Pan byddai'n eistedd wrth y ddesg yn wythnosol i ysgrifennu cofnod blog Y Ddwy Olwyn, wrth edrych i'r dde dwi'n gweld yr ardd gefn lle mae'r ieir yn crwydro, ac wrth edrych i'r chwith dyma dwi'n ei weld:
Er mor gyfleus a defnyddiol ydy fy Kindle ar gyfer nofelau (trosedd, gan fwyaf, os oes gennych chi ddiddordeb), mi rydw i wrth fy modd yn casglu a darllen llyfrau 'go iawn' am seiclo ac mae 'nghasgliad i'n tyfu drwy'r amser.
Heddiw, dyma gyfle i ddethol y pum gorau o'r casgliad y byddwn i'n rhoi 5 seren iddynt ac yn eu hargymell i chwi.
Rydw i wedi'i trefnu nhw yn ol yr wyddor ar y silff, ac wedi gwneud yr un fath isod.
Ar hyn o bryd, mi ydw i'n darllen Fallen Angel gan William Fotheringham sydd am yrfa a bywyd Fausto Coppi (seiclwr gorau'r byd yn y cyfnod wed'ir Ail Ryfel Byd) a sut ei fod o'n symbol o'r Eidal ar y pryd. Os y bydd yn cyrraedd safon y cyfrolau a ganlyn, bydd rhaid cael cofnod arall!
The Breakaway gan Nicole Cooke
Broliant: "In her frank and outspoken autobiography, Nicole Cooke - the first ever cyclist to become Olympic and world champion in the same year - reveals the real story behind Britain's rise to cycling dominance."
Mae'r ffaith ein bod ni'n ystyried Geraint Thomas fel y Cymro cyntaf i ennill y Tour de France yn adrodd cyfrolau, mewn gwirionedd, o ystyried fod Nicole Cooke wedi cyflawni'r gamp honno ddegawd yn gynharach. Dyma'r neges o anghydraddoldeb ac annhegwch plaen sy'n treiddio trwy gydol y llyfr, trwy'r byd seiclo, a thrwy'r gymdeithas. Mae'r dyfalbarhad a'r penderfyniad i oresgyn rhwystrau yn ysbrydoledig, ac er iddi ennyn tipyn o barch mae 'na'n parhau i fod tipyn yn fwy o waith i'w wneud. Dylai unrhyw un sy'n cefnogi seiclo ddarllen y llyfr hwn, ond dylai gweddill y boblogaeth ei ddarllen hefyd gan fod gwersi pwysig i'w dysgu am y byd modern ydyn ni'n byw ynddo.
Full Gas gan Peter Cossins
Broliant: "Hectic, thrilling, but sometimes impenetrable - watching a bike race can baffle as much as entertain. Full Gas is the essential guide to make sense of all things peloton."
Y gwirionedd pur yw bod dim gorwelion i ddysgu am yr hyn sy'n digwydd o fewn y peloton, ac mae'r anrhagweladwyedd hwnnw'n rhywbeth i'w glodfori a'i fwynhau am y gamp. Serch hynny, am fan dechrau cynhwysfawr sy'n dadgloi'r hyn all ymddangos yn ddryswch amryliw, dyma'r lle i ddod. Mae wedi'i sgwennu'n dda a cheir cyfraniadau o'r peloton gan bobl fel Thomas de Gendt a rhai o ddegawdau blaenorol sy'n cynnig cyd-destun o ran esblygiad tactegau i'r hyn a welwn heddiw. Darllen difyr, heb os, fydd yn cyfoethogi'ch gwybodaeth a'ch dealltwriaeth am yr hyn sy'n mynd ymlaen ar y sgrin.
The Rider gan Tim Krabbe
Broliant: "At the start of the 137-kilometre Tour de Mont Aigoual, Tim Krabbe glances up from his bike to assess the crowd of spectators. 'The emptiness of their lives shocks me'. The Rider is a modern-day classic that is recognised as one of the best books ever written about the sport."
Yn wahanol i'r cyfrolau yma ydw i wedi'i dethol mae The Rider gan Tim Krabbe, a hynny am nifer o resymau gwahanol. Y cyntaf yw y dylech ei ddarllen mewn un go. Rwy'n addo i chi y bydd y 147 o dudalennau yn gwibio heibio ac yn llifo'n rhwydd drwy arddull ddarllenadwy Krabbe. Yn ail, fe'i hysgrifennwyd o safbwynt person cyntaf o fewn ras - sef y Tour de Mont Aigoual (lleoliad sydd wedi'i anfarwoli gan y gyfrol hon). Efallai y byddaf yn son am fewnwelediad yn rhai o'r cyfrolau eraill yma, ond does dim curo'r mewnwelediad o ymson, bron a bod, reidiwr mewn ras broffesiynol. Fe'i hystyrir fel un o glasuron llenyddiaeth seiclo (os oes y fath gategori'n bodoli) ac yn un y credaf y dylech ei darllen.
Slaying The Badger gan Richard Moore
Broliant: "Slaying the Badger relives the adrenaline and agony as LeMond battles to become the first American to win the Tour, with the Badger relentlessly on the attack."
Dyma'r diwethaf i mi'i darllen, ar ol i mi'i adael ar y silff am sbel cyn ei ddarllen. Wedi meddwl, dydw i ddim yn siwr iawn pam o ystyried cystal yw'r gyfrol hon. Rwyf wedi crybwyll ar y blog yn y gorffennol mai un o'r elfennau hynny o seiclo proffesiynol ydw i'n ei fwynhau fwyaf yw'r tebygrwydd rhwng straeon da, fel nofelau neu ffilm neu gyfresi drama. Y dyfnder sydd i'r cymeriadau, y perthnasoedd rhwng reidwyr o fewn yr un tim a rhwng timau gwahanol. Enghraifft bennaf o hyn oedd y Tour de France ym 1986 lle bu Bernard Hinault a Greg LeMond yn brwydro am y maillot jaune tra ar yr un tim. Ysgrifennwyd y llyfr yma'n gelfydd ac mae Richard Moore yn sicr yn llwyddo i gyfareddu'r darllennydd.
Where There's A Will gan Emily Chapell
Broliant: "We experience the crippling self-doubt of the ultra-distance racer, the confusing intensity of winning and the devastation of losing a dear friend who understood all of this."
Ar gyfer y gyfrol olaf ar y rhestr, rydym yn mentro i fyd yr ultra endurance a chawn gyfrol sy'n amlygu'r profiadau a'r emosiynau a deimlir mewn heriau o'r fath gan Emily Chappell wrth iddi rasio ar draws cyfandir Ewrop. Mae dawn dweud stori amlwg ganddi, a mwynheais ei llyfr arall What Goes Around am fod yn cycle courier yn Llundain hefyd am yr un rheswm. Dyma enghraifft bennaf i mi o pam fod llyfr yn deilwng i bum seren, sef y gallu i dreiddio'n llawer dyfnach na'r arwyneb i gynnig stori a darlun llawn o haenau gwahanol. Mae'r frawddeg ar y clawr yn dyst i hyn - 'hope, grief and endurance in a cycle race across a continent'. Mae'r tudalennau'n byrlymu gyda gwahanol emosiynau o bob math, ac mi ydw i'n ei argymell i unrhyw un - boed yn seiclwr neu ddim.
Dyna ni felly, y pum cyfrol gorau sydd ar fy silff - hyd yn hyn. Dau arall ydw i'n edrych ymlaen i'w darllen yn yr wythnosau a misoedd nesaf yw Endless Perfect Circles gan Ian Walker (un arall am y byd ultra) a The Greatest: Beryl Burton gan William Fotheringham, felly mi wnai adrodd yn ol ar ol i mi'i cwblhau nhw!
Cofnod i lenwi bwlch yn yr amserlen oedd wythnos yma, wrth i mi weithio ar gofnod ragolwg y Giro d'Italia fydd yn cael ei gyhoeddi wythnos i heddiw.
Tan hynny, hwyl!
Commentaires