gan gynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol, yr uchafbwyntiau ar hyd y daith, ffeiliau lawrlwythadwy, ac ar ben hynny, cyngor addas i rai sy'n beicbacio am y tro cyntaf a'r rhai sy'n fwy profiadol.



Map Seiclo


Cyfateb yn fras yn unig mae'r llyfrau yma i fy nghategori 'Map Seiclo Cymru'! Mae'r cyfrolau yma'n fapiau seiclo o Ewrop a'r byd. Am fap seiclo Cymru, ewch i bori fan hyn (yr un ddolen â chategori Seiclo yng Nghymru... https://www.yddwyolwyn.cymru/blog-cd9oi/categories/seiclocymru)


'100 Bike Rides of a Lifetime: The World's Ultimate Cycling Experiences' gan Roff Smith

Mae'n ymddangos fod cyfrol bwrdd coffi fel hon yn cael ei chyhoeddi bob blwyddyn, a thro National Geographic yw hi eleni i gyfrannu'u casgliad nhw o deithiau beic gorau'r byd. Roff Smith sy'n gyfrifol am guradu'r casgliad yma, gan dynnu ar ei brofiad fel sgwennwr cylchgrawn a ffotograffydd arobryn. Cyfrol arall sy'n anelu i roi syniadau rhestr fwced i seiclwyr o bob gallu, ar draws chwe cyfandir.



'100 Climbs of Spain' gan Simon Warren

Mae'r rhestr o lefydd sydd gan Simon Warren i ymweld â nhw ar gyfer cyfrol o'r gyfres ardderchog 100 Climbs fel pe bai'n ddibendraw. Sbaen sy'n hawlio'r sylw y tro hwn, ac mae'n ffitio Mallorca a'r Ynysoedd Dedwydd rhwng y ddau glawr hefyd. Dydy Sbaen, y prif dir beth bynnag, efallai ddim ar frig rhestr pawb, ond o 'mhrofiad i mae'n baradwys. Cyfrol cychwynnol perffaith i godi blys arnoch chi.



'Cycling Atlas Europe' gan Claude Droussent

Mi ddois i ar draws y gyfrol hon mewn Ffrangeg yn Fnac yn Annecy yn ystod gwyliau'r haf, a chael modd i fyw yn pori drwy rai o'r teithiau sydd ynddi - a chael phleser mawr o weld un ohonyn nhw'n pasio'n agos iawn at adre a mynd dros Fwlch y Groes (er, ro'n i'n llai bodlon o weld mai'r enw cythreulig Hellfire Pass ddefnyddiwyd i'w disgrifio). Ta waeth am hynny, lluniwyd y gyfrol i gynnwys 350 o deithiau seiclo 'gorau' Ewrop mewn partneriaeth â Strava i hwyluso'r broses o gynllunio - cynhwysfawr a chyfleus, felly.



Cynnwys Rhyngwladol


Yn y cofnodion blaenorol mewn blynyddoedd blaenorol, dwi wedi neilltuo mwy o le i lyfrau mewn ieithioedd eraill (yn benodol Ffrangeg a Sbaeneg am fod cryn dipyn o orgyffwrdd rhwng fy wishlist i a'r cyfrolau yn y cofnod yma...), ond doedd dim angen pori lawer pellach na'r iaith fain i lenwi'r dudalen eleni. Dyma holl gofnodion rhyngwladol Y Ddwy Olwyn - https://www.yddwyolwyn.cymru/blog-cd9oi/categories/cynnwys-rhyngwladol.


‘Llegar a Ser: Pedaleando todo una vida’ gan Alberto Just López

Gwerthir y gyfrol hon nid fel nofel nac fel bywgraffiad nac fel hanes seiclwr proffesiynol, ond yn hytrach, fel stori onest ei ieuenctid, lle plannwyd hedyn ei gariad tuag at seiclo arweiniodd at yrfa fel seiclwr i safon uchel. Cyfrol arall sy’n nodi’r modd y mae’n ceisio gostwng pethau i lefel ddynol – hanes ei fywyd drwy lens y freuddwyd o bedlo.



Myfyrdodau ac Ysgrifau Taith



'Athlete at Heart' gan Kristina Bangma

Stori bersonol yr awdur sydd i'w gael rhwng dau glawr y gyfrol hon, gan olrhain hanes sut y tröwyd ei byd ben ei waered gan ddiagnosis o afiechyd prin, genetig ar ei chalon. A hithau'n athletwraig ac yn hyfforddwraig bersonol, roedd rhybudd ei doctoriaid i beidio ag ymarfer corff mwyach yn newid byd iddi, gan effeithio ar ei gyrfa, ei pherthnasoedd a'i hunaniaeth. Dyma stori o ddygymod, o addasu a chanfod cryfder o'r newydd.



