top of page

Rhagolwg: Giro d'Italia 2024



A rywsut mae hi (bron) yn fis Mai arna'i... sy'n golygu ein bod ni ar drothwy Grand Tour cynta'r flwyddyn i peloton y dynion, sef y Giro d'Italia.


Mae'r Giro'n dal lle unigryw yng nghalonnau ffàns seiclo, am yr arddull a'r hunaniaeth unigryw sydd i'r ras. Ac er efallai iddi fethu â denu cymaint o reidwyr safonol yn y blynyddoedd diweddar wrth i'r Tour de France dyfu a thyfu fel canolbwynt y calendr, mae'r dair wythnos yn yr Eidal bob amser yn cynnig rasio arbennig yn adloniant.


Ymhen yr wythnos, bydd y cwbl wedi cychwyn yn Venaria Reale yn y gogledd orllewin, ac felly heb oedi ymhellach, dyma wibdaith drwy'r wybodaeth allweddol.


Y Cwrs

Mae gwefan INRNG wedi rhoi graff handi iawn at ei gilydd yn cymharu'r metrau dringo ar draws rhediadau'r Giro ers 2001, a'r hyn a welwn yw fod y cyfanswm eleni ar ei isaf ers dros ddegawd.



Giro haws, felly, efallai? Nid i'r dringwyr pur beth bynnag, tra byddo'r rhai sydd wrth eu bodd yn y ras yn erbyn y cloc wedi'u plesio gan y diffyg dringo, a'r ddwy ras yn erbyn y cloc sydd, gyda'i gilydd, yn 70km o hyd.


Does dim dechrau hawdd i'r Giro, beth bynnag. Does fawr ddim cyfle i'r coesau gael cynhesu, wrth 'r peloton wynebu diwrnod bryniog ar y daith i Torino ar y cymal agoriadol. Mae'r ail ddiwrnod yn codi'r gofynion hyd yn oed ymhellach, gyda diweddglo ar ddringfa o bron i 12km o Biella. Mae'r cyfartaledd graddiant yn weddol osteg ar 6%, ond y tu ôl i'r pennawd hwnnw, mae cyfran 7km sy'n gyson serthach na 8% i roi pwysau cynnar ar ffefrynnau'r dosbarthiad cyffredinol i osod eu stamp. Mi ddylai'r tridiau dilynol ffafrio'r gwibwyr, er fod ambell i fryncyn allai ddod ar draws eu gobeithion. Cymal caled à la Strade Bianche sy'n dilyn ar gymal 6, gan gyplysu tipyn go lew o waith dringo yn yr ail hanner gyda thair cyfran ar hyd lonydd graean. Ar y dydd Gwener cyntaf wedyn, daw'r gyntaf o'r ddwy ras yn erbyn y cloc, sy'n wastad am y 34km cyntaf, cyn gofyn gwaith dringo am y chwe chilomedr olaf i'r llinell derfyn yn Perugia. Bydd cymal dringo go iawn ar y Sadwrn - dwy ddringfa gategoredig ar y daith hyd dringfa ola hir ar heolydd llydan, syth i Prati di Tivo, y gyrchfan sgïo sy'n boblogaidd gan drefnwyr y Tirreno-Adriatico. Daw'r wythnos gyntaf i fwcl ar gymal fydd yn gofyn tipyn o dimau'r gwibwyr os ydyn nhw am lwyddo, gyda sawl rhwystr yn tarfu ar ddiweddglo esmwyth i Napoli.


Mae'r wythnos gyntaf yn cychwyn mewn modd digon heriol o Pompeii, gyda dringo'n eithaf cyson am y 50km olaf o'r 142. Does fawr ddim graddiannau heriol serch hynny, ac felly byddai'n annisgwyl gweld unrhyw fylchau mawr yn ymddangos rhwng ffefrynnau'r DC, fydd yn fwy na bodlon o ymestyn y lastig rhyngddyn nhw â'r dihangiad. Cymal gwib fydd cymal 11 bron yn sicr, a chymal mwy bryniog sy'n ei ddilyn, lle bydd y puncheurs fydd yn awyddus iawn i darfu ar gynlluniau'r gwibwyr. Cymal crempog yng ngwir ystyr yr ymadrodd geir ar gymal 13 - tynnwch bren mesur allan i ddarlunio'r proffil. Daw'r ail ras yn erbyn y cloc ar Sadwrn y 18fed, a honno'n un eithaf technegol er yn ddigon gwastad. Wompar o gymal fydd yn cloi'r ail wythnos, gyda dros 5,000 o fetrau dringo ar gymal 222km yn y Dolomiti. Mae'n cynnwys y Passo del Mortirolo, sy'n dechnegol yn ddringfa 12.6km ar gyfartaledd o 7.6% ond yn mynd gyn serthed â 16%, ond y gwirionedd yw fod y gwaith dringo'n cychwyn i raddau bron i 60km yn flaenorol ar lawr y dyffryn. Bydd dwy ddringfa arall yn dilyn hynny, y ddwy ohonyn nhw'n rhai categori un ac yn gofyn tipyn. Mae'r diweddglo ei hun i Mottolino fwy neu lai'n estyniad ar y ddringfa flaenorol, gyda dringfa o lai na 5km, ond sydd â rhannau mor serth ag 19%. Cyfle nodweddiadol i wagu'r tanc a gwneud difrod ar y dosbarthiad cyffredinol cyn y diwrnod gorffwys.


