top of page

5 cyfrol bwrdd coffi

Updated: Jun 18, 2020

Dyma grynodeb o bum cyfrol 'bwrdd coffi', neu 'ford goffi' i chwi ddeheuwyr, dwi'n mwynhau pori drostyn nhw, gan obeithio y cewch chi yr un mwynhad ohonynt.


Epic Bike Rides of the World

With tales of 50 cycling routes in 30 countries, from Australia to Bhutan, and 200 ideas for bike rides, Lonely Planet's Epic Bike Rides will inspire two-wheeled travel all over the world.


Peth braf yw cael breuddwydio am leoliadau delfrydol i seiclo ynddyn nhw, ac mae gan y gyfrol hon deithiau at ddant bawb - boed hynny'n lwybrau ar hyd afonydd megis y Danube neu'n daith 600km o ogledd Cymru i'r de ac yn ol mewn un tro.


Mountain High

Mountain High is both a bible for those who wish to take on giants like the Tourmalet or Galibier, and the ultimate reference book for connoisseurs of these climbs' history and mystique.


O'r un math a'r llyfr uchod, dyma'r canllaw perffaith ar gyfer rhoi rhestr o ddringfeydd hoffech chi'u cyflawni at ei gilydd- yn gyfuniad perffaith o hanes diddorol, lluniau gwych a graffeg sy'n ei gwneud hi'n hawdd i unrhyw un ddehongli her y ddringfa.


Zinn & The Art of Road Bike Maintenance

Lennard Zinn's easy to follow instructions will help you make quick work of any maintenance and repair job on any road or cyclocross bike.


Efallai'n llai o 'lyfr bwrdd coffi' ond yn fwy o ganllaw angenrheidiol i unrhyw seiclwr. Mae'n cyd-fynd rywsut a'r gyfrol, Epic Bike Rides of the World, gan ei fod yn eich dysgu i ddod yn fwy hunan-gynhaliol o ran cynnal a chadw'ch beic ar gyfer rhai o'r teithiau sy'n cael eu cynnwys yn y gyfrol honno.


How to ride a bike

Go from good to great with advice from Sir Chris Hoy. A hard working and compelling guide to becoming a fitter, faster, more enduring and skillful cyclist.


Os ydych chi'n reidio beic, dyma'r unig lyfr sydd ei angen arnoch. Mae popeth i'w gael yn y canllaw anhepgorol hwn gan Olympiad mwya'r DG - o osod a thrwsio'ch beic i ddatblygu sgiliau dringo, gwydnwch ac hefyd y seicoleg.


Lost Lanes Wales

Discover the hidden corners of Wales travelling along quiet lanes, mountain roads, ancient byways and traffic-free cycling.


Mae llyfr bwrdd coffi i rai o bosib yn gyfle i gymryd saib ac arafu, ac mae'r gyfrol hon yn olrhain y teithiau hynny o fewn y genedl sydd yn llai 'epic' ac yn darganfod goreuon Cymru mewn ffordd mwy ymlaciedig.

Recent Posts

See All

Σχόλια


bottom of page