‘Other Ways to Win: A competitive cyclist’s reflections on success’ gan Lee Craigie

Ym mis Gorffennaf 2013, daeth Lee Craigie yn bencampwraig Prydain yn y beicio mynydd traws gwlad, funudau o flaen gweddill y gystadleuaeth wrth groesi’r llinell yng nghyffiniau Glasgow. Yn bínacl saith mlynedd o waith caled yn arwain tuag ato, mi roddodd hi’r gorau i’w gyrfa broffesiynol flwyddyn yn ddiweddarach. Ond myfyrdod addewir yma o’i llwyddiannau yn ystod ei hymddeoliad, nid yn unig yn ystod ei gyrfa, a’r gwahanol ffyrdd o ‘ennill’ ar ddwy olwyn ac mewn bywyd.



‘Türkiye: Cycling Through a Country’s First Century’ gan Julian Sayarer

Dyma gyfrol sydd â golwg ddifyr iddi. Yr isdeitl sy’n peri’r mwyaf o ddiddordeb – ‘Cycling Through a Country’s First Century’. Gan awdur arobryn ym maes sgwennu teithio, cawn fewnwelediad, os nad llythyr caru, i Dwrci a’i chymdogion, ar hyd ei daith o arfordir Aegeaidd yr holl ffordd at y ffin ag Armenia. Ar gefn ei feic, a thrwy natur ei sgyrsiau â phobl y mae’n eu pasio, golwg o genedl ar y lefel ddynol addewir gan Sayarer.



'The Race of Truth' gan Leigh Timmis

Den ni'n clywed yn aml am bwysigrwydd y meddwl i athletwyr o bob lefel ond yn enwedig ar y lefel uchel; hynny yw, na all gryfder corfforol arwain at lwyddiant heb gryfder meddyliol hefyd. Dyna'r her oedd yn wynebu Leigh Timmis, wrth iddo fo baratoi i herio'r record am y cyflymaf i seiclo ar draws Ewrop yn 2018, a hanes hynny geir yn y gyfrol hon.



'1923' gan Ned Boulting

Un o'r unig lyfrau seiclo i mi gael amser i'w darllen eleni, ac un da oedd o hefyd. Dw i wedi sgwennu mwy amdano fan hyn - https://www.yddwyolwyn.cymru/post-ey1ei/1923-ned-boulting - yn syml, mae'n werth ei ddarllen.



'She Rides: Chasing Dreams Across California and Mexico' gan Alenka Vrecek

Mae 'na rai llefydd yn y byd sy'n ennyn chwilfrydedd ynom ni, on'd oes; yn amrywio o berson i berson gan fwyaf. Os mai Califfornia a Mecsico sy'n cymryd eich chwilfrydedd chi, yna mi alla'i hwn fod o ddiddordeb. Mae'n swnio fel coblyn o daith - cliché, ond yn daith bersonol gymaint â thaith ddwy olwyn - o Lake Tahoe ar draws Sierra Nevada i ben penrhyn Baja dros 2,500 milltir.



'Riding with the Rocketmen' gan James Witts

Dwn i'm os oes unrhywun ohonoch chi wedi cwblhau L'Étape du Tour, ond yn fras be ydi o ydi cyfle i bobl 'arferol' gael blas ar y profiad o reidio'r Tour de France, gyda digwyddiad swyddogol un diwrnod ar hyd un o gymalau'r ras y flwyddyn honno. Hanes ymdrech un dyn i gwblhau'r her honno sydd rhwng dau glawr y gyfrol hon, a golwg ddychanol, ddiymhongar ar y cyfan.



'The Life Cycle' gan Kate Rawles

Dyma gyfrol ddifyr yr olwg. Dros yr ychydig flynyddoedd dwi wedi bod yn ysgrifennu synopsis byr fel hyn am bob llyfr am seiclo wedi'i gyhoeddi, dwi wedi crybwyll sawl cyfrol taith, ond dwi'n eithaf hyderus mai dyma'r cyntaf sydd wedi cael cymaint â hyn o bwyslais amgylcheddol. Mae'r awdur yn mynd â'r darllennydd ar daith 13 mis, 8,000 milltir ar draws yr Andes ar feic bambŵ adeiladodd ei hun i'n dysgu am fioamrywiaeth a'i ddirywiad. Cyfrol sydd wedi'i chanmol yn fawr gan lawer.



'Sticky Bottle' gan Carlton Kirby

Bydd unrhywun sy'n wyliwr selog o rasys seiclo ar Eurosport/GCN/Discovery etc yn hen gyfarwydd â llais yr unigryw Carlton Kirby. Os ydy absenoldeb ei lais a'r rasys y mae'n sylwebu arnynt yn achosi gwacter yn eich bywyd, yna mi allai ei ail gyfrol, i ddilyn 'Magic Spanner', sydd hefyd yn tynnu'n helaeth ar ei hanesion personol, helpu i lenwi'r bwlch hwnnw.



'Coffee First, Then the World' gan Jenny Graham

Adnabyddir Jenny Graham fel un o fawrion y byd seiclo ultra. Yn 2018, mi gychwynnodd hi ar ei thaith o'r Alban i geisio torri record y menywod am y daith o gwmpas y byd, a hanes y daith honno gawn yn y gyfrol hon. Gellir disgwyl ffraethineb, fel mae'r teitl yn ei awgrymu, a phrofiad 'llenyddol' (ddim yn siŵr os ydi'r ansoddair yn gweithio yn y cyd-destun yma ond ta waeth) ar draws pedwar cyfandir a phob math o dywydd a diwylliannau a phrofiadau.



'Life Cycles' gan Julian Sayarer

Taith arall i geisio torri record y byd am seiclo rownd y byd yw testun y gyfrol yma gan Julian Sayarer - yn fwy penodol, ei ymgais i adennill y record oedd o'n ei dal "cyn i fanciau a busnes mawr brynu antur". Ceir ei hanes yn rhoi ei swydd fel courier o'r neilltu i seiclo cyfartaledd o 110 milltir y dydd ar gyllideb o £8.84 y dydd am chwe mis, a phortread o fyd sy'n newid.



Seiclo Proffesiynol



'The Official History of the Tour de France', diweddariad Andy McGrath

Mae 'na rai llyfrau sydd â'u cynnwys wedi crynhoi'n berffaith gan y teitl a'r clawr. Mae'r diweddariad wedi'i arwain gan Andy McGrath, cyn-olygydd cylchgrawn Rouleur, ac yn dod a'r hanes hyd at yr oes fodern a rhediad y ras yn 2022.



‘Pedalling for a Greener Future: The Tour de France’s Eco Responsibility’ gan Françoise Lanarre

Mae’r gyfrol nesaf yma’n addas i hyd yn oed pobl sy’n casáu darllen, am ei bod hi’n denau iawn. Ymddengys fod y cyfan yn cael ei adrodd o safbwynt brandiau partner y Tour de France fel Haribo a E.Leclerc. O ddarllen y bywgraffiad, mae’n swnio fel maniffesto braidd am allu’r ras i gyfuno llwyddiant a chyfrifoldeb dros yr amgylchedd, felly efallai’n astudiaeth braidd yn unochrog, ond mi allai fod yn ddarllen difyr un p’nawn dros y gwyliau.



'Green Bullet' gan Matt Rendell

Yn un o leisiau ac enwau mwyaf adnabyddus y wasg seiclo, mae Matt Rendell yn cymryd cryn dipyn o ddiddordeb yn rhannau Sbaeneg eu hiaith y byd seiclo. Dwi'n siwr fod ei lyfr, 'Colombia Es Pasión', wedi ymddangos ar un o fy rhestrau yn y gorffennol, ac eleni, cyhoeddodd ei gyfrol ddiweddaraf sy'n olrhain hanes gyrfa unigryw Alejandro Valverde, ac yn ehangach, hunaniaeth seiclo Sbaen yn ystod ei gyfnod yn y peloton.



Gair o gyngor



'The Cycling Bible' gan Chris Sidwells

Gan yr awdur a newyddiadurwr hybarch Chris Sidwells daw cyfrol sy'n addo bod yn gyflwyniad cynhwysfawr i sut i wneud y mwyaf o'ch amser ar ddwy olwyn, gan gyffwrdd ar elfennau technegol, corfforol a meddyliol.


 

Y Diwedd!


Dyna chi restr 2023, a blwyddyn arall o gynnwys Y Ddwy Olwyn wedi dod i ben!


Dyma fydd y cofnod olaf cyn y Nadolig, felly ga i fachu ar y cyfle i ddymuno Nadolig dedwydd i chi i gyd, gyda diolch am bob cefnogaeth.


Mi fydd 'na gofnod ar ddiwrnod ola'r flwyddyn i edrych yn ôl ar uchafbwyntiau'r flwyddyn, a dwi'n hyderus y bydd llawer iawn mwy o gynnwys yn y flwyddyn newydd, ac y bydd misoedd cynta 2024 yn fwy cynhyrchiol na rhai olaf 2023.


Tan y tro nesa felly, hwyl.

Recent Posts

See All
bottom of page