Mae'r Passo dello Stelvio yn ymddangos yn nhraean cyntaf cymal 16, sy'n cychwyn y drydedd wythnos. Mi ddylai hynny olygu mai dihangiad fydd yn mynd â'r dydd, yn enwedig gan fod pwyntiau ychwanegol i'w cael yn nosbarthiad y mynyddoedd. Gorffen yn Val Gardena fydd y cymal, gyda dringo sylweddol yn y 40km olaf. Ni fydd ysbaid y diwrnod anlynol chwaith, gyda dwy esgyniad o'r Passo Broncon, yr ail ohonyn nhw'n darparu diweddglo copa allai gynnig llwyfan am ddrama ymysg ffefrynnau'r dosbarthiad cyffredinol, o gofio bod y cymal canlynol yn gymal gwibio i Padova. Bydd dau gyfle arall i'r ffefrynnau ennill bylchau ar gymal 19 ac 20. Mi allai cymal 20, yr olaf ond un, brofi'n allweddol unwaith yn rhagor, gyda dwy ddringfa o'r Monte Grappa, a diweddglo ar hyd y disgyniad i Bassano del Grappa. A ddylai cymal â chymaint yn y fantol orffen ar y goriwaered, fel mater o ddiogelwch? Amser a ddengys, mae'n debyg. Ond mae'n datblygu'n batrwm bod y cymal olaf ond un yn allweddol iawn yn y Giro, felly bydd angen cadw llygad barcud ar y teledu ar y 25ain o Fai. Cymal prosesiwn yn Rhufain sy'n dod â'r ras i ben.


Gwibwyr


Mae'r Giro wedi dod yn eithaf poblogaidd ymysg gwibwyr dros y blynyddoedd, ac mae 'na dyrfa go deilwng ar ei ffordd i'r Eidal eleni hefyd. Mae'n debyg mai Tim Merlier yw'r un sydd wedi cael y dechrau mwyaf llewyrchus o'r tymor o'u plith, gan ennill ddwywaith yn Saudi Arabia, deirgwaith yn yr EAU, a dwy glasur hefyd yn Danilith Nokere Koerse a Scheldeprijs. Roedd Olav Kooij yn dynn ar ei sodlau yn yr EAU, ac yntau'n cael ennill un cymal yn fanno, ar ben dwy fuddugoliaeth yn Almeria ac yn Paris-Nice. Mae'r gwibiwr ifanc Jonathan Milan hefyd wedi cael dechrau da i'r tymor gan ennill ddwywaith yn Tirreno-Adriatico. Ar sail eu canlyniadau hyd yma y tymor hwn, mae lle i gredu y bydd y tri yma'n cystadlu'n agos at y brig ar y cymalau gwibio.


Byddai'r rhestr bron yn ddiddiwedd pe baem ni'n ceisio cynnwys pob un y dylid 'cadw llygad arnyn nhw' yn y gwibiau clwstwr. Fernando Gaviria a Caleb Ewan wedi serennu yn y Giro yn y gorffennol ond heb gael cystal hwyl ers rhai blynyddoedd bellach. Fabio Jakobsen yn dal ar y llwybr hir yn ôl o'i anaf, Sam Welsford yn edrych yn eithaf siarp a felly hefyd Phil Bauhaus a Kaden Groves. Wedi blwyddyn dawelach yn 2023, bydd Biniam Girmay hefyd yn gobeithio dychwelyd i'r un uchelfannau gyrhaeddodd yma yn 2022, pan enillodd gymal 10 cyn gorfod rhoi'r gorau iddi ar ôl i gorcyn y botel siampên saethu i'w lygad.


Y Ffefrynnau


Mae 'na dipyn o rwgnach wedi bod yn y cylchoedd seiclo am sut bod y rasys yn mynd yn fwyfwy rhagweladwy, a hynny ar draul mwynhad y ffàns. I mi, o leiaf, dim ond rhan fechan o apêl gwylio rasys seiclo ydy'r cwestiynu a'r darogan a'r dyfalu pwy sydd am ennill.


Y rheswm dros godi'r mater yma ydy am fod Tadej Pogačar yn ymgiprys am y crys pinc eleni. Seiclwr gorau ei genhedlaeth, sydd wedi ennill ar chwe diwrnod rasio allan o ddeg ar hyd y tymor hyd yn hyn, dod yn ail dro arall, a thrydydd dro arall. Ar y podiwm wyth gwaith allan o ddeg, ac ychwanegu ennill pob un o'r tri dosbarthiad yng Nghatalwnia. Mae'r coesau ganddo, mae'r tîm ganddo, mae'r hyder ganddo. Y cwestiwn fydd nifer yn ei ofyn ydy os oes angen edrych unrhyw bellach na'r gŵr o Slofenia.


Wel, mi fydd 'na rai sy'n codi'u dwylo yn y gobaith o ennyn peth sylw, o leiaf. Mae Geraint Thomas yn un sydd wedi gwneud hynny, ac yntau'n arwain carfan gref Ineos fydd yn elwa o arbenigedd Filippo Ganna yn erbyn y cloc, a gallu Thymen Arensman a Tobias Foss i gystadlu am ddeg uchaf, o leiaf. Mae gan Ineos sawl opsiwn o'u blaenau, ond dydy'r strategaeth heb ddwyn ffrwyth yn aml iawn yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Dechrau tawedog, fel yr arfer, y mae Geraint wedi'i gael i'r tymor; deunaw o ddyddiau rasio a dim canlyniad nodedig iawn, ond fydd hynny ddim yn destun gofid o gwbl. Mae'n fater o 'trust the process'.


Y tu hwnt i hynny... wel. Dim gormod o ddim byd i sôn amdano. Mae Wout Poels a Damiano Caruso (Bahrain-Victorious), Juanpe López (Lidl-Trek), Romain Bardet (DSM) a Hugh Carthy (EF) wedi gwneud yn dda ar y Giro yn y gorffennol, ac yn gobeithio efelychu hynny'r tro hwn eto.


Mae'n werth sôn am Dani Martínez, gofiwn ni'n gefnogaeth gref i fuddugoliaeth Egan Bernal ambell flwyddyn yn ôl, fydd yn cael cyfle i arwain Bora-Hansgrohe. Mi allwn ni edrych hefyd at Ben O'Connor, Romain Bardet a Mike Woods fel rhai allai fod yn cystadlu tua'r brig, yn brofiadol ar y lefel yma ond eto mae'n debyg y bydd y cilometrau'n erbyn y cloc yn fwrn i'w hymgyrchoedd.


Un enw olaf ydy'r reidiwr ifanc o wlad Belg, Cian Uijtdebroeks. Unwaith y mae rhywun yn ennill y Tour de l'Avenir, y ras ieuenctid fwyaf ei bri, mae golygon y gwybodusion wedi'u hoelio arno. Mi gyflawnodd o'r gamp honno yn 2022, ac aeth ymlaen wedyn i orffen yn 8fed ar y Vuelta a España ddiwedd 2023. Er nad ydy o wedi cael dechrau syfrdanol o dda i'r tymor, mi fydd o'n gobeithio canfod peth cryfder wrth anelu'n uwch na hynny ar y Giro eleni.


Y ffordd symlaf o'i rhoi hi yw ei bod hi'n ras agored iawn, os ydyn ni'n tynnu Tadej Pogačar allan o'r darlun.


 

Gwibdaith sydyn a chyffredinol iawn o'r hyn sydd i edrych ymlaen ato ar y Giro eleni, maddeuwch i mi am fethu â mynd i'r sylwedd a'r dadansoddi arferol!


Dwi'n siŵr y bydd digon o hynny gan griw Seiclo S4C a chriw Y Dihangiad yn ystod yr wythnosau sydd i ddod. Mor braf ydy cael cyfryngau seiclo yn y Gymraeg.


Yn y cyfamser, ewch i wrando ar bennod ddiweddaraf Pen y Pass lle bum ni'n sgwrsio ag Eluned King ac aelodau o glwb Towy Riders, sydd ar gael i'w wrando yn y mannau podlediadau arferol.


Bydd mwy o gynnwys ar Y Ddwy Olwyn yn fuan iawn, felly gwyliwch y gofod.


Tan y tro nesaf, felly, pob hwyl, a mwynhewch y Giro.

Recent Posts

See All
bottom